Ffurflen

Sut i lenwi ffurflen IHT100h

Diweddarwyd 1 Mai 2026

Pryd y dylech lenwi’r ffurflen hon

Dylech lenwi ffurflen IHT100h i roi gwybod i CThEF am asedion nad ydynt yn cael eu dal mewn ymddiriedolaeth pobl ‘18 i 25’ oed mwyach.

Dyma ymddiriedolaeth lle mae un rhiant wedi marw, a bydd y buddiolwr yn ennill yr hawl i’w gyfran o’r asedion rywbryd rhwng bod yn 18 a 25 mlwydd oed. Nid yw’n cynnwys ymddiriedolaethau ar gyfer plant dan oed mewn profedigaeth.

Peidiwch â defnyddio’r ffurflen hon os yw’r naill neu’r llall yn wir am y buddiolwr:

  • nid yw’r asedion wedi dod o dan ei reolaeth erbyn troi’n 25 oed

  • nid yw’n elwa ar incwm ac eiddo’r ymddiriedolaeth mwyach

Dylech lenwi ffurflen IHT100e (yn agor tudalen Saesneg) yn lle.

Cyn i chi ddechrau

Dylech lenwi pob maes. Os oes gwybodaeth ar goll, efallai na fyddwn yn gallu delio â’ch ffurflen. 

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr holl nodiadau perthnasol cyn dechrau llenwi’r ffurflen.

Gallai rhai mathau o asedion gael eu cynnwys mewn mwy nag un adran o’r ffurflen, megis stociau a chyfranddaliadau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r rhain yn yr adran gywir. Peidiwch â chynnwys yr un ased mewn mwy nag un adran.

Nid oes angen i chi anfon copïau o ddogfennau atom (er enghraifft, llythyr gan fanc sy’n dangos y balans mewn cyfrif, neu dystiolaeth o rwymedigaethau) oni bai ein bod yn gofyn yn benodol i chi wneud hynny.

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl ddogfennau rydych chi wedi’u defnyddio i lenwi’r ffurflen — efallai y byddwn yn gofyn i chi am rai neu bob un ohonynt yn nes ymlaen.

Adran A: ynglŷn â’r setlwr

Mae’n rhaid i chi gynnwys enw a manylion personol y setlwr.

Os digwyddodd y trosglwyddiad cyn 6 Ebrill 2025, neu fod y setlwr wedi marw cyn 6 Ebrill 2025 — neu’r ddau — gwiriwch y rheolau domisil (yn agor tudalen Saesneg) neu’r rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a oedd domisil y trosglwyddwr yn y DU, neu a oedd ei ddomisil yn cael ei drin fel petai yn y DU.

Ym mhob achos arall, gwiriwch y rheolau preswylio tymor hir yn y DU yn y Llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a oedd y setlwr yn breswylydd tymor hir yn y DU.

Adran B: manylion y person sy’n delio â’r digwyddiad hwn

Dylech gynnwys enw a manylion personol y person sy’n delio â’r digwyddiad trethadwy.

Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen heb gymorth cyfreithiwr neu gyfrifydd ac am i CThEF ysgrifennu atoch chi, ond am i rywun arall ddelio â galwadau ffôn, dylech gynnwys awdurdod ysgrifenedig ar wahân pan fyddwch yn anfon y ffurflen atom.

Adran C: ynglŷn â’r ymddiriedolaeth

Os ydych yn ymddiriedolwr, efallai y bydd angen i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth.

Os yw’r ymddiriedolaeth eisoes wedi’i chofrestru, gwnewch yn siŵr bod y manylion yn gyfredol cyn llenwi’r ffurflen hon.

Dyddiad y dechreuodd yr ymddiriedolaeth

Dyma’r dyddiad pan gafodd yr asedion eu rhoi yn yr ymddiriedolaeth am y tro cyntaf.

Cyfeirnod Treth Etifeddiant

Dysgwch sut i gael cyfeirnod Treth Etifeddiant.

Os nad oes un gennych, gadewch flwch C4 yn wag.

Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)

Rhif 10 digid yw hwn. Bydd UTR yn cael ei anfon atoch pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer treth incwm neu’n sefydlu cwmni cyfyngedig.

Dysgwch sut i ddod o hyd i’ch UTR.

Os nad oes un gennych, gadewch flwch C5 yn wag.

Sut dechreuodd yr ymddiriedolaeth pobl 18 i 25 oed

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni sut dechreuodd yr ymddiriedolaeth.

Gallai hyn ddod o un o’r canlynol:

  • ewyllys

  • ymddiriedolaeth cronni a chynnal a chadw — dyma fath o ymddiriedolaeth amodol pan fo’n rhaid i’r buddiolwyr fod â rhiant-cu yn gyffredin a’u bod yn cael peth o’r incwm cyn troi’n 25 oed

  • arian sydd wedi’i dalu i ymddiriedolaeth o gynllun iawndal — fel y Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol neu’r Cynllun Digolledu am Ddioddef Terfysgaeth Dramor

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am beth sy’n gymhwysol fel ymddiriedolaeth pobl 18 i 25 oed (yn agor tudalen Saesneg).

Adran D: yr hyn sy’n ffurfio cyfrif eich ymddiriedolaeth — atodlenni

Efallai y bydd angen i chi lenwi rhai tudalennau atodol, a elwir hefyd yn ‘atodlenni’, os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol.

Mae domisil y trosglwyddwr y tu allan i’r DU

Dylech lenwi atodlen D31 os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir am y trosglwyddwr:

  • mae ei ddomisil mewn gwlad dramor

  • bod ei ddomisil yn cael ei drin fel petai yn y DU

Dysgwch ragor o wybodaeth am y rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Dylech lenwi atodlen D31a os nad oedd y trosglwyddwr yn breswylydd tymor hir yn y DU.

Dysgwch ragor o wybodaeth am y rheolau preswylio tymor hir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg).

Os yw stociau a chyfranddaliadau wedi’u cynnwys

Dylech lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys unrhyw stociau a chyfranddaliadau.

Os oedd unrhyw ddyledion yn ddyledus i’r ymddiriedolaeth

Dylech lenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg) os oedd unrhyw arian ar fenthyg gan yr ymddiriedolaeth. Er enghraifft, morgais neu fenthyciad personol nad yw wedi’i ad-dalu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.

Os oedd unrhyw bolisïau yswiriant wedi’u cynnwys

Dylech lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) os oes unrhyw bolisïau yswiriant wedi’u cynnwys yn y digwyddiad.

Os yw nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol wedi’u cynnwys

Dylech lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys unrhyw nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol.

Os yw tir ac adeiladau wedi’u cynnwys

Dylech lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys tir, adeiladau, coed neu isdyfiant yn y DU.

Os ydych yn hawlio Rhyddhad Amaethyddol

Dylech lenwi atodlen D37 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu Rhyddhad Amaethyddol.

Os ydych yn hawlio Rhyddhad Busnes

Dylech lenwi atodlen D38 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu Rhyddhad Busnes.

Os yw asedion tramor wedi’u cynnwys

Dylech lenwi atodlen D39 (yn agor tudalen Saesneg) os oes unrhyw asedion y tu allan i’r DU.

Adran E: asedion yn y DU sy’n agored i dreth fel rhan o’r digwyddiad hwn

Mae’n rhaid i chi lenwi adran E gan roi manylion yr holl asedion a gafodd eu trosglwyddo fel rhan o’r digwyddiad hwn. 

Mae’n rhaid i chi brisio’r holl asedion fel pe bai pob eitem wedi’u gwerthu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy. Gelwir hyn y ‘gwerth marchnad agored’. 

Talgrynnwch werth yr asedion a’r rhwymedigaethau i lawr i’r £1 agosaf. Dylid dangos treth i’r geiniog agosaf. 

Mae’n rhaid i bob blwch ddangos cyfanswm pob math o ased. Er enghraifft, dylai blwch E2 ddangos cyfanswm yr holl gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu.

Asedion pan ellir talu treth fesul rhandaliad

Gellir talu asedion sydd wedi’u cynnwys o dan golofn B mewn rhandaliadau blynyddol dros 10 mlynedd. 

Gwirio pa asedion y gellir eu talu fesul rhandaliad.

Fel arfer, mae angen i chi dalu llog ar randaliadau, ond mae rhai asedion sy’n gymwys i gael rhyddhad rhag llog (yn agor tudalen Saesneg). Dim ond os yw’r rhandaliad wedi’i dalu cyn y dyddiad dyledus y mae’r rhandaliadau hyn yn rhydd o log.

E1 Tai, adeiladau a thir

Mae’n rhaid i chi gynnwys gwerth yr holl eiddo rhydd-ddaliol, prydlesol, etifeddadwy ac eiddo ansymudol eraill yn y DU sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad hwn. Peidiwch â chynnwys ffermdai a thir fferm. 

Os oes gennych brisiad proffesiynol, atodwch gopi gyda’r ffurflen hon. 

Bydd hefyd angen i chi lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) gan roi manylion am bob eitem o dir.

E2 Banc, cymdeithas adeiladu a chyfrifon ariannol eraill

Mae’n rhaid i chi gynnwys pob cyfrif gyda’r canlynol: 

  • banc 
  • cymdeithas adeiladu 
  • cymdeithas gydfuddiannol, gyfeillgar neu gydweithredol 
  • archfarchnadoedd
  • cwmni yswiriant 

Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.

E3 Arian parod

Mae hyn yn cynnwys unrhyw sieciau a ysgrifennwyd i’r trosglwyddai.

E4 Bondiau Premiwm a chynhyrchion Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)

Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân. 

Cysylltwch â Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (ar wefan NS&I) os nad ydych yn gwybod y gwerth ar ddyddiad y trosglwyddiad.

E5 Nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol

Dylech gynnwys yr holl nwyddau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Er enghraifft, tsieni, dillad, gemwaith a cheir. Bydd hefyd angen i chi lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg).

E6 Polisïau aswiriant bywyd, pensiynau a diogelu morgeisi

Rhowch wybod i ni am unrhyw bensiynau a pholisïau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Os oedd y trafodyn yn cynnwys polisi aswiriant bywyd ond nid oedd mewn gwirionedd ymhlith yr asedion a oedd wedi’u cynnwys yn y digwyddiad trethadwy rydych yn rhoi gwybod i ni amdano, bydd angen i ni gael gwybod am y trefniadau. 

Mae’n rhaid i chi lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) a chynnwys copi o bob polisi pan fyddwch yn anfon y ffurflen.

E7 Gwarantau Llywodraeth y DU a rhai bwrdeisiol

Dylech gynnwys: 

  • Stoc y Trysorlys
  • Stoc y Siecr
  • Stoc Drosadwy
  • stociau a benthyciadau cyfunol
  • Stoc Ariannu
  • Bondiau Cynilo
  • Bondiau Buddugoliaeth
  • Benthyciadau Rhyfel
  • stoc y llywodraeth a gedwir ar Gofrestr Banc Lloegr
  • bondiau a ddyroddwyd gan endidau bwrdeisiol (awdurdodau llywodraeth leol)

E8 Stociau, cyfranddaliadau a buddsoddiadau a restrir

Dylech gynnwys: 

  • pob stoc, cyfranddaliad, dyledeb a gwarant a restrir ar Restr Ddyddiol Swyddogol y Gyfnewidfa Stoc 
  • ymddiriedolaethau unedol
  • ymddiriedolaethau buddsoddi 
  • cwmnïau buddsoddi pen agored 
  • cyfranddaliadau a restrir ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig sy’n rhan o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA)
  • cyfranddaliadau tramor a restrir ar Gyfnewidfa Stoc Llundain 

Peidiwch â chynnwys cyfranddaliadau a restrir a oedd yn rhoi rheolaeth dros y cwmni i’r ymadawedig. Dylech gynnwys y rhain ym mlwch E12. 

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg). Copïwch y ffigur o flwch SS1 ar yr atodlen a’i nodi ym mlwch E8 ar y ffurflen hon.

E9 Difidendau neu log ar stociau, cyfranddaliadau a gwarantau

Defnyddiwch atodlen D32 i lenwi’r blwch hwn. Dylech gynnwys cyfanswm gwerth y difidendau a’r llog ar asedion ym mlychau E7, E8, E10, E11 ac E12 sy’n ddyledus ar ddyddiad y trosglwyddiad ond nad oeddent wedi’u talu eto.

E10 Cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd, a chyfranddaliadau anrhestredig, ac eithrio daliannau sy’n rhoi rheolaeth

Os nad yw cwmni wedi’i restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, unrhyw gyfnewidfa stoc dramor gydnabyddedig neu farchnad amgen, dynodir ei gyfranddaliadau a’i warantau fel rhai anrhestredig. 

Dylech nodi cyfanswm gwerth y stociau a chyfranddaliadau canlynol os nad oedd gan y setlwr reolaeth dros y cwmni: 

  • cyfranddaliadau mewn cwmnïau cyfyngedig preifat a stociau anrhestredig 
  • cyfranddaliadau a fasnachwyd ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM), gan gynnwys y cyfranddaliadau sy’n rhan o ISA
  • cyfranddaliadau a gedwir mewn Cynlluniau Buddsoddi mewn Mentrau (EIS) neu mewn Cynllun Dechrau Busnes (BSS) 

Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys y rhain pan fyddwch yn llenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg).

E11 Rhandaliadau ar gyfranddaliadau

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd modd i chi dalu treth fesul rhandaliad ar unrhyw gyfranddaliadau a gwarantau sy’n gymhwysol am Ryddhad Busnes. Mae hyn yn wir p’un a ydynt wedi’u rhestru neu beidio.

Hefyd, efallai y bydd modd i chi dalu treth fesul rhandaliad ar gyfranddaliadau anrhestredig nad ydynt yn gymhwysol am Ryddhad Busnes os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae modd i chi ddangos y bydd talu mewn un swm yn achosi caledi ariannol
  • mae o leiaf 20% o’r dreth sy’n ddyledus ar asedion sy’n gymwys i gael eu talu fesul rhandaliad 
  • mae’r cyfranddaliadau’n werth mwy na £20,000 ac yn cyfrif tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol:
    • o leiaf 10% o werth cyfanswm y cyfranddaliadau a ddyroddwyd gan y cwmni
    • o leiaf 10% o werth y cyfranddaliadau arferol a gedwir yn y cwmni

Os oes gennych dreth i’w thalu ar ddaliannau cyfranddaliadau anrhestredig, nad ydynt yn rhoi rheolaeth, ac mae’r rhain yn gymwys i’w talu fesul rhandaliad, nodwch werth y cyfranddaliadau ym mlwch E11. Gallwch ddod o hyd i’r gwerth hwn ym mlychau 3 a 4 yn Atodlen D32.

E12 Daliannau cyfranddaliadau anrhestredig, cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd a chyfranddaliadau a restrir, sy’n rhoi rheolaeth

Os oedd gan y person a wnaeth y trosglwyddiad reolaeth dros y cwmni, dylech gynnwys cyfranddaliadau sydd wedi’u masnachu ar farchnad nad yw’n bodloni diffiniad CThEF o fod ‘wedi’i rhestru’. Mae hyn yn cynnwys cyfranddaliadau a ddelir mewn ISA.

Gallwch ddod o hyd i restr o’r marchnadoedd cyfnewidfa stoc cydnabyddedig (yn agor tudalen Saesneg) sy’n cael eu diffinio fel rhai ‘rhestredig’ neu ‘heb eu rhestru’ at ddibenion CThEF.

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys y stociau a chyfranddaliadau.

E13 Ffermydd, ffermdai a thir fferm

Dylech gynnwys cyfanswm gwerth yr asedion yr ydych yn didynnu Rhyddhad Amaethyddol oddi arnynt. 

Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol hefyd:

E14 Busnesau gan gynnwys busnesau ffermio, asedion busnes a choed

Dylech gynnwys gwerth net buddiant mewn busnes ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy. 

Os oedd y setlwr wedi cymryd rhan mewn mwy nag un busnes, efallai y bydd angen i chi lenwi atodlen D38 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer pob busnes neu bartneriaeth. Nodwch gyfanswm gwerth yr holl fusnesau ym mlwch E14.

E15 Tir, adeiladau a hawliau eraill dros dir

Dylech gynnwys gwerth unrhyw dir, adeiladau neu hawliau eraill dros dir nad oedd wedi’u cynnwys yn unrhyw un o’r blychau ar y ffurflen hon. 

Gall hyn gynnwys: 

  • eiddo rhent 
  • garejys cloi 
  • tir segur 
  • eiddo diffaith 
  • chwareli 
  • meysydd awyr 
  • hawliau pysgota neu hawliau eraill sydd ynghlwm wrth dir

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) gan roi manylion y tir neu’r eiddo.

E16 Dyledion sy’n ddyledus i’r ymddiriedolaeth

Dylech nodi’r ffigur o flwch 3 pan fyddwch yn llenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg).

E17 Ad-daliad Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf 

Dylech nodi cyfanswm unrhyw dreth a ad-dalwyd i’r ymddiriedolaeth. Os nad ydych yn gwybod yr union swm, dylech nodi amcangyfrif rhesymol. 

E18 Asedion eraill

Dylech nodi cyfanswm unrhyw asedion eraill sydd heb gael eu cynnwys eisoes. Mae’n rhaid i chi gynnwys manylion yr asedion hyn yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’.

Adran F: rhwymedigaethau eithriadau a rhyddhadau

Dim ond dyledion a oedd yn ddyledus gan yr ymddiriedolaeth ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy y dylech eu cynnwys. 

Peidiwch â chynnwys y canlynol:

  • ffioedd am wasanaethau proffesiynol a gyflawnwyd ar ôl dyddiad y digwyddiad
  • unrhyw ffioedd a godwyd gan gyfreithiwr, asiant eiddo neu wasanaeth prisio wrth ddelio â’r digwyddiad

Rhwymedigaethau

Ar gyfer blwch F1, dylech restru’r holl ddyledion sy’n ddyledus gan y trosglwyddwr y gall gael eu didynnu o’r asedion sydd wedi’u cynnwys yn Adran E, colofn A. 

Dylech lenwi enw’r person neu’r sefydliad y mae’r arian yn ddyledus iddynt a nodi’n gryno pam mae’r arian yn ddyledus. Os byddwch yn cynnwys didyniadau am ffioedd cyfreithwyr neu gyfrifwyr, rhowch y dyddiadau ar gyfer y cyfnod pan wnaed y gwaith.

Ar gyfer blwch F2, dim ond rhyddhadau ac eiddo sydd wedi’u heithrio yn erbyn yr asedion a restrwyd yn adran E, colofn B, y dylech eu cynnwys.

Esemptiadau a rhyddhadau

Mae sawl rhyddhad sy’n gostwng gwerth y trosglwyddiad y mae angen i chi dalu treth arno.

Mae rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Os yw’r rhyddhad trethiant dwbl yn cael ei hawlio oherwydd bod y person â’i ddomisil y tu allan i’r DU, llenwch Atodlen D31.

Er mwyn didynnu rhyddhadau yn erbyn yr asedion a restrir ym mlychau E1 i E18, dylech ysgrifennu teitl y rhyddhad a’r swm rydych am ei ddidynnu yn y blwch a ddarperir.

Ar gyfer blwch F3, dim ond rhyddhadau yn erbyn yr asedion a restrir yn adran E, colofn A, y dylech eu cynnwys. Adiwch y rhyddhadau at ei gilydd ac ysgrifennu’r canlyniad yn y blwch ar gyfer y cyfanswm. 

Ar gyfer blwch F4, dim ond rhyddhadau ac eiddo sydd wedi’u heithrio yn erbyn yr asedion a restrir yn adran E, colofn B, y dylech eu cynnwys.

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae rhyddhad o 100% ar werth cyfunol eiddo amaethyddol neu fusnes cymhwysol (neu’r ddau) yn destun lwfansau rhyddhad newydd.

Mae’r rhain yn capio gwerth eiddo amaethyddol neu fusnes cymhwysol a all gael rhyddhad o 100%. Mae unrhyw werth eiddo amaethyddol neu fusnes cymhwysol sy’n uwchlaw’r lwfans rhyddhad sydd ar gael yn cael rhyddhad o 50%.

Mae sut mae’r lwfans rhyddhad yn gweithio yn dibynnu ar y math o rodd neu ymddiriedolaeth.

Darllenwch y nodiadau arweiniol ar D37 (Rhyddhad Amaethyddol) a D38 (Rhyddhad Busnes), ynghyd ag adran IHTM25500 o Lawlyfr Treth Etifeddiant CThEF (yn agor tudalen Saesneg) — cyfeiriwch at yr adran ‘Gwirio faint o ryddhad y gallwch ei hawlio’ er mwyn cyfrifo faint o ryddhad y gallwch ei hawlio.

Yn ogystal, o 6 Ebrill 2026 ymlaen, os nad yw marchnad yn cael ei chyfrif fel un ‘rhestredig’ at ddibenion CThEF (megis AIM), dim ond ar gyfradd o 50% y gall cyfranddaliadau a ddelir mewn cwmnïau sydd wedi’u rhestru ar y marchnadoedd hyn gymhwyso erbyn hyn.

Adran G: y gyfradd dreth sydd wedi’i chodi

Dylech ddefnyddio’r adran hon i roi gwybod i ni am werth hanesyddol yr asedion a ychwanegwyd at yr ymddiriedolaeth gan y setlwr: 

  • pan ddechreuodd yr ymddiriedolaeth 
  • cyn dyddiad y tâl 

Ar ôl 5 Ebrill 2025, bydd eiddo yn cael ei ychwanegu pan fydd eiddo eithriedig a ddelir mewn ymddiriedolaeth yn dod yn eiddo perthnasol, a hynny oherwydd bod y setlwr yn dod yn breswylydd tymor hir yn y DU. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y Llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n rhaid i chi hefyd roi gwybod i ni am asedion yr oedd y setlwr wedi’u hychwanegu at ymddiriedolaethau eraill ar yr un diwrnod a ddechreuodd yr ymddiriedolaeth hon.

Mae’n rhaid i chi brisio pob ased ar y dyddiad y cafodd ei ychwanegu at yr ymddiriedolaeth. Peidiwch â chynnwys unrhyw ryddhadau nac esemptiadau.

Ymddiriedolaethau cysylltiedig

Mae angen i ni wybod am unrhyw ymddiriedolaethau eraill a sefydlwyd gan y setlwr ar yr un diwrnod â’r ymddiriedolaeth hon. Nid oes angen i ni wybod am ymddiriedolaethau elusennol. 

Dylai’r asedion yn yr ymddiriedolaethau hyn gael eu prisio ar ddyddiad y dechreuodd yr ymddiriedolaeth. Dim ond os yw’r tâl ar neu ar ôl 18 Tachwedd 2015 y dylech gynnwys yr asedion oedd wedi’u hychwanegu at ymddiriedolaethau pobl 18 i 25 oed.

Haen cyfradd sero

Dylech nodi’r haen cyfradd sero ar ddyddiad y digwyddiad ym mlwch G8.

Gallwch ddod o hyd i’r cyfraddau a’r trothwyon yn ‘Haenau cyfradd sero, terfynau a chyfraddau ar gyfer Treth Etifeddiant (Cyfraddau a thablau IHT400)’.

Adran H: cyfrifo’r dreth

Mae’r adran hon yn un ddewisol. Os nad ydych am gyfrifo’r dreth eich hun, gallwch adael adran H yn wag a pharhau o adran I.

Ffracsiwn priodol 

Rhoddir rhyddhad ar gyfer yr amser y mae’r asedion yn yr ymddiriedolaeth. Caiff ei gyfrifo ar sail y ‘chwarterau’ cyflawn ers i’r ymddiriedolaeth ddechrau. 

Defnyddiwch yr offeryn cyfrifo chwarterau i gyfrifo nifer y chwarterau cyflawn (yn agor tudalen Saesneg) rhwng dechrau’r ymddiriedolaeth a dyddiad y tâl. 

Uchafswm nifer y chwarterau ar gyfer oes ymddiriedolaeth o 7 mlynedd yw 28.

Grosio 

Os yw’r ymddiriedolwyr yn talu’r dreth sy’n ddyledus gan ddefnyddio’r asedion sy’n dal i fod yn yr ymddiriedolaeth, mae’n rhaid i chi addasu’r ffigur ym mlwch H10 er mwyn cymryd hyn i ystyriaeth. Gelwir hyn yn ‘grosio i fyny’.

Dylech ddefnyddio’r cyfrifiad canlynol i gyfrifo’r gyfradd dreth effeithiol gros. 

(H10 ÷ (100 – H10)) × 100 = cyfradd dreth effeithiol gros

Dylech nodi’r ffigur wedi’i addasu ym mlwch H12. 

Os yw cyfanswm y gyfradd dreth wedi’i grosio i fyny, dylech gyfrifo’r ffigur ar gyfer blwch H13 drwy luosi blwch F11 â H12.

Cyfrifo’r llog ar gyfanswm y dreth sy’n daladwy

Mae Treth Etifeddiant yn ddyledus 6 mis ar ôl diwedd y mis pan oedd y trosglwyddo wedi digwydd, fan bellaf.

Os byddwch yn talu ar ôl y dyddiad dyledus, yna caiff llog ei ychwanegu at unrhyw dreth sydd heb ei thalu a chaiff ei godi ar gyfradd ddyddiol.

Dylech ddefnyddio’r gyfrifiannell ar gyfer llog ar Dreth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo swm y llog sy’n ddyledus ar eich taliad a llenwi’r tabl crynodeb ym mlwch H20.

Os ydych yn talu’r dreth sy’n ddyledus cyn y dyddiad dyledus, ewch yn eich blaen i adran I.

Adran I: awdurdod ar gyfer ad-dalu Treth Etifeddiant 

Os bydd angen i ni ad-dalu Treth Etifeddiant, byddwn yn ei had-dalu’n uniongyrchol drwy Daliadau Cyflymach i’r cyfrif banc yn enwau pawb a lofnododd y ffurflen. 

Os nad oes gennych gyfrif banc yn yr enwau hynny, gallai fod yn anodd i chi gael yr ad-daliad. Er mwyn osgoi unrhyw anawsterau, rhowch fanylion y cyfrif yr ydych eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu iddo.

Adran J: datgelu cynlluniau arbed treth 

Dylech gynnwys y ddau beth canlynol:

  • cyfeirnod y cynllun neu’r hyrwyddwr os ydych wedi cael un
  • y flwyddyn dreth neu’r dyddiad pan ddisgwylir y fantais dreth

Datganiad

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod pob ymddiriedolwr wedi darllen y datganiad ac yn cytuno bod yr wybodaeth a roddwyd ar y ffurflen, unrhyw atodlenni a dogfennau ategol eraill yn gywir. 

Bydd CThEF yn derbyn ffurflenni IHT100h heb lofnod â llaw gan asiant neu ymddiriedolwr, cyhyd â bo enwau a manylion cyswllt yr ymddiriedolwyr i’w gweld ar dudalen y datganiad.

Os ydych yn asiant

Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad canlynol yn yr wybodaeth ychwanegol ar dudalen 12: 

‘Fel yr asiant sy’n gweithredu ar eu rhan, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100 hon, wedi gweld yr IHT100 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 10 yr IHT100.’

Os ydych yn ymddiriedolwr

Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad canlynol yn yr wybodaeth ychwanegol ar dudalen 12: 

‘Fel yr ymddiriedolwr sy’n gweithredu yn y mater hwn, rwy’n cadarnhau mai’r holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100 hon, yw’r ymddiriedolwyr a’u bod wedi gweld yr IHT100 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 10 yr IHT100.’

Anfon eich ffurflen gyflawn atom

Dylech anfon y ffurflen i’r cyfeiriad a ddangosir ar waelod y ffurflen.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y canlynol:

  • copïau o unrhyw ddogfennau rydym wedi gofyn amdanynt
  • unrhyw atodlenni cyflawn (darllenwch adran D)

Dysgwch beth yw’r hyn sy’n digwydd ar ôl i chi anfon eich ffurflen gyflawn atom (yn agor tudalen Saesneg).

Cael help

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen.