Pecyn tystiolaeth atodol: Adroddiad terfynol Adolygiad Timms
Dyma becyn tystiolaeth atodol ar gyfer Adolygiad Timms o Daliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Dogfennau
Manylion
Bwriedir i’r ddogfen hon fod yn atodiad i becyn tystiolaeth adroddiad interim Adolygiad Timms, yn hytrach nag ei fod yn ei ddisodli. Mae’n dod â chyfres arall o ddadansoddiad ac ymchwil mewnol ac allanol ynghyd mewn un lle. Pan gaiff ei gyfuno â phecyn tystiolaeth yr adroddiad interim, mae’n anelu at ddarparu sylfaen dystiolaeth eang i gefnogi archwilio’r materion sy’n wynebu pobl anabl a’r system Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Mae’r cynnwys yn cynnwys:
- tueddiadau mewn anabledd
- tueddiadau mewn budd-daliadau anabledd oedran gweithio
- ffactorau sy’n dylanwadu ar gynnydd mewn ceisiadau a gwariant
- nodweddion hawlwyr presennol
- boddhad cwsmeriaid a phrofiadau o hawlio PIP
- amgyffrediad o fudd-daliadau anabledd
- effaith derbyn PIP ar fywydau pobl anabl
- Taliad Anabledd Oedolion a PIP
Mae’r pecyn tystiolaeth atodol hwn wedi’i chyhoeddi yn Gymraeg, a fersiynau hygyrch yn cynnwys:
- Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- sain
- print bras
I ofyn am gopi o’r fersiwn Braille, neu gopïau o fersiynau hygyrch eraill a gyhoeddwyd o’r atodiad hwn, anfonwch e-bost atom yn yn accessibility.timmsreview@dwp.gov.uk.