Papur polisi

Strategaeth diogelwch ffyrdd

Amlinellu cynlluniau strategol y llywodraeth i wella diogelwch ffyrdd.

Dogfennau

Strategaeth diogelwch ffyrdd

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch webmasterdft@dft.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Bwriad y strategaeth diogelwch ffyrdd hon yw lleihau’r nifer o bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol (KSI) ar ffyrdd Prydain Fawr. Gyda 4 bywyd wedi ei golli bob dydd, ar gyfartaledd yn 2024, mae’r strategaeth hon yn gosod targedau ar gyfer Prydain gyfan i leihau’r niferoedd sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol erbyn 2035.

Mae’n ymrwymo i adolygu meysydd polisi megis diogelwch gyrwyr ifanc a newydd, gyrwyr hŷn a beicwyr modur, er mwyn llunio ymyraethau mwy effeithiol wedi eu harwain gan dystiolaeth.

Mae’r strategaeth yn amlinellu ystod o bolisïau er mwyn cefnogi’r bwriad hwn ac i wella diogelwch ffyrdd yn gyffredinol. Mae’n canolbwyntio ar 4 thema:

  • cefnogi defnyddwyr ffyrdd
  • manteisio ar dechnoleg, arloesedd a data i wella diogelwch cerbydau a gofal ar ôl gwrthdrawiad
  • sicrhau bod isadeiledd yn ddiogel 
  • gorfodaeth gadarn er mwyn diogelu pob defnyddiwr ffyrdd

Caiff meysydd polisi, ymyraethau ac ymrwymiadau eu hadnabod ar gyfer pob un o’r themâu hyn.

Mae’r strategaeth hefyd yn crynhoi’r achos dros newid, yn pennu targedau diogelwch ffyrdd ac amlinellu dulliau o fonitro’r cynnydd a wneir er mwyn gwireddu amcanion.

I gyd-fynd â’r strategaeth, mae 5 ymgynghoriad wedi eu lansio heddiw ar:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Ionawr 2026

Argraffu'r dudalen hon