Canllawiau

Data pecynwaith: sut i greu’ch ffeil ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr

Sut i strwythuro’ch cyflwyniad data pecynwaith. Mae'n cynnwys gwybodaeth am y gwahanol fathau o ddata y mae angen eu cyflwyno a'r codau y mae angen eu defnyddio.

Dogfennau

Manylion

Os ydych chi’n sefydliad sy’n cyflenwi pecynwaith i ddefnyddwyr a busnesau yn y Deyrnas Unedig, gall fod rhaid ichi gymryd camau i gydymffurfio â chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith.

Gall fod angen ichi gasglu a chyflwyno data am becynwaith rydych chi wedi’i gyflenwi trwy farchnad y Deyrnas Unedig, neu unrhyw becynwaith llawn rydych chi wedi’i fewnforio, wedi’i wagio ac wedi’i waredu yn y Deyrnas Unedig.

Darganfyddwch a oes angen ichi gasglu a rhoi gwybod am eich data pecynwaith.

Efallai y bydd rhaid hefyd ichi roi gwybod am ddata am ba wlad yn y Deyrnas Unedig mae’r pecynwaith yn cael ei gyflenwi ynddi ac ym mha wlad yn y Deyrnas Unedig y caiff y pecynwaith ei waredu. Yr enw ar hyn yw data cenedl.

Gwiriwch a oes angen ichi gyflwyno data cenedl.

Bydd canllawiau ar sut i gyflwyno data cenedl yn cael eu cyhoeddi ar wahân.

Pryd mae angen ichi weithredu

Ar gyfer sefydliadau yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban – os oes rhaid ichi weithredu, rhaid ichi ddechrau casglu’r data pecynwaith cywir o 1 Mawrth 2023 ymlaen.

Ar gyfer sefydliadau yng Nghymru – bydd opsiwn ychwanegol o ddechrau casglu data o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym yng Nghymru yng nghanol 2023.

Darganfyddwch sut i gasglu’ch data pecynwaith ar gyfer yr EPR

Mae angen i sefydliadau mawr gyflwyno data bob chwe mis. Mae sefydliadau bach yn cyflwyno data unwaith y flwyddyn.

Darganfyddwch a ydych chi’n sefydliad bach neu fawr ar gyfer yr EPR dros becynwaith.

Sefydliadau mawr: dyddiadau cyflwyno

Os ydych chi’n sefydliad mawr o dan yr EPR dros becynwaith, bydd angen ichi gyflwyno’ch data pecynwaith rhwng 1 Gorffennaf 2023 a 1 Hydref 2023.

Rhaid i hyn gynnwys y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2023 a 30 Mehefin 2023. Os oes gennych y data gofynnol ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr 2023 i 28 Chwefror 2023, dylech gynnwys hwnnw hefyd yn y cyflwyniad hwn.

Ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2023 a 31 Rhagfyr 2023, bydd angen ichi gyflwyno’ch data rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ebrill 2024.

Dylai sefydliadau mawr yng Nghymru gydymffurfio â’r amserlen hon os oes ganddyn nhw’r data gofynnol. Os nad oes ganddyn nhw’r data gofynnol, dylent ddechrau casglu data o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym yng Nghymru yng nghanol 2023 a’i gyflwyno rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ebrill 2024.

Sefydliadau bach: dyddiadau cyflwyno

Os ydych chi’n sefydliad bach o dan yr EPR dros becynwaith, bydd angen ichi gyflwyno’ch data rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ebrill 2024.

Rhaid i hyn gynnwys y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2023 a 31 Rhagfyr 2023. Os oes gennych y data gofynnol ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr 2023 i 28 Chwefror 2023, dylech gynnwys hwnnw hefyd yn y cyflwyniad hwn.

Dylai sefydliadau bach yng Nghymru gydymffurfio â’r amserlen hon os oes ganddyn nhw’r data gofynnol. Os nad oes ganddyn nhw’r data gofynnol, dylent ddechrau casglu data o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym yng Nghymru a’i gyflwyno rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ebrill 2024.

Beth sydd dan sylw yn y canllaw hwn

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer:

  • sefydliadau sydd angen casglu a chyflwyno data am becynwaith y maen nhw wedi’i gyflenwi neu wedi’i fewnforio drwy farchnad y Deyrnas Unedig
  • cynlluniau cydymffurfio sy’n rhoi gwybod am ddata pecynwaith ar ran eu haelod-sefydliadau

Maen nhw’n esbonio:

  • y gwahanol fathau o ddata y bydd angen ichi eu cyflwyno am becynwaith rydych chi wedi’i gyflenwi
  • sut i strwythuro’ch ffeil cyflwyno data
  • y codau y dylech eu defnyddio yn eich ffeil data

Cael cymorth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch neges ebost at y tîm pecynwaith yn pEPR@defra.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 17 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 February 2024 + show all updates
  1. Updated tables 1 and 8a-8i with column headers that will be mandatory in packaging submission files from 13 February 2024.

  2. In the HTML document: changed detail about small producers, who should collect data but don’t yet have to report. Added details about the last reporting period for 2023 in tables 1 and 8a-i of the HTML page: July to December 2023 (2023-P3).

  3. Clarification in the deadlines section (both in the guidance page and in the HTML page) that small organisations are only obligated to collect the data, not report it, and that in Wales the only period obligated to report is July to December, but data for January to June 2023 can also be reported in April 2024.

  4. We've added a link so that you can give feedback about this guidance.

  5. An update to match regulations: where packaging is decribed as 'imported, emptied and then discarded', that's been changed to 'imported and discarded' throughout.

  6. This update adds a recent decision by the English and Scottish regulators: they will take no enforcement action as long as organisations submit packaging data by 31 May 2024.

  7. This update adds links to the 'report packaging data' service, which is now live and the 'generate a packaging data file' tool, which can help you buiild a well-formed file.

  8. This update adds 'time period for submission' to tables 8a-i. It corrects a typo in the 'time period for submission' codes. It corrects some dates throughout the guidance to reflect service launch timings. It also adds a link to the packaging data example file, which has just been published.

  9. Added Welsh translation

  10. In the HTML attachment, 'Table 1: Packaging data file structure' has been updated. This is because the data file now has to include a column showing the period that the submission covers.

  11. We have removed the packaging class O3 (Organisation waste - transferred) from the data file specification, as this field is not required.

  12. First published.