Cyflwyno profion golwg gorfodol i yrwyr hŷn
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Gweld yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg (English).
Mae’r Adran Drafnidiaeth yn ceisio barn ar:
- y posibilrwydd o symud i ffwrdd o’r system hunan-ddatgan bresennol ar gyfer safonau golwg ar gyfer gyrwyr 70 oed a throsodd
- cyflwyno profion golwg gorfodol i yrwyr hŷn fel rhan o’r broses adnewyddu trwydded yrru
Ym Mhrydain Fawr, mae’r hawl i yrru yn dod i ben yn 70 oed. Unwaith y bydd gyrwyr yn cyrraedd 70 oed, rhaid iddynt adnewyddu eu trwydded yrru ac, wedi hynny, bob 3 blynedd ar y mwyaf.
I adnewyddu eu hawl, rhaid iddynt wneud datganiad cyfreithiol eu bod yn gallu bodloni’r safonau golwg sy’n ofynnol i yrru a chadarnhau a oes ganddynt unrhyw gyflyrau meddygol rhestredig.
Mae golwg yn elfen hanfodol o yrru’n ddiogel ac mae sicrhau y gall gyrwyr hŷn fodloni’r safonau lleiaf sy’n ofynnol ar gyfer gyrru yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â ffactor allweddol mewn diogelwch ar y ffyrdd.
Dogfennau
Ffyrdd o ymateb
or
Cwblhau ffurflen ymateb a naill ai
E-bostio at:
mandatoryeyesighttestingconsultation@dft.gov.uk
Ysgrifennu at:
Adran diogelwch ffyrdd
Adran Drafnidiaeth
33 Horseferry Road
Llundain, SW1P 4DR
Y Deyrnas Unedig