Aelodaeth o'r grŵp llywio: adroddiad terfynol Adolygiad Timms
Dyma aelodaeth y grŵp llywio ar gyfer Adolygiad Timms o Daliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Dogfennau
Manylion
Penodwyd grŵp llywio Adolygiad Timms i ddod ag ystod eang o brofiad byw, arbenigedd proffesiynol a safbwyntiau ynghyd.
Ym mis Hydref 2025, penodwyd Dr Clenton Farquharson CBE a Sharon Brennan yn gyd-gadeiryddion Adolygiad Timms, i weithio ochr yn ochr â’r Gweinidog Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd, Syr Stephen Timms.
Penodwyd y cyd-gadeiryddion ymlaen llaw o’r grŵp llywio i sefydlu’r broses gyd-gynhyrchu, ac i redeg yr ymgyrch mynegi diddordeb i recriwtio’r 12 aelod arall o’r grŵp llywio.
Daeth bron pob aelod o’r grŵp llywio â phrofiad byw o fod yn F/fyddar, anabl neu fyw â chyflyrau iechyd hirdymor, ochr yn ochr â phrofiad a gafodd ei dynnu o weithio mewn meysydd:
- datblygu polisi
- eiriolaeth
- cyflenwi gwasanaeth
- ymchwil
- undebau llafur
- gofal cymdeithasol
- y sector gwirfoddol
Dyma restr lawn o aelodau’r grŵp llywio, ynghyd â’u bywgraffiadau byr.
Mae’r wybodaeth hon am aelodaeth y grŵp llywio wedi’i chyhoeddi yn Gymraeg, a fersiynau hygyrch yn cynnwys:
-
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
-
sain
-
print bras
I ofyn am gopi o’r fersiwn Braille, neu gopïau o fersiynau hygyrch eraill a gyhoeddwyd o’r atodiad hwn, anfonwch e-bost atom yn yn accessibility.timmsreview@dwp.gov.uk.