Skip to main content
Papur polisi

Adroddiad canfyddiadau’r pecyn gweithdy parod: Adroddiad terfynol Adolygiad Timms

Dyma adroddiad ar ganfyddiadau'r gweithgaredd ymgysylltu pecyn gweithdy parod ar gyfer Adolygiad Timms o Daliad Annibyniaeth Personol (PIP).

Dogfennau

Manylion

Roedd yr ymarfer pecyn gweithdy parod Adolygiad Timms yn cynnig cyfres o adnoddau oedd ar gael i’r cyhoedd ac y gellid eu haddasu, a ddatblygwyd gan y grŵp llywio. Gallai sefydliadau ddefnyddio’r deunyddiau hyn i gynnal eu gweithdai eu hunain i gasglu mewnwelediadau ansoddol manylach am brofiadau bywyd pobl o anabledd a PIP.

Cynlluniwyd y dull hwn i sicrhau bod y grŵp llywio yn clywed gan ystod amrywiol o gymunedau – yn enwedig unigolion nad ydynt efallai am gymryd rhan drwy lwybrau ffurfiol y llywodraeth neu brosesau ymgynghori ysgrifenedig.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r prif ganfyddiadau o’r ymgysylltiad hwn a’r gwelliannau a awgrymodd y cyfranogwyr.

Mae’r adroddiad o ganfyddiadau’r pecyn gweithdy parod hwn wedi’i chyhoeddi yn Gymraeg, a fersiynau hygyrch yn cynnwys:  

  • Iaith Arwyddion Prydain (BSL) 

  • sain

  • print bras 

I ofyn am gopi o’r fersiwn Braille, neu gopïau o fersiynau hygyrch eraill a gyhoeddwyd o’r atodiad hwn, anfonwch e-bost atom yn yn accessibility.timmsreview@dwp.gov.uk.

Argraffu'r dudalen hon