Corporate report

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cynllun Cyflawni Canlyniadau: 2021 i 2022

Published 15 July 2021

Applies to Wales

Bridge at sunset

Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS
Cyfarwyddwr
Glynne Jones CBE

Rhagair

Yn yr un modd â holl adrannau eraill y Llywodraeth, mae Swyddfa Cymru wedi bod yn canolbwyntio dros y deuddeg mis diwethaf ar chwarae ein rhan yn y frwydr yn erbyn coronavirus (COVID-19) a sicrhau bod Cymru’n cael y cymorth sydd ei angen arni gan Lywodraeth y DU. Er bod y frwydr honno ymhell o fod wedi’i hennill, mae’n awr yn bryd inni roi’r un egni a phenderfyniad tuag at arwain yr adferiad economaidd yng Nghymru. Rydym am ailgodi’n gryfach yng Nghymru fel rhan o godi’r gwastad yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw.

Swyddi fydd ein prif flaenoriaeth. Rydym yn cefnogi busnesau bach a mawr drwy Gynllun Swyddi’r Llywodraeth, ac yn creu swyddi gwyrdd gyda Chynllun Deg Pwynt y Llywodraeth ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd. Mae’r Cynllun Cyflawni Canlyniadau hwn yn nodi’r sylfeini ar gyfer y twf economaidd a fydd yn sbarduno’r adferiad: gwella ein seilwaith, yn enwedig ym meysydd digidol, trafnidiaeth ac ynni; sicrhau’r buddsoddiad i dyfu diwydiannau’r dyfodol, yn benodol i helpu i gyflawni ein huchelgeisiau o ran sero net; ac ar yr un pryd cefnogi’r sectorau a fydd yn parhau i fod yn hanfodol i economi Cymru, fel amaethyddiaeth, twristiaeth a lletygarwch.

Mae’r Cynllun hefyd yn adlewyrchu pa mor bwysig yw gwireddu’n llawn y manteision mae Cymru’n eu mwynhau drwy fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig, fel sydd wedi bod yn amlwg drwy gydol yr argyfwng Covid. Yn yr un modd, mae angen inni dynnu sylw at gyfraniad Cymru i’r Undeb hwnnw ac adeiladu arno. Gweledigaeth Swyddfa Cymru yw Cymru lewyrchus mewn Teyrnas Unedig gref, ac mae’r Cynllun hwn yn ein rhoi ar y trywydd hwnnw.

A. Crynodeb Gweithredol

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw cefnogi Cymru ffyniannus mewn Teyrnas Unedig gref.

Ein Gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn sail i’r gwaith o wireddu ein gweledigaeth. Mae’r Swyddfa wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl staff yn ymddwyn yn rhagorol ym mhopeth a wnânt a bod ein Gwerthoedd yn rhan allweddol o’r gwaith o gyflawni amcanion yr Adran. Dyma ein gwerthoedd:

  • Ymrwymiad – i’n gwaith ac i’n pobl
  • Cydweithio – sefydlu cysylltiadau cryf
  • Ansawdd – yn ein darpariaeth

Ein Cenhadaeth

Mae Swyddfa Cymru yn helpu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i hyrwyddo buddiannau Cymru mewn Teyrnas Unedig gref. Ni yw wyneb Llywodraeth y DU yng Nghymru a llais Cymru ar draws Whitehall.

Mae’r Swyddfa yma i hybu, hwyluso a chefnogi’r canlynol:

  • Ysgogi twf a chreu swyddi cynaliadwy drwy gefnogi economi gref yng Nghymru mewn Prydain fyd-eang ffyniannus, a marchnad fewnol y DU.
  • Adeiladu Cymru ffyniannus, carbon isel sydd â chysylltiadau da drwy sicrhau ei bod yn elwa ar gynlluniau i greu twf a chyfleoedd ledled y DU, gan gynnwys cefnogaeth a thechnoleg wledig, manteisio ar gyfleoedd Brexit a cheisio cyflawni ymrwymiad y Prif Weinidog i gyflymu prosiectau ledled y DU. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi gwella cysylltedd ledled Cymru a rhwng Cymru a gweddill y DU trwy Adolygiad Cysylltedd yr Undeb.
  • Cryfhau ac amddiffyn statws Cymru yn y DU drwy sicrhau bod Cymru’n manteisio i’r eithaf ar ei lle yn yr Undeb.
  • Sicrhau bod buddiannau Cymru’n cael eu cynrychioli’n llawn wrth i’r DU fanteisio ar gyfleoedd diwedd y Cyfnod Pontio.

Mae’r blaenoriaethau hyn yn cael eu cyflawni’n bennaf drwy’r Swyddfa, gan weithio’n agos gydag adrannau polisi arweiniol.

Ein canlyniadau blaenoriaeth

Mae’r cynllun cyflawni hwn yn nodi’n fanwl sut byddwn yn cyflawni ein canlyniadau blaenoriaeth, sut byddwn yn mesur ein llwyddiant a sut byddwn yn sicrhau ein bod yn gwella’n barhaus. Dyma ein canlyniadau blaenoriaeth:

  1. Cefnogi twf economaidd yng Nghymru.
  2. Cryfhau a chynnal yr Undeb a rôl Cymru ynddo.
  3. Gwneud ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru yn fwy amlwg.

Mae’r Swyddfa hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Canlyniad Blaenoriaeth canlynol, sy’n cael ei arwain gan adrannau eraill:

Canlyniad Blaenoriaeth Adran arweiniol
Sicrhau bod manteision yr Undeb yn glir, yn weladwy ac yn ddealladwy i bob dinesydd Swyddfa’r Cabinet

Hwyluswyr strategol

Er mwyn cyflawni ein canlyniadau blaenoriaeth, ac atgyfnerthu uchelgeisiau’r Datganiad ar Ddiwygio’r Llywodraeth, byddwn yn defnyddio’r pedwar hwylusydd allweddol:

  1. Gweithlu, Sgiliau a Lleoliad
  2. Arloesi, Technoleg a Data
  3. Cyflawni, Gwerthuso a Chydweithio
  4. Cynaliadwyedd

B. Cyflwyniad

1. Cyd-destun

Y Swyddfa yw’r unig adran yn Llywodraeth y DU sy’n canolbwyntio’n arbenigol ar Gymru. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r Swyddfa’n darparu cyngor ac arweiniad strategol i adrannau Llywodraeth y DU ynghylch cymhwyso a gweithredu polisi yng Nghymru, gan gynnwys gwariant mewn cysylltiad â’r polisïau hynny.

Nid oes gan y Swyddfa unrhyw wariant ar raglenni nac unrhyw arfau polisi ei hun, ac felly mae’n dibynnu ar ddylanwadu ar adrannau a chydweithio â nhw er mwyn cyflawni’r tair blaenoriaeth, a chyfrannu at gyflawni’r flaenoriaeth drawsbynciol mewn perthynas â Chymru.

Mae’r Swyddfa hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i adrannau eraill y Llywodraeth ar setliad datganoli Cymru ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru a sefydliadau datganoledig eraill yng Nghymru.

Mae blaenoriaethau’r Swyddfa’n adlewyrchu ei phwrpas yn llawn: hyrwyddo twf economaidd yng Nghymru a sicrhau ei bod yn chwarae rhan gref a chanolog yn ein Teyrnas Unedig.

2. Asiantaethau llywodraethu a chyflawni

Bwrdd yr Adran sy’n pennu cyfeiriad strategol a rhaglen waith y Swyddfa, ac yn adolygu’r cynnydd o ran cyflawni. Mae’n cyfarfod hyd at chwe gwaith y flwyddyn ac mae Gweinidogion yn mynychu o leiaf ddau gyfarfod y Bwrdd bob blwyddyn. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cadeirio’r Bwrdd pan fydd yn bresennol. Cyfarwyddwr y Swyddfa sy’n cadeirio’r Bwrdd pan nad yw’r Gweinidogion yn bresennol.

Mae gan y Swyddfa ddau bwyllgor sy’n adrodd i’r Bwrdd Adrannol:

i. Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
ii. Pwyllgor Iechyd a Diogelwch

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn gyfrifol am oruchwylio a chyflawni’n briodol y gwaith cyfrifon adrannol, archwilio mewnol a sicrwydd risg strategol. Mae’n uwchgyfeirio materion sy’n destun pryder strategol i’r Bwrdd Adrannol. Mae’r Pwyllgor yn gweithredu yn unol â Llawlyfr Pwyllgor Archwilio Trysorlys EM ac yn cyfarfod bob chwarter. Mae’n cael ei gadeirio gan brif Aelod Anweithredol y Swyddfa o’r Bwrdd ac mae’r aelodau’n cynnwys Aelod Anweithredol eilaidd y Swyddfa o’r Bwrdd, ac aelod annibynnol (nad yw’n aelod o’r Bwrdd Adrannol).

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol am roi cyngor i’r Bwrdd Adrannol ar y ffordd orau o sicrhau bod y Swyddfa’n darparu amgylchedd gwaith iach a diogel i’w staff, ei Gweinidogion a’i hymwelwyr. Mae’n cael ei gadeirio gan y Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol ac yn cynnwys cynrychiolwyr Undebau Llafur. Mae’r Pwyllgor yn cwrdd unwaith y flwyddyn o leiaf.

Mae Uwch Dîm Arwain y Swyddfa yn cynnwys Cyfarwyddwr a dirprwy gyfarwyddwyr yr adran. Mae’n cyfarfod bob wythnos i drafod materion gweithredol, gan gynnwys datblygiadau mawr, adnoddau a materion cyllidebol. Gall y Bwrdd Adrannol gyfeirio materion i’r Uwch Dîm Arwain ar gyfer goruchwylio a phenderfynu, a gall yr Uwch Dîm Rheoli uwchgyfeirio materion i’r Bwrdd ar gyfer goruchwylio a phenderfynu strategol.

Yn olaf, mae’r Swyddfa’n rhan o Grŵp Llywodraethu’r DU[footnote 1]. Mae’r Cyfarwyddwr yn mynychu cyfarfodydd wythnosol Uwch Dîm Arwain y Grŵp i drafod materion sy’n ymwneud â datganoli a’r cyfansoddiad sy’n croesi ffiniau adrannol.

Mae rhagor o wybodaeth am y Swyddfa ar gael ar dudalennau’r Swyddfa.

Nid oes gan y Swyddfa unrhyw gyrff hyd braich.

3. Trosolwg o risg strategol

Mae gan y Swyddfa Strategaeth a Fframwaith Polisi Rheoli Risg, sy’n cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Adrannol a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Mae’r strategaeth yn hyrwyddo diwylliant tryloyw ac atebol yn y Swyddfa i gefnogi proses rheoli risg gyson, amserol ac effeithiol.

Mae system rheolaethau mewnol y Swyddfa wedi’i dylunio i nodi risgiau busnes (cyn belled ag y bo modd o fewn rheolaeth yr Adran) a’u lliniaru yn unol â’r parodrwydd i dderbyn risg a ddiffinnir gan Fwrdd yr Adran. Mae risgiau strategol a’r camau lliniaru yn cael eu mesur a’u hasesu mewn Cofrestr Risgiau Strategol adrannol.

Mae’r Gofrestr yn cael ei hadolygu’n rheolaidd gan yr Uwch Dîm Arwain ac yn chwarterol gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, a all benderfynu rhoi gwybod i’r Bwrdd Adrannol os yw’n credu bod rheolaethau annigonol ar waith i liniaru risgiau strategol. Gall y Bwrdd Adrannol benderfynu cymryd camau i weithredu neu gynyddu rheolaethau, neu ddirprwyo camau gweithredu i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Ansawdd neu’r Uwch Dîm Arwain wneud hynny.

Mae’r Gofrestr Risgiau Strategol yn seiliedig ar 5 Cofrestr Risgiau Adrannol. Mae dirprwy gyfarwyddwyr yn gyfrifol am eu cynnal. Mae’r 5 Cofrestr Risgiau Adrannol yn cynnwys y:

  • Swyddfa Breifat
  • Cyfathrebu
  • Polisi
  • Undeb
  • a Chorfforaethol

Ac mae pob un yn cael ei hadolygu’n flynyddol gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg mewn fformat ‘at wraidd y mater’ (deep dive). Mae’r ffactorau allweddol sy’n effeithio ar allu’r Swyddfa i gyflawni ei blaenoriaethau strategol yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

3.1 Dylanwadau Allanol

Y dylanwadau allanol allweddol ar y gwaith o gyflawni blaenoriaethau’r Swyddfa yw ymatebion polisi Llywodraeth y DU i COVID-19, gan gynnwys blaenoriaethau ar gyfer adfer o’r pandemig dros y tymor byr, a’r ymateb polisi sy’n datblygu i bontio o’r UE.

Mae’r ymateb i COVID-19 yn dylanwadu ar y gwaith o gyflawni blaenoriaethau’r Swyddfa mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, gallai unrhyw oedi cyn i’r DU ddychwelyd at “normal newydd” ar ôl y pandemig wthio’r amserlenni a’r cynlluniau cyflawni yn ôl ymhellach. Yn ail, mae cymorth ariannol parhaus gan y llywodraeth i fusnesau a gweithwyr i lywio drwy’r pandemig yn golygu bod mwy o her i gyllid cyhoeddus yn y dyfodol ar gyfer cyflawni rhaglen y Llywodraeth.

Bydd y Swyddfa’n helpu adrannau eraill y llywodraeth wrth iddyn nhw ddatblygu polisïau sydd â goblygiadau sylweddol i’r Undeb a chyn i adrannau ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a sefydliadau datganoledig eraill yng Nghymru.

3.2 Strategaeth y Gweithlu

Mae gan y Swyddfa tua 50 aelod o staff[footnote 2] ac felly gallai newidiadau yn y cyflenwad a’r galw yng ngweithlu ehangach y Gwasanaeth Sifil effeithio arni.

Mae’r Swyddfa’n ceisio cael gweithlu sefydlog gyda set sgiliau briodol i gyflawni ei blaenoriaethau a lleihau nifer y swyddi gwag, gan sicrhau eu bod yn wag am y cyfnod byrraf posibl. Mae gan y Swyddfa Gynllun Pobl a Chynllun Olyniaeth i helpu i sicrhau ei bod yn cadw’r bobl sydd eu hangen arni, ac mae wedi symleiddio a gwella prosesau recriwtio dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn lleihau cyfnodau swyddi gwag (er enghraifft, drwy greu cronfa wrth gefn ar gyfer swyddi gwag).

3.3 Yr Amgylchedd Ariannol

Mae gan y Swyddfa gyllideb adnoddau flynyddol fach o tua £5 miliwn a £30,000 o gyfalaf ar gyfer 2021-22. Mae 68% o gyllideb adnoddau’r Swyddfa yn cael ei gwario ar gostau staff. Mae’r amcangyfrif o gostau staff blynyddol prif adrannau’r Swyddfa ar bob un o’r blaenoriaethau i’w weld isod. Mae is-adrannau eraill hefyd yn cyfrannu at y gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau hyn, gan gynnwys Gwasanaethau’r Swyddfa Breifat a Gwasanaethau Corfforaethol. Mae costau Cynghorwyr Cyfreithiol Swyddfa Cymru[footnote 3] wedi’u cynnwys gyda Thîm yr Undeb.

Adran arweiniol Cost staff flynyddol
Tîm Polisi (yn arwain Blaenoriaeth 1 yn bennaf) £1.052 miliwn
Tîm yr Undeb (yn arwain Blaenoriaethau 2 a 3 yn bennaf) £0.490 miliwn
Tîm Cyfathrebu (yn gweithio ar Flaenoriaeth 3 ac yn cefnogi’r tair blaenoriaeth) £0.480 miliwn

Nid oes gan y Swyddfa gyllideb rhaglenni ac mae’n dibynnu ar gefnogi a chydweithio ag adrannau eraill y llywodraeth, a dylanwadu arnynt, i gyflawni ei blaenoriaethau.

3.4 Rhanddeiliaid

Mae’r Swyddfa’n cynnal deialog rheolaidd ac agos gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, ac yn enwedig gyda busnesau Cymru a’u sefydliadau cynrychioliadol, prifysgolion, awdurdodau lleol a’r trydydd sector. Mae Gweinidogion yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda busnesau Cymru o bob un o brif sectorau economi Cymru. Mae’r trafodaethau hyn yn gyfrwng uniongyrchol rhwng rhanddeiliaid a llunwyr barn yng Nghymru a Chabinet y DU, drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Cynyddodd amlder a dwysedd y trafodaethau hyn yn y cyfnod cyn diwedd y Cyfnod Pontio ac ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio.

Mae’r Swyddfa’n gweithio’n agos gyda llywodraeth leol yng Nghymru ac mae ein hymgysylltiad ynghylch bargeinion dinesig a thwf yng Nghymru wedi helpu i ddatblygu perthynas agosach o lawer. Rydym am i’r berthynas hon ddod yn agosach fyth wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Chronfa Codi’r Gwastad y DU yng Nghymru.

Mae Gweinidogion hefyd yn cynnal deialog rheolaidd gyda chynrychiolwyr sectorau eraill yng Nghymru, gan gynnwys y trydydd sector, addysg uwch ac addysg bellach, a chynrychiolwyr o undebau’r ffermwyr.

3.5 Cyfleoedd a Bygythiadau

Mae llawer o gyfleoedd cyffrous i Gymru o ran cyflawni ein blaenoriaethau. Mae’r Swyddfa’n benderfynol o fanteisio i’r eithaf ar y ffaith fod y DU bellach yn genedl fasnachu annibynnol; i sicrhau bod ein cytundebau masnach rydd yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i fusnesau Cymru a chynnyrch Cymreig, ac i hyrwyddo cynnyrch eiconig Cymru – fel cig oen a chig eidion Cymru – mewn marchnadoedd sydd heb eu datblygu’n ddigonol ledled y byd.

Bydd canolbwyntio ar farchnadoedd a sectorau a fydd yn creu twf yng Nghymru yn y tymor canolig i’r tymor hwy yn cynnwys diwydiannau sydd hefyd yn helpu i gyflawni ein nodau cynaliadwyedd tymor hwy, fel sero net. Mae’r sector ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt, niwclear, llanw a hydrogen, yn darparu ystod eang o gyfleoedd cyffrous i Gymru ar gyfer y dyfodol.

Yn olaf, mae ein gwaith adnewyddu rhanbarthol, lleol a chymunedol – drwy gytundebau dinesig a thwf, a’r cronfeydd twf lleol – yn galluogi rhanbarthau ac ardaloedd ar hyd a lled Cymru i benderfynu drostynt eu hunain beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio cyllid Llywodraeth y DU i greu twf economaidd. Maen nhw’n helpu i wireddu’r uchelgais o godi’r gwastad ar draws y DU gyfan hefyd.

Mae dau gategori o fygythiad i greu’r cyfleoedd hyn. Yn gyntaf, bygythiadau ‘allanol’. Y prif fygythiad yn hyn o beth yw ton newydd Covid-19 sy’n atal neu’n gohirio’r gwaith o gyflawni rhaglen y Llywodraeth. Mae’r gwaith parhaus a llwyddiannus o gyflwyno brechlynnau Covid-19, a llacio’r cyfyngiadau’n ofalus ac yn raddol, yn gwneud hyn yn risg isel i ganolig.

Mae’r ail fygythiad yn un ‘mewnol’, sef y Llywodraeth yn methu gweithio gyda phartneriaid lleol yng Nghymru i fanteisio i’r eithaf ar y llu o gyfleoedd sy’n deillio o gyflawni ein rhaglen lywodraethu, o bontio o’r UE, ac o adfer ar ôl Covid.

Byddai effeithiau ar y bargeinion dinesig a thwf yng Nghymru. Mae’r bygythiadau’n rhai ymarferol – cytundebau’n methu cyflawni eu hamcanion arfaethedig; eu cyflawni’n hwyr a/neu dros y gyllideb; neu’n methu cynnal llif o brosiectau y gellir eu cyflawni – ac yn rhai sy’n ymwneud ag enw da, gyda phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cwestiynu ymrwymiad Gweinidogion y DU i raglenni twf rhanbarthol a lleol efallai.

O ran y cronfeydd twf lleol newydd, mae’r bygythiadau’n cynnwys awdurdodau lleol Cymru yn peidio ag ymgysylltu’n llawn ar y rhaglenni, a’r meysydd blaenoriaeth yn methu cyflwyno cynifer o geisiadau o ansawdd da â’r disgwyl o dan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU a Chronfa Codi’r Gwastad y DU. Gallai’r canlyniadau sicrhau twf economaidd a chryfhau rôl Cymru yn yr Undeb gael eu peryglu yn sgil hynny.

4. Ein hadnoddau

4.1 Ein cyllid

i. Terfyn Gwariant Adrannol: £5.147 miliwn
ii. Terfyn Gwariant Adrannol ar Adnoddau (gan gynnwys dibrisiant): £5.322 miliwn
iii. Terfyn Gwariant Adrannol ar Gyfalaf: £0.30 miliwn
iv. Gwariant a Reolir yn Flynyddol: dim

Ffynhonnell: Prif Amcangyfrifon Cyflenwi 2021/22

5. Ein pobl

Ar 31 Rhagfyr 2020, roedd gan Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru 47 o gyflogeion cyfwerth ag amser llawn.

Ffynhonnell: Data cyflogaeth y sector cyhoeddus – y Swyddfa Ystadegau Gwladol / Amserlen ryddhau: chwarterol

5.1 Dadansoddiad o’r adnoddau yn ôl gwaith

Yn yr amgylchedd hwn, mae ein gwaith yn bwysicach nag erioed. Mae angen inni gael yr adnoddau i wneud ein gwaith yn effeithiol ac i ymateb i flaenoriaethau newydd wrth iddynt godi. Mae’r tabl dros y dudalen yn dangos sut, yn gyffredinol, y mae ein hadnoddau’n cael eu dyrannu i’n gwahanol ganlyniadau blaenoriaeth. Nid yw’r adnoddau hyn yn cynnwys gwasanaethau cymorth y Swyddfa, gan gynnwys Swyddfeydd Preifat Gweinidogion a Gwasanaethau Corfforaethol (fel cyllid ac adnoddau dynol).

Canlyniad blaenoriaeth Cyllideb (£) Gweithlu (Cyfwerth ag Amser Llawn)
Canlyniad 1: Cefnogi twf economaidd yng Nghymru. £1.052 million 18.2
TMae hyn yn cynnwys is-adran Polisi’r Swyddfa a rhai timau yn is-adran Undeb y Swyddfa.
Canlyniad 2: Cryfhau a chynnal yr Undeb a rôl Cymru ynddo.
Canlyniad 3: Gwneud ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru yn fwy amlwg.
£0.950 million
TMae hyn yn cynnwys cyllid y Swyddfa ar gyfer Cynghorwyr Cyfreithiol Swyddfa Cymru – rhan o Adran Gyfreithiol y Llywodraeth. Mae’r Adran Gyfreithiol yn darparu cymorth cyfreithiol ar draws holl weithgareddau’r Swyddfa.
11.5
(a 2.3 o gynghorwyr cyfreithiol)
Mae hyn yn cynnwys rhan o dîm Undeb y Swyddfa a thîm Cyfathrebu’r Swyddfa. Mae’r tîm Cyfathrebu’n darparu cyngor a darpariaeth cyfathrebu ar gyfer holl swyddogaethau’r Swyddfa. Nid yw’n bosibl gwahanu gweithgareddau’r Swyddfa rhwng Canlyniadau dau a thri.

C. Cynlluniau Cyflawni Canlyniadau Blaenoriaeth

Canlyniad 1: Cefnogi twf economaidd yng Nghymru

1. Strategaeth y Canlyniad

Rôl y Swyddfa yw nodi a mynegi anghenion penodol Cymru a lle mae’r potensial am yr effaith fwyaf. Mae wedyn yn dylanwadu ac yn cydweithio ag adrannau eraill Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a chyrff rhanbarthol a lleol, a rhanddeiliaid yng Nghymru yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i sicrhau twf economaidd mewn termau absoliwt a chymharol. Nid oes gan y Swyddfa gyllideb rhaglenni nac unrhyw arfau polisi uniongyrchol.

Mae’r Swyddfa’n gweithio gydag adrannau arweiniol y Llywodraeth – gan gynnwys yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yr Adran Drafnidiaeth, Trysorlys Ei Mawrhydi a’r Adran dros Fasnach Ryngwladol – i flaenoriaethu sectorau a meysydd ar gyfer twf yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’r flaenoriaeth hon yn cyd-fynd ag agwedd y Llywodraeth tuag at dwf ac adnewyddu ar draws y DU – y Cynllun Twf; ailgodi’n gryfach wrth inni adfer ar ôl pandemig Covid-19, codi’r gwastad ar draws y DU a chreu swyddi gwyrdd drwy’r Cynllun Deg Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd. Mae’n perthyn i dri maes eang:

  1. Blaenoriaethu cymorth mewn sectorau economaidd ar gyfer twf yn y dyfodol. Y sectorau sy’n cynnig y potensial mwyaf ar gyfer twf yng Nghymru yn y dyfodol ac sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni nodau strategol Llywodraeth y DU ar draws y DU, fel codi’r gwastad a sero net.

  2. Codi’r gwastad ym mhob ardal yng Nghymru drwy gyllid twf rhanbarthol a lleol Llywodraeth y DU, gan gynnwys bargeinion dinesig a thwf, Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, y Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Bydd y bargeinion a’r cronfeydd hyn hefyd yn cryfhau’r gwendidau cynhenid yn economi Cymru (a’r DU), gan gynnwys buddsoddi mewn seilwaith, sgiliau ac arloesedd.

  3. Buddsoddi mewn prosiectau sy’n darparu swyddi a thwf tymor hir. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, y £30 miliwn o gyllid cyfatebol gan Lywodraeth y DU ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd arfaethedig a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2021; buddsoddi mewn gwell cysylltedd ledled Cymru (a gwell cysylltedd digidol yn benodol), a buddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy i gefnogi’r gwaith o gyflawni sero net ac i gyfrannu at y gwaith o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn y DU (gweler yn ddiweddarach yn yr adran hon) – er enghraifft y 4.8 miliwn a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2021 ar gyfer Canolfan Hydrogen Caergybi.

Mae’r Swyddfa’n gweithio gydag adrannau eraill Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol i gyflawni ymrwymiadau Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru, gan gynnwys ymrwymiadau a wnaed ym maniffesto 2019.

Mae’r ymrwymiadau hyn a blaenoriaethau eraill wedi’u nodi yng Cynllun ar gyfer Cymru Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Er bod adrannau eraill Llywodraeth y DU yn gyfrifol am gyflawni’r Cynllun yn eu priod feysydd polisi, mae’r Swyddfa’n gyfrifol am siapio a monitro ei ddarpariaeth, gan ymrwymo’r amser a’r adnoddau angenrheidiol i gyflawni’r amcan hwnnw a, drwy hynny, gefnogi swyddi a thwf economaidd yng Nghymru.

Yn fras, mae tri chategori o flaenoriaethau polisi yn y Cynllun:

  1. Buddsoddiad seiliedig ar brosiectau mewn meysydd twf allweddol ac i helpu i gyflawni nodau strategol Llywodraeth y DU.

  2. Buddsoddiad seiliedig ar leoedd i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl o wariant Llywodraeth y DU ar lefel ranbarthol, leol a chymunedol. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys gwariant Llywodraeth y DU ar y pedair bargen dinesig a thwf yng Nghymru, a gwariant yng Nghymru ar y cronfeydd twf lleol newydd.

  3. Gwariant i sicrhau gwelliannau o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus a gedwir yn ôl yng Nghymru, gan gynnwys cyfiawnder (llysoedd, carchardai, y gwasanaeth prawf) a phlismona. Mae darparu’r gwasanaethau hyn yn effeithiol hefyd yn ffactor allweddol wrth gyflawni blaenoriaethau dau a thri.

Nid oes gan y Swyddfa gyllideb rhaglenni i gyflawni’r canlyniad hwn. Rydym yn dibynnu ar gefnogi a chydweithio ag adrannau eraill, a dylanwadu arnynt, i gyflawni Cynllun Cymru, gan ddefnyddio cyllidebau eu rhaglenni yn unol â hynny.

2. Metrigau ar gyfer y Canlyniad hwn

Wrth gyflawni’r flaenoriaeth hon, mae’r Swyddfa’n canolbwyntio ar gynyddu swyddi a thwf economaidd yng Nghymru, mewn termau absoliwt ac o gymharu â rhanbarthau a gwledydd eraill y DU. Mae pum metrig strategol ar gyfer mesur cyflawniad y canlyniad hwn:

  • Cynnyrch Domestig Gros (GDP) y pen yng Nghymru
  • Gwerth allforion Cymru
  • Canran y busnesau sy’n gwneud gweithgareddau arloesedd gweithredol yng Nghymru
  • Canran yr eiddo sy’n cael eu pasio â chysylltiad gigabit yng Nghymru
  • Diffyg ariannol y pen yng Nghymru (£)

Dylai cyflawni Cynllun Cymru a’n blaenoriaethau o dan y Cynllun gyfrannu at gynyddu gwerthoedd o dan y metrigau hyn. Fodd bynnag, mae llawer o newidynnau allanol a fydd hefyd yn dylanwadu ar a fyddent yn gwella, ac i ba raddau. Er enghraifft, bydd cyflymder a llwyddiant busnesau Cymru o ran addasu i’r trefniadau masnachu newydd gyda’r UE ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio yn dylanwadu ar werth allforion Cymru hefyd, fel y bydd cyfradd a chyflymder yr adferiad yn dilyn pandemig Covid-19.

Bydd y Swyddfa’n barhau i weithio gyda Thrysorlys EM i ddatblygu’r metrigau hyn ymhellach. I ddatblygu’r metrigau hyn ymhellach a gyda bron pob un o adrannau Llywodraeth y DU i gyflawni’r canlyniad hwn, yn bennaf yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yr Adran Drafnidiaeth, yr Adran dros Fasnach Ryngwladol, yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Swyddfa’r Cabinet, a Thrysorlys EM.

Canlyniad 2: Cryfhau a chynnal yr Undeb a rôl Cymru ynddo

1. Strategaeth y Canlyniad

Mae’r strategaeth ar gyfer cyflawni’r flaenoriaeth hon yn ategu’r rhai ar gyfer Canlyniad 3 a’r canlyniad trawsbynciol y mae’r adran yn cyfrannu ato. Bydd cyflawni prosiectau i gefnogi twf economaidd a chyflogaeth yng Nghymru (Canlyniad 1) hefyd yn dangos perthnasedd a budd Llywodraeth y DU i bobl yng Nghymru, ac felly’n gweithredu i gryfhau’r gefnogaeth i’r Undeb.

Mae sicrhau bod Cymru’n chwarae rôl ystyrlon a rhagweithiol yn y Deyrnas Unedig yn rhan annatod o waith y Swyddfa, ac mae gweithgareddau allweddol yn cael eu datblygu yn y meysydd canlynol:

  1. Cydweithio ag adrannau i gefnogi meysydd polisi allweddol sydd â chysylltiad cryf â hunaniaeth genedlaethol pobl a’u barn am yr Undeb, yn enwedig diwylliant a’r Lluoedd Arfog.

  2. Mae elfen allweddol o gefnogaeth i’r Undeb yn seiliedig ar y gred bod y setliad cyfansoddiadol sy’n sail iddo yn addas i’r diben. Felly, mae’r Swyddfa’n gweithredu fel canolfan arbenigedd yn y Llywodraeth ar setliad datganoli Cymru, gan weithio i wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod deddfwriaeth a pholisïau Llywodraeth y DU yn adlewyrchu buddiannau Cymru a’r DU yn ei chyfanrwydd
  • Hyrwyddo a chefnogi ymgysylltu cynhyrchiol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru i sicrhau bod setliad datganoli Cymru yn gweithredu’n effeithiol, a bod deddfwriaeth y Senedd yn adlewyrchu’r ffin ddatganoli

Mae gan y Swyddfa gyfrifoldeb arweiniol dros setliad datganoli Cymru ac mae’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr yng Ngrŵp Llywodraethu’r DU a Swyddfa Gogledd Iwerddon i sicrhau dull trawslywodraethol cydlynol o gryfhau’r Undeb. Cyfrifoldeb yr adran arweiniol berthnasol yw cyflwyno ymyriadau penodol i gryfhau’r Undeb.

2. Metrigau ar gyfer y Canlyniad hwn

Y metrig ar gyfer mesur cyflawniad y canlyniad hwn yw:

  • Dangosyddion o gefnogaeth i’r Undeb sydd ar gael yn gyhoeddus – polau piniwn (y cant)

Mae’r dangosydd hwn yn cynnwys mesurau o agweddau pobl at yr Undeb yn ei gyfanrwydd; rôl Cymru yn yr Undeb a dangosyddion o gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru, datganoli pellach neu ddiddymu’r Senedd a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys tueddiadau data dros amser.

Bydd data ar gael drwy arolygon sydd ar gael yn gyhoeddus, gan gynnwys data a gynhyrchir gan sefydliadau pleidleisio fel YouGov, Survation ac Ipsos Mori; Arolygon Baromedr Cymru a gomisiynir gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, a’r Arolwg Dydd Gŵyl Dewi blynyddol a gynhelir ar ran y BBC. Mae etholiad y Senedd ar 6 Mai 2021 wedi cyfrannu data dangosol hefyd.

Y waelodlin ar gyfer mesur llwyddiant, yn rhannol, yw Arolwg Dydd Gŵyl Dewi 2021.

Canlyniad 3: Gwneud ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru yn fwy amlwg

1. Strategaeth y Canlyniad

Mae’r Swyddfa’n cefnogi gwaith i gyflawni’r flaenoriaeth hon mewn tair prif ffordd:

1. Gweithio gyda bron pob un o adrannau llywodraeth y DU i sicrhau bod ganddynt bresenoldeb yng Nghymru (gan gynnwys uwch weision sifil lle bo hynny’n briodol)

Bydd hyn yn gwneud Llywodraeth y DU yn fwy amlwg yng Nghymru ac yn helpu i hwyluso ymgysylltiad adrannau â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Yn y tymor byr, rydym yn gweithio gyda Swyddfa Eiddo’r Llywodraeth ac Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth i sicrhau bod adrannau Llywodraeth y DU yn lleoli staff yng Nghanolfan newydd Llywodraeth y DU yng Nghaerdydd (Tŷ William Morgan).

Ffocws cynnar hyn yw sicrhau presenoldeb nifer o adrannau allweddol sy’n chwarae rôl ganolog yn cyflawni blaenoriaethau polisi i Gymru. Yn y tymor hwy, rydym yn ceisio manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i Gymru yn sgil adleoli swyddi’r Gwasanaeth Sifil o Lundain a de-ddwyrain Lloegr, ac o raglen canolfannau Llywodraeth y DU.

2. Gwneud gwariant Llywodraeth y DU yng Nghymru, a manteision a chanlyniadau’r gwariant hwn, yn fwy amlwg

Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £790 miliwn yn y pedair bargen dinesig a thwf yng Nghymru, gan gydariannu’r bargeinion gyda Llywodraeth Cymru. Mae Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU a Chronfa Codi’r Gwastad y DU, a ddarperir drwy bwerau cyllido Gweinidogion y DU yn Neddf y Farchnad Fewnol a drwy weithio’n agos gydag awdurdodau lleol Cymru – hefyd yn darparu cyfleoedd newydd i ddangos cefnogaeth Llywodraeth y DU yng Nghymru, gan adeiladu ar y gydnabyddiaeth gyffredinol o gynlluniau cymorth Covid-19 llwyddiannus ledled y DU, fel y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (‘furlough’) a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.

3. Gwella presenoldeb llywodraeth y DU yng Nghymru

Elfen hanfodol o ddangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru yw mynd i’r afael â’r canfyddiad bod Cymru’n cael ei hesgeuluso a’i hanwybyddu ar lefel y DU; bod polisïau mewn meysydd cymhwysedd a gedwir yn ôl yn cael eu datblygu a’u cyflwyno o bell, i ffwrdd o Gymru, a heb ystyried teimladau a chanfyddiadau yng Nghymru. Mae’r Swyddfa’n rhan ganolog o ymdrechion Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r canfyddiad hwn, drwy:

  • wella ein presenoldeb
  • cynyddu amlder ymweliadau Gweinidogion y DU â Chymru a rhanddeiliaid Cymru, ac ymgysylltu â nhw
  • chynyddu nifer y cyhoeddiadau polisi sy’n cyfeirio’n benodol at Gymru ac sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru

Mae’r Rhaglen Places for Growth yn cael ei harwain gan Swyddfa Eiddo’r Llywodraeth ac Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth. Amcan y rhaglen yw symud 22,000 o swyddi’r Gwasanaeth Sifil o Lundain a de-ddwyrain Lloegr i wledydd a rhanbarthau’r DU erbyn 2030. Mae penderfyniadau ar adleoli yn cael eu gwneud gan adrannau’r DU eu hunain. Ochr yn ochr â hyn, mae’r rhaglen Canolfannau, sy’n cael ei harwain gan Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth, yn ad-drefnu ystad y Llywodraeth ledled y DU.

Er mwyn sicrhau bod gan y rhan fwyaf o adrannau Llywodraeth y DU bresenoldeb yn Nhŷ William Morgan, mae’r Swyddfa’n gweithio gyda phob adran, Cyllid a Thollau EM (fel y brif adran sy’n meddiannu’r Ganolfan newydd), a Swyddfa Eiddo’r Llywodraeth ac Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth.

Rôl y Swyddfa yw:

  • hybu a hwyluso adleoli rolau’r Gwasanaeth Sifil i Gymru (yn enwedig rolau polisi)
  • gweithio gydag adrannau eraill o Lywodraeth y DU i sicrhau bod Canolfan Llywodraeth y DU a agorwyd yn ddiweddar yng Nghaerdydd – Tŷ William Morgan – yn cael ei hystyried yn bresenoldeb gweladwy Llywodraeth y DU yng Nghymru ac yn gartref i staff o bron pob un o adrannau Llywodraeth y DU
  • sicrhau bod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ymweld â Chymru’n rheolaidd a bod ganddynt bresenoldeb rheolaidd yno
  • gan weithio gyda Swyddfa Eiddo’r Llywodraeth ac Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth, sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cynyddu ei phresenoldeb yng Nghymru i’r graddau mwyaf posibl ac yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer canolfannau Llywodraeth y DU yng Nghymru

Pwrpas y gwaith hwn yw dangos gwerth a pherthnasedd yr Undeb, a Llywodraeth y DU, i bobl yng Nghymru drwy gynyddu ein presenoldeb a’n hamlygrwydd yn y wlad; drwy adlewyrchu’n fwy uniongyrchol materion sy’n berthnasol i Gymru wrth ddatblygu a darparu polisïau adrannau, a drwy gyfrannu at dwf economaidd Cymru drwy gynyddu nifer y gweision sifil yng Nghymru, a hynny drwy adleoli a recriwtio’n lleol.

Nid yw’r Swyddfa’n adran rhaglenni ac nid oes ganddi gyllideb o dan y rhaglen Places for Growth.

2. Metrigau ar gyfer y Canlyniad hwn

  • Canolfan Caerdydd – Nifer a Math Adrannau Llywodraeth y DU

Mae’r mesurau o dan y dangosydd hwn yn cynnwys:

  • Nifer yr adrannau a gynrychiolir yng Nghanolfan Caerdydd
  • Graddfa a rôl gweision sifil a leolir yn y Ganolfan
  • Nifer adrannau llywodraeth y DU a gynrychiolir yng Nghymru
  • Nifer gweision sifil llywodraeth y DU sydd wedi’u lleoli yng Nghymru

Mae hybu a hwyluso presenoldeb uwch Gweinidogion yn elfen allweddol o waith y Swyddfa. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw’r Swyddfa’n cadw cofnod o ddangosyddion meintiol ymweliadau Gweinidogol â Chymru, na chyhoeddiadau polisi a wneir yng Nghymru. Ond rydym yn cydnabod yr angen i ddatblygu metrigau i olrhain cynnydd yn effeithiol.

Sut mae ein gwaith yn cyfrannu at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Canlyniad Blaenoriaeth Cysylltiad a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy
1. Cefnogi twf economaidd yng Nghymru Nod 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
  Nod 9 - Diwydiant, Arloesi a Seilwaith
  Nod 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
2. Cryfhau a chynnal yr Undeb a rôl Cymru ynddo
3. Gwneud ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru yn fwy amlwg
Nod 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn ​

Cynllun Gwerthuso Canlyniadau

Mae cyflawni Canlyniad 1 yn llwyddiannus yn dibynnu i raddau helaeth ar lwyddiant y rhaglenni a’r prosiectau yng Cynllun ar gyfer Cymru – gan gynnwys ymrwymiadau maniffesto 2019. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni fel bargeinion dinesig a thwf, a’r rhaglenni twf lleol newydd yng Nghymru, yn ogystal â phrosiectau penodol mewn amrywiaeth o feysydd polisi. Er mai adrannau eraill o Lywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gyflawni’r cynllun yn eu priod feysydd polisi – gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol yng Nghymru – y Swyddfa sy’n gyfrifol am siapio a monitro ei ddarpariaeth, ac felly am gefnogi swyddi a thwf economaidd yng Nghymru. Mae’r gwaith o gyflawni’r Cynllun yn cael ei adolygu’n gyson, gan gyfrannu’n rhannol at gyflawni canlyniadau 2 a 3.

Pwrpas canlyniadau blaenoriaeth 2 a 3 yw dangos gwerth a pherthnasedd yr Undeb i bobl yng Nghymru drwy gynyddu presenoldeb, amlygrwydd ac effaith Llywodraeth y DU yn y wlad; drwy adlewyrchu’n fwy uniongyrchol materion sy’n berthnasol i Gymru wrth ddatblygu a darparu polisïau adrannau Llywodraeth y DU, a drwy gyfrannu at dwf economaidd Cymru drwy gynyddu nifer y gweision sifil, a hynny drwy adleoli a recriwtio’n lleol. Bydd cyflawni canlyniadau 2 a 3 yn llwyddiannus dibynnu ar y graddau y mae Cymru’n cael ei hystyried yn natblygiad a darpariaeth polisi Llywodraeth y DU, a bydd yn cael ei fesur, yn y pen draw, gan lefel y gefnogaeth i’r Undeb yng Nghymru.

D. Galluogwyr Strategol

1. Gweithlu, Sgiliau a Lleoliad

Mae tri amcan trawslywodraethol:

  1. Atgyfnerthu’r systemau ar gyfer rheoli talent a rheoli perfformiad i fynd i’r afael ag anghenion datblygiad personol a phroffesiynol, a gwobrwyo perfformiad yn unol â blaenoriaethau’r Llywodraeth a blaenoriaethau adrannol.
  2. Parhau i gael gwared ar y rhwystrau i recriwtio, datblygu a hyrwyddo gweithlu amrywiol.
  3. Sicrhau bod eich sefydliad yn adlewyrchu’r wlad rydym yn ei gwasanaethu drwy adleoli staff, gan gynnwys staff Uwch Arweinyddiaeth, o Lundain. (Mae’r trydydd amcan yn gyfyngedig o ran ei gymhwysiad i’r Swyddfa o ystyried ein maint a’r ffaith bod ein staff wedi’u lleoli, ac y byddant yn parhau i gael eu lleoli, yn Llundain a Chaerdydd)

Prif flaenoriaethau’r Swyddfa o ran pobl ar gyfer 2021-22 yw:

  • Sicrhau ein bod yn denu, yn dethol, yn cynefino ac yn cadw’r bobl orau ar gyfer y Swyddfa;
  • Sicrhau perfformiad da drwy helpu pobl i wneud eu gorau a gweithredu polisi cydnabyddiaeth a thâl teg;
  • Cynllunio dilyniant drwy adnabod, denu a datblygu talent a gallu;
  • Gwella’r diwylliant dysgu a drwy hynny ychwanegu’r gwerth mwyaf posibl at sefydliad sy’n fwy darbodus;
  • Sefydlu diwylliant cynhwysol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn gallu bod yn nhw eu hunain.

Er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau hyn, byddwn yn:

  • Deall pam mae staff yn penderfynu gadael y Swyddfa drwy gynnal cyfweliadau ymadael.
  • Uwchsgilio a hyfforddi rheolwyr llinell i gael sgyrsiau rheolaidd ac ystyrlon am berfformiad a thalentau gyda’u timau.
  • Adolygu polisi Cydnabyddiaeth a Thâl y Swyddfa i sicrhau ei fod yn gweithredu’n deg ac yn gyson ar draws y Swyddfa.
  • Hyrwyddo pwysigrwydd a’r defnydd o ddiwrnodau Dysgu a Datblygu, a sicrhau bod y gyllideb Dysgu a Datblygu flynyddol yn cael ei defnyddio.
  • Archwilio strategaethau i gynyddu nifer y staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Byddwn yn mesur llwyddiant ein strategaeth pobl drwy ddefnyddio’r metrigau canlynol:

  • Canlyniadau’r Arolwg Pobl Blynyddol – cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn y sgôr ymgysylltu adrannol
  • Gweithredu ar adborth o’r cyfweliadau ymadael – adrodd ar y cynnydd i’r Tîm Arwain Strategol ddwywaith y flwyddyn
  • Nifer cyfartalog y diwrnodau gwaith a gollwyd, wedi eu meincnodi yn erbyn cyfartaledd y gwasanaeth sifil
  • Trosiant, wedi’i feincnodi yn erbyn cyfartaledd y gwasanaeth sifil
  • Olrhain y llwybr talent o flwyddyn i flwyddyn a sicrhau bod hyn yn trosi i’r cynllun olyniaeth adrannol
  • Yn unol ag agwedd dim goddefgarwch y Swyddfa tuag at fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, lleihau canran y staff sy’n dweud eu bod wedi profi neu wedi bod yn dyst i fwlio, aflonyddu neu wahaniaethu yn y Swyddfa, fel y mesurir gan ganlyniadau cynhwysiant yr Arolwg Pobl
  • Ymdrechu i gynyddu nifer y staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gyda’r targedau canlynol:
    • cynyddu nifer y staff sy’n ferched o 39% i 50% erbyn 2023;
    • cynyddu nifer y staff lleiafrifol ethnig o 14% i 16% erbyn 2023;
    • cynyddu nifer y staff anabl o 19% i 20% erbyn 2023;
    • cynnal cynrychiolaeth o 50% o leiaf o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ymysg y staff Uwch Arweinyddiaeth.
  • Cynnydd yn y defnydd o bolisi Cydnabyddiaeth a Thâl y Swyddfa.
  • Cynyddu canran y staff sy’n dweud bod y gweithgareddau Dysgu a Datblygu y maen nhw wedi’u cyflawni wedi’u gwneud yn fwy effeithiol yn eu rôl, fel y mesurir gan yr Arolwg Pobl.
  • Parhau i adolygu gofynion y gweithlu yn unol â blaenoriaethau a gwerthoedd adrannol. Cyfrannu at flaenoriaethau Places for Growth a Chodi’r Gwastad y Llywodraeth drwy ailddyrannu rolau ac adnoddau staff o Lundain i Gaerdydd, lle bo hynny’n briodol. Ar hyn o bryd, mae gan y Swyddfa 26 o staff yn Llundain a 21 o staff yng Nghaerdydd.

Sgôr ymgysylltu’r arolwg pobl

Blwyddyn Sgôr ymgysylltu
2020 61%
2019 62%
2018 58%

Ffynhonnell: Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil / Amserlen ryddhau: blynyddol

Cynrychiolaeth staff sy’n ferched, staff lleiafrifol ethnig a staff anabl

Blwyddyn Cyfanswm yr Aelodau o Staff Merched Lleiafrifol Ethnig Anabl
2020 47 60.5% * *
2019* 41 52.4% * *
2018 45 48.5% * *

*Data mis Mawrth ac eithrio data mis Rhagfyr 2019.

Ffynhonnell: Dangosfwrdd Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil / Amserlen ryddhau: chwarterol

2. Arloesi, Technoleg a Data

Ychydig o gyfleoedd sydd gan y Swyddfa i benderfynu sut a phryd i adnewyddu ein technoleg a’n systemau. Fel adran fach, mae ein gwasanaethau TG a’r rhan fwyaf o wasanaethau teleffoni yn cael eu darparu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Felly, mae adnewyddu TG a diweddaru systemau TG ar gyfer y Swyddfa yn perthyn i raglenni uwchraddio’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae gan y Swyddfa nifer cyfyngedig o setiau data hefyd – bron dim un yn ymwneud â data personol ar wahân i ddata staff.

Felly, dim ond hyn a hyn o berthnasedd sydd gan yr amcanion trawslywodraethol i’r Swyddfa:

i. Buddsoddi mewn offer, prosesau, safonau a fframweithiau angenrheidiol i sicrhau bod data’n cael eu rhannu’n ddiogel ar draws adrannau er mwyn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau a gwella gwasanaethau.
ii. Adnewyddu systemau TG i awtomeiddio a digido prosesau llaw ailadroddus yn llawn, a diweddaru hen systemau TG sydd wedi dyddio.

O ran syniadau newydd, rydym yn canolbwyntio ar ddiwylliant sefydliadol a newid diwylliant; hybu gweithlu sy’n awyddus i greu syniadau a ffyrdd newydd o weithio, ac i herio normau confensiynol. Mae dylanwadu ar flaenoriaethau a darpariaeth adrannau eraill o’r Llywodraeth yn golygu bod syniadau newydd a herio prosesau traddodiadol yn rhan annatod o set sgiliau ein pobl.

Ein dull o fesur syniadau newydd yw drwy’r Arolwg Pobl blynyddol ar draws y Gwasanaeth Sifil, yn benodol:

Arolwg Pobl 2020

Cwestiwn Sgôr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru (%)
Rwy’n credu y byddai rhywun yn fy nghefnogi pe bawn i’n rhoi cynnig ar syniad newydd, hyd yn oed os na fyddai’n gweithio 71
Mae’r bobl yn fy nhîm yn gweithio gyda’i gilydd i wella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu 84
Mae’r bobl yn fy nhîm yn cael eu hannog i feddwl am ffyrdd newydd a gwell o wneud pethau 71

3. Cyflawni, Gwerthuso a Chydweithio

Mae’r Swyddfa’n ymdrechu’n barhaus am ganlyniadau gwell wrth gyflawni ei blaenoriaethau strategol. Mae’n gwneud hynny mewn dwy brif ffordd:

3.1 Trefnu’r Swyddfa’n well a symleiddio ein darpariaeth

Mae maint bach ac adnoddau cyfyngedig y Swyddfa’n golygu bod angen inni weithio’n agos gydag adrannau eraill y Llywodraeth, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, i gyflawni ein blaenoriaethau. Mae’r gwaith hwn ar y cyd yn cynnwys:

  • Gweithio gydag adrannau a thimau cyfansoddiadol eraill yn Llywodraeth y DU fel rhan o Grŵp Llywodraethu’r DU i wella llais a dylanwad y Swyddfeydd Tiriogaethol mewn perthynas â lunio polisïau.
  • Fel rhan o hyn, gweithio fel un Grŵp Llywodraethu’r DU i wella gallu a chyrhaeddiad ymchwil Llywodraeth y DU, er mwyn gwella’r data sylfaen sy’n sail i benderfyniadau polisi. Yn benodol, mireinio ymchwil Llywodraeth y DU yng Nghymru (a’r gwledydd eraill) er mwyn cyfrannu’n well at yr atebion polisi a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU a’u heffaith ar lawr gwlad.
  • Gweithio tuag at welliant ac effeithlonrwydd parhaus wrth ddarparu ein gwasanaethau, gan gynnwys drwy rannu rhagor o wasanaethau swyddfa gefn gydag adrannau eraill Llywodraeth y DU. Yn gynnar yn 2021, fe wnaethom sefydlu tîm cyllid ar y cyd â Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, gan adeiladu ar y llu o wasanaethau eraill y mae’r Swyddfa’n eu rhannu ag adrannau eraill Llywodraeth y DU. Drwy gydol 2021 byddwn yn gweithio gyda’r Swyddfeydd Tiriogaethol eraill i ganfod sut gellir rhannu ein gwasanaethau swyddfa gefn eraill.
  • Yn y tymor canolig, byddwn yn archwilio opsiynau i symud i lwyfan TG cyffredin gyda’r timau cyfansoddol eraill yng Ngrŵp Llywodraethu’r DU.

3.2 Cynnal deialog cryf, rheolaidd ac ystyrlon gyda’n rhanddeiliaid allweddol a llunwyr barn yng Nghymru

  • Bydd y Swyddfa’n parhau â’n deialog cryf a rheolaidd gyda rhanddeiliaid yng Nghymru ar lefel Gweinidogion a swyddogion. Fel wyneb Llywodraeth y DU yng Nghymru, mae’r Swyddfa’n cynnal cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid ym mhob sector yng Nghymru, gan ddarparu cyfrwng uniongyrchol rhwng rhanddeiliaid a llunwyr barn yng Nghymru, a phenderfyniadau strategol Cabinet y DU.
  • Mae ein rôl fel wyneb llywodraeth y DU yng Nghymru yn darparu porth i adrannau eraill ddatblygu cysylltiadau cryfach â rhanddeiliaid yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig, er enghraifft, gan ein bod yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i feithrin perthynas waith effeithiol gydag awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn cyflawni Cronfa Codi’r Gwastad y DU a Chronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.

3.3 Mae tri amcan ar gyfer y Llywodraeth gyfan y mae’r Swyddfa’n eu defnyddio i fesur canlyniadau gwell yn eu herbyn

i. Cryfhau arbenigedd a darpariaeth swyddogaethol, gan sicrhau cydymffurfedd â safonau swyddogaethol a monitro perfformiad yn effeithiol

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy’r ffyrdd canlynol:

  • Adolygu cynnydd cyflawni’n rheolaidd yn erbyn cynllun busnes adrannol a chynllun busnes is-adrannol, a diweddaru Cofrestr Risg Strategol y Swyddfa a’r cofrestrau risg is-adrannol.
  • Adolygu perfformiad a chynlluniau’r Swyddfa yn rheolaidd yn erbyn adborth gan randdeiliaid a llunwyr barn yng Nghymru.
  • Sicrhau bod ein staff cymwys yn parhau â’u hyfforddiant a’u hachrediad sydd eu hangen i gynnal neu uwchraddio eu cymwysterau (ee ein Prif Gyfrifydd a’n Prif Economegwyr ac Economegwyr Cynorthwyol).
  • Parhau i gynllunio ar gyfer rhannu rhagor o wasanaethau cefn swyddfa gydag adrannau eraill y Llywodraeth, er mwyn gwella cadernid y Swyddfa a gwella ein harbenigedd. Mae hyn yn adeiladu ar rannu gwasanaethau TG, cyflogres, adnoddau dynol strategol a chyfleusterau gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder; tîm Seneddol gyda’r Swyddfeydd Tiriogaethol eraill; tîm Rhyddid Gwybodaeth gyda Swyddfa Gogledd Iwerddon ac, yn fwyaf diweddar, swyddogaeth gyllid y Swyddfa gyda Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol yr Alban.

ii. Rheoli’r cylch cynllunio mewn ffordd sy’n cynnwys yr holl staff wrth gyflawni blaenoriaethau a hynny drwy broses glir, effeithlon a thryloyw

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy’r ffyrdd canlynol:

  • Adran fach yw’r Swyddfa. Mae’r holl staff yn cael eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu a chyflawni ein blaenoriaethau, ein cynlluniau busnes a’n hasesiadau risg, gan gynnwys drwy gyfarfodydd wythnosol rhwng yr holl staff a’r adran.
  • Mae staff yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y gwaith cynllunio busnes ac adrodd ar gyflawni, a hynny mewn diwylliant agored a pharchus. Mae hyn yn cynnwys awgrymu sut byddai modd gwneud pethau’n well.

iii. Darparu atebolrwydd tryloyw drwy adroddiadau rheolaidd yn yr adran, i’r ganolfan, i Senedd y DU, ac i’r cyhoedd

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy’r ffyrdd canlynol:

  • Parhau i adrodd yn fewnol yn rheolaidd ac yn gadarn ar ddangosyddion allweddol o berfformiad y Swyddfa, gan gynnwys cyllideb a gwariant, pobl / adnoddau dynol, a chyflawni’r cynllun busnes. Mae hyn yn cynnwys adrodd yn rheolaidd i’r Bwrdd Adrannol a’r Uwch Dîm Arwain.
  • Gwella proses adrodd y Swyddfa i’r Ganolfan, gan gynnwys drwy’r gofynion adrodd o dan y Cynllun Cyflawni Canlyniadau hwn.
  • Parhau â threfniadau adrodd ac atebolrwydd y Swyddfa i Senedd y DU, gan gynnwys drwy gyflwyno ei Hadroddiad Blynyddol a’i Chyfrifon i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig a sesiynau craffu rheolaidd y Pwyllgor gyda thîm Gweinidogol y Swyddfa.
  • Cyrraedd y targedau a mesur y dangosyddion a restrir yn y tabl dros y ddalen.

3.4 Dangosyddion Swyddfa Cymru ar gyfer Canlyniadau Gwell

  • Gohebiaeth Weinidogol (% a atebwyd o fewn 15 diwrnod gwaith).
  • Gohebiaeth Weinidogol (% o ohebiaeth ddilynol ar yr un pwnc o fewn 30 diwrnod).
  • Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (% a atebwyd o fewn 20 diwrnod gwaith).
  • Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (% y ceisiadau yr apeliwyd yn eu cylch a % y ceisiadau a gyfeiriwyd at y Comisiynydd Gwybodaeth).
  • % taliadau a wnaed i gyflenwyr allanol o fewn 30 diwrnod.
  • % taliadau a wnaed i fusnesau bach a chanolig o fewn 5 diwrnod.
  • Cyhoeddi’r Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol mewn pryd (% amlder dros y deng mlynedd diwethaf).
  • Ymgysylltu Gweinidogol â rhanddeiliaid allweddol a llunwyr barn yng Nghymru (% o “50 prif rhanddeiliad” yr adran yr ymgysylltwyd â nhw bob chwarter).
  • Deiliaid cyllideb sydd â’r lefel ofynnol o wybodaeth a dealltwriaeth ar gyfer y rôl (% o ddeiliaid cyllideb wedi’u hyfforddi).
  • % o swyddogaethau cefn swyddfa a rennir ag adrannau eraill y Llywodraeth.
  • % y staff sy’n cyflawni’r holl hyfforddiant gorfodol bob blwyddyn.

4. Cynaliadwyedd

Mae galluogwyr cynaliadwyedd y Swyddfa yn perthyn i ddau gategori.

Yn gyntaf, cynaliadwyedd wrth gyflawni polisïau, rhaglenni a chynlluniau Llywodraeth y DU yng Nghymru. Mae llawer o’r cynlluniau hyn yn cefnogi nodau cynaliadwyedd strategol y Llywodraeth, gan gynnwys sero net erbyn 2050 – er enghraifft, uchelgeisiau’r Llywodraeth o ran ynni adnewyddadwy yng Nghymru, fel y dangosir gan y £4.8 miliwn a ddarparwyd yng Nghyllideb 2021 ar gyfer Canolfan Hydrogen Caergybi.

Nid oes gan y Swyddfa unrhyw gyfrifoldeb uniongyrchol dros bolisi na chyflwyno Nodau Datblygu Cynaliadwy penodol. Mae cyfraniad tri chanlyniad blaenoriaeth y Swyddfa at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy yn unol â’r hyn a nodir yng Nghynlluniau Cyflawni Amlinellol yr adrannau arweiniol a/neu maen nhw’n destun prosesau gwerthuso prosiectau o dan raglenni twf rhanbarthol a lleol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn Rhan C o’r Cynllun hwn.

Yn ail, mae cynaliadwyedd yn rhan annatod o weithgareddau’r Swyddfa. Mae’r Swyddfa’n ymdrechu i fodelu’r ymddygiadau a’r gwerthoedd sy’n sail i’r Nodau Datblygu Cynaliadwy wrth fynd ati i gyflawni ei busnes. Mae’r Swyddfa’n cyfrannu at ddau amcan ar gyfer y Llywodraeth gyfan:

i. Sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein hymrwymiadau gwyrdd a pharhau i fonitro ac olrhain eu cyflawniad
ii. Parhau i sicrhau bod ein hystad, ein gweithgareddau a’n polisïau’n gynaliadwy ac yn cefnogi’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo

Mae ymrwymiadau gwyrdd y Llywodraeth yn mynnu bod adrannau’n gweithredu i leihau’r effaith ar yr amgylchedd yn sylweddol. Darllen mwy am yr ymrwymiadau hyn.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n rheoli ymrwymiad lleihau carbon y Swyddfa. Mae’r Swyddfa wedi ymrwymo i leihau ei heffaith ar yr amgylchedd drwy:

a. cynyddu’r amrywiaeth o eitemau y gellir eu casglu i’w hailgylchu yn ein dau adeilad
b. newid peiriannau argraffu am fodelau sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon
c. lle bo’n bosibl, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheir pan fo’n rhaid teithio i gyfarfodydd

Lle mae’r Swyddfa’n defnyddio gwasanaethau a gyflenwir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu dan gontract iddi, mae ein cyfraniad i ymrwymiadau’r Llywodraeth ar effaith ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn cael ei fodloni o fewn y fframweithiau ehangach hynny.

Mae symud ein swyddfa yng Nghaerdydd i Ganolfan newydd Llywodraeth y DU, gyda’i chyfleusterau diweddaraf, yn darparu ystad sy’n llawer mwy gwyrdd i’r Swyddfa. Byddem yn disgwyl i fesurau cynaliadwyedd yn y dyfodol ar gyfer ein Swyddfa yng Nghaerdydd fod yn drawsadrannol, gan gynnwys yr holl adrannau sydd wedi’u lleoli yn y Ganolfan newydd.

Cymerodd Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth gyfrifoldeb dros ein Swyddfa yn Llundain (Tŷ Gwydyr) ym mis Ebrill. Er bod y cyfle i addasu’r adeilad i’w wneud yn fwy cynaliadwy wedi’i gyfyngu gan ei statws rhestredig Gradd II, Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth sy’n gyfrifol am unrhyw addasiadau sy’n digwydd.

4.1 Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Blwyddyn Cyfanswm allyriadau CO2 (tunnell)
2019-20 88.06
2018-19 93.21
2017-18 103.87

Ffynhonnell: Adroddiadau blynyddol Ymrwymiadau’r Llywodraeth Werdd / Amserlen ryddhau: blynyddol

E. Ein Hamcanion Cydraddoldeb

Rydym wedi gosod amcanion i’n helpu i hyrwyddo cydraddoldeb. Sef:

  1. Cefnogi uchelgais y Llywodraeth gyfan, sef erbyn 2022 bod 50% o’r holl benodiadau cyhoeddus yn ferched a bod 14% o’r penodiadau cyhoeddus a wneir yn dod o leiafrifoedd ethnig.
  2. Cyfrannu at gyflawni targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, o ran rôl y Swyddfa fel adran arweiniol ar gyfer y Gymraeg yn Llywodraeth y DU a chyflawni rhywfaint o waith y Swyddfa’n ddwyieithog. Ar hyn o bryd mae 15% o staff y Swyddfa yn siarad Cymraeg.
  1. Mae Grŵp Llywodraethu’r DU yn cynnwys y Grŵp Cyfansoddiad a Chyfarwyddiaeth yr Undeb yn Swyddfa’r Cabinet; Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol yr Alban (Swyddfa’r Alban); Swyddfa’r Adfocad Cyffredinol (OAG); a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru (Swyddfa Cymru). 

  2. Nid yw Swyddfa Cymru yn gyflogwr ynddo’i hun. Cyflogir y rhan fwyaf o staff Swyddfa Cymru gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. 

  3. Mae Cynghorwyr Cyfreithiol Swyddfa Cymru yn rhoi cyngor a chymorth cyfreithiol i’r adran, ond maen nhw’n rhan o Adran Gyfreithiol y Llywodraeth.