Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2024
Published 23 December 2024
Dylech ddarllen y canllaw hwn ochr yn ochr â rhagor o wybodaeth am y RAM sy’n ymdrin â’r canlynol esboniadau a gwybodaeth ychwanegol i’ch helpu i gynnal eich asesiad RAM.
Rhan 1: Gwybodaeth Gefndirol
Gwybodaeth am y cyhoeddiad hwn
O 1 Ionawr 2025 ymlaen, rhaid i gynhyrchwyr atebol sy’n cyflenwi pecynwaith cartrefi asesu ailgylchadwyedd y pecynwaith hwnnw ac adrodd am ganlyniadau’r asesiad i’r rheoleiddiwr.
Rhagor o wybodaeth am Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) dros becynnu. Mae’r casgliad hwn o ganllawiau’n cynnwys gwybodaeth am bwy sy’n cael ei effeithio, pa ddata i’w gasglu a sut i roi gwybod amdano.
I wneud hyn, bydd angen i chi asesu’r pecynwaith rydych chi’n ei gyflenwi gan ddefnyddio’r fethodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM).
Mae gwahanol fathau o becynwaith yn derbyn gwahanol sgoriau - coch, oren neu wyrdd. Mae’r sgôr hon yn effeithio ar y ffi gwaredu a godir am y pecynwaith hwnnw. Weithiau gelwir hyn yn ‘fodwleiddio ffioedd’.
Rhaid i chi asesu holl becynwaith cartrefi a gyflenwir gennych.
Cwmpas
Pwy sy’n gorfod gwneud hyn
Dim ond cynhyrchwyr mawr sy’n gorfod adrodd ar eu data asesu ailgylchadwyedd. Rhagor o wybodaeth am gynhyrchwyr bach a mawr.
Pecynwaith y mae angen ei asesu
Dim ond os ydych chi’n gyfrifol am ddeunydd pacio sy’n perthyn i’r categori hwn y bydd angen i chi gasglu ac adrodd ar ddata’r asesiad ailgylchadwyedd:
- pecynwaith cartrefi
Categorïau deunyddiau
Mae 8 categori ar gyfer deunyddiau. Drwy gydol y RAM, cyfeirir at y rhain fel ‘deunyddiau penodedig’.
- Alwminiwm
- Deunyddiau cyfansawdd ffeibr
- Gwydr
- Papur neu Fwrdd
- Plastig
- Dur
- Pren
- Deunyddiau eraill
Dylid asesu pob eitem o becynwaith neu gydran o dan un o’r categorïau hyn.
Os yw eich uned neu gydran yn cynnwys mwy nag un o’r deunyddiau hyn, dylech ei hasesu dan y categori sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’i phwysau.
Mae’r canllawiau isod yn dweud wrthych sut mae defnyddio’r camau canlynol ar gyfer pob categori o ddeunydd. Defnyddiwch y canllawiau hynny i asesu a yw eich uned neu gydran pecynwaith yn goch, yn oren neu’n wyrdd.
Allbynnau: y raddfa goch, oren, gwyrdd
Yn ogystal â’r categori deunyddiau, bydd y pecynwaith yn dod o dan un o’r 3 is-gategori:
- mae gan becynwaith coch fanylebau sy’n ei gwneud yn anodd ailgylchu ar raddfa fawr
- gall pecynwaith oren wynebu heriau wrth gasglu a didoli, mae angen seilwaith arbenigol ar gyfer ailbrosesu, effeithir ar effeithlonrwydd ac ansawdd allbwn ailbrosesu, neu mae rhywfaint o ddeunydd eilaidd yn cael ei golli
- mae modd ailgylchu pecynwaith gwyrdd yn eang yn seilwaith presennol y DU
Sut bydd hyn yn effeithio ar yr hyn rydych chi’n ei dalu (‘modwleiddio’)
Bydd manylion llawn am sut bydd ffioedd yn cael eu haddasu yn cael eu cyhoeddi yn 2025.
Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei adrodd yn 2025
Mae angen i chi gyflwyno data asesiad ailgylchadwyedd am holl becynwaith cartrefi sydd ar y farchnad.
Rhagor o wybodaeth am ba ddata pecynwaith y mae’n rhaid i chi ei gasglu ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith.
Rhaid i chi roi canlyniadau eich asesiad ar y ffeil data pecynwaith rydych chi’n ei chyflwyno i’r rheoleiddiwr drwy Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith (RPD). Mae rhagor o fanylion am sut i wneud hyn yn y canllawiau sy’n egluro sut i greu eich ffeil ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr.
Os oes angen help arnoch i asesu eich pecynwaith
Os nad ydych chi’n gwybod o ble mae’r pecynwaith rydych chi’n ei gyflenwi wedi’i wneud neu os oes gennych chi fanylion technegol eraill y mae eu hangen arnoch i gwblhau’r asesiad, cysylltwch â’r gwneuthurwr pecynwaith.
Gallwch hefyd gysylltu â darparwr trydydd parti i gael cyngor ar eich rhwymedigaethau pecynwaith Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, gan gynnwys gwneud ac adrodd ar ganlyniadau eich asesiadau ailgylchadwyedd. Mae’n debyg y bydd darparwyr trydydd parti yn codi ffi am hyn.
Diweddariadau i’r RAM
Bydd y RAM yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru lle bo’n briodol unwaith y flwyddyn, yn unol â’r cyfnodau adrodd ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer pecynwaith. Mae hyn er mwyn caniatáu ar gyfer arloesi, amodau’r farchnad sy’n esblygu a newidiadau rheoleiddiol.
Pwy sy’n penderfynu ar y sgoriau hyn
Bydd Pwyllgor Cynghori Technegol (TAC) yn goruchwylio’r adolygiad blynyddol o’r RAM yn unol ag amserlenni adrodd.
Cynwysyddion diodydd
Ar gyfer cynwysyddion gwydr, dylid asesu rhannau eraill sy’n dod i ffwrdd yn hawdd ar wahân i’r corff gwydr.
Mae hyn yn cynnwys pethau fel caeadau metel a chaeadau sgriwio. Nid yw fel arfer yn cynnwys labeli na ellir eu tynnu heb ymdrech neu offer. Dylid asesu’r rhain fel rhan o’r cynhwysydd.
Ar gyfer cynwysyddion dur, alwminiwm a PET, dylech gynnwys yr holl rannau eraill yn y cyfanswm pwysau. Rhaid adrodd am gynhwysydd diodydd fel pa bynnag ddeunydd sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r pwysau.
Deunyddiau sydd wedi’u heithrio
Mae rhywfaint o becynwaith wedi’i eithrio:
- pecynwaith wedi’i ailddefnyddio, oni bai ei fod wedi cael ei fewnforio i’r Deyrnas Unedig
- unrhyw becynwaith a allforir o’r Deyrnas Unedig gan y cynhyrchwr
Pecynwaith coch awtomatig (‘pecynwaith problemus’)
Mae rhai pecynwaith a chydrannau pecynwaith bob amser yn cael eu hystyried yn ‘goch’ ar y raddfa.
Rhaid i eitemau o becynwaith neu gydrannau gael eu dosbarthu fel rhai COCH os ydynt yn cynnwys unrhyw un o’r canlynol sy’n uwch na’r terfyn canfod:
- cydrannau trydanol integredig neu fatris a fyddai’n cael eu hystyried yn Gyfarpar Trydanol ac Electronig (EEE) - er enghraifft, blychau sy’n cynnwys goleuadau LED
- unrhyw un o’r sylweddau sy’n peri pryder mawr iawn (SVHC) o dan amodau Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (UK REACH)
- inciau sy’n cael eu cynhyrchu yn unol ag EuPIA, sef Polisi Eithrio ar gyfer Inciau Argraffu a Chynhyrchion Cysylltiedig.
- Sylweddau Perfluoroalkyl a Pholyfluoroalkyl (PFAS) lle cawsant eu hychwanegu’n fwriadol
Diffiniadau
Mae’r diffiniadau’n cyd-fynd â Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024. Lle rhoddir diffiniadau ychwanegol, darperir cyfeiriadau.
Ffeibrau naturiol amgen: At ddibenion yr asesiad hwn, mae’r term hwn yn cyfeirio at ddewisiadau eraill yn lle ffeibrau sy’n seiliedig ar bren seliwlosig fel bagasse, cansen siwgr, palmwydd, ffeibr, gwellt reis, gwellt gwenith, gwellt barlys, gwellt ceirch, gwellt gwair, llin, cywarch a bambŵ[1].
Bwrdd / Bwrdd Papur: Term generig a ddefnyddir ar gyfer rhai mathau o bapur a nodweddir yn aml gan eu anhyblygrwydd cymharol uchel. Mae’r prif wahaniaeth rhwng papur a bwrdd fel arfer yn seiliedig ar drwch neu ddyfnder, ond mewn rhai achosion bydd y gwahaniaeth yn seiliedig ar y nodweddion a/neu’r defnydd terfynol.
Cydran: At ddibenion yr asesiad hwn, mae cydran yn cyfeirio at wahanol rannau uned pecynwaith gyfan y gellir eu gwahanu â llaw.
Cynhwysydd Diod: mae hyn yn golygu potel neu gan sydd:
- yn cynnwys neu’n cael ei ddefnyddio i gynnwys diod;
- wedi ei wneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf o blastig polyethylen terephthalad (PET), gwydr, dur neu alwminiwm;
- â chynhwysedd o 150 mililitr o leiaf ond dim mwy na thri litr o hylif;
- wedi’i ddylunio neu y bwriedir iddo gael ei selio mewn cyflwr aerdyn ac sy’n dal dŵr pan gaiff ei gyflenwi i ddefnyddiwr yn y Deyrnas Unedig; a hefyd
- nad yw wedi cael ei greu, ei ddylunio na’i farchnata i gael ei ail-lenwi neu ei ailddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall gan unrhyw berson
Pecynwaith cyfansawdd ffeibr: Deunyddiau pecynwaith sydd wedi’u gwneud o fyrddau papur neu ffeibrau papur, gyda haen o blastig sy’n fwy na 5%, ac a allai hefyd fod â haenau o ddeunyddiau eraill, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw.
Cynnwys nad yw’n bapur: Swm yr holl gydrannau anwahanadwy mewn cynnyrch pecynnu seiliedig ar ffeibr nad ydynt wedi’u diffinio fel cynnwys papur wedi’i fynegi fel canran o gyfanswm pwysau’r gydran. Mae hyn yn golygu y byddai pob ffilm, ffoil, araenau (ac eithrio araenau a grybwyllir yn y diffiniad o Gynnwys Papur), inc a farneisiau yn cael eu heithrio o’r cynnwys papur.
Deunydd Pecynwaith: Deunyddiau a ddefnyddir i weithgynhyrchu pecynwaith ac sy’n cynnwys deunyddiau crai a deunyddiau wedi’u prosesu cyn eu trosi’n becynwaith.
Papur: Mae papur yn cynnwys ffeibrau seliwlosig naturiol yn bennaf a gall gynnwys cynhwysion eraill fel deunydd llenwi, startsh, clai neu araenau lliw gan gynnwys rhwymwr, yn ogystal ag ychwanegion a ddefnyddir fel arfer yn y diwydiant papur fel cyfryngau cryfder gwlyb, cyfryngau mesur, llifynnau a dŵr rhwymedig.
Cynnwys Papur: Swm yr holl gydrannau anwahanadwy mewn pecynwaith seiliedig ar ffeibr nad ydynt wedi’u diffinio fel cynnwys papur wedi’i fynegi fel canran o gyfanswm pwysau’r gydran. Mae cynnwys y papur yn cynnwys ffeibrau pren seliwlosig naturiol, ychwanegion gwneud papur (ee cryfder gwlyb, cyfryngau mesur, llenwadau a llifynnau), cynnwys dŵr ac araenau clai neu araenau lliw.
Plastigau (Ffilmiau / Plastigau hyblyg): Mae plastigau sy’n cael eu dosbarthu fel rhai “hyblyg” yn cyfeirio at strwythurau pecynwaith sy’n plygu’n hawdd, ac y gellir eu gwneud o haenau unigol a lluosog o ddeunyddiau. Mae enghreifftiau cyffredin o becynwaith plastig hyblyg yn cynnwys bagiau bara, deunydd lapio byrbrydau, bagiau cynnyrch rhwydog, bagiau bach sy’n cau â sip (“zipper-lock”), ffilm caeadau a phecynnau sawsiau ac ati.
Plastigau (Caled): Mae plastigau sydd wedi’u dosbarthu’n “galed” mewn pecynwaith yn cyfeirio at eitemau sy’n cynnal siâp diffiniedig a chyfanrwydd strwythurol o dan amodau defnydd arferol. Mae’r deunyddiau hyn fel arfer yn galed ac yn gadarn, gan ddiogelu a chynnal amrywiaeth eang o gynnyrch. Mae enghreifftiau cyffredin o blastigau caled mewn pecynwaith yn cynnwys poteli, potiau, tybiau, hambyrddau, tiwbiau, capiau a chaeadau.
Y Prif Ddeunydd: Pan fo uned gyfan o becynwaith neu gydran pecynwaith yn cynnwys dau neu ragor o ddeunyddiau, y prif ddeunydd yw’r un sydd â’r pwysau mwyaf.
Y Prif Becynwaith: Pecynwaith sy’n cael ei greu er mwyn ffurfio uned werthu i’r defnyddiwr neu’r defnyddiwr terfynol adeg prynu.
Inciau Argraffu: At ddibenion yr asesiad hwn, mae inciau argraffu yn cael eu dosbarthu fel a ganlyn:
- cymysgedd o liwiau gyda sylweddau eraill sy’n cael eu defnyddio ar ddeunyddiau i ffurfio dyluniad graffig neu addurnol ynghyd â neu heb
- farneisiau / araenau neu baent preimio eraill lliw neu heb liw sy’n cael eu defnyddio fel arfer ar y cyd ag a) inciau
Nid yw inc argraffu yn cynnwys araenau sy’n cael eu defnyddio gyda’r prif amcan o alluogi’r deunydd neu’r eitem i gyflawni swyddogaeth dechnegol fel selio gwres, rhwystro, gwrthsefyll cyrydiad ac ati, yn hytrach nag effaith graffig, er y gallant fod yn lliw.
Ailgylchu: Mae iddo’r ystyr a roddir yn Erthygl 3(17) o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff: Unrhyw weithred adfer sy’n cael ei defnyddio i ailbrosesu deunyddiau gwastraff yn gynnyrch, yn ddeunyddiau neu’n sylweddau boed hynny at y diben gwreiddiol neu at ddibenion eraill. Mae’n cynnwys ailbrosesu deunydd organig ond nid yw’n cynnwys adfer ynni a’i ailbrosesu’n ddeunyddiau sydd i’w defnyddio fel tanwydd neu ar gyfer gweithrediadau ôl-lenwi.[2]
Ailddefnyddio: Unrhyw weithred lle mae eitemau pecynwaith nad ydynt yn wastraff yn cael eu defnyddio eto at yr un diben ag y cawsant eu creu.
Pecynwaith Eilaidd: pecynwaith eilaidd, sef pecynwaith sydd—
- wedi’i greu i ffurfio grŵp o nifer penodol o unedau gwerthu adeg prynu, p’un a gyflenwir y grwpio hwnnw i’r defnyddiwr neu’r defnyddiwr terfynol neu a yw’n ffordd yn unig o ailgyflenwi’r silffoedd yn y man gwerthu; a hefyd
- yn gallu cael ei dynnu o’r cynnyrch heb effeithio ar nodweddion y cynnyrch.
Pecynwaith Cludo: Mae’n cyfeirio at becynwaith trydyddol ar eitemau sy’n cael eu cyflenwi neu y bwriedir eu cyflenwi i ddefnyddiwr, neu sy’n cael eu defnyddio i gynnwys eitemau o’r fath.
Pecynwaith Trydyddol: Mae wedi’i greu er mwyn hwyluso’r gwaith o drin a chludo un neu fwy o unedau gwerthu, neu becynwaith eilaidd, er enghraifft drwy atal difrod wrth gael ei drin â llaw a difrod wrth gael ei gludo; ac nid yw’n gynhwysydd ar y ffordd, y rheilffordd, ar long nac ar awyren
Uned: Gall uned gyfan o becynwaith gynnwys un neu nifer o gydrannau sy’n cael eu cyfuno i greu’r eitem gyfan o becynwaith.
Rhan 2: Methodoleg
Mae’r fersiwn hwn o’r RAM wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â chynrychiolwyr y diwydiant ar draws pob cam o’r gadwyn gwerth pecynwaith. Mae’r RAM yn seiliedig ar ofynion a ddiffinnir yn y rheoliadau, yn ogystal â diffiniadau, trothwyon ac egwyddorion sydd, lle bynnag y bo modd, yn cyd-fynd ag arferion gorau presennol ac felly’n cael eu hystyried yn briodol adeg cyhoeddi.
Camau Ailgylchadwyedd
Mae’r fethodoleg hon yn canolbwyntio ar werthuso ailgylchadwyedd, gan gwmpasu’r amrywiaeth lawn o ofynion ar draws y camau diwedd oes ar gyfer pecynwaith. Mae’n sicrhau y gellir ailgylchu deunydd pecynwaith a’i drawsnewid yn gynnyrch newydd, sef adnewyddu deunyddiau crai. Drwy ystyried ffactorau fel galluoedd casglu, didoli ac ailbrosesu, nod y fethodoleg yw cefnogi economi pecynwaith cylchol, lle mae deunyddiau’n cael eu dal a’u hailgylchu yn hytrach na’u gwaredu, ar yr un pryd â mynd i’r afael â’r heriau ymarferol a wynebir ar draws y gadwyn gwerth.
Dyma’r camau diwedd oes sy’n darparu’r strwythur sylfaenol ar gyfer y fethodoleg:
Dosbarthiad
Dosbarthiad sy’n diffinio sut i asesu unedau a chydrannau pecynwaith cyfan yn erbyn Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd.
Gellir llunio pecynwaith aml-ddeunydd o gydrannau wedi’u cydosod o wahanol ddeunyddiau y gellir eu gwahanu â llaw. Bydd pob cydran yn cael ei hasesu ar wahân oni bai fod yr eitem yn gynhwysydd diod (ac eithrio gwydr). Rhaid rhoi gwybod ar wahân am eitemau pecynwaith sy’n cael eu gwahanu wrth ddefnyddio cynnyrch, ac nad oes modd eu hailosod, (er enghraifft, stribed rhwygo, corcyn potel win.)
Dylid asesu pecynwaith aml-ddeunydd lle na ellir gwahanu cydrannau o dan y prif ddeunydd yn ôl pwysau. Ond rhaid i bob deunydd gael ei adrodd ar wahân gan ddefnyddio’r allbwn COCH / OREN / GWYRDD a neilltuwyd i’r uned gyfun. Os yw’r gwahanol ddeunyddiau o’r un pwysau, yna rhaid asesu’r cydrannau ar wahân o dan y categorïau perthnasol o ddeunyddiau.
Os nad oes modd diffinio’r deunydd neu uned gyfan o becynwaith fel un o’r categorïau deunyddiau, mae’r gydran honno i’w hasesu yn y categori pecynwaith ‘Deunyddiau eraill’.
Enghraifft: Ar gyfer jar o jam sy’n cynnwys jar wydr, label papur, caead dur, a chaead a chwlwm hesian, dylid asesu ac adrodd fel a ganlyn:
| Jar | Label | Caead | Cwlwm | Caead Hesian | |
|---|---|---|---|---|---|
| Eitem pecynwaith wedi’i hasesu yn RAM | Gwydr (yn seiliedig ar y prif ddeunydd) | Gwydr (yn seiliedig ar y prif ddeunydd) | Dur | Arall (rhagdybiaeth o decstil) | Arall (rhagdybiaeth o decstil) |
| Allbwn RAM (dangosol yn unig) | OREN | OREN | GWYRDD | COCH | COCH |
| Adroddwyd fel yn RPD | Gwydr - OREN | Papur a bwrdd - OREN | Dur - GWYRDD | Arall - COCH | Arall - COCH |
Lle nad yw’n hawdd gwahanu’r label a’r jar â llaw, maent yn cael eu hasesu ar y cyd yn y RAM gan ddefnyddio’r brif reol berthnasol i bennu’r categori deunydd ar gyfer gwerthuso. Rhaid i bob deunydd gael ei adrodd ar wahân ynghyd â’r allbwn RAM a neilltuwyd (ee Coch, Oren neu Wyrdd).
Enghraifft: Rhaid asesu pecyn o bedwar batri mewn pecynwaith wedi’ wneud o orchudd plastig clir wedi’i fowldio sydd wedi’i ludo ar gefn cardfwrdd, lle gellir gwahanu’r plastig oddi wrth y cerdyn â llaw, ac adrodd amdano ar wahân.
| Gorchudd | Cefn | |
|---|---|---|
| Eitem pecynwaith wedi’i hasesu yn RAM | Plastig | Papur a bwrdd |
| Allbwn RAM (dangosol yn unig) | OREN | GWYRDD |
| Adroddwyd fel yn RPD | Plastig - OREN | Papur a bwrdd - GWYRDD |
Enghraifft: Dylid asesu ac adrodd am botel ddŵr wedi’i gwneud o botel PET plastig glir, cap PP a label PE sy’n bodloni’r diffiniad o gynhwysydd diod fel y pecynwaith cyfan (oni bai mai Gwydr yw’r prif ddeunydd) :
sydd i’w hadrodd fel uned gyfan wedi’i gwneud o’r un deunydd â’r brif gydran (oni bai mai gwydr yw’r prif ddeunydd)
| Cynhwysydd Diod Cyfan (plastig yw’r prif ddeunydd) | |
|---|---|
| Eitem pecynwaith wedi’i hasesu yn RAM | Plastig |
| Allbwn RAM (dangosol yn unig) | GWYRDD |
| Adroddwyd fel yn RPD | Plastig - GWYRDD |
Casglu
Casglu yw’r prif ddull o ailgylchu cynnyrch penodol ac mae’n cyfeirio at un o’r tri opsiwn isod. Mae rhagor o fanylion am yr hyn sy’n cael ei dderbyn a’r hyn nad yw’n cael ei dderbyn ar gyfer pob math o ddeunydd wedi’i gynnwys yn y canllawiau yn Adran 3. Mae tri phrif dull o ran ailgylchadwyedd:
Casgliad cyffredinol (ar garreg y drws): Rhaid i eitem o becynwaith neu gydran gael eu casglu ar garreg y drws gan o leiaf 75% o Awdurdodau Lleol ledled y DU, fel y pennir gan ddata Awdurdodau Lleol WRAP.
Casgliad Cyfyngedig (ar garreg y drws): Mae rhai eitemau o becynwaith a chydrannau’n cael eu casglu gan nifer sylweddol o awdurdodau lleol ledled y DU ond nid ydynt yn cyrraedd y trothwy 75% ar gyfer casglu ar garreg y drws sydd ar gael yn eang. Gall yr eitemau hyn gael eu casglu drwy’r dull casgliad cyfyngedig os ydynt yn cael eu casglu ar garreg y drws gan o leiaf 50% o Awdurdodau Lleol ledled y DU, fel y pennir gan ddata Awdurdodau Lleol WRAP.
Cynlluniau rhoi yn ôl: Mae cynlluniau rhoi yn ôl arbennig yn cynnig ffordd o ddal deunyddiau a mathau o becynwaith nad ydynt yn cael eu cynnwys mewn casgliadau ar garreg y drws. Rhaid i gynhyrchwyr gorfodol gadarnhau bod y cynllun maent wedi’i ddewis yn bodloni’r meini prawf canlynol:
- yn hygyrch i o leiaf 75% o boblogaeth y DU
- ddim yn gwrthdaro â chasgliadau ar garreg y drws Awdurdodau Lleol
- heb ei gyfyngu i un brand neu gynnyrch
- nid yw’n ei gwneud yn ofynnol bod eitem yn cael ei phrynu cyn y gellir cael gwared ar eitem
- sicrhau tryloywder llwyr bod y deunydd a gesglir yn cael ei ailgylchu
Ceir disgrifiad llawn o’r ffactorau hyn yn Atodiad 4.2.
Didoli
Didoli Mae didoli’n cyfeirio at y broses o gasglu a dargyfeirio gwastraff pecynwaith i ffrydiau gwastraff priodol i’w ailbrosesu ymhellach. Mewn rhai awdurdodau lleol, mae’r didoli hwn yn digwydd yn fwy helaeth ar garreg y drws gan ddefnyddwyr (ee systemau casglu wedi’u gwahanu o’u cymharu â systemau casglu cymysg.) Fodd bynnag, at ddibenion y fethodoleg hon, mae’r sylw ar y gallu i ddidoli gwastraff ar raddfa o fewn Cyfleusterau Deunyddiau. Mae manylebau pecynwaith a dewisiadau dylunio, fel siâp, maint, dwysedd a lliw deunyddiau, yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau bod Rheolwyr Gwastraff yn gallu nodi a didoli gwastraff deunydd pecynwaith yn effeithlon. Er y gall rhai eitemau pecynwaith gael eu didoli’n dechnegol, gall ffactorau amrywiol rwystro eu gwahanu’n effeithiol mewn cyfleusterau didoli. Bydd fersiynau o’r RAM yn y dyfodol yn ceisio defnyddio data samplu Rheolwyr Gwastraff i gyflwyno asesiad mwy cywir o’r galluoedd didoli a’r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer pob deunydd a fformat pecynwaith.
Ailbrosesu
Ailbrosesu yw’r broses dechnegol o greu deunydd ailgylchu o bob un o’r ffrydiau gwastraff pecynwaith. Mae pob math o ddeunydd yn gofyn am dechnolegau ailbrosesu penodol, a gall halogion amharu ar y broses neu ostwng ansawdd y deunyddiau a ailgylchir. Mae’r goddefiant ar gyfer halogyddion yn amrywio yn ôl deunydd a phroses, gyda gwahanol eitemau a sylweddau wedi’u gwahardd ym mhob dull ailbrosesu.
Defnyddio
Defnyddio mae hyn yn cyfeirio at ffactorau a allai effeithio ar ansawdd y deunydd ailgylchu a gynhyrchir neu achosi colli deunydd eilaidd diangen yn y broses ailgylchu. Mae ailgylchu’n cael ei ddiffinio fel unrhyw weithred adfer sy’n cael ei defnyddio i ailbrosesu deunyddiau gwastraff yn gynnyrch, yn ddeunyddiau neu’n sylweddau boed hynny at y diben gwreiddiol neu at ddibenion eraill. Nid yw’n cynnwys adfer ynni a’i ailbrosesu’n ddeunyddiau sydd i’w defnyddio fel tanwydd neu ar gyfer gweithrediadau ôl-lenwi.
Rhan 3: Canllawiau Deunydd
Papur a Bwrdd
Papur a Bwrdd: Dosbarthiad
Gallai enghreifftiau cyffredin o bapur / bwrdd mewn pecynwaith gynnwys y canlynol:
- llewys a blychau cardfwrdd
- cardfwrdd rhychiog, er enghraifft pecynwaith cludo
- bwrdd papur, er enghraifft blychau grawnfwyd a blychau hancesi papur
- pecynwaith papur hyblyg, er enghraifft papur lapio a bagiau bach
- ffeibr wedi’i fowldio, er enghraifft bocsys wyau
Dylai cydrannau’r Papur a’r Bwrdd gynnwys ffeibrau naturiol yn bennaf. Gallent gynnwys deunydd llenwi, startsh, clai neu araenau lliw gan gynnwys rhwymwr, yn ogystal ag ychwanegion a ddefnyddir fel arfer yn y diwydiant papur fel cyfryngau cryfder gwlyb, cyfryngau mesur, llifynnau a dŵr rhwymedig.
Gall y ffrwd gwastraff papur a bwrdd gynnwys deunyddiau cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr. Dylid asesu pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr gyda haen o blastig sy’n llai na 5% yn ôl pwysau drwy ganllawiau ar ddeunyddiau Papur a Bwrdd.
Dylid asesu pecynwaith cyfansawdd seiliedig ar ffeibr gyda haen o blastig dros 5% yn ôl pwysau drwy ganllawiau Deunyddiau Cyfansawdd Seiliedig ar Ffeibr.
Gellir pennu cynnwys papur drwy’r canlynol:
Cynnwys Papur (%)=((Ffeibr+Llenwad+Dŵr+Ychwanegyn+Araen lliw)(gsm) )/(Cyfanswm mas (gsm))
Ble:
- Ffeibr: ffeibrau seliwlos pren
- Llenwr: mwyn nodweddiadol a ddefnyddir yn y diwydiant, er enghraifft CaCO3 neu kaolin
- Ychwanegyn: cemegau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer y broses gwneud papur, er enghraifft cyfryngau mesur, cyfryngau cryfder sych neu wlyb, cymhorthion cadw, diewynwyr, llifynnau, a phigmentau
- Araen lliw: haen araen wedi’i mwyneiddio a ddefnyddir i wella disgleirdeb a defnyddioldeb argraffu’r papur
- Cyfanswm mas: cyfanswm mas y cynnyrch pecynwaith heb gynnwys cydrannau ar wahân y dylid eu gwerthuso fel cydran unigol
Os yw’r gydran neu’r uned pecynwaith yn defnyddio dewisiadau eraill yn lle ffeibrau sy’n deillio o bren seliwlosig, rhaid i chi roi tystiolaeth eu bod yn briodol i’w defnyddio wrth wneud papur ac y gellir eu hailbrosesu heb achosi heriau yn y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill. Gellir defnyddio methodolegau profi safonol y diwydiant i gyflwyno’r dystiolaeth hon.
Papur a Bwrdd: Casglu
Mae papur a bwrdd yn cael eu casglu’n gyffredinol gan 100% o awdurdodau lleol ac felly’n bodloni’r meini prawf casglu’n gyffredinol ar garreg y drws.
Fodd bynnag, nid oes yr un o’r amrywiadau hyn ar bapur a bwrdd yn cael eu casglu’n gyffredinol ar garreg y drws:
- deunydd cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr sydd â haenau o blastig ar y ddwy ochr (wedi’i lamineiddio ar y ddwy ochr)
- papur a bwrdd y mae gliter wedi’i lynu wrtho
- papur gwrth-saim, wedi’i drin â silicon neu wedi’i gŵyro
- papur pobi
- amlenni polyethylen gyda phadin wedi’u leinio (oni bai ei bod yn hawdd eu gwahanu â llaw)
Dylid dosbarthu’r eitemau o becynwaith a chydrannau a restrir uchod yn GOCH oni bai fod cynlluniau rhoi yn ôl penodol ar gael sy’n bodloni meini prawf penodol y protocol rhoi yn ôl. Mae’n bosibl y bydd eitemau o becynwaith a chydrannau sy’n cael eu casglu drwy gynllun rhoi yn ôl yn gymwys ar gyfer dosbarthiad OREN, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni’r amodau ar gyfer camau ailgylchadwyedd dilynol.
Papur a Bwrdd: Didoli
Rhaid i’r eitem o becynwaith neu gydran fod o leiaf 40mm mewn o leiaf dau ddimensiwn i basio cam didoli’r asesiad.
Gall eitemau o becynwaith a chydrannau sy’n llai na 40mm mewn o leiaf dau ddimensiwn symud ymlaen os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- Gall y defnyddiwr atodi’r gydran fach i gydran arall yn yr uned pecynwaith, lle mae’r cydrannau cyfun sy’n deillio o hynny yn bodloni’r trothwy maint a amlinellir ac yn parhau â’r asesiad fel un gydran. NEU-
- Mae cynlluniau rhoi yn ôl ar gael ar gyfer eitemau bach sy’n bodloni’r meini prawf a amlinellir yn y protocol rhoi yn ôl. Mae’n bosibl y bydd eitemau sy’n rhy fach sy’n cael eu casglu drwy gynllun rhoi yn ôl yn gymwys ar gyfer dosbarthiad OREN, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni’r amodau ar gyfer camau ailbrosesu a chymhwyso.
Papur a Bwrdd: Ailbrosesu
Gall rhai eitemau sy’n halogi effeithio’n sylweddol ar y gwaith o ailbrosesu papur a bwrdd.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r deunyddiau canlynol, mae’n GOCH:
- Cynnwys nad yw’n bapur sy’n fwy na 15% yn ôl pwysau ac nad yw wedi’i ddosbarthu fel deunydd cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r llenwadau, ychwanegion neu gyfryngau canlynol, mae’n GOCH:
- Wrea/Fformaldehyd
- Wrea/melamin
Oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r ffeibrau canlynol, mae’n GOCH:
- Ffeibrau gwydr neu garbon
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r lamineiddio neu’r araenau canlynol, mae’n GOCH:
- Araen cwyr dwy ochr, er enghraifft wedi’i orchuddio â dip cŵyr tawdd, ond nid yw’n berthnasol i gŵyr a ddefnyddir wrth inciau argraffu
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r halogyddion eraill canlynol, mae’n GOCH:
- Cyfryngau silicôn, er enghraifft yn cael eu defnyddio mewn papurau ar gyfer labeli
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys gweddillion cynnyrch na ellir ei dynnu â llaw, yna mae’n GOCH. Un enghraifft gyffredin fyddai bwyd 3D wedi’i bobi ar y papur neu’r bwrdd ac yn sownd wrtho. Gellir goddef staenio arwyneb fel marciau olew bach nad ydynt yn amsugno’r papur yn llwyr, neu friwsion.
Papur a Bwrdd: Defnyddio
Gall rhai eitemau sy’n halogi effeithio ar ansawdd yr allbwn ailbrosesu (‘deunydd ailgylchu’) mewn cyfleusterau melino papur safonol.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r deunyddiau canlynol, mae’n OREN:
- Cynnwys nad yw’n bapur sy’n fwy na 10% yn ôl pwysau ac nad yw wedi’i ddosbarthu fel deunydd cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr.
- Ffeibrau nad ydynt yn seiliedig ar bren, er enghraifft bagasse, palmwydd, ffeibr, gwellt reis, gwellt gwenith, gwellt barlys, gwellt ceirch, gwellt gwair, llin, cywarch a bambŵ, oni ddarperir canlyniadau prawf i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb amharu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff eraill.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r ychwanegion canlynol, mae’n OREN:
- Polyamidoamine-epichlorohydrin (PAE), oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r adlynion canlynol, mae’n OREN:
- Lamineiddio gludiog (y tu mewn i becyn) PET, mPET, PET/PE, oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r lamineiddio neu’r araenau canlynol, mae’n OREN:
- Araenau wedi’i wasgaru â pholymer PVDC / PVC, oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
- Lamineiddio gyda ffoil Alwminiwm lle mae trwch yr araen yn fwy neu’n hafal i 6 micron (µm)
- Gwasgariad cwyr, gan gynnwys cwyr microrisialaidd ond nid yw’n berthnasol i gwyr a ddefnyddir mewn inciau argraffu
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r haenau meteleiddio rhwystro canlynol, mae’n OREN:
- Meteleiddio uniongyrchol, gan gynnwys paent preimio, alwminiwm nano-raddfa, neu araen amddiffynnol,
- Meteleiddio sy’n cael ei drosglwyddo, gan gynnwys adlyn a meteleiddio sy’n cael ei drosglwyddo
Oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r inciau a farneisiau canlynol, mae’n OREN:
- Farnis uwch-fioled (UV) wedi’i galedu sy’n fwy na 4g/m2 ac wedi’i orchuddio 100%, oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
- Inciau sy’n cynnwys olewau mwynol lle cawsant eu hychwanegu’n fwriadol
Os nad yw eitem neu gydran o’r pecyn yn cynnwys unrhyw un o’r uchod ac yn pasio drwy’r camau blaenorol, mae’n cael ei dosbarthu’n WYRDD.
Deunyddiau Cyfansawdd sy’n seiliedig ar Ffeibr
Deunyddiau Cyfansawdd sy’n seiliedig ar Ffeibr: Dosbarthiad
Gallai enghreifftiau cyffredin o ddeunyddiau cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr mewn pecynwaith gynnwys y canlynol:
- Cartonau bwyd a diod hylifol
- Sgilet brechdanau
- Blychau a hambyrddau bwyd
- Llewys a blychau cardfwrdd
- Cardfwrdd rhychiog, er enghraifft pecynwaith cludo
- Pecynwaith papur hyblyg, er enghraifft gorchuddion a bagiau bach
Dyliad asesu pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr gyda haen o blastig sy’n llai na 5% yn ôl pwysau neu’n hafal i hynny drwy ganllawiau ar ddeunyddiau Papur a Bwrdd.
Dylid asesu pecynwaith cyfansawdd seiliedig ar ffeibr gyda haen o blastig sy’n fwy na 5% yn ôl pwysau drwy ganllawiau Deunyddiau Cyfansawdd Seiliedig ar Ffeibr.
Gellir pennu cynnwys papur drwy’r canlynol:
Cynnwys Papur (%)=((Ffeibr+Llenwad+Dŵr+Ychwanegyn+Araen lliw)(gsm) )/(Cyfanswm mas (gsm))
Ble:
- Ffeibr: ffeibrau seliwlos pren
- Llenwr: mwyn nodweddiadol a ddefnyddir yn y diwydiant, er enghraifft CaCO3 neu gaolin
- Ychwanegyn: cemegau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer y broses gwneud papur, er enghraifft cyfryngau mesur, cyfryngau cryfder sych neu wlyb, cymhorthion cadw, diewynwyr, llifynnau, a phigmentau
- Araen lliw: haen araen wedi’i mwyneiddio a ddefnyddir i wella disgleirdeb a defnyddioldeb argraffu’r papur
- Cyfanswm mas: cyfanswm mas y cynnyrch pecynwaith heb gynnwys cydrannau ar wahân y dylid eu gwerthuso fel cydran unigol
Os yw’r gydran neu’r uned pecynwaith yn defnyddio dewisiadau eraill yn lle ffeibrau sy’n deillio o bren seliwlosig, rhaid i chi roi tystiolaeth eu bod yn briodol i’w defnyddio wrth wneud papur ac y gellir eu hailbrosesu heb achosi heriau yn y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill. Gellir defnyddio methodolegau profi safonol y diwydiant i gyflwyno’r dystiolaeth hon.
Os yw eich eitem pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr yn garton bwyd a diod hylifol, darllenwch y canllawiau isod ar gyfer deunyddiau cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr (cartonau hylifol). Ar gyfer eitemau pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr nad ydynt yn dod o fewn y categori hwn, ewch i’r adran ar ddeunyddiau cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr (cartonau nad ydynt yn cynnwys hylif).
Deunyddiau Cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr (cartonau hylifol): Casglu
Er mwyn bodloni’r meini prawf casglu’n gyffredinol ar garreg y drws, rhaid i 75% o Awdurdodau Lleol gasglu eitem o becynwaith neu gydran. Gall eitemau o becynwaith a chydrannau fwrw ymlaen â’r dull Casgliadau Cyfyngedig os ydynt yn cael eu casglu gan o leiaf 50% o Awdurdodau Lleol ond eu bod yn cael eu capio ar OREN, oni nodir yn wahanol.
Ar gyfer deunyddiau cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr, mae hyn yn cynnwys:
- Cesglir cartonau bwyd a diod hylifol (deunyddiau cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr) gan 66% o Awdurdodau Lleol
Dylid dosbarthu’r pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr nad yw’n bodloni’r disgrifiad uchod yn GOCH oni bai fod cynlluniau rhoi yn ôl penodol ar gael sy’n bodloni meini prawf penodol y protocol rhoi yn ôl. Mae’n bosibl y bydd eitemau o becynwaith a chydrannau sy’n cael eu casglu drwy gynllun rhoi yn ôl yn gymwys ar gyfer dosbarthiad OREN, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni’r amodau ar gyfer camau ailgylchadwyedd dilynol.
Deunyddiau Cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr (cartonau hylifol): Didoli
Rhaid i’r eitem o becynwaith neu gydran fod o leiaf 40mm mewn o leiaf dau ddimensiwn i basio cam didoli’r asesiad.
Gall eitemau o becynwaith a chydrannau sy’n llai na 40mm mewn o leiaf dau ddimensiwn symud ymlaen os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- Gall y defnyddiwr atodi’r gydran fach i gydran arall yn yr uned pecynwaith, lle mae’r cydrannau cyfun sy’n deillio o hynny yn bodloni’r trothwy maint a amlinellir ac yn parhau â’r asesiad fel un gydran. NEU-
- Mae cynlluniau rhoi yn ôl ar gael ar gyfer eitemau bach sy’n bodloni’r meini prawf a amlinellir yn y protocol rhoi yn ôl. Mae’n bosibl y bydd eitemau sy’n rhy fach sy’n cael eu casglu drwy gynllun rhoi yn ôl yn gymwys ar gyfer dosbarthiad OREN, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni’r amodau ar gyfer camau ailgylchadwyedd dilynol.
Bydd pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr a gesglir drwy gynlluniau rhoi yn ôl pwrpasol ac sydd wedi’i wahanu yn y ffynhonnell yn pasio cam didoli’r asesiad. Gall yr eitemau hyn fod yn gymwys ar gyfer dosbarthiad OREN, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni’r gofynion ar gyfer camau dilynol.
Dylid ystyried cartonau bwyd a diod hylifol gydag unrhyw haen allanol ansafonol, ar wahân i PE neu bapur, yn GOCH oni bai fod tystiolaeth a phrofion yn dangos bod modd eu hadnabod yn ddibynadwy gan systemau didoli sy’n seiliedig ar synhwyrydd NIR.
Deunyddiau Cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr (cartonau hylifol): Ailbrosesu
Bydd deunyddiau cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr yn cael eu hailbrosesu mewn melinau arbenigol sydd â’r cyfarpar i drin cymysgedd o ddeunyddiau, gan gynnwys papur, alwminiwm a pholyethylen (PE).
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r deunyddiau canlynol, mae’n GOCH:
- Polyethylen (PE) gyda llai nag 80% yn ôl pwysau cynnwys polymer
- Polypropylen (PP) dros 20% yn ôl pwysau yn ôl cynnwys polymer
- Polyethylen terephthalad (PET) yn fwy na 5% yn ôl pwysau cynnwys polymer
- Polymerau bioddiraddadwy mewn unrhyw gyfran o gynnwys polymer
Mae pecynwaith sy’n debygol o gadw gweddillion cynnyrch na all defnyddiwr ei dynnu â llaw yn GOCH. Un enghraifft gyffredin fyddai bwyd sy’n sownd mewn pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr.
Deunyddiau Cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr (cartonau hylifol): Defnyddio
Gall rhai eitemau sy’n halogi effeithio ar ansawdd yr allbwn ailbrosesu (‘deunydd ailgylchu’.) Mae’r eitem o becynwaith neu gydran yn OREN os yw’n cynnwys unrhyw un o’r canlynol:
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r deunyddiau canlynol, mae’n OREN:
- Polyethylen (PE) rhwng 80% a 90% yn ôl pwysau cynnwys polymer
- Polypropylen (PP) rhwng 10% a 20% yn ôl pwysau yn ôl cynnwys polymer
- Polyethylen (PET) gyda llai na 5% yn ôl pwysau cynnwys polymer
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r araenau canlynol, mae’n OREN:
- Araenau cwyr, gan gynnwys emwlsiwn cwyr a gwasgariad, ond nid yw’n berthnasol i gwyr a ddefnyddir mewn inciau argraffu
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r llenwadau, ychwanegion neu gyfryngau canlynol, mae’n OREN:
- Polyamide-epichlorohydrin (PAE)
- Wrea/Fformaldehyd
Oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
Os nad yw eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r uchod ac wedi bodloni’r amodau a amlinellwyd mewn camau blaenorol, mae’n cael ei ystyried yn OREN oherwydd y cyfyngiadau casglu presennol.
Os nad yw eich eitem pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr yn garton bwyd a diod hylifol, darllenwch y canllawiau isod ar gyfer deunyddiau cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr (cartonau nad ydynt yn cynnwys hylif.)
Deunyddiau Cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr (cartonau nad ydynt yn cynnwys hylif): Casglu
Mae pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr, nad ydynt yn cael eu hystyried yn gartonau bwyd a diod hylifol, yn cael eu casglu’n gyffredinol gan 100% o awdurdodau lleol ac felly’n bodloni’r meini prawf casglu’n gyffredinol ar garreg y drws.
Fodd bynnag, nid oes yr un o’r amrywiadau papur a bwrdd hyn yn cael eu casglu’n gyffredinol ar garreg y drws:
- pecynwaith cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr gyda mwy na 15% o gynnwys nad yw’n bapur yn ôl pwysau
- deunydd cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr sydd â haenau o blastig ar y ddwy ochr (wedi’i lamineiddio ar y ddwy ochr)
- papur a bwrdd y mae gliter wedi’i lynu wrtho
- papur gwrth-saim, wedi’i drin â silicon neu â chwyr arno
- papur pobi
- amlenni polyethylen gyda phadin wedi’u leinio (oni bai ei bod yn hawdd eu gwahanu â llaw)
Dylid dosbarthu’r eitemau o becynwaith a chydrannau a restrir uchod yn GOCH oni bai fod cynlluniau rhoi yn ôl penodol ar gael sy’n bodloni meini prawf penodol y protocol rhoi yn ôl. Mae’n bosibl y bydd eitemau o becynwaith a chydrannau sy’n cael eu casglu drwy gynllun rhoi yn ôl yn gymwys ar gyfer dosbarthiad OREN, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni’r amodau ar gyfer camau ailgylchadwyedd dilynol.
Deunyddiau Cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr (cartonau nad ydynt yn cynnwys hylif): Didoli
Rhaid i’r eitem o becynwaith neu gydran fod o leiaf 40mm mewn o leiaf dau ddimensiwn i basio cam didoli’r asesiad.
Gall eitemau o becynwaith a chydrannau sy’n llai na 40mm mewn o leiaf dau ddimensiwn symud ymlaen os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- Gall y defnyddiwr atodi’r gydran fach i gydran arall yn yr uned pecynwaith, lle mae’r cydrannau cyfun sy’n deillio o hynny yn bodloni’r trothwy maint a amlinellir ac yn parhau â’r asesiad fel un gydran. NEU-
- Mae cynlluniau rhoi yn ôl ar gael ar gyfer eitemau bach sy’n bodloni’r meini prawf a amlinellir yn y protocol rhoi yn ôl. Mae’n bosibl y bydd eitemau sy’n rhy fach sy’n cael eu casglu drwy gynllun rhoi yn ôl yn gymwys ar gyfer dosbarthiad OREN, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni’r amodau ar gyfer camau ailbrosesu a chymhwyso.
Deunyddiau Cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr (cartonau nad ydynt yn cynnwys hylif): Ailbrosesu
Gall rhai eitemau sy’n halogi effeithio’n sylweddol ar y gwaith o ailbrosesu deunyddiau cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r llenwadau, ychwanegion neu gyfryngau canlynol, mae’n GOCH:
- Wrea/Fformaldehyd
- Wrea/melamin
Oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r ffeibrau canlynol, mae’n GOCH:
- Ffeibrau gwydr neu garbon
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r lamineiddio neu’r araenau canlynol, mae’n GOCH:
- Lamineiddio dwy ochr, er enghraifft PE/Papur/PE, PP/Papur/PP, PET/Papur/PET, oni bai fod canllawiau clir i ddefnyddwyr ar gyfer plicio’r lamineiddio
- Araen cwyr dwy ochr, er enghraifft wedi’i orchuddio â dip cwyr tawdd, ond nid yw’n berthnasol i gwyr a ddefnyddir mewn inciau argraffu
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r halogyddion eraill canlynol, mae’n GOCH:
- Cyfryngau silicôn, er enghraifft yn cael eu defnyddio mewn papurau ar gyfer labeli
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys gweddillion cynnyrch na ellir ei dynnu â llaw, yna mae’n GOCH: Un enghraifft gyffredin fyddai bwyd 3D wedi’i bobi ar y papur neu’r bwrdd ac yn sownd wrtho. Gellir goddef staenio arwyneb fel marciau olew bach nad ydynt yn amsugno’r papur yn llwyr, neu friwsion.
Deunyddiau Cyfansawdd sy’n seiliedig ar ffeibr (cartonau nad ydynt yn cynnwys hylif): Cymhwyso
Gall rhai eitemau sy’n halogi effeithio ar ansawdd yr allbwn ailbrosesu (‘deunydd ailgylchu’) mewn cyfleusterau melino papur safonol.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r deunyddiau canlynol, mae’n OREN:
- Cynnwys nad yw’n bapur sy’n fwy na 10% yn ôl pwysau
- Ffeibrau nad ydynt yn seiliedig ar bren, er enghraifft bagasse, palmwydd, ffeibr, gwellt reis, gwellt gwenith, gwellt barlys, gwellt ceirch, gwellt gwair, llin, cywarch a bambŵ, oni ddarperir canlyniadau prawf i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb amharu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff eraill.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r ychwanegion canlynol, mae’n OREN:
- Polyamidoamine-epichlorohydrin (PAE), oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r adlynion canlynol, mae’n OREN:
- Lamineiddio gludiog (y tu mewn i becyn) PET, mPET, PET/PE, oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r lamineiddio neu’r araenau canlynol, mae’n OREN:
- Araenau wedi’i wasgaru â pholymer PVDC / PVC, oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
- Lamineiddio gyda ffoil Alwminiwm lle mae trwch yr araen yn fwy neu’n hafal i 6 micron (µm)
- Gwasgariad cwyr, gan gynnwys cwyr microrisialaidd ond nid yw’n berthnasol i gwyr a ddefnyddir mewn inciau argraffu
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r haenau meteleiddio rhwystro canlynol, mae’n OREN:
- Meteleiddio uniongyrchol, gan gynnwys paent preimio, alwminiwm nano-raddfa, neu araen amddiffynnol,
- Meteleiddio sy’n cael ei drosglwyddo, gan gynnwys adlyn a meteleiddio sy’n cael ei drosglwyddo
Oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r inciau a farneisiau canlynol, mae’n OREN:
- Farnis uwch-fioled (UV) wedi’i galedu sy’n fwy na 4g/m2 ac wedi’i orchuddio 100%, oni ddarperir canlyniadau profion i gadarnhau y gellir ei ailbrosesu heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
- Inciau sy’n cynnwys olewau mwynol lle cawsant eu hychwanegu’n fwriadol
Os nad yw eitem neu gydran o’r pecyn yn cynnwys unrhyw un o’r uchod ac yn pasio drwy’r camau blaenorol, mae’n cael ei dosbarthu’n WYRDD.
Plastig (Deunyddiau Hyblyg)
Plastig (Deunyddiau Hyblyg): Dosbarthiad
Mae plastigau sy’n cael eu dosbarthu fel rhai “hyblyg” yn cyfeirio at eitemau sy’n newid siâp pan fyddant yn cael eu llenwi. Gallai enghreifftiau cyffredin o becynwaith plastig hyblyg gynnwys y canlynol:
- bagiau
- bagiau bach
- pecynnau (sawsiau ac ati)
- llewys
- gorchuddion
- ffilm caeadau neu leininau
- pacedi Creision
- rhwydi dal ffrwythau
Gellir gwneud ffilmiau plastig o wahanol fathau o bolymerau plastig, gan gynnwys Polyolefinau (PO), polyethylen (PE), polypropylen (PP), a pholyfinyl clorid (PVC) ac mae hefyd yn cynnwys ffilmiau metalaidd.
Plastig (Deunyddiau Hyblyg): Casglu
Er mwyn bodloni’r meini prawf casglu’n gyffredinol ar garreg y drws, rhaid i 75% o Awdurdodau Lleol gasglu eitem o becynwaith neu gydran. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw blastig (deunydd hyblyg) yn fwy na chyfradd gasglu o 14% ac felly nid yw’n bodloni’r maen prawf hwn, na’r meini prawf ar gyfer y dull Casgliad Cyfyngedig.
Gall mathau o becynwaith plastig hyblyg fwrw ymlaen â’r dull Rhoi yn ôl os oes cynllun dilys ar gael ond eu bod yn cael eu capio ar OREN. Cyfrifoldeb y cynhyrchydd yw profi ei fod yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y Protocol Rhoi yn ôl. Os nad ydych yn sicr eich bod yn bodloni’r meini prawf hyn, cysylltwch â’ch darparwr cynllun Rhoi yn ôl.
Os nad oes yr un o’r uchod yn berthnasol, yna mae’r eitem o becynwaith neu gydran wedi’i dosbarthu fel COCH.
Plastig (Deunyddiau Hyblyg): Didoli
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r pigmentau canlynol, mae’n GOCH:
- Mae pigment du carbon yn gorchuddio mwy na 50% o gyfanswm arwynebedd yr arwyneb.
Oni ddarperir canlyniadau profion dosbarthiad NIR i gadarnhau y gellir ei ddidoli heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r deunyddiau canlynol, mae’n GOCH:
- Haenau o ffoil alwminiwm
Plastig (Deunyddiau Hyblyg): Ailbrosesu
Gellir ystyried pecynwaith ffilm plastig sy’n seiliedig ar bolyolefin a bagiau plastig sy’n cynnwys o leiaf 80% yn ôl pwysau polyethylen, polypropylen, neu gyfuniad o’r ddau sy’n dal i gyfateb i o leiaf 80% o gyfanswm y cyfansoddiad yn ôl pwysau, ar gyfer ailbrosesu. Mae unrhyw eitem o becynwaith neu gydran o dan y trothwy hwn yn cael ei dosbarthu fel COCH.
Gall rhai eitemau sy’n halogi effeithio’n sylweddol ar y gwaith o ailbrosesu plastig (deunyddiau hyblyg.)
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r deunyddiau canlynol, mae’n GOCH:
- PET
- PVC
- PVDC
- Haenau polymer ewyn heb fod yn rhai PE na PP
- Plastig ocsi-ddiraddadwy, plastig bioddiraddadwy neu blastig y gellir ei gompostio
- Papur
- Ffoil alwminiwm. Nid yw hyn yn cynnwys ffilmiau sydd wedi’u meteleiddio.
- Alcohol ethylene-vinyl (EVOH) fel rhwystrau neu araenau sy’n fwy na 10% o’r cyfanswm pwysau
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r ychwanegion neu’r llenwadau canlynol, mae’n GOCH:
- Ychwanegion ocsi-ddiraddadwyedd
- Elastomerau thermoplastig ewyn di-bolyolefin
Os yw dwysedd yr eitem o becynwaith neu’r gydran yn fwy na 1g/cm3, mae’n GOCH.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn defnyddio lacer ac inc sy’n cynnwys rhwymwyr PVC, mae’n GOCH.
Plastig (Deunyddiau Hyblyg): Cymhwyso
Er eu bod yn dechnegol abl i gael eu hailgylchu, mae eitem o becynwaith neu gydran sy’n cynnwys unrhyw beth a restrir isod yn fwy cymhleth i’w hailbrosesu, yn gallu lleihau ansawdd y deunydd ailgylchu a gynhyrchir, neu achosi colli deunydd eilaidd diangen, ac felly maen nhw’n cael eu dosbarthu fel OREN.
- Labeli neu lewys wedi’u gludo o fath gwahanol o ddeunydd
Mae eitem o becynwaith neu gydran hefyd yn cael ei dosbarthu fel OREN os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- Adlynion fel polyẅrethan sy’n fwy na 3% o gyfanswm pwysau’r gydran pan fyddant yn cael eu rhoi ar PE
- Adlynion fel polyẅrethan sy’n fwy na 5% o gyfanswm pwysau’r gydran pan fyddant yn cael eu rhoi ar PP
- Adlynion fel acrylig neu adlynion latecs rwber naturiol, yn ogystal â haenau cwlwm heb fod yn PE nac yn PP sy’n fwy na 5% o gyfanswm pwysau’r gydran
Os yw eitem o becynwaith neu gydran yn bodloni’r amodau uchod ac wedi bodloni’r amodau a amlinellwyd mewn camau blaenorol, mae’n cael ei ystyried yn OREN oherwydd y cyfyngiadau casglu presennol.
Plastig (Caled)
Plastig (Caled): Dosbarthiad
Mae plastigau sydd wedi’u dosbarthu’n “galed” mewn pecynwaith yn cyfeirio at eitemau sy’n cynnal siâp diffiniedig a chyfanrwydd strwythurol o dan amodau defnydd arferol. Gallai enghreifftiau cyffredin o becynwaith plastig caled gynnwys y canlynol:
- Poteli
- Potiau
- Tybiau
- Hambyrddau
- Tiwbiau
- Capiau a chaeadau
Plastig (Caled): Casglu
Er mwyn bodloni’r meini prawf casglu’n gyffredinol ar garreg y drws, rhaid i 75% o Awdurdodau Lleol gasglu eitem o becynwaith neu gydran. Ar gyfer deunyddiau plastig (caled) mae hyn yn cynnwys:
- Poteli Plastig a gesglir gan 100% o awdurdodau lleol
- Plastigau cymysg caled (potiau, tybiau a hambyrddau) sy’n cael eu casglu gan 88% o awdurdodau lleol
Gall eitemau o becynwaith a chydrannau plastig caled, nad ydynt yn cael eu rhestru uchod fwrw ymlaen â’r dull Casgliadau Cyfyngedig os ydynt yn cael eu casglu gan o leiaf 50% o Awdurdodau Lleol ond eu bod yn cael eu capio ar OREN.
Gall eitemau o becynwaith a chydrannau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf casglu cyffredinol neu gyfyngedig, fwrw ymlaen â’r dull Rhoi yn ôl os oes cynllun dilys ar gael ond wedi’i gapio ar sgôr OREN. Cyfrifoldeb y cynhyrchydd yw profi ei fod yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y Protocol Rhoi yn ôl. Os nad ydych yn sicr eich bod yn bodloni’r meini prawf hyn, cysylltwch â’ch darparwr cynllun Rhoi yn ôl.
Os nad oes yr un o’r uchod yn berthnasol, yna mae’r eitem o becynwaith neu gydran wedi’i dosbarthu fel COCH.
Plastig (Caled): Didoli
Os oes gan yr eitem o becynwaith neu gydran label neu lewys sy’n sownd o fath gwahanol o ddeunydd neu bolymer sy’n cwmpasu mwy na’r trothwy perthnasol a amlinellir isod, mae’n GOCH.
- ar gyfer poteli, ni ddylai label neu lawes sydd yn sownd fod yn fwy na 40% o gyfanswm arwynebedd yr arwyneb
- ar gyfer potiau, tiwbiau a hambyrddau, ni ddylai label neu lawes sydd yn sownd fod yn fwy na 60% o gyfanswm yr arwyneb
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn defnyddio inciau sy’n cynnwys pigment du carbon ac yn gorchuddio mwy na’r trothwy perthnasol a amlinellir isod, mae’n GOCH.
- ar gyfer poteli, ni ddylai inciau sy’n cynnwys du carbon fod yn fwy na 40% o gyfanswm arwynebedd yr arwyneb
- ar gyfer potiau, tiwbiau a hambyrddau, ni ddylai inciau sy’n cynnwys du carbon fod yn fwy na 60% o gyfanswm yr arwyneb
Oni ddarperir canlyniadau profion dosbarthiad NIR i gadarnhau y gellir ei ddidoli heb darfu ar y prosesau nac effeithio ar ddeunyddiau gwastraff pecynwaith eraill.
Rhaid i’r eitem o becynwaith neu gydran hefyd fod o leiaf 40mm mewn o leiaf dau ddimensiwn i basio cam didoli’r asesiad. Gall cydrannau llai na hyn fwrw ymlaen os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- Gall y defnyddiwr atodi’r gydran fach i gydran arall yn yr uned pecynwaith, lle mae’r cydrannau cyfun sy’n deillio o hynny yn bodloni’r trothwy maint a amlinellir ac yn parhau â’r asesiad fel un gydran. NEU-
- Mae cynlluniau rhoi yn ôl ar gael sy’n bodloni’r meini prawf a amlinellir yn y protocol rhoi yn ôl. Mae cydrannau ac unedau o becynwaith sy’n cael eu casglu drwy gynllun rhoi yn ôl yn gymwys ar gyfer dosbarthiad OREN, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni’r amodau ar gyfer camau dilynol.
Plastig (Caled): Ailbrosesu
Gall rhai eitemau sy’n halogi effeithio’n sylweddol ar ailbrosesu plastig (rigidau), felly os yw eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r canlynol, caiff ei dosbarthu’n GOCH:
- PVC (gan gynnwys pecynwaith di-PVC gyda chydrannau PVC)
- Polystyren (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, HIPS, wedi’i ehangu a’i allwthio)
- Plastigau ocsi-ddiraddadwy, bioddiraddadwy neu gompostadwy
- Plastigau ewyn di-bolyolefin ee di-PP, di-PE
- Adlynion labeli sy’n sownd nad oes modd eu tynnu mewn golch poeth 80°C
Mae angen technegau ailbrosesu penodol ar gyfer gwahanol bolymerau ac felly mae halogion penodol yn ogystal â’r rhai uchod wedi’u rhestru isod.
Mae eitemau o becynwaith a chydrannau poteli polyethylen terephthalad (PET) yn cael eu dosbarthu fel rhai COCH os ydynt yn cynnwys y canlynol:
- Alcohol ethylene-vinyl (EVOH) fel rhwystrau neu argaenau sy’n fwy na 10% o’r cyfanswm pwysau
- Ychwanegion nano-gyfansawdd
- Capiau neu seliau sy’n cynnwys dur neu alwminiwm gyda dwysedd sy’n fwy na 1g/cm3 neu’n hafal i hynny
- Capiau, seliau neu falfiau sy’n cynnwys silicôn
- Labeli neu lewys sy’n sownd sy’n PVC, yn fetel, neu’n PS gyda dwysedd sy’n fwy na 1g/cm3
Mae eitemau o becynwaith a chydrannau o hambwrdd polyethylen terephthalad (PET) yn cael eu dosbarthu fel rhai COCH os ydynt yn cynnwys y canlynol:
- Haenau sêl PE
- (EVOH) fel rhwystr neu araen sy’n fwy na 10% o’r cyfanswm pwysau
- Labeli neu lewys sy’n sownd sy’n PET, PVC neu’n fetel
Mae eitemau o becynwaith a chydrannau o bolyethylen terephthalad (HDPE) dwysedd uchel yn cael eu dosbarthu fel rhai COCH os ydynt yn cynnwys y canlynol:
- Rhwystrau neu araenau PVDC
- Ychwanegion sy’n cynyddu dwysedd HDPE uwchben 0.995 g/cm3 gan gynnwys Talc, CaCO3 a llenwadau eraill. Mae hyn yn berthnasol i’r plastig ei hun ac nid yw’n berthnasol i unrhyw inciau a ddefnyddir.
- Capiau sy’n cynnwys dur, alwminiwm, PS, PVC, neu blastigau thermoset
- Llieiniau sy’n cynnwys PS, PVC, neu EVA gydag alwminiwm
- Seliau sy’n cynnwys PVC neu silicôn
- Labeli neu lewys sy’n sownd sy’n cynnwys PVC, alwminiwm, PET sydd wedi’u meteleiddio, neu PS sydd wedi’u meteleiddio
Mae eitemau o becynwaith a chydrannau o bolypropylen (PP) yn cael eu dosbarthu fel rhai COCH os ydynt yn cynnwys y canlynol:
- Rhwystrau neu araenau PVDC
- Capiau sy’n cynnwys dur, alwminiwm, PS, PVC, neu blastigau thermoset
- Labeli neu lewys sy’n sownd sy’n cynnwys PVC neu PET sydd wedi’u meteleiddio
- Mewnosodiadau’n cynnwys PVC, PS, Polyẅrethan (PU), PA (Nylon), PET (trwm), Polycarbonad (PC), Acrylig (PMMA), plastigau thermoset, neu fetelau
Plastig (Caled): Defnyddio
Er eu bod yn dechnegol abl i gael eu hailgylchu, mae eitemau o becynwaith a chydrannau sy’n cynnwys unrhyw beth a restrir isod yn fwy cymhleth i’w hailbrosesu, yn gallu lleihau ansawdd y deunydd ailgylchu a gynhyrchir, neu’n achosi colli deunydd eilaidd diangen, ac felly maen nhw’n cael eu dosbarthu fel OREN:
- Labeli neu lewys sy’n sownd sy’n cynnwys papur
- Defnyddio ffoil
- Alcohol ethylene-vinyl (EVOH) sy’n fwy na 5% o’r cyfanswm pwysau
Mae angen technegau ailbrosesu penodol ar gyfer gwahanol bolymerau ac felly mae halogion penodol yn ogystal â’r rhai uchod wedi’u rhestru isod.
Mae eitemau o becynwaith a chydrannau o boteli polyethylen terephthalad (PET) yn cael eu dosbarthu fel rhai OREN os ydynt yn cynnwys y canlynol:
- Unrhyw rai o’r lliwiau canlynol: glas tywyll, gwyrdd tywyll, brown, neu arlliwiau cryf. Mae hyn yn berthnasol i’r plastig ei hun ac nid yw’n berthnasol i unrhyw inciau a ddefnyddir.
- Araenau allanol neu haenau PA-3
- Unrhyw un o’r ychwanegion canlynol: Sefydlogyddion UV neu atalyddion AA
Mae eitemau o becynwaith a chydrannau o hambwrdd polyethylen terephthalad (PET) yn cael eu dosbarthu fel rhai OREN os ydynt yn cynnwys y canlynol:
- Unrhyw un o’r ychwanegion canlynol: gwaredwyr O2, sefydlogyddion UV, atalyddion AA, a chyfryngau gwrth-atal
- Labeli neu lewys sy’n sownd sy’n cynnwys papur
- Mewnosodiadau sy’n cynnwys HDPE, LDPE, PP, PET, neu bapur
Mae eitemau o becynwaith a chydrannau o bolyethylen terephthalad (HDPE) dwysedd uchel yn cael eu dosbarthu fel rhai OREN os ydynt yn cynnwys y canlynol:
- Unrhyw rai o’r lliwiau canlynol: glas golau, gwyrdd, arlliwiau golau, lliwiau didraidd neu dywyll. Mae hyn yn berthnasol i’r plastig ei hun ac nid yw’n berthnasol i unrhyw inciau a ddefnyddir.
- Polyamid (PA) gan gynnwys MXD6 fel rhwystrau neu araenau
- Seliau sy’n cynnwys alwminiwm
- Labeli neu lewys sy’n sownd sy’n cynnwys papur
Mae eitemau o becynwaith a chydrannau o bolypropylen (PP) yn cael eu dosbarthu fel rhai OREN os ydynt yn cynnwys y canlynol:
- Lliwiau didraidd neu liwiau dywyll. Mae hyn yn berthnasol i’r plastig ei hun ac nid yw’n berthnasol i unrhyw inciau a ddefnyddir.
- Polyamid (PA) gan gynnwys MXD6 fel rhwystrau neu araenau
- Ychwanegion gloywi
- Labeli neu lewys sy’n sownd sy’n cynnwys papur
- Mewnosodiadau sy’n cynnwys HDPE, LDPE, Papur, neu PET (golau)
Os nad yw eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys unrhyw un o’r uchod ac wedi bodloni’r amodau a amlinellwyd mewn camau blaenorol, mae’n cael ei ystyried WYRDD.
Dur
Dur: Dosbarthiad
Gallai enghreifftiau cyffredin o ddur mewn pecynwaith gynnwys y canlynol:
- Caniau diod
- Tuniau Bwyd
- Aerosolau
- Cynhyrchion gofal personol
- Caniau addurnol
- Caeadau jariau gwydr
- Cynwysyddion dur caled
- Caeadau
Dur: Casglu
Er mwyn bodloni’r meini prawf casglu’n gyffredinol ar garreg y drws, rhaid i 75% o Awdurdodau Lleol gasglu eitem o becynwaith neu gydran. Ar gyfer dur, mae hyn yn cynnwys:
- Aerosolau yn cael eu casglu gan 94% o awdurdodau lleol
- Caniau / Tuniau’n cael eu casglu gan 100% o awdurdodau lleol
- Caeadau metel ar jariau gwydr yn cael eu casglu gyda photeli gwydr a jariau gan 89% o awdurdodau lleol
- Hambyrddau ffoil a ffoil yn cael eu casglu gan 84% o awdurdodau lleol
Gall eitemau o becynwaith a mathau o gydrannau nad ydynt yn cael eu rhestru uchod, fwrw ymlaen â’r dull Casgliadau Cyfyngedig os ydynt yn cael eu casglu gan o leiaf 50% o Awdurdodau Lleol ond eu bod yn cael eu capio ar OREN, oni nodir yn wahanol.
Gall eitemau o becynwaith a chydrannau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf casglu cyffredinol neu gyfyngedig, symud ymlaen drwy’r dull Rhoi yn ôl os oes cynllun dilys ar gael ond wedi’i gapio ar sgôr OREN. Cyfrifoldeb y cynhyrchydd yw profi ei fod yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y Protocol Rhoi yn ôl. Os nad ydych yn sicr eich bod yn bodloni’r meini prawf hyn, cysylltwch â’ch darparwr cynllun Rhoi yn ôl.
Os nad oes yr un o’r uchod yn berthnasol, yna mae’r eitem o becynwaith neu gydran wedi’i dosbarthu fel COCH.
Dur: Didoli
Er mwyn pasio’r cam hwn o’r asesiad, ni chaiff yr eitem o becynwaith neu gydran fod yn fwy na 300mm mewn unrhyw ddimensiwn. Os yw’n uwch na’r trothwy hwn, bydd cydran yn cael ei dosbarthu fel COCH oni bai fod un o’r canlynol yn berthnasol:
- Gall y defnyddiwr ddatgymalu neu blygu’r gydran rhy fawr, lle mae’r cydrannau wedi’u torri i lawr neu wedi plygu sy’n deillio o hynny yn bodloni’r trothwy maint a amlinellir. NEU-
- Mae cynlluniau rhoi yn ôl ar gael sy’n bodloni’r meini prawf a amlinellir yn y protocol rhoi yn ôl. Mae cydrannau ac unedau o becynwaith sy’n cael eu casglu drwy gynllun rhoi yn ôl yn gymwys ar gyfer dosbarthiad OREN, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni’r amodau ar gyfer camau dilynol.
Dur: Ailbrosesu
Mae’r seilwaith ailbrosesu dur yn y DU wedi’i arfogi i drin halogyddion y gellir yn rhesymol ddisgwyl iddynt ymddangos mewn eitem o becynwaith, felly os yw eitem o becynwaith neu gydran wedi cyrraedd y cam hwn o’r asesiad, dylai fwrw ymlaen i’r cam defnyddio.
Dur: Defnyddio
Er ei fod yn dechnegol abl i gael ei ailgylchu, mae eitem o becynwaith neu gydran sy’n cynnwys mwy na 30% o gynnwys nad yw’n ddur yn ôl pwysau yn cael ei ddosbarthu fel OREN gan fod hyn yn achosi colli deunydd eilaidd diangen.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys llai na 30% o gynnwys nad yw’n ddur yn ôl pwysau, caiff ei ddosbarthu fel GWYRDD.
Alwminiwm
Alwminiwm: Dosbarthiad
Gallai enghreifftiau cyffredin o ddur mewn pecynwaith gynnwys y canlynol:
- Caniau diod
- Tuniau Bwyd
- Caeadau jariau gwydr
- Tiwbiau alwminiwm
- Poteli
- Cynwysyddion caled
- Caeadau
- Aerosolau
- Hambyrddau Ffoil
- Ffoil wedi’i lamineiddio
Dylid asesu ffilmiau sydd wedi’u meteleiddio drwy ddyddodiad gwactod, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu defnyddio mewn pecynnau creision, o dan y prif ddeunydd yn ôl pwysau.
Alwminiwm: Casglu
Er mwyn bodloni’r meini prawf casglu’n gyffredinol ar garreg y drws, rhaid i 75% o Awdurdodau Lleol gasglu eitem o becynwaith neu gydran. Ar gyfer alwminiwm, mae hyn yn cynnwys:
- Aerosolau yn cael eu casglu gan 94% o awdurdodau lleol
- Caniau / Tuniau / Poteli’n cael eu casglu gan 100% o awdurdodau lleol
- Caeadau metel a chaeadau ar jariau gwydr yn cael eu casglu gan 89% o awdurdodau lleol gyda jariau a photeli gwydr
- Hambyrddau ffoil a ffoil yn cael eu casglu gan 84% o awdurdodau lleol
Gall mathau o becynwaith, nad ydynt yn cael eu rhestru uchod, fwrw ymlaen â’r dull Casgliadau Cyfyngedig os ydynt yn cael eu casglu gan o leiaf 50% o Awdurdodau Lleol ond eu bod yn cael eu capio ar OREN, oni nodir yn wahanol.
Gall eitem o becynwaith neu gydrannau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf casglu cyffredinol neu gyfyngedig, fwrw ymlaen â’r dull Rhoi yn ôl os oes cynllun dilys ar gael ond wedi’i gapio ar sgôr OREN. Cyfrifoldeb y cynhyrchydd yw profi ei fod yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y Protocol Rhoi yn ôl. Os nad ydych yn sicr eich bod yn bodloni’r meini prawf hyn, cysylltwch â’ch darparwr cynllun Rhoi yn ôl.
Os nad oes yr un o’r uchod yn berthnasol, yna mae’r eitem o becynwaith neu gydran wedi’i dosbarthu fel COCH.
Alwminiwm: Didoli
Er mwyn pasio’r cam hwn o’r asesiad, ni chaiff yr eitem o becynwaith neu gydran fod yn fwy na 300mm mewn unrhyw ddimensiwn. Os yw’n uwch na’r trothwy hwn, bydd cydran yn cael ei dosbarthu fel COCH oni bai fod un o’r canlynol yn berthnasol:
- Gall y defnyddiwr ddatgymalu neu blygu’r gydran rhy fawr, lle mae’r cydrannau wedi’u torri i lawr neu wedi plygu sy’n deillio o hynny yn bodloni’r trothwy maint a amlinellir. NEU-
- Mae cynlluniau rhoi yn ôl ar gael sy’n bodloni’r meini prawf a amlinellir yn y protocol rhoi yn ôl. Mae cydrannau ac unedau o becynwaith sy’n cael eu casglu drwy gynllun rhoi yn ôl yn gymwys ar gyfer dosbarthiad OREN, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni’r amodau ar gyfer camau dilynol.
Alwminiwm: Ailbrosesu
Mae’r seilwaith ailbrosesu alwminiwm yn y DU wedi’i arfogi’n dda i drin halogyddion y gellir yn rhesymol ddisgwyl iddynt ymddangos mewn eitem o becynwaith, felly os yw eitem o becynwaith neu gydran wedi cyrraedd y cam hwn o’r asesiad, dylai fwrw ymlaen i’r cam defnyddio.
Alwminiwm: Defnyddio
Er ei fod yn dechnegol abl i gael ei ailgylchu, mae eitemau o becynwaith a chydrannau sy’n cynnwys mwy na 30% o gynnwys nad yw’n alwminiwm yn ôl pwysau yn cael ei ddosbarthu fel OREN gan fod hyn yn achosi colli deunydd eilaidd diangen.
Os yw’r eitem o becynwaith neu gydran yn cynnwys llai na 30% o gynnwys nad yw’n alwminiwm yn ôl pwysau, caiff ei ddosbarthu fel GWYRDD.
Gwydr
Gwydr: Dosbarthiad
Gallai enghreifftiau cyffredin o becynwaith gwydr gynnwys y canlynol:
- Poteli
- Jariau
Gwydr: Casglu
Mae pecynwaith gwydr yn cael eu casglu’n gyffredinol gan 89% o awdurdodau lleol ac felly’n bodloni’r meini prawf casglu’n gyffredinol ar garreg y drws. Fodd bynnag, nid oes yr un o’r amrywiadau gwydr hyn yn cael eu casglu’n gyffredinol ar garreg y drws:
- Gwydr wedi’i adlewyrchu
- Gwydr sy’n gwrthsefyll gwres neu wydr plwm (fel Pyrex)
- Gwydr addurnol
- Gwydr wedi’i ddylunio mewn halogiad (sy’n golygu nad yw’n hawdd i’r defnyddiwr gael gwared â gweddillion y cynnyrch, fel potel farnais ewinedd neu golur)
Gall eitemau o becynwaith a chydrannau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf casglu ar garreg y drws, symud ymlaen drwy’r dull Rhoi yn ôl os oes cynllun dilys ar gael ond wedi’i gapio ar sgôr OREN. Cyfrifoldeb y cynhyrchydd yw profi ei fod yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y Protocol Rhoi yn ôl. Os nad ydych yn sicr eich bod yn bodloni’r meini prawf hyn, cysylltwch â’ch darparwr cynllun Rhoi yn ôl.
Os nad oes yr un o’r uchod yn berthnasol, yna mae’r eitem o becynwaith neu gydran wedi’i dosbarthu fel COCH.
Gwydr: Didoli
Oherwydd natur ailbrosesu gwydr, nid oes unrhyw fanylebau didoli wedi’u diffinio ac felly dylai unrhyw eitem o becynwaith neu gydran sydd wedi cyrraedd y cam hwn o’r asesiad fwrw ymlaen i’w hailbrosesu.
Gwydr: Ailbrosesu
Mae’r seilwaith ailbrosesu gwydr yn y DU wedi’i arfogi’n dda i drin halogyddion y gellir yn rhesymol ddisgwyl iddynt ymddangos mewn eitem o becynwaith, felly os yw eitem o becynwaith neu gydran wedi cyrraedd y cam hwn o’r asesiad, dylai fwrw ymlaen i’r cam defnyddio.
Gwydr: Defnyddio
Er eu bod yn dechnegol abl i gael eu hailgylchu, mae pecynwaith sy’n cynnwys unrhyw beth a restrir isod yn fwy cymhleth i’w hailbrosesu, yn gallu lleihau ansawdd y deunydd ailgylchu a gynhyrchir, neu’n achosi colli deunydd eilaidd diangen, ac felly maen nhw’n cael eu dosbarthu fel OREN.
- Caeadau siglo cerameg
- Label sy’n sownd sy’n gorchuddio mwy na 60% o gyfanswm arwynebedd yr arwyneb
- Atodiadau neu fewnosodion nad ydynt yn wydr nad oes modd eu gwahanu â llaw, ar wahân i labeli sy’n sownd (fel pympiau neu beiriannau cyflenwi)
- Unrhyw liw heblaw lliw clir (callestr), gwyrdd, glas, neu oren (brown). Mae hyn yn berthnasol i’r gwydr ei hun ac nid yw’n berthnasol i unrhyw inciau a ddefnyddir.
Os nad oes yr un o’r uchod yn berthnasol, yna mae’r eitem o becynwaith neu gydran wedi’i dosbarthu fel GWYRDD.
Pren
Pren: Dosbarthiad
Mae gan bren ddefnydd cyfyngedig mewn pecynwaith cartrefi, ond gallai rhai enghreifftiau gynnwys:
- Cydrannau addurnol a newydd
- Hambyrddau bwyd lle mae deunydd arall, fel ffeibr / llewys papur ar gyfer cyswllt â bwyd
- Batonau pren
- Paledi pren
Pren: Casglu
Er mwyn bodloni’r meini prawf casglu’n gyffredinol ar garreg y drws, rhaid i 75% o Awdurdodau Lleol gasglu eitem o becynwaith neu gydran. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw becynwaith pren yn fwy na chyfradd gasglu o 0% ac felly nid yw’n bodloni’r maen prawf hwn, na’r meini prawf ar gyfer y dull Casgliad Cyfyngedig.
Gall mathau o becynwaith pren fwrw ymlaen â’r dull Rhoi yn ôl os oes cynllun dilys ar gael ond eu bod yn cael eu capio ar OREN. Cyfrifoldeb y cynhyrchydd yw profi ei fod yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y Protocol Rhoi yn ôl. Os nad ydych yn sicr eich bod yn bodloni’r meini prawf hyn, cysylltwch â’ch darparwr cynllun Rhoi yn ôl.
Os nad oes yr un o’r uchod yn berthnasol, yna mae’r cydran wedi’i dosbarthu fel COCH.
Pren: Didoli
Gan nad yw pecynwaith pren yn gymwys i’w casglu o’r cartref, nid oes proses wedi’i graddio’n ddigonol wedyn ar gyfer didoli cydrannau pecynwaith pren ac felly mae’r holl bren yn cael ei ddosbarthu fel COCH.
Pren: Ailbrosesu
Er bod pren yn dechnegol yn gallu cael ei ailbrosesu, nid yw’n cael ei ailbrosesu’n ymarferol ar raddfa yn seilwaith ailgylchu pecynwaith cartrefi o ganlyniad i beidio â’i gasglu a / neu ei ddidoli ar raddfa ddigonol. Felly, mae pob pren yn cael ei ddosbarthu fel COCH.
Pren: Defnyddio
Ar hyn o bryd, nid oes disgwyl i unrhyw eitem o becynwaith pren fodloni’r cam hwn o’r asesiad ac felly nid oes meini prawf ar gyfer defnydd priodol wedi’u diffinio ac mae’r holl bren wedi’i ddosbarthu fel COCH.
Arall
Dosbarthiad
Os nad yw cynhyrchydd yn gallu canfod i ba un o’r categorïau deunydd y mae ei becynwaith yn perthyn, neu os nad yw’r pecynwaith yn dod o fewn y categorïau a amlinellir, dylid dosbarthu’r pecynwaith fel ‘Arall’. Gallai enghreifftiau o ddeunyddiau eraill gynnwys:
- Corc
- Tâp
Os yw’r categori’n hysbys ond nad yw’r manylebau technegol sy’n ofynnol ar gyfer yr asesiad hwn yn hysbys, dylid categoreiddio’r pecynwaith fel COCH o dan y prif ddeunydd yn ôl pwysau.
Casglu
Er mwyn bodloni’r meini prawf casglu’n gyffredinol ar garreg y drws, rhaid i 75% o Awdurdodau Lleol gasglu eitem o becynwaith neu gydran. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw becynwaith a ddosberthir fel ‘arall’ yn fwy na chyfradd gasglu o 0% ac felly nid yw’n bodloni’r maen prawf hwn, na’r meini prawf ar gyfer y dull Casgliad Cyfyngedig.
Gall mathau o becynwaith ‘arall’ fwrw ymlaen â’r dull Rhoi yn ôl os oes cynllun dilys ar gael ond eu bod yn cael eu capio ar OREN. Cyfrifoldeb y cynhyrchydd yw profi ei fod yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y Protocol Rhoi yn ôl. Os nad ydych yn sicr eich bod yn bodloni’r meini prawf hyn, cysylltwch â’ch darparwr cynllun Rhoi yn ôl.
Os nad oes yr un o’r uchod yn berthnasol, yna mae’r cydran wedi’i dosbarthu fel COCH.
Didoli
Gan nad yw pecynwaith pren ‘arall’ yn gymwys i’w casglu o’r cartref, nid oes proses wedi’i graddio’n ddigonol wedyn ar gyfer didoli cydrannau pecynwaith ‘arall’ ac felly mae pob deunydd ‘arall’ yn cael ei ddosbarthu fel COCH.
Ailbrosesu
Er bod pecynwaith ‘arall’ yn dechnegol yn gallu cael ei ailbrosesu, nid yw’n cael ei ailbrosesu’n ymarferol ar raddfa yn seilwaith ailgylchu pecynwaith cartrefi o ganlyniad i beidio â’i gasglu a / neu ei ddidoli ar raddfa ddigonol. Felly, mae pob deunydd ‘arall’ yn cael ei ddosbarthu fel COCH.
Defnyddio
Ar hyn o bryd, nid oes disgwyl i unrhyw eitem o becynwaith ‘arall’ fodloni’r cam hwn o’r asesiad ailgylchadwyedd ac felly nid oes meini prawf ar gyfer defnydd priodol wedi’u diffinio ac mae pob deunydd ‘arall’ wedi’i ddosbarthu fel COCH.
Rhan 4: Coeden Benderfyniadau
Protocol Rhoi yn ôl
Mae’r protocol hwn yn cyd-fynd â Phrotocol Rhoi yn ôl OPRL i sicrhau cysondeb â safonau ac arferion labelu presennol y diwydiant.
Hygyrchedd: Rhaid i bwyntiau casglu fod ar gael i o leiaf 75% o’r boblogaeth. Rhaid profi hyn drwy fethodoleg gadarn sy’n ystyried pellter teithio a’r amrywiaeth o opsiynau trafnidiaeth sydd ar gael, er enghraifft ‘amser gyrru’ i’r pwynt casglu. Hefyd, rhaid i bwyntiau casglu gael arwyddion clir a chynnwys pobl ag anableddau. Dylent fod ar gael drwy gydol oriau busnes arferol ac o fewn radiws o hyd at 5 milltir i 75% neu fwy o boblogaeth y DU.
Er mwyn osgoi cyfrif poblogaethau mewn ardaloedd daearyddol sy’n gorgyffwrdd, mae’n bwysig gweithredu dull dad-ddyblygu ar gyfer y dalgylchoedd o amgylch pob pwynt casglu. Os yw ardal ddaearyddol yn dod o fewn dalgylchoedd amser gyrru mwy nag un man casglu, dylid dewis y man casglu a ddefnyddir amlaf i atal y boblogaeth rhag gorgyffwrdd.
Dim gwrthdaro â chasgliadau ar garreg y drws: Ni ddylai cynlluniau casglu fynd ati i gystadlu â chasgliadau ar garreg y drws nac annog defnyddwyr i ddefnyddio eu system nhw yn lle casgliadau ar garreg y drws.
Dim cyfyngiadau brand: Rhaid i gynlluniau dderbyn pecynwaith gan frandiau eraill sydd â fformat tebyg.
Dim angen prawf o brynu eitem: Ni ellir mynnu bod cwsmeriaid yn cyflwyno prawf eu bod wedi prynu eitem i ddefnyddio’r gwasanaeth.
Y gallu i olrhain: Rhaid i’r cynllun gynnig marchnad derfynol wedi’i diffinio ar gyfer y deunydd a ailbrosesir a rhaid dangos tystiolaeth ar gais sy’n cadarnhau sawl tunnell o ddeunydd a ailbroseswyd. Rhaid cynnwys deunyddiau sy’n halogi yn y cais hwn am ddata hefyd.
Diolch i’r cyfranwyr
Mae’r prosiect wedi ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid gydag amrywiaeth eang o gynrychiolwyr o’r diwydiant, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Yr wybodaeth werthfawr y mae diwydiant wedi’i rhoi sydd wedi galluogi’r broses RAM hon ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â hynny.
- The Packaging Federation Food and Drink Federation
- British Retail Consortium
- WRAP
- Alupro
- Metal Packaging Manufactures Association
- BAMA
- OPRL
- Cydffederasiwn y Diwydiannau Papur (CPI)
- ACE UK
- BPIF - argraffu a labelu
- Colpac
- BPIF - cartonau
- BCF (inciau, araenau a thoddyddion)
- Ffederasiwn Plastigau Prydain (BPF)
- Berry Group (BPI)
- Foodservice Packaging Association
- Recoup
- British Glass
- INCPEN
- Ecosurety
- Sonoco
- Valpak
- Biffa
- Veolia
- Suez
- Cymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol
- The Packaging Scheme Forum (PSF)
- 4evergreen