Gwella hyfforddiant, profi a thrwyddedu mopedau a beiciau modur
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Gweld yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg (English).
Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) eisiau eich barn ar newidiadau posibl i hyfforddiant, profi a thrwyddedu mopedau a beiciau modur.
Bydd y newidiadau posibl yn effeithio ar gategorïau trwydded yrru ar gyfer:
- mopedau (AM)
- beiciau modur (A1, A2, ac A)
Rydym am wneud y newidiadau hyn i wella diogelwch ar y ffyrdd a symleiddio mynediad pobl at feicio modur.
Rydym yn gofyn am eich barn ynghylch os dylem:
- gyfyngu beicwyr sy’n dysgu i beiriannau awtomatig os ydynt yn cwblhau hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) ar un
- gyflwyno prawf theori y mae’n rhaid ei sefyll cyn (neu fel rhan o) y cwrs CBT
- gyflwyno cwrs hyfforddi mynediad cynyddol i feicwyr uwchraddio eu trwydded
- ddiweddaru’r maes llafur CBT
- newid y ffordd y mae hyfforddwyr beiciau modur yn cymhwyso
- newid pa mor hir y mae tystysgrifau CBT yn ddilys
- ddatblygu gwasanaeth digidol i reoli gweinyddiaeth cyrsiau CBT