Canllawiau

Cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr dros becynwaith: pwy sydd dan sylw a beth i’w wneud

Sut y dylai sefydliadau yn y Deyrnas Unedig sy'n cyflenwi neu’n mewnforio pecynwaith gydymffurfio â chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith.

Mae’r ffordd y mae sefydliadau yn y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am becynwaith yn gorfod cyflawni eu cyfrifoldebau ailgylchu wedi newid.

Os yw cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith yn effeithio arnoch chi, bydd angen ichi roi gwybod am eich data pecynwaith.

Gwiriwch a oes angen ichi weithredu

Bydd y rheoliadau’n gymwys i bob sefydliad yn y Deyrnas Unedig sy’n mewnforio neu’n cyflenwi pecynwaith.

Mae angen ichi gasglu a rhoi gwybod am ddata pecynwaith os yw’r canlynol i gyd yn gymwys:

  • eich bod yn fusnes unigol, is-gwmni neu grŵp (ond nid elusen)
  • bod gennych drosiant blynyddol o £1 miliwn neu fwy (ar sail eich cyfrifon blynyddol diweddaraf)
  • eich bod yn gyfrifol am fwy na 25 tunnell o becynwaith yn 2022
  • eich bod yn cyflawni unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau pecynnu

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i wirio a oes angen ichi roi gwybod am ddata pecynwaith.

Gweithgareddau pecynnu

Gall fod angen ichi weithredu os ydych chi’n gwneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol:

  • cyflenwi nwyddau wedi’u pecynnu i farchnad y Deyrnas Unedig o dan eich brand eich hun
  • gosod nwyddau mewn pecynwaith sydd heb ei frandio pan fo’n cael ei gyflenwi
  • mewnforio cynhyrchion mewn pecynwaith
  • bod yn berchen ar farchnad ar-lein
  • llogi neu fenthyg pecynwaith ailddefnyddiadwy
  • cyflenwi pecynwaith gwag

Mae angen i rai sefydliadau sy’n cyflenwi nwyddau wedi’u pecynnu i farchnad y Deyrnas Unedig roi gwybod am ‘ddata cenedl’. Gallwch weld mwy am hyn yn yr adran ‘Gwiriwch a oes angen ichi roi gwybod am ddata cenedl’.

Cyflenwi nwyddau i farchnad y Deyrnas Unedig o dan eich brand eich hun

Gall fod angen i chi weithredu os oes nwyddau wedi’u pecynnu sydd wedi’u labelu â’ch brand eich hun yn cael eu cyflenwi i farchnad y Deyrnas Unedig. Mae brand yn cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol:

  • enw
  • nod masnach
  • unrhyw farc nodedig

Er enghraifft, mae cwmni melysion yn cynhyrchu ac yn pecynnu melysion o dan eu brand eu hunain. Mae’n gwerthu’r losin hyn i archfarchnad. Mae’r archfarchnad yn mynd ymlaen i werthu’r losin i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig. Yn yr achos hwn, gall fod angen i’r cwmni melysion weithredu.

Er hynny, fyddai dim angen i’r cwmni melysion weithredu pe bai’n cynhyrchu ac yn pecynnu losin o dan frand yr archfarchnad, a bod yr archfarchnad yn gwerthu’r rheiny wedyn. Yn yr achos hwn, gall fod angen i’r archfarchnad weithredu.

Gall fod angen ichi weithredu hefyd os ydych yn talu neu’n trwyddedu cwmni arall i wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol i chi:

  • cynhyrchu nwyddau fydd yn cael eu gwerthu o dan eich enw brand chi
  • pecynnu nwyddau fydd yn cael eu gwerthu o dan eich enw brand chi
  • gosod eich nwyddau brand ar farchnad y Deyrnas Unedig
  • mewnforio nwyddau ichi

Gosod nwyddau mewn pecynwaith sydd heb ei frandio pan fo’n cael ei gyflenwi

Os ydych chi’n gosod nwyddau mewn pecynwaith a bod y pecynwaith hwnnw heb ei frandio pan fo’n cael ei gyflenwi, gall fod angen ichi weithredu. Gallai hyn fod yn nwyddau y byddwch chi wedi’u pecynnu ar gyfer eich sefydliad chi’ch hun neu ar gyfer sefydliad arall.

Mewnforio cynhyrchion mewn pecynwaith

Gall fod angen ichi weithredu os yw’ch sefydliad yn mewnforio cynhyrchion o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig sydd mewn pecynwaith a’ch bod chi’n mynd ymlaen i gyflenwi’r cynhyrchion hyn i farchnad y Deyrnas Unedig.

Gall fod angen ichi weithredu hyd yn oed os ydych chi’n taflu’r pecynwaith cyn gwerthu’r nwyddau.

Does dim angen ichi weithredu os ydych yn mewnforio pecynnau wedi’u llenwi:

  • sydd wedi’u brandio, a’ch bod chi wedi’u mewnforio ar ran perchennog brand sydd wedi’i sefydlu yn y Deyrnas Unedig
  • sydd heb eu brandio, a’ch bod chi’n mynd ymlaen i’w cyflenwi i sefydliad ‘mawr’ sy’n gosod ei frand ei hunan arnyn nhw cyn eu cyflenwi ymlaen

Mae’r adran ‘Gwiriwch a ydych chi’n sefydliad mawr neu fach’ yn esbonio pa sefydliadau sy’n cael eu hystyried yn ‘fawr’.

Bod yn berchen ar farchnad ar-lein

O dan yr EPR dros becynwaith, bernir eich bod yn cyflawni’r gweithgaredd ‘bod yn berchen ar farchnad ar-lein’ os ydych yn gweithredu gwefan neu ap sy’n caniatáu i fusnesau y tu allan i’r Deyrnas Unedig werthu eu nwyddau i’r Deyrnas Unedig. Os ydych yn berchen ar farchnad ar-lein, gall fod angen ichi weithredu.

Os yw’ch sefydliad yn berchen ar wefan neu ap sy’n gwerthu nwyddau sy’n dod o sefydliadau yn y Deyrnas Unedig yn unig, nid yw hyn yn cael ei gyfrif fel cyflawni’r gweithgaredd ‘bod yn berchen ar farchnad ar-lein’. Er hynny, dylech wirio a ydych yn cyflawni unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau pecynnu eraill.

Llogi neu fenthyg pecynwaith ailddefnyddiadwy

Os ydych yn llogi neu’n rhoi benthyg pecynwaith y gellir eu hailddefnyddio, gall fod angen ichi weithredu.

Er enghraifft, mae rhai sefydliadau yn llogi neu’n rhoi benthyg paledi pren i sefydliadau eraill ar gyfer cludo nwyddau. Mae’r paledi pren yn cael eu dychwelyd ar ôl eu defnyddio a’u rhoi ar fenthyg eto.

Cyflenwi pecynwaith gwag

Gall fod angen ichi weithredu os ydych yn cynhyrchu neu’n mewnforio pecynwaith gwag ac yna’n cyflenwi hwnnw i fusnes nad yw’n cael ei ystyried yn sefydliad mawr.

Gallwch weld beth yw’r meini prawf ar gyfer sefydliad mawr yn yr adran ‘Gwiriwch a ydych chi’n sefydliad mawr neu fach’.

Diffiniad pecynwaith

Pecynwaith yw unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ddefnyddio i orchuddio neu amddiffyn nwyddau sy’n cael eu gwerthu i ddefnyddwyr. Mae’n gwneud trin a danfon nwyddau yn haws ac yn fwy diogel. Mae hefyd yn cynnwys unrhyw beth sydd wedi’i gynllunio i gael ei lenwi wrth y pwynt gwerthu, fel cwpan coffi.

Mae pecynwaith hefyd yn gwneud i nwyddau edrych yn apelgar i’w gwerthu a gall ddangos logo neu frand cwmni. Gallai ‘nwyddau’ gynnwys deunyddiau crai neu eitemau wedi’u gweithgynhyrchu.

Yr hyn y gall fod angen ichi ei wneud

Gall fod angen ichi:

  • casglu a rhoi gwybod am ddata ar y pecynwaith rydych chi’n ei gyflenwi neu’n ei fewnforio
  • talu ffi rheoli gwastraff
  • talu costau gweinyddwr y cynllun
  • talu tâl i’r rheoleiddiwr amgylcheddol
  • sicrhau nodiadau ailgylchu gwastraff pecynwaith (PRNs) neu nodiadau ailgylchu allforio pecynwaith gwastraff (PERNs) i gyflawni’ch rhwymedigaethau ailgylchu
  • rhoi gwybodaeth am ba genedl yn y Deyrnas Unedig y mae’r pecynwaith yn cael ei gyflenwi ynddi a pha genedl yn y Deyrnas Unedig y mae’n cael ei waredu ynddi – yr enw ar hyn yw ‘data cenedl’

Mae’r hyn y mae angen ichi ei wneud yn dibynnu a ydych chi’n cael eich ystyried yn sefydliad ‘bach’ ynteu ‘mawr’. Mae hyn yn cael ei seilio ar y canlynol:

  • eich trosiant blynyddol
  • faint o becynwaith rydych chi’n ei gyflenwi neu’n ei fewnforio bob blwyddyn

Gwiriwch a ydych chi’n sefydliad mawr neu fach

Rydych chi’n cael eich ystyried yn sefydliad bach os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn gymwys:

  • bod eich trosiant blynyddol rhwng £1 miliwn a £2 filiwn a’ch bod yn gyfrifol am gyflenwi neu fewnforio mwy na 25 tunnell o becynwaith gwag neu nwyddau wedi’u pecynnu yn y Deyrnas Unedig
  • bod eich trosiant blynyddol dros £1 miliwn a’ch bod yn gyfrifol am gyflenwi neu fewnforio rhwng 25 tunnell a 50 tunnell o becynwaith gwag neu nwyddau wedi’u pecynnu yn y Deyrnas Unedig

Byddwch yn cael eich ystyried yn sefydliad mawr os yw’r ddau amod a ganlyn yn gymwys:

  • bod gennych chi drosiant blynyddol o £2 filiwn neu fwy
  • eich bod yn gyfrifol am gyflenwi neu fewnforio mwy na 50 tunnell o becynwaith gwag neu nwyddau wedi’u pecynnu yn y Deyrnas Unedig

Dylech seilio’ch trosiant blynyddol ar eich cyfrifon blynyddol diweddaraf.

Eich cyfanswm pwysau yw cyfanswm y pecynwaith mewn blwyddyn galendr (Ionawr i Ragfyr) rydych chi:

  • wedi’i gyflenwi drwy farchnad y Deyrnas Unedig
  • wedi’i fewnforio, wedi’i wagio ac wedyn wedi’i waredu yn y Deyrnas Unedig

Os ydych chi’n sefydliad bach

I gydymffurfio â’r rheoliadau, mae’n rhaid ichi:

  • cofnodi data am yr holl becynwaith gwag a’r nwyddau wedi’u pecynnu rydych chi’n eu cyflenwi neu’n eu mewnforio yn y Deyrnas Unedig o naill ai 1 Ionawr 2023 ymlaen neu 1 Mawrth 2023 ymlaen (i gael rhagor o wybodaeth am hyn gweler yr adran ‘pryd i gasglu a rhoi gwybod am eich data ar gyfer 2023’)
  • creu cyfrif i’ch sefydliad o fis Ionawr 2024 ymlaen

  • talu tâl i’r rheoleiddiwr amgylcheddol o 2024 ymlaen
  • rhoi data am becynwaith gwag a nwyddau wedi’u pecynnu y gwnaethoch eu cyflenwi neu eu mewnforio

Bydd angen ichi roi gwybod am eich data rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ebrill 2024

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, gall fod angen ichi dalu tâl cosb.

Gall fod angen ichi hefyd roi gwybod am ddata cenedl

Os ydych chi’n sefydliad mawr

I gydymffurfio â’r rheoliadau, gall fod angen ichi:

  • cofnodi data am y pecynwaith gwag a’r nwyddau wedi’u pecynnu rydych chi’n eu cyflenwi neu’n eu mewnforio yn y Deyrnas Unedig o naill ai 1 Ionawr 2023 ymlaen neu 1 Mawrth 2023 ymlaen (i gael rhagor o wybodaeth am hyn gweler yr adran ‘pryd i gasglu a rhoi gwybod am eich data ar gyfer 2023’)
  • creu cyfrif i’ch sefydliad o fis Gorffennaf 2023 ymlaen
  • talu ffi rheoli gwastraff
  • talu costau gweinyddydd y cynllun
  • talu tâl i’r rheoleiddiwr amgylcheddol
  • sicrhau PRNs neu PERNs i gyflawni’ch rhwymedigaethau ailgylchu
  • rhoi gwybod am ddata am becynwaith gwag a nwyddau wedi’u pecynnu y gwnaethoch eu cyflenwi neu eu mewnforio

Yn 2024, bydd eich ffi rheoli gwastraff yn cael ei chyfrifo ar sail y pecynwaith rydych chi wedi’i nodi fel ‘pecynwaith cartref’. Dysgwch fwy am beth sy’n cael ei ddosbarthu fel pecynwaith cartref.

Bydd angen ichi roi gwybod am ddata bob 6 mis.

Ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr a Mehefin 2023, rhowch wybod am ddata rhwng 1 Gorffennaf 2023 a 1 Hydref 2023.

Ar gyfer y cyfnod Gorffennaf i Ragfyr 2023, rhowch wybod am ddata rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ebrill 2024.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, gall fod angen ichi dalu tâl cosb.

Gall fod angen ichi hefyd roi gwybod am ddata cenedl

Pryd i gasglu a rhoi gwybod am eich data ar gyfer 2023

Os ydych wedi cofnodi’r holl ddata gofynnol o 1 Ionawr 2023, dylech roi gwybod am y data hwn.

Os nad yw’r holl ddata gofynnol wedi’i gofnodi gennych o 1 Ionawr ymlaen, rhaid i chi rhoi gwybod am eich holl ddata o 1 Mawrth 2023 ymlaen. Os byddwch yn rhoi gwybod am ddata sy’n cwmpasu cyfnod sy’n dechrau o 1 Mawrth, caiff hwn ei ddefnyddio i gyfrifo gwerth blwyddyn lawn o ddata.

Dylai sefydliadau mawr yng Nghymru gydymffurfio â’r amserlen hon os oes ganddyn nhw’r data gofynnol. Os nad oes ganddyn nhw’r data gofynnol, dylen nhw ddechrau casglu data o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym yng Nghymru yng nghanol 2023, a’i gyflwyno rhwng 1 Ionawr 2024 ac 1 Ebrill 2024.

Dylai sefydliadau bach yng Nghymru gydymffurfio â’r amserlen hon os oes ganddyn nhw’r data gofynnol. Os nad oes ganddyn nhw’r data gofynnol, dylen nhw ddechrau casglu data o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym yng Nghymru o ganol 2023, a’i gyflwyno rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ebrill 2024.

PRNs a PERNs

Mae PRN (nodyn ailgylchu gwastraff pecynwaith) neu PERN (nodyn ailgylchu allforio gwastraff pecynwaith) yn dystiolaeth bod gwastraff pecynwaith wedi’i ailgylchu.

Gallwch gael PRN gan ailbroseswyr achrededig. Mae ailbroseswyr yn gyfrifol am ailgylchu gwastraff pecynwaith. Gallwch hefyd gael PERNs gan allforwyr achrededig.

Trwy sicrhau PRNs a PERNs, rydych chi’n gweithio tuag at fodloni’ch rhwymedigaethau ailgylchu.

Os ydych chi’n rhiant gwmni, grŵp neu is-gwmni

Ar gyfer rhiant-gwmnïau a’u his-gwmnïau, mae yna wahanol ffyrdd y gallwch gydymffurfio â’r EPR dros becynwaith. Gallwch gofrestru:

  • fel grŵp cyfan (os felly, mae’r rhiant grŵp yn cydymffurfio â’r EPR dros becynwaith ar ran pob is-gwmni o fewn y grŵp)
  • fel is-gwmnïau unigol (os felly, mae’r is-gwmnïau sy’n bodloni’r gofynion ynglŷn â throsiant a thunelledd yn cydymffurfio â’r EPR dros becynwaith yn annibynnol)
  • fel rhiant-gwmni ar gyfer rhan o’r grŵp (dyma lle mae’r rhiant-gwmni yn cofrestru i gydymffurfio â’r EPR dros becynwaith ar ran rhai, ond nid pob un o’i is-gwmnïau)

Dylech gofrestru fel rhiant-gwmni ar gyfer rhan o’r grŵp os nad yw rhai o’ch is-gwmnïau yn bodloni’r gofynion ynglŷn â throsiant a thunelledd yn eu hawl eu hunain, ond eu bod yn bodloni’r gofynion o’u cyfuno. Os felly, bydd y rhiant-gwmni yn cydymffurfio â’r EPR dros becynwaith ar ran yr is-gwmnïau cyfun.

Gwiriwch a oes angen ichi roi gwybod am ddata cenedl

Mae data cenedl yn wybodaeth am ba wlad yn y Deyrnas Unedig mae’r pecynwaith yn cael ei gyflenwi ynddi ac ym mha wlad yn y Deyrnas Unedig y caiff y pecynwaith ei waredu.

Os oes rhaid i’ch sefydliad weithredu o dan yr EPR dros becynwaith, rhaid ichi gyflwyno data cenedl os ydych chi hefyd yn gwneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol:

  • cyflenwi pecynwaith wedi’i lenwi neu becynwaith wag yn uniongyrchol i gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig, a nhw yw defnyddiwr terfynol y pecyn
  • cyflenwi pecynwaith gwag i sefydliadau yn y Deyrnas Unedig sydd naill ai heb rwymedigaeth gyfreithiol, neu sy’n cael eu dosbarthu fel sefydliad bach
  • llogi neu fenthyg pecynwaith ailddefnyddiadwy
  • yn berchen ar farchnad ar-lein lle mae sefydliadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn gwerthu eu pecynwaith a’u nwyddau wedi’u pecynnu i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig
  • mewnforio nwyddau wedi’u pecynnu i’r Deyrnas Unedig at eich defnydd eich hun a gwaredu’r pecynwaith

Bydd angen ichi gyflwyno’ch data cenedl ar gyfer blwyddyn galendr 2023 erbyn 1 Rhagfyr 2024.

Dylai data cenedl ddangos ble yn y Deyrnas Unedig rydych chi wedi cyflenwi pecynwaith i berson neu fusnes sydd wedi mynd ymlaen i’w waredu.

Mae cyflenwi pecynwaith yn cynnwys:

  • gwerthu
  • llogi
  • rhoi benthyg
  • rhoi fel rhodd

Mae hyn hefyd yn cynnwys pecynwaith rydych chi wedi’i fewnforio, wedi’i wagio ac yna wedi’i waredu.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, gall fod angen ichi dalu tâl cosb.

Casglu a rhoi gwybod am eich data pecynwaith

Rhaid i’r data rydych chi’n ei gyflwyno gynnwys yr wybodaeth am y canlynol:

  • y gweithgaredd pecynnu - dyma sut y gwnaethoch gyflenwi’r pecyn
  • y math o becynwaith - er enghraifft, os yw’r pecynwaith ar gyfer y cartref neu beidio
  • dosbarth y pecynwaith - p’un a yw’r pecynwaith yn sylfaenol, yn eilaidd, yn ddeunydd cludo neu’n drydyddol
  • deunydd a phwysau’r pecynwaith

Rhagor am sut i gasglu’ch data pecynwaith.

Gwybodaeth am ffioedd

Cyn gynted ag y gallwn, byddwn yn rhoi syniad ichi o beth fydd y ffioedd am ddeunyddiau yn 2024. Bydd y rhain yn amrywio gan ddibynnu ar y deunyddiau y byddwch yn rhoi gwybod amdanyn nhw.

O 2025 ymlaen bydd y ffi rheoli gwastraff hefyd yn amrywio gan ddibynnu ar ba mor hawdd yw hi i ailgylchu’r pecynwaith. Bydd eich ffi yn is os byddwch yn defnyddio pecynwaith sy’n haws i’w ailgylchu.

Cael cymorth gan drydydd parti (cynllun cydymffurfio)

Mae cynlluniau cydymffurfio yn drydydd partïon sy’n helpu sefydliadau i fodloni gofynion yr EPR dros becynwaith.

Gall cynlluniau cydymffurfio:

  • talu’ch ffioedd cofrestru
  • sicrhau PRNs neu PERNs i ateb eich rhwymedigaethau ailgylchu
  • rhoi gwybod am eich data pecynwaith

Chaiff cynllun cydymffurfio ddim talu’ch ffi rheoli gwastraff.

Os byddwch yn dewis gweithio gyda chynllun cydymffurfio, dylech sicrhau eu bod yn ymddangos ar gofrestr gyhoeddus cynlluniau cydymffurfio.

Cael cymorth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm pecynwaith.

Ebost: pEPR@defra.gov.uk

Cyhoeddwyd ar 7 June 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 April 2024 + show all updates
  1. This small update fixes the collection period and reporting deadlines for nation data - the first report of nation data will be for the 2024 calendar year and must be submitted by 1 December 2025

  2. This change explains that the list of large producers on RPD will be published once the data is ready.

  3. New reporting regulations come into force on 1 April. This guidance has been updated to with some small changes of wording to align with these regulations, and a link to guidance that gives more detail on the changes.

  4. Changed detail about small producers under ‘What you may need to do’, specifying more clearly that they should collect data but don’t yet have to report.

  5. Clarification in the deadlines section that small organisations are only obligated to collect the data, not report it, and giving early warning that they'll have to collect and report in 2024. Signposting the specific period obligated to report in Wales from July to December, but that data for January to June 2023 can also be reported in April 2024. Changing 'they' to 'you' when appropriate for style. Fixed typo in the contact email link.

  6. We've added a link so that you can give feedback about this guidance.

  7. An update to match regulations: where packaging is decribed as 'imported, emptied and then discarded', that's been changed to 'imported and discarded' throughout.

  8. This update adds a recent decision by the English and Scottish regulators: they will take no enforcement action as long as organisations submit packaging data by 31 May 2024.

  9. The report packaging data service is now live. This update adds a link to that service.

  10. There's been a decision to defer extended producer responsibility for packaging fees for one year. This update reflects that, and also explains that other timescales have not changed - producers still have to report packaging data for 2023.

  11. The service for reporting data is now scheduled to go live in August 2023. This update reflects that.

  12. Added Welsh translation

  13. We’ve changed the title of the guidance as the regulations are now in force. We’ve made minor changes to the style, order, and some terminology to make the guidance clearer and to reflect the fact that the regulations are now in force. We’ve also updated the following sections, to make them clearer: Packaging activities; What you may need to do; PRNs and PERNs; Check if you need to report nation data; Collecting and reporting your packaging data; Information about fees. We’ve added a new section titled ‘When to collect and report your data for 2023’.

  14. We've added a link to the compliance scheme public register.

  15. We've added a link to a service that helps you to check if you need to report packaging data.

  16. We’ve made minor changes throughout the guidance to make it clearer. The second packaging activity has been updated to say: ‘pack or fill packaging that’s unbranded when it’s sold’. We’ve made it clear that you will not need to take action if you import packaged goods on behalf of another organisation. In this case, the organisation who you import the goods for will need to take action. Small organisations must create an account and register from January 2024. Large organisations must create an account and register from July 2023. We’ve removed text about ‘collecting and submitting your packaging data’ and added a link to new guidance on how to collect your packaging data.

  17. Added translation

  18. There are minor format and style changes throughout to make the guidance clearer and easier for people to use. We’ve added a packaging definition, information about PRNs and PERNs, street bin waste, and compliance schemes. We’ve updated the packaging activities section and the information about nation data. We’ve also updated the packaging categories, the household and non-household waste section, the ‘get help’ email address. We’ve clarified that the regulations apply to packaging that’s supplied to consumers and businesses. We’ve also clarified how to submit information about reusable packaging and how parent companies, groups and subsidiaries can comply with the regulations.

  19. First published.