Treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol — arweiniad ar gyfer seneddwyr a gweinidogion
Diweddarwyd 18 Mehefin 2026
1. Ymholiadau ynghylch Treth Bersonol a chyfraniadau Yswiriant Gwladol
Adran Gyhoeddus 1 (PD1) Cyllid a Thollau EF (CThEF) sy’n delio â’ch holl ymholiadau ynghylch Treth Bersonol a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Fel aelod etholedig neu rywun sy’n gweithio i seneddwr, mae’ch materion treth yn cael eu gweinyddu gan ein Hadran Gyhoeddus 1 (PD1).
Cysylltu ag Adran Gyhoeddus 1
Dylech anfon pob ymholiad ynglŷn â’ch treth eich hun, a threth unrhyw un sy’n gweithio i chi, at PD1 yn hytrach na’u hanfon drwy sianelau eraill. Mae hyn yn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei drin gan y bobl iawn y tro cyntaf, gan na fydd llwybrau eraill o bosibl yn gallu eich helpu - gallai hynny achosi oedi.
- Rhif ffôn ar gyfer aelodau etholedig: 03000 581 587
- Rhif ffôn ar gyfer staff yr aelodau: 03000 534 720
2. Hunanasesiad a’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae’n ofynnol i seneddwyr ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen, os ydynt yn bodloni’r meini prawf a bod eu hincwm cymhwysol yn fwy na’r trothwy perthnasol.
Gallwch ddysgu a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a phryd y dylech chi wneud hynny.
Ni all seneddwyr wneud y canlynol os oes rhaid iddynt ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn y Ddigidol ar gyfer Treth Incwm:
- anfon Ffurflenni Treth ar bapur
- anfon eu Ffurflen Dreth drwy ddefnyddio gwasanaeth cyflwyno CThEF
Cofrestru
Mae angen i drethdalwyr gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (neu gael eu cofrestru gan eu hasiant). Cam gweinyddol syml yw hwn, sy’n cymryd tua 5 munud. Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
- cofrestru’ch cleient ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn golygu y bydd angen i’r seneddwr, neu ei asiant, ddefnyddio meddalwedd fasnachol sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i wneud y canlynol:
- creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o’i incwm a’i dreuliau o hunangyflogaeth ac o eiddo
- anfon diweddariadau chwarterol at CThEF
- cyflwyno’r Ffurflen Dreth erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol (gan gynnwys y dudalen atodol SA102)
Os oes angen i seneddwyr ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, byddant yn defnyddio’r dudalen atodol gyffredinol ar gyfer cyflogaeth (SA102).
Trothwyon incwm ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Gallwch ddod o hyd i newidiadau i’r trothwyon cymhwysol ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Esemptiadau rhag defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Bydd ceisiadau am esemptiad rhag defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn cael eu prosesu gan yr adran dreth sy’n gofalu am faterion treth seneddwyr yn CThEF – Adran Gyhoeddus 1 (PD1).
Ffioedd pleidiau gwleidyddol
Ni ellir didynnu ffioedd pleidiau gwleidyddol ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gan nad ydynt yn cael eu talu wrth i chi gyflawni’ch dyletswyddau fel seneddwr.
3. Goblygiadau Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu (CRGA) 2010 i Aelodau Seneddol ac Aelodau Tŷ’r Arglwyddi
Mae’r adran hon ar gyfer Aelodau Seneddol ac Aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn unig.
Mae Rhan 4 y CRGA 2010 yn nodi bod unrhyw unigolyn sydd, ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn dreth, yn Aelod Seneddol, neu’n Aelod o Dŷ’r Arglwyddi, yn cael ei ystyried:
- yn breswylydd yn y DU am y flwyddyn dreth gyfan at ddibenion Treth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf a Threth Etifeddiant, ac
- yn breswylydd hirdymor yn y DU at ddibenion Treth Etifeddiant
Sut y pennir man preswylio ar gyfer Aelod Seneddol neu Aelod o Dŷ’r Arglwyddi
O dan gyfraith treth ddomestig y DU, caiff man preswylio ei bennu fel arfer gan y Prawf Preswylio Statudol (Atodlen 45, Deddf Cyllid 2013). Fodd bynnag, mae Rhan 4 y CRGA 2010 yn disodli’r prawf hwn ar gyfer Aelodau Seneddol ac Aelodau Tŷ’r Arglwyddi. O ganlyniad, rydych yn cael eich trin fel preswylydd yn y DU waeth beth fo’ch amgylchiadau, yn rhinwedd eich bod yn Aelod Seneddol neu’n Aelod o Dŷ’r Arglwyddi.
Yr hyn sy’n digwydd os ydych yn breswylydd yn y DU ac mewn gwlad arall at ddibenion treth
Os ydych hefyd yn breswylydd mewn gwlad arall at ddiben treth, byddwch yn breswylydd deuol — hynny yw, yn breswylydd at ddibenion treth mewn mwy nag un awdurdodaeth ar yr un pryd.
O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r DU yn defnyddio ei rhwydwaith o Gytundebau Trethiant Dwbl (DTAs). Fel arfer, mae DTAs yn cynnwys prawf ‘datrys anghydfod’ i bennu pa wlad sydd â’r hawl i drethu incwm, enillion neu asedion sy’n agored i Dreth Etifeddiant. Mae’r prawf hwn hefyd yn pennu pa wlad ddylai roi unrhyw ryddhad treth sy’n ddyledus.
Gwirio a ydych yn gymwys i gael rhyddhad o dan y gyfundrefn Incwm ac Enillion Tramor (FIG)
O 6 Ebrill 2025 ymlaen, ni all unigolion ddefnyddio’r sail drosglwyddo mwyach, lle mae incwm ac enillion tramor ond yn cael eu trethu os cânt eu trosglwyddo i’r DU. Bellach, caiff pob unigolyn ei drethu ar y sail sy’n codi. Mae’r gyfundrefn FIG newydd yn rhoi rhyddhad i unigolion cymwys sy’n breswylwyr newydd cymwys.
Fodd bynnag, mae adran 845B o Ddeddf Treth Incwm (Masnachu ac Incwm Arall) 2005 yn golygu nad yw Aelodau Tŷ’r Cyffredin nac Aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn gymwys, am unrhyw ran o flwyddyn dreth, i gael rhyddhad o dan y gyfundrefn FIG.
Ystyriaethau allweddol
Yr ystyriaethau allweddol yw:
- effaith CRGA 2010 ar eich statws preswylio ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol
- y gallai hyn effeithio ar eich cymhwystra ar gyfer y gyfundrefn FIG, hyd yn oed ar ôl i chi roi’r gorau i fod yn Aelod o’r naill Dŷ neu’r llall.
Gallwch ddod o hyd i’r arweiniad yn Llawlyfr CThEF i’r Gyfundrefn FIG a Mannau Preswylio (RFIG) — RFIG44000 (yn agor tudalen Saesneg).
Y rheolau cyn 6 Ebrill 2025
Cyn 6 Ebrill 2025, roedd Rhan 4 y CRGA 2010 yn ystyried bod domisil yr unigolyn yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’i fod yn breswylydd yn y DU, at ddibenion Treth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf a Threth Etifeddiant.
O ganlyniad, nid oedd unigolion nad oedd eu domisil yn y DU yn gallu defnyddio’r sail drosglwyddo. Roedd hyn yn berthnasol i unrhyw flwyddyn pan oeddent yn Aelod Seneddol neu’n Aelod o Dŷ’r Arglwyddi — hyd yn oed os mai am ran o’r flwyddyn yn unig oedd hyn.