Guidance

Rhoi gwybod am adar gwyllt marw: hysbysiad preifatrwydd (Welsh version)

Updated 12 December 2025

Applies to England, Scotland and Wales

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut bydd eich data personol yn cael eu defnyddio pan fyddwch yn cyflwyno adroddiad o aderyn gwyllt marw o dan ein rhaglen gwyliadwriaeth adar gwyllt.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd hwn, e-bostiwch wildlifediseasepolicy@defra.gov.uk

Pwy sy’n casglu eich data personol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer y data personol rydym yn eu casglu.

Defra hefyd yw’r rheolydd ar gyfer y data personol a brosesir wrth weithredu drwy Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am sut y byddwn yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig, gallwch gysylltu â’r rheolwr diogelu data yn data.protection@defra.gov.uk.

Mae swyddog diogelu data Defra yn gyfrifol am wirio ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Gallwch gysylltu â’r swyddog yn DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

Pa ddata personol rydym yn eu casglu a sut y cânt eu defnyddio

Rydym yn casglu eich:

  • enw
  • manylion cyswllt
  • lleoliad

Byddwn yn defnyddio eich data personol i’ch adnabod ac i gysylltu â chi os bydd angen i ni gael eglurder ynglŷn â’r fanylion neu i ofyn am wybodaeth ychwanegol am yr aderyn gwyllt marw rydych chi’n rhoi gwybod amdano. Rydym yn defnyddio’r data ar leoliad i nodi lle y gellir casglu’r aderyn.

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol yw darparu cyngor iechyd y cyhoedd a chyflawni tasg er budd y cyhoedd sydd wedi’i gosod o dan y gyfraith, sef asesu’r risg o ledaeniad ffliw adar a phathogenau newydd a phathogenau eraill sy’n ymddangos mewn adar gwyllt ym Mhrydain Fawr, a’i rheoli, o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

Cydsyniad i brosesu eich data personol

Ni chaiff eich data personol eu prosesu yn seiliedig ar gydsyniad. Ni allwch ei dynnu’n ôl.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol

Byddwn yn rhannu eich data personol â’r canlynol:

  • y contractwr sy’n casglu’r adar gwyllt marw oddi wrthych
  • Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Iechyd Cyhoeddus yr Alban, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth yr Alban, a Llywodraeth Cymru – os bydd yr ymchwiliad yn arwain at ganfod pathogen a all effeithio ar fodau dynol (pathogen milheintiol) neu glefyd hysbysadwy, adroddadwy neu glefyd newydd neu glefyd sy’n ymddangos mewn anifeiliaid.
  • awdurdodau gorfodi’r gyfraith – pwrpas hyn yw cynorthwyo ymchwiliadau sy’n ymwneud â thorcyfraith neu dorcyfraith posibl, gwiriadau cydymffurfio ac at ddibenion gorfodi

Rydym yn parchu’ch preifatrwydd personol wrth ymateb i geisiadau am fynediad at wybodaeth. Dim ond pan fydd angen bodloni gofynion statudol Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 y byddwn yn rhannu gwybodaeth.

Am ba hyd y byddwn yn cadw data personol

Byddwn yn cadw eich data personol yn y gwasanaeth rhoi gwybod ar-lein ar gyfer adar gwyllt marw am 6 mis.

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn darparu data personol

Os na fyddwch yn darparu’r data personol, ni fyddwn yn gallu casglu’r adar gwyllt marw a bydd hyn yn effeithio ar ein gallu i gynnal gwaith rheoli clefydau effeithiol.

Defnyddio prosesau gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio

Ni chaiff y data personol a ddarparwch eu defnyddio ar gyfer:

  • gwneud penderfyniadau awtomataidd (gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd heb unrhyw ymwneud dynol)
  • proffilio (prosesu data personol yn awtomataidd er mwyn gwerthuso pethau penodol ynglŷn ag unigolyn)

Trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r DU

Dim ond i wlad arall y tybir ei bod yn ddigonol at ddibenion diogelu data y byddwn yn trosglwyddo eich data personol.

Eich hawliau

Ar sail prosesu cyfreithlon uchod, dyma fydd eich hawliau unigol:

  • yr hawl i gael gwybod
  • yr hawl i fynediad
  • yr hawl i gywiro
  • yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • yr hawl i wrthwynebu
  • hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau unigol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (Deddf 2018).

Cwynion

Mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar unrhyw adeg

Siarter gwybodaeth bersonol

Mae ein siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio mwy am eich hawliau dros eich data personol.