Papur polisi

Strategaeth ddiogelu 2019 i 2025: Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Diweddarwyd 29 April 2019

Applies to England and Wales

Mae diogelu yn fater sy’n berthnasol i bawb. Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) rôl i’w chwarae i gefnogi a darparu gwasanaethau diogelu i oedolion sydd mewn risg y byddwn yn ymwneud â hwy.

Rydym yn cefnogi’r egwyddor, hyd yn oed os nad yw ein dyletswyddau diogelu yn berthnasol, bod gennym gyfrifoldeb i weithio gyda’r asiantaethau cywir i amddiffyn oedolion sydd mewn risg.

Mae’r strategaeth hon yn nodi sut byddwn yn cyflawni hyn.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae gan OPG rôl bwysig i’w chwarae i amddiffyn pobl yng Nghymru a Lloegr nad ydynt yn meddu ar y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau iechyd a phenderfyniadau ariannol drostynt eu hunain.

Rydym yn cefnogi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau cyfreithiol Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Mae gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus ddyletswydd gyfreithiol i:

  • oruchwylio dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod
  • cofrestru atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus (LPAs ac EPAs)
  • cadw cofrestr o LPAs, EPAs a gorchmynion llys dirprwyaeth
  • delio â phryderon ynghylch dirprwyon ac atwrneiod cofrestredig

Mae gan y Ddeddf Galluedd Meddyliol pum egwyddor sy’n ganolog i bopeth rydym yn ei wneud. Yr egwyddorion yw:

  1. Tybio bod gan unigolyn alluedd meddyliol oni bai bod tystiolaeth i’r gwrthwyneb
  2. Peidiwch â thrin rywun fel nad ydynt yn gallu gwneud penderfyniad oni bai eich bod wedi cymryd yr holl gamau rhesymol i’w helpu i wneud penderfyniad
  3. Nid yw gwneud penderfyniadau annoeth yn arwydd fod gan unigolyn ddiffyg galluedd meddyliol
  4. Wastad gweithredu er budd pennaf unigolyn sydd wedi colli ei alluedd meddyliol
  5. Cyn gwneud penderfyniad ar ran rhywun arall, sicrhewch fod y canlyniad yn cael ei gyflawni mewn ffordd nad yw’n cyfyngu ar eu hawliau na’u rhyddid

Beth yw diogelu?

Mae Deddf Gofal 2014 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn diffinio diogelu fel amddiffyn hawliau unigolyn i fyw’n ddiogel, yn rhydd o gamdriniaeth ac esgeulustod. Mae’r deddfau yn pennu fframwaith cyfreithiol ar gyfer sut dylai awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill amddiffyn oedolion sydd mewn risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddelio â’r holl bryderon a fynegir inni ynghylch pobl sydd â LPAs, EPAs neu orchmynion llys dirprwyaeth.

Weithiau bydd y rhain yn bryderon diogelu y mae gennym y pŵer i ddelio â hwy. Ond, os cawn wybod am risg diogelu lle nad oes gennym y pŵer cyfreithiol i’w ddatrys, byddwn yn gweithio gydag asiantaethau eraill sydd â dyletswydd ddiogelu i amddiffyn yr unigolyn.

Cefndir

Mae ein polisi diogelu yn dangos ein bod wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid diogelu, lle bo’r angen, i ymchwilio i bryderon ac atal neu roi ddiwedd i gamdriniaeth.

Rydym wedi tyfu ers inni gyhoeddi’r polisi yn 2015. Nawr mae yna fwy o oedolion nag erioed o’r blaen wedi cofrestru LPA, EPA, neu orchymyn llys dirprwyaeth gyda’r Llys Gwarchod.

Ond, mae angen inni wneud mwy i roi gwybod i sefydliadau eraill am yr hyn rydym yn ei wneud, fel eu bod yn gallu gweithio gyda ni i amddiffyn pobl sydd mewn risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Ein gweledigaeth ar gyfer diogelu

Bwriadwn wella’r gwasanaeth diogelu rydym yn ei gynnig i’n defnyddwyr.

Rydym eisiau dod yn bartner diogelu pwysig sy’n amddiffyn pobl nad oes ganddynt alluedd meddyliol, gan ddarparu’r arweiniad a’r gwasanaethau maent eu hangen i gynllunio ar gyfer eu dyfodol.

Mae gennym 5 nod i’n helpu i gyflawni hyn:

  1. Helpu ein partneriaid diogelu i ddeall mwy am yr hyn rydym yn ei wneud
  2. Gweithio’n agosach gyda phartneriaid diogelu
  3. Dull agored tuag at ddelio ag unrhyw bryderon diogelu
  4. Diwylliant gwaith sy’n blaenoriaethu anghenion diogelu y defnyddiwr
  5. Mwy o gefnogaeth ar gyfer ein defnyddwyr

1. Helpu ein partneriaid diogelu i ddeall mwy am yr hyn rydym yn ei wneud

Fel arfer, nid yw OPG yn delio â defnyddwyr wyneb yn wyneb. Mae’n bwysig bod ein partneriaid diogelu yn deall yr hyn rydym yn ei wneud, i sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaethau diogelu priodol i’n defnyddwyr.

Bydd ein partneriaid diogelu yn deall mai’r rôl rydym yn ei chwarae i ddiogelu ein defnyddwyr yw:

  • atal camdriniaeth rhag digwydd
  • ymchwilio pryderon diogelu a adroddir inni lle mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol perthnasol
  • datrys pryderon pan fydd gennym gyfrifoldeb cyfreithiol perthnasol i wneud hynny a gweithio gyda sefydliadau eraill pan nad oes gennym gyfrifoldeb cyfreithiol

Er mwyn amddiffyn oedolion nad oes ganddynt alluedd meddyliol yn well, dylai partneriaid diogelu ddeall:

  • pryd i chwilio am LPAs, EPAs a gorchmynion llys dirprwyaeth
  • beth yw eu cyfrifoldeb cyfreithiol o ran siarad ag atwrnai neu ddirprwy – er enghraifft, pan fydd rhywun angen rhoi caniatâd ar gyfer triniaeth feddygol
  • sut i wirio p’un a yw LPA, EPA, neu orchymyn llys dirprwyaeth wedi cael ei gofrestru gan OPG ai peidio
  • sut i chwilio ein cofrestrau i ganfod p’un a yw unigolyn wedi cofrestru LPA, EPA neu orchymyn llys dirprwyaeth ai peidio
  • pryd i adrodd am bryderon diogelu inni er mwyn eu harchwilio a chymryd camau pellach

Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn:

  • gweithio gyda phartneriaid diogelu i’w helpu i ddeall yr hyn rydym yn ei wneud
  • rhoi arweiniad i’n partneriaid diogelu i’w rhannu gyda phobl sy’n gweithio gyda’r rhai hynny sydd wedi colli eu galluedd meddyliol
  • cynhyrchu fideos am ein rôl a’n cyfrifoldebau i asiantaethau eu defnyddio at ddibenion hyfforddi
  • cynnal digwyddiadau fel gweminar a chyfarfodydd o amgylch bwrdd i drafod diogelu
  • gweithio’n agos gydag arweinwyr diogelu yn y GIG fel bod meddygon a nyrsys rheng flaen yn gallu gwirio bod LPAs, EPAs a gorchmynion llys dirprwyaeth yn ddilys
  • gweithio’n agos gydag arweinwyr diogelu mewn awdurdodau lleol i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn y maes gofal yn deall yr hyn rydym yn ei wneud

2. Gweithio’n agosach gyda phartneriaid diogelu

Byddwn wastad yn chwilio am ffyrdd i weithio’n agos gyda phartneriaid diogelu i wella’r gwasanaeth diogelu a gynigir. Credwn y bydd deall yr hyn rydym yn ei wneud yn helpu partneriaid diogelu i gyflawni eu rolau.

Bydd pobl sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion, y sector iechyd a’r heddlu yn gwybod pryd, a sut, i roi gwybod inni am bryder diogelu. Byddwn hefyd yn gwybod pryd i hysbysu nhw am bryderon diogelu.

Bydd pobl sy’n gweithio gydag oedolion sydd wedi colli eu galluedd meddyliol yn deall beth yw cyfrifoldebau cyfreithiol atwrnai neu ddirprwy a byddant yn cysylltu â ni pan fyddant yn credu nad yw’r atwrnai neu’r dirprwy yn glynu at 5 egwyddor y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Bydd gennym gysylltiadau agos â Byrddau Diogelu Oedolion (SABs). Pan fydd SABs yn cynnal Adolygiad Diogelu Oedolion, byddwn yn eu hannog i wirio p’un a oes gan yr oedolyn sydd mewn risg LPA, EPA neu orchymyn llys dirprwyaeth cofrestredig ai peidio. Byddwn hefyd yn gweithio gydag adrannau eraill y llywodraeth i sicrhau bod oedolion sydd mewn risg yn cael eu hamddiffyn yn well.

Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn:

  • gweithio â’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADASS) a ADSS Cymru i sôn wrthynt am ein rôl
  • gweithio gyda Rhwydwaith Cenedlaethol Cadeiryddion Byrddau Diogelu Oedolion fel bod SABs yn fwy ymwybodol o’r hyn rydym yn ei wneud
  • mynychu fforymau a chyfarfodydd traws-lywodraethol i sôn am yr hyn rydym yn ei wneud a chwilio am ffyrdd i weithio gyda’n gilydd
  • gweithio gyda chyrff academaidd dylanwadol, fel y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol ar ôl Cymhwyso (NCPQSW) a’r Coleg Gwaith Cymdeithasol i ddatblygu deunydd hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol
  • rhoi deunyddiau hyfforddi i asiantaethau i ddangos i’w pobl pryd y dylent gysylltu â ni a sut y gallwn helpu

3. Dull agored tuag at ddelio ag unrhyw bryderon diogelu

Nid ydym yn anwybyddu arwyddion o gam-drin neu esgeulustod. Mae ein dull agored tuag at ddiogelu yn golygu y byddwn yn gwrando ar unrhyw bryderon diogelu ynghylch unrhyw oedolion a phlant sydd mewn risg, nid yn unig y rhai hynny mae gennym gyfrifoldeb drostynt.

Os bydd rhywun yn adrodd am bryder diogelu lle nad oes gennym bwerau cyfreithiol i ymchwilio iddo, byddwn yn rhoi egwyddorion ‘Making Safeguarding Personal’ ar waith ac yn sicrhau bod y pryder diogelu yn cael ei gyfeirio at yr asiantaeth gywir.

Er enghraifft, os bydd ymwelydd o’r Llys Gwarchod (aelod o staff sy’n cyfarfod wyneb yn wyneb â’n defnyddwyr) yn cynnal asesiad galluedd meddyliol yng nghartref cleient neu roddwr, ond mae ganddynt bryder ynghylch mater diogelu (er enghraifft, casglu gormod o bethau (‘hoarding’) neu hunanesgeulustod), bydd yr ymwelydd yn cyfeirio’r pryder diogelu hwn at awdurdod lleol yr unigolyn.

Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn:

  • creu adnoddau dysgu ar gyfer ein pobl i’w cwblhau
  • gwella’r arweiniad a’r gefnogaeth sydd ar gael ar GOV.UK i helpu pobl sy’n dymuno rhoi gwybod inni am bryder diogelu
  • datblygu proses asesu risg newydd sy’n seiliedig ar y bygythiad i’r unigolyn
  • sicrhau bod ein pobl yn darllen ac yn dilyn ein polisi diogelu
  • annog diwylliant gwaith lle diogelu’r defnyddiwr yw’r flaenoriaeth

4. Diwylliant gwaith sy’n blaenoriaethu anghenion diogelu y defnyddiwr culture which puts the safeguarding needs of the user first

Rydym eisiau amgylchedd gwaith sy’n amddiffyn ac yn cefnogi ein defnyddwyr. Mae ‘Making Safeguarding Personal’ yn egwyddor bwysig rydym yn ei chefnogi.

Rydym yn anelu at ddatblygu dull diogelu sy’n golygu ein bod yn blaenoriaethu ein defnyddwyr ac yn sicrhau eu bod yn cymryd rhan yn y broses ddiogelu cymaint ag sy’n bosibl.

Byddwn yn cynnal rhaglen waith hirdymor (ein ‘model diogelu’) i wella prosesau mewnol a’r diwylliant gwaith i amddiffyn ein defnyddwyr yn well.

Bydd y model diogelu yn sicrhau bod ein pobl yn deall y rôl maent yn ei chwarae i ddiogelu ein defnyddwyr. Bydd yn creu diwylliant gwaith sy’n blaenoriaethu’r defnyddiwr a diogelu.

Bydd ein uwch arweinwyr yn annog diwylliant gwaith sy’n tynnu sylw at ansawdd y gwasanaeth, ymyraethau a diogelwch ar gyfer oedolion a all fod wedi colli eu galluedd meddyliol.

Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn:

  • annog ein pobl i wirfoddoli gydag elusennau sy’n gweithio gydag oedolion nad oes ganddynt alluedd meddyliol
  • cyflogi uwch ymarferydd diogelu i roi cyngor arbenigol ar ddelio â phryderon, hyfforddiant ac ymarferion sy’n ymwneud â diogelu
  • cynnal digwyddiadau dysgu am ddiogelu yn rheolaidd i sicrhau bod pobl yn deall eu rôl o ran diogelu ein defnyddwyr
  • sicrhau bod eich pobl yn cwblhau modiwlau e-ddysgu diogelu fel bod pawb yn OPG yn deall yr hyn y dylent ei wneud os bydd rhywun yn adrodd am bryder

5. Mwy o gefnogaeth ar gyfer ein defnyddwyr

Credwn y dylai pob oedolyn sydd dros 18 oed wneud LPA fel bod rhywun maent yn ymddiried ynddynt yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu rhan os byddant yn colli eu galluedd meddyliol.

Rydym eisiau lleihau cyfartaledd oedran ein defnyddwyr a helpu rhagor o bobl o gefndiroedd gwahanol i wneud LPAs.

Byddwn yn gwella ein gwasanaethau ar-lein, fel bod gwneud cais i gofrestru LPA yn haws ac yn fwy hygyrch.

Byddwn yn cynnig rhagor o arweiniad i bobl sy’n ystyried gwneud LPA ac i’r rhai hynny sydd wedi’u henwi ar LPA – er enghraifft, darparwyr tystysgrifau ac atwrneiod.

Byddwn yn rhoi mwy o gefnogaeth i atwrneiod a dirprwyon ar ôl cofrestru LPA a byddwn yn gwneud mwy i gefnogi’r broses gwneud penderfyniadau.

Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn:

  • cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol ‘Eich Llais, Eich Penderfyniad’ i annog rhagor o bobl i gynllunio ar gyfer eu dyfodol
  • chwilio am ffyrdd i alluogi gwneud cais i gofrestru LPA yn gyfan gwbl ar-lein, gan ei wneud yn haws i’n defnyddwyr
  • gwneud ymchwil am sut gallwn ni roi rhagor o gefnogaeth i’r bobl sydd wedi colli galluedd meddyliol i allu gwneud penderfyniadau eu hunain

Sut byddwn yn asesu llwyddiant ein strategaeth ddiogelu

Byddwn yn cynnal ymchwil o 2020 i 2021 i ganfod a yw’r bobl sy’n gweithio i ddiogelu oedolion sydd mewn risg yn gwybod mwy amdanom ni nag y maen nhw ar hyn o bryd. Byddwn hefyd yn edrych ar ddata mewnol i ganfod a ydym yn cyflawni ein nodau. Bydd hyn yn ein helpu i ganfod buddion y strategaeth hon ac yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y cam nesaf o’r gwaith.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol i ddangos y gwaith rydym yn ei wneud i gyflawni ein nodau.