Canllawiau

Nodyn ymarfer y Gwarcheidwad Cyhoeddus (PN1): Cytuno i weithredu fel atwrnai proffesiynol (fersiwn y we)

Diweddarwyd 22 November 2017

Applies to England and Wales

1. Crynodeb

Mae’r nodyn ymarfer hwn yn cyflwyno arweiniad y Gwarcheidwad Cyhoeddus i weithwyr proffesiynol cyflogedig sy’n cytuno i gael eu penodi fel atwrnai o dan atwrneiaeth arhosol (LPA).

Mae’r nodyn hwn yn berthnasol i bobl sy’n gweithio i ystod eang o sefydliadau masnachol a dielw, gan gynnwys (ond heb eu cyfyngu i) cyfreithwyr, cyfrifyddion, ysgrifenwyr ewyllysiau, cynghorwyr ariannol a phobl sy’n gweithio ag elusennau a mudiadau trydydd sector.

Mae’r nodyn yn ymdrin â’r cyfnod cyn i’r atwrnai ddechrau gweithredu o dan y LPA. Mae’n cynnwys cyngor ar:

  • gael cyfarwyddiadau gan roddwyr

  • paratoi i weithredu o dan y LPA

  • yr hyn sy’n digwydd ar ôl creu’r LPA

  • cadw cofnodion

Mae rhestr wirio y gellir cyfeirio ati ar ddiwedd y ddogfen sy’n cynnwys prif bwyntiau’r canllaw.

2. Diben a chwmpas Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus, gyda chymorth [Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG)(https://www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian, gyfrifoldeb statudol i gadw cofrestr o atwrniaethau arhosol a pharhaus ac o’r dirprwyon a benodwyd gan y llys.

Mae’r OPG hefyd yn ymchwilio i weithredoedd dirprwyon neu atwrniaethau sy’n gweithredu o dan atwrniaethau arhosol neu bauhaus a gofrestrwyd. Mae polisi diogelu’r OPG yn ategu’r dyletswyddau hyn ac mae’n ceisio sicrhau bod mesurau’n cael eu cymryd i amddiffyn oedolion sydd men perygl o gael eu cam-drin. Mae’r polisi’n cynnwys strategaethau ataliol sy’n osgoi’r angen am gamau adfer.

3. Dyletswyddau a chyfrifoldebau atwrniaethau proffesiynol

Mae gweithredu fel atwrnai’n gyfrifoldeb pwysig a dylai unigolion ddeall a pharatoi cyn cytuno i dderbyn y rôl.

Dywed paragraff 7.59 o God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol bod yn rhaid i atwrneiod sy’n cael eu talu am eu gwasanaethau neu sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol perthnasol arddangos lefelau uwch o ofal neu hyfedredd na’r rhai sy’n gweithredu’n ddi-dâl, neu mewn rhinwedd anffurfiol.

Barn y Gwarcheidwad Cyhoeddus yw, oni bai bod rhoddwr LPA wedi datgan eu bod yn bwriadu i ddyletswyddau’r atwrnai gael eu gohirio tan ddigwyddiad yn y dyfodol (fel diffyg galluedd), yna dylai’r dyletswyddau hynny rwymo atwrnai LPA eiddo a materion ariannol cyn gynted ag y bydd y LPA yn cael ei gofrestru.

Gall canlyniadau methiant i weithredu’n briodol mewn rôl atwrnai proffesiynol fod yn ddifrifol i’r atwrnai a’u sefydliad, gan gynnwys ymchwiliad rheoliadol, hawliadau am esgeulustod, colled ariannol ac atebolrwydd troseddol.

4. Diben a chwmpas y nodyn ymarfer

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i sefydliadau, yn ogystal â’r sawl y gofynnir iddynt fod yn atwrnai yn rhinwedd eu proffesiwn neu fusnes yn hytrach nag fel aelod o’r teulu neu ffrind. Mae’r un mor berthnasol i atwrneiod sy’n gweithredu o dan LPA eiddo a materion ariannol a rhai sy’n gweithredu o dan LPA iechyd a lles, er bod yr OPG yn cydnabod bod y rhan fwyaf o atwrneiod proffesiynol yn cael eu penodi o dan LPA ariannol neu eiddo.

Mae llawer o unigolion y cyfeirir atynt yn y canllaw hwn eisoes yn gweithio’n unol â safonau, rheolau a moeseg broffesiynol. Fodd bynnag, nid yw’r rheolau hynny’n rhoi sylw i bob mater sydd wedi’u cynnwys yn y nodyn ymarfer hwn. Os ydych chi’n credu bod unrhyw beth yn y canllaw hwn yn gwrthddweud canllawiau eich proffesiwn, dylech ofyn am gyngor pellach gan eich corff proffesiynol a/neu’r OPG.

Bwriad y canllaw hwn yw sicrhau bod gweithwyr proffesiynol sy’n cytuno i weithredu fel atwrnai cyflogedig o dan LPA wedi’u paratoi’n ddigonol ar gyfer y rôl a’u bod wedi cael trafodaethau priodol â’r rhoddwr cyn colli galluedd. Mae hyn yn galluogi rhoddwyr i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth am y penodiad ei hun, ac am y mathau o benderfyniadau y gall atwrneiod eu gwneud os bydd y rhoddwr yn colli galluedd.

Mae’r OPG wedi cynhyrchu’r canllaw hwn mewn ymgynghoriad â’r cyrff proffesiynol a’r rheoleiddwyr canlynol: yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, Cymdeithas y Cyfreithwyr, Cyfreithwyr i’r Henoed, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, yr Ombwdsmon Ymddygiad Ariannol a’r Cyngor Adrodd Ariannol.

5. Paratoi i fod yn atwrnai

Gallwch gael cais i fod yn atwrnai mewn sawl ffordd, gan gynnwys trwy gysylltiad uniongyrchol â’r rhoddwr, trwy hysbysebu uniongyrchol neu trwy atgyfeiriadau gan asiantaethau eraill, cwmnïau preifat neu ganolwyr.

Safbwynt y Gwarcheidwad Cyhoeddus yw, pa bynnag gyfrwng a ddefnyddir i gysylltu â chi, dylai’r rhoddwr fod yn ymwybodol o arwyddocâd y LPA a’r pwerau a’r cyfrifoldebau a roddir i’r atwrnai trwyddo. Os ydych chi’n paratoi’r LPA eich hun, gallwch hysbysu’r atwrnai’n uniongyrchol. Os ydych chi’n dibynnu ar rywun arall i baratoi’r LPA, yna efallai y bydd angen i chi wirio eu bod wedi cadw’r pum pwynt isod mewn cof ar eich rhan a’u bod wedi cadw cofnod.

Gall rhywun sy’n gweithredu ar ran y rhoddwr ofyn i chi lunio LPA ond, os byddwch yn cydsynio i gael eich penodi fel atwrnai, chi sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y pwyntiau isod yn cael sylw.

Cyn ystyried y pwyntiau hyn, bydd angen i chi sicrhau bod gan y rhoddwr y galluedd meddyliol i greu LPA ac i’ch cyfarwyddo. Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn rhoi arweiniad ar asesu galluedd; efallai y bydd eich corff proffesiynol arweiniad pellach.

5.1 1) Penodiad unigol neu gorfforaeth ymddiriedol?

Dylai rhoddwyr ddeall a ydynt yn dewis penodi unigolyn (mewn achos o’r fath bydd cyfrifoldeb personol arnoch i weithredu) neu gorfforaeth ymddiriedol. Dylent gael eu hysbysu os yw’n unigolyn, yna bydd eich penodiad yn dal yn weithredol os byddwch yn gadael eich swydd neu’ch proffesiwn neu’n ymddeol, oni bai neu nes eich bod yn ymwrthod â’ch penodiad.

Os mai rhywun heblaw chi sy’n paratoi’r LPA – fel canolwr neu un arall o gyflogeion eich cwmni – yna mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn teimlo ei fod yn ymarfer da i gynnig cyfle i’r rhoddwr gwrdd â chi’n bersonol.

5.2 2) Gwrthdrawiad buddiannau

Os cysylltir â chi am gyngor cyffredinol ar greu LPA, dylech feddwl yn ofalus a oes posibilrwydd o wrthdrawiad buddiannau os byddwch yn cynnig eich hun fel atwrnai. Os oes, rhaid delio’n briodol â’r gwrthdrawiad. Rhaid i’r rhoddwr wneud penderfyniad heb i neb ddylanwadu arno.

Fodd bynnag, mae’r OPG yn derbyn, ar yr amod bod y cyngor a roddwch yn ddiduedd, nad oes dim i’ch rhwystro rhag creu LPA lle’r ydych chi, neu aelod o’ch cwmni, yn cael eich enwi fel yr atwrnai.

5.3 3) Eich sgiliau a’ch profiad

Dylai rhoddwyr gael gwybod am eich sgiliau perthnasol ac unrhyw brofiad o weithredu fel atwrnai yn y gorffennol, pa brofiad a gwybodaeth sydd gennyck am alluedd meddyliol a pha arbenigedd y gallwch fanteisio arno, fel y gallant fod yn sicr o’ch cymhwysedd.

5.4 4) Penodiadau a wneir ar y cyd neu ar y cyd ac yn unigol

Dylech ystyried yn ofalus geisiadau i gael eich penodi ar y cyd, neu ar y cyd ac yn unigol, ag unigolyn lleyg (fel aelod o’r teulu neu ffrind i’r rhoddwr). Mae penodiad o’r fath yn golygu y gallech fod yn rhannol gyfrifol am unrhyw gamberchnogaeth gan yr atwrnai lleyg.

Os bydd rhoddwr yn dewis penodiad ar y cyd neu unigol, dylech gytuno â hwy ymlaen llaw beth fydd yn sbarduno eich cysylltiad chi. Dylech gytuno hefyd ar baramedrau’r berthynas waith ddisgwyliedig ag unrhyw gyd-atwrneiod fel y bydd materion y rhoddwr yn cael eu rheoli’n briodol.

5.5 5) Darparwyr tystysgrifau

Mae darparwr tystysgrifau’n unigolyn amhleidiol sy’n cadarnhau, pan fydd y rhoddwr yn creu’r LPA, bod y rhoddwr yn deall yr hyn mae’n ei wneud ac and oes pwysau wedi’i roi arno i wneud y LPA.

Mae’r OPG yn atgoffa atwrneiod proffesiynol bod rhai pobl yn cael eu gwahardd rhag gweithredu fel darparwyr tystysgrifau o dan reoliad 8 Rheoliadau Atwrneiaeth Arhosol, Atwrneiaeth Parhaus, a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007.

Mae’r bobl hyn yn cynnwys:

  • unrhyw bartner busnes neu gyflogeion yr atwrnai, neu unrhyw aelod o deulu’r atwrnai

  • cyfarwyddwyr neu gyflogeion y gorfforaeth ymddiriedol, neu unrhyw fusnes cysylltiedig, a benodir fel atwrnai.

Mae’r OPG yn awgrymu, pan fydd atwrnai proffesiynol yn cael ei benodi, bod rhywun sy’n annibynnol ar sefydliad yr atwrnai’n gweithredu fel darparwr tystysgrifau. Bydd hyn yn atal unrhyw broblemau posibl â chofrestru’r LPA neu wrthdrawiad buddiannau tybiedig.

6. Rheoli llwyth gwaith sawl LPA

Dywed yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr y dylai cyfreithwyr dderbyn cymaint o waith ag y gallant ymdopi ag ef. Ym marn y Gwarcheidwad Cyhoeddus dylai pob atwrnai proffesiynol, boed yn gyfreithwyr neu beidio, ystyried eu hadnoddau cyn cytuno i gael eu penodi o dan LPA.

Os cewch eich penodi fel atwrnai mewn sawl LPA, dylech feddwl sut y byddech chi (a’ch sefydliad) yn ymdopi pe bai pob rhoddwr angen eich help ar yr un pryd. Dylech gadw cofnod o nifer y LPA lle cawsoch eich penodi a, cyn cytuno i sawl penodiad, bod â chynlluniau ar waith i’ch galluogi i gyflawni eich dyletswyddau’n briodol os oes yn rhaid i chi weithredu ar yr un pryd o dan sawl LPA.

Os cewch eich penodi mewn sawl LPA, bydd angen i chi feddwl am drefniadau’r swyddfa sy’n eich helpu, a ddylai fod yn addas ar gyfer maint eich llwyth gwaith posibl. Bydd angen i chi feddwl am unrhyw fodd i ehangu ac am drefniadau wrth gefn os bydd sawl LPA yn cael eu gweithredu ar fyr rybudd.

Gall gwaith atwrnai gymryd llawer o’ch amser ac mae angen gwybodaeth fanwl o’r gyfraith galluedd meddyliol, felly mae angen i chi feddwl yn ofalus am y galwadau posibl ar eich amser ac am yr adnoddau yn eich swyddfa sydd ar gael i’ch helpu.

7. Ffioedd proffesiynol

Cofiwch nad oes gennych chi ddim pwerau i godi tâl am eich gwasanaethau os yw’r LPA yn dawel ar ffioedd.

Dylech chi (neu eich cynrychiolydd):

  • roi manylion am unrhyw ffioedd cadw neu ffioedd am storio’r LPA yn y LPA ei hun

  • datgan yn eglur wrth y rhoddwr am eich ffioedd am weithredu o dan y LPA, yn ogystal ag unrhyw ffioedd untro am ei lunio

  • trafod a chytuno ar eich ffioedd cyfredol â’r rhoddwr

  • dweud wrth y rhoddwr bod eich ffioedd yn debygol o godi dros amser

  • dweud wrth y rhoddwr y gallwch godi ffi am gyfnod hir os daw’r LPA yn weithredol

  • ystyried rhoi enghreifftiau o ffioedd cyffredin i’r rhoddwr a godir o dan wahanol amgylchiadau i’w helpu i ddeall yr ymrwymiad ariannol sydd dan ystyriaeth

  • ystyried trafod amgylchiadau â’r rhoddwr lle gall ffioedd sylweddol godi – er enghraifft, os yw’r atwrnai’n herio penderfyniadau ar ariannu gofal

  • ystyried y pellter daearyddol odds wrth y rhoddwr a dweud wrthynt y gellir codi am ymweliadau a’r effaith y gallai symud tŷ ei gael ar ffioedd

7.1 Ystâd y rhoddwr yn lleihau

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn credu y dylech ddatgan ymlaen llaw beth fyddwch yn ei wneud os bydd y ffioedd yn mynd yn anfforddiadwy i’r rhoddwr. Mae’n ymarfer da i drafod hyn â’r rhoddwr tra bydd ganddo alluedd.

Er enghraifft, byddwch yn ymwrthod â’ch penodiad os na fydd yr ystâd yn gallu fforddio’r ffioedd a godir gennych - mewn achos o’r fath, beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau bod y rhoddwr yn cael ei warchod? Ynteu a fyddwch yn parhau i weithredu’n ddi-dâl?

7.2 Sut fydd ffioedd yn cael eu strwythuro?

Pan fyddwch yn gweithredu, efallai y byddwch yn gallu cadw ffioedd mor isel â phosibl trwy ddefnyddio staff gweinyddol ar gyfer tasgau cyffredin fel taliadau rheolaidd ac ymweliadau â’r rhoddwr.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn atgoffa atwrneiod, fodd bynnag, na allant ddirprwyo eu hawdurdod gwneud penderfyniadau i neb arall. Dylai unrhyw drefniadau a roddir ar waith gennych adlewyrchu’r ffaith eich bod chi, fel yr atwrnai a enwir, yn parhau’n atebol ac yn gyfrifol am benderfyniadau a wneir o dan y LPA.

8. Gweithredu er budd pennaf y rhoddwr

Egwyddor graidd yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 yw bod unrhyw gamau a gymerir neu benderfyniadau a wneir gan rywun sy’n gweithredu ar ran unigolyn heb alluedd meddyliol yn cael eu gwneud er budd pennaf yr unigolyn hwnnw.

8.1 Dod i adnabod y rhoddwr

Mae gweithredu er budd pennaf y rhoddwr yn cynnwys cadw eu dymuniadau a’u teimladau o’r gorffennol a’r presennol mewn cof, ynghyd ag unrhyw gredoau neu werthoedd sydd ganddynt. Mae’n syniad da i gofnodi unrhyw drafodaethau rydych wedi’u cael am y rhain ar adeg creu’r LPA, fel y bydd y rhoddwr yn gwybod y byddwch yn gweithredu yn ôl eu dymuniadau os na fydd ganddynt alluedd.

Mae’n bwysig iawn cadw cofnodion os oes gan y rhoddwr unrhyw ddaliadau neu hoffterau crefyddol a all fod yn bwysig, er enghraifft, ynglŷn â buddsoddiadau moesegol neu addoli neu elusennau yr hoffent eu cefnogi. I rai gweithwyr proffesiynol bydd llythyr o ddymuniadau’n ddefnyddiol; mae eraill yn defnyddio rhestr wirio i gofnodi pwyntiau allweddol.

Mae rhai gweithwyr proffesiynol a benodir o dan LPA eiddo a materion ariannol yn edrych sut y mae’r rhoddwr wedi buddsoddi eu harian yn ystod eu hoes.

Yn achos LPA iechyd a lles efallai y bydd y rhoddwr am lunio llythyr manwl o ddymuniadau ar adeg llunio’r LPA.

Os felly, dylai hwn gael ei ddiweddaru os bydd dymuniadau’r rhoddwr yn newid, ac ni ddylai newidiadau gael eu cofnodi mewn nodiadau sgyrsiau ffôn neu ohebiaeth yn unig. Bydd hyn yn osgoi unrhyw anghydfodau diweddarach ynglŷn â gwir fwriadau’r rhoddwr.

Dylai gweithwyr proffesiynol addasu eu ffordd o weithio yn ôl amgylchiadau’r rhoddwr. Er enghraifft, mae’n bwysicach cymryd cyfarwyddiadau mwy manwl ar adeg creu’r LPA os nad yw’r rhoddwr yn enwi aelodau o’r teulu neu ffrindiau mae’n ymddiried ynddynt ac y gellid ymgynghori â hwy neu ddibynnu arnynt i gyfleu eu dymuniadau os byddant yn colli galluedd.

8.2 Diweddaru hoffterau’r rhoddwr

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod bod LPA yn aml yn cael eu creu ymhell cyn i roddwr golli galluedd, a bod barn a hoffterau rhoddwyr yn gallu newid yn y cyfamser.

Os oes cyfnod hir rhwng creu’r LPA a chysylltiad â’r atwrnai, mae ffyrdd eraill o ganfod dymuniadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y rhoddwr pan fydd angen i chi weithredu, os nad yw’r rhoddwr yn gallu cyfleu ei deimladau erbyn hynny.

Mae siarad â pherthnasau a gofalwyr, edrych ar ffotograffau, ymweld â’r rhoddwr yn ei gartref i weld ei amgylchiadau a deall ei ffordd o fyw a dadansoddi trafodion ariannol y gorffennol i gyd yn enghreifftiau o sut y gall y rhoddwr ganfod hoffterau’r rhoddwr os yw wedi colli galluedd i fynegi barn i chi fel atwrnai.

9. Ar ôl freu’r LPA

Dylech drafod â’r rhoddwr i ganfod yr hyn a hoffai ei weld yn digwydd ar ôl iddo greu’r LPA. Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn argymell bod rhoddwyr yn cofrestru eu LPA cyn gynted ag y bydd wedi’i greu, fel y gellir cywiro unrhyw gamgymeriadau tra bod ganddynt alluedd.

Ar ôl cofrestru, mae rhai pwyntiau isod i’w hystyried a’u trafod â’r rhoddwr pan yn briodol.

9.1 Defnyddio LPA eiddo a materion ariannol ar unwaith

Gellir defnyddio LPA eiddo a materion ariannol cyn gynted ag y bydd wedi’i gofrestru, oni bai bod y rhoddwr wedi datgan fel arall yn y ddogfen. Felly, bydd angen i chi feddwl pa fesurau gwarchod y gellir eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr nad oes modd ei gamddefnyddio am unrhyw reswm, yn enwedig os yw’r rhoddwr wedi penodi cyd-atwrnai.

9.2 Barnu galluedd meddyliol rhoddwr

Dylech feddwl sut y byddwch yn gwybod os yw galluedd y rhoddwr yn dirywio, fel y gallwch wneud penderfyniad ynglŷn â pha bryd y bydd angen i chi ddechrau gweithredu. Er enghraifft, os yw’r rhoddwr yn agored i sgamiau neu gam-fanteisio, efallai y bydd angen i chi weithredu.

9.3 Rhoi gwybod i eraill am eich rôl

Sut fydd pobl eraill yn gwybod am fodolaeth LPA a’ch bod chi wedi’ch penodi fel atwrnai? Mae rhai gweithwyr proffesiynol yn rhoi cerdyn neu lythyr i’r rhoddwr i’w gadw mewn man diogel. Mae hyn yn golygu y gall y sawl sy’n gofalu am y rhoddwr ddod i wybod bod LPA wedi’i gofrestru os bydd yn colli galluedd yn sydyn. Mae eraill yn awgrymu dweud wrth ffrind mae’r rhoddwr yn ymddiried ynddo a all wedyn gysylltu â’r atwrnai os bydd angen.

9.4 Cadw mewn cysylltiad

A fydd cysylltiad yn cael ei gadw ac, os felly, a fyddwch yn codi tâl am hynny? Mae rhai atwrneiod yn dewis cysylltu â’r rhoddwr unwaith bob chwe mis neu flwyddyn, er mwyn diweddaru unrhyw gyfarwyddiadau neu newid cofnod o amgylchiadau. Mae eraill yn anfon cylchlythyr cadw mewn cysylltiad neu ohebiaeth arall i wneud yn siŵr bod y rhoddwr yn cysylltu os oes angen.

Gallech ystyried mabwysiadu dull sy’n cael ei addasu ar gyfer anghenion y rhoddwr unigol. Efallai y bydd yn bwysicach eich bod yn cadw mewn cysylltiad mwy rheolaidd â rhoddwr sy’n agored i niwed neu sydd wedi cael diagnosis o ddementia ac sy’n dirywio o ran ei alluedd, na rhoddwr nad yw’n disgwyl colli galluedd ar hyn o bryd.

9.5 Mynediad at waith papur pwysig

Sut fyddwch chi’n dod o hyd i wybodaeth ymarferol os bydd angen i chi ddechrau gweithredu o dan y LPA? Er enghraifft, a fydd gennych chi fynediad at fanylion cyfrifon a buddsoddiadau os ydych wedi’ch penodi ar gyfer LPA eiddo a materion ariannol, a manylion meddyg teulu ac ymgynghorydd os ydych wedi’ch penodi ar gyfer LPA iechyd a lles? A all y rhoddwr gadw ffeil o wybodaeth ddefnyddiol a fydd ar gael i chi os bydd angen i chi weithredu?

9.6 Newidiadau i amgylchiadau’r atwrnai

Mae atwrneiod proffesiynol a enwir mewn LPA yn cael eu penodi yn eu rhinwedd broffesiynol, Dylech ystyried beth fydd yn digwydd os byddwch yn newid swydd, yn gadael neu’n ymddeol o’ch proffesiwn neu os na fyddwch yn gallu gweithredu am unrhyw reswm arall, fel salwch.

Dylech ystyried a fyddwch chi’n gallu dal ati i weithredu fel atwrnai os bydd eich amgylchiadau personol neu eich statws proffesiynol yn newid neu os byddwch yn ymwrthod â’r penodiad.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r farn y dylai atwrnai proffesiynol hefyd sicrhau bod eu sefydliad yn ymwybodol o bob penodiad a bod cynlluniau i barhau â’r gwaith os na fydd atwrnai yn gallu parhau am ba bynnag reswm.

Mae’n arfer da i hysbysu rhoddwyr o newidiadau o’r fath mewn amgylchiadau. Yn ddibynnol ar y newid, gall rhoddwyr sy’n cadw galluedd gael cynnig y dewis o wneud LPA newydd neu gael sicrwydd o allu’r atwrnai i weithredu os bydd angen.

10. Cymorth ac arweiniad belch

Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd

Sut i weithredu o dan atwrneiaeth arhosol

Sut i weithredu o dan atwrneiaeth barhaus

Safonau ar gyfer dirprwyon proffesiynol (mae llawer o’r safonau hyn yn berthnasol i atwrneiod proffesiynol hefyd)

11. Rhestr wirio

11.1 Dewis atwrnai

  • A yw’r rhoddwr yn deall pwy sy’n cael ei benodi?

  • A yw’r rhoddwr wedi dewis yr atwrnai heb i neb ddylanwadu arno?

  • A yw’r rhoddwr wedi cwrdd â’r atwrnai a enwyd neu wedi cael y dewis i gwrdd â’r atwrnai?

  • A yw sgiliau a phrofiad yr atwrnai wedi cael eu trafod â’r rhoddwr?

  • Os yw’r penodiad yn un ar y cyd neu ar y cyd ac yn unigol ag aelodau’r teulu, a yw atebolrwydd yr atwrnai wedi cael ei ystyried?

  • A yw’r penodiad wedi cael ei drafod ag unrhyw gyd-atwrneiod ac a gytunwyd ar ffyrdd o weithio?

  • A oes cofnod yn cael ei gadw o nifer yr LPA y mae’r atwrnai wedi’i enwi arnynt?

  • A oes gan yr atwrnai’r adnoddau a’r gallu i weithredu o dan y LPA os bydd angen?

11.2 Galluedd a gweithredu’r LPA

  • A ydych chi wedi asesu gallu’r rhoddwr i weithredu’r LPA ac i roi cyfarwyddiadau?

  • A ydych chi wedi cymryd camau i sicrhau bod y rhoddwr yn deall natur y LPA?

  • A yw’r darparwr tystysgrif yn rhywun sy’n annibynnol ar sefydliad yr atwrnai?

11.3 Ffioedd

  • A ydych chi wedi trafod trefniadau’r ffioedd â’r rhoddwr ac wedi eu cofnodi’n ysgrifenedig?

  • A oes cymal ffioedd wedi’i gynnwys yn y LPA?

11.4 Rheoli’r berthynas

  • A ydych chi wedi cymryd camau i gofnodi dymuniadau, teimladau, credoau a hoffterau’r rhoddwr?

  • A ydych chi wedi trafod ac wedi cytuno ar drefniadau cadw mewn cysylltiad â’r rhoddwr?