Gorfodi technolegau diogelwch cerbydau mewn cymeradwyaeth math Prydain Fawr
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Gweld yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg (English).
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ein cynnig i’w gwneud yn ofynnol i wneuthurwyr sy’n ceisio cymeradwyaeth math Prydain Fawr ar gyfer cerbydau a gynhyrchir mewn niferoedd anghyfyngedig gael eu gosod â chyfres o dechnolegau diogelwch.
O dan y cynnig hwn, rydym yn bwriadu:
- cyflwyno gosod gorfodol 18 o dechnolegau diogelwch ar gyfer categorïau penodol o gerbydau a gymeradwywyd i’r gyfres anghyfyngedig o dan gynllun cymeradwyo math Prydain Fawr
- amlinellu’r trefniadau trosiannol ar gyfer mathau newydd o gerbydau a’u cofrestriadau
- casglu barn ar ofynion a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod y technolegau diogelwch yn cael eu cadw a’u cynnal yn dilyn cymeradwyaeth math a chofrestru
Rydym yn ceisio barn ar y canlynol:
- cwmpas ein cynnig sy’n ei gwneud yn ofynnol i gerbydau a gynhyrchir yn dorfol gael eu cyfarparu â thechnolegau diogelwch newydd
- priodoldeb gosod dyddiadau cymhwyso gwahanol ar gyfer gweithredu gorfodol y technolegau diogelwch ar gyfer mathau newydd o gerbydau a chofrestriadau newydd
- gofynion a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod y technolegau diogelwch yn cael eu cadw a’u cynnal yn dilyn cymeradwyaeth math a chofrestru
Dogfennau
Ffyrdd o ymateb
or
Cwblhau ffurflen ymateb a naill ai
E-bostio at:
Ysgrifennu at:
International Vehicle Standards
3rd Floor, Zone 4
Great Minster House
33 Horseferry Rd
London, SW1P 4DR