Adroddiad annibynnol

Adolygiad Annibynnol o Fargen Ddinesig Bae Abertawe

Yn crynhoi effaith Bargen Dinas Bae Abertawe ar y rhanbarth ac argymell sut y gall symud ymlaen

Dogfennau

Manylion

Ym mis Ionawr 2019, cafodd Actica Consulting Ltd ei gomisiynu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynnal Adolygiad cyflym gan y Llywodraeth, yn cael ei arwain yn annibynnol, o’r trefniadau ar gyfer cyflawni Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n werth £1.3 biliwn.

Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio’n bennaf ar y canlynol:

  • Cysoni’r prosiectau sy’n rhan o’r Fargen Ddinesig ag amcanion strategol cyffredinol y Fargen, er mwyn sicrhau bod modd gwireddu’r buddion.
  • Y risgiau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r Fargen Ddinesig, gan gynnwys priodoldeb y prosiectau sy’n rhan ohoni a’r gallu i’w cyflawni, gan ganolbwyntio’n fwyaf arbennig ar y rhai hynny sydd wedi cychwyn eu hoes gyflawni fel cydran gyntaf y prosiectau.
  • Y rhyngweithio rhwng strwythurau llywodraethu’r Cydbwyllgor a’r Fargen Ddinesig a’r strwythurau llywodraethu rhanbarthol er mwyn gwneud argymhellion yn ymwneud â darparu sicrwydd cadarn.
  • Yr arferion diwydrwydd dyladwy sy’n cael eu gweithredu ar y gydran gyntaf o brosiectau ac a yw’r rhain wedi cael y lefel briodol o sicrwydd ariannol.

Mae’r adroddiad yn gwneud 7 argymhelliad er mwyn gwella’r gallu i gyflawni canlyniadau’r Fargen ac maent i’w gweld yn y ddogfen.

Cyhoeddwyd ar 15 March 2019