Arolwg Adolygiad Timms: Adroddiad terfynol Adolygiad Timms
Mae Arolwg Adolygiad Timms yn adroddiad ar ymchwil a gynhaliwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Dogfennau
Manylion
Mae arolwg Adolygiad Timms yn arolwg meintiol o 2,039 o bobl F/fyddar ac anabl o oedran gweithio a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor rhwng 18 a 67 oed yng Nghymru a Lloegr, a gynhaliwyd gan NatCen.
Y nod oedd darparu tystiolaeth gadarn i lywio Adolygiad Timms a chefnogi penderfyniadau polisi yn y dyfodol sy’n ymwneud â Thaliad Annibyniaeth Personol (PIP) a byw’n annibynnol. Datblygwyd yr arolwg gyda grŵp llywio Adolygiad Timms ac edrychodd ar archwilio bylchau yn y dystiolaeth bresennol.
Nod yr ymchwil hon oedd archwilio byw’n annibynnol i bobl F/fyddar ac anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Gan gynnwys rôl:
- PIP
- y nifer sy’n manteisio ar PIP ac ecwiti
- y nifer sy’n manteisio ar wasanaethau cymorth a gwasanaethau anabledd y llywodraeth
- amodau amrywiol
- barn pobl F/fyddar ac anabl a pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ar ddiwygio budd-daliadau
Mae’r arolwg hwn o Adolygiad Timms wedi’i gyhoeddi yn Gymraeg, a fersiynau hygyrch yn cynnwys:
-
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
-
sain
-
print bras
I ofyn am gopi o’r fersiwn Braille, neu gopïau o fersiynau hygyrch eraill a gyhoeddwyd o’r atodiad hwn, anfonwch e-bost atom yn yn accessibility.timmsreview@dwp.gov.uk.