Canllawiau

Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi – Canllawiau i Awdurdodau Lleol a Byrddau Tref

Cyhoeddwyd 18 December 2023

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Rhagair gan y Prif Weinidog

Ym mis Medi, lansiwyd ein Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi Prydain, sy’n rhan greiddiol o raglen ffyniant bro y llywodraeth sydd wedi buddsoddi mwy na £13 biliwn hyd yn hyn er mwyn cefnogi prosiectau mewn lleoedd sydd wedi’u cymryd yn ganiataol ers gormod o amser.

Mae trefi yn lleoedd y mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu galw’n gartref, lle mae’r rhan fwyaf ohonom yn gweithio a lle y tyfodd llawer ohonom i fyny a lle rydym am fagu ein teuluoedd. Ers gormod o amser mae gwleidyddion wedi canolbwyntio ar ddinasoedd ac mae busnesau sydd wedi’u hannog i fuddsoddi rywle arall, mae cymunedau lleol wedi’u herydu ac mae gormod o bobl ifanc wedi dod i’r casgliad mai’r unig ffordd o ddod ymlaen yn y byd  yw gadael eu tref enedigol.

Mewn gormod o leoedd, y canlyniad yw canol trefi adfeiliedig, siopau gwag â’u ffenestri dan goed, sbwriel ym mhobman, ymddygiad gwrthgymdeithasol ofnadwy a phobl sy’n ddig ac yn rhwystredig o ganlyniad i’r esgeulustod. Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Gyda’r cynllun cywir, gallwn adfer ein trefi.

Bydd ein cynllun yn ategu’r gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd a sicrhau bod trefi yn cael y sylw y maent yn ei haeddu. Rydym yn buddsoddi £1.1 biliwn mewn 55 o’n trefi ac yn darparu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt er mwyn helpu i sicrhau dyfodol gwell i’w pobl leol. Byddwn yn gwneud hyn mewn tair ffordd bwysig.

Yn gyntaf, rydym yn rhoi trefi yn ôl yn nwylo pobl leol, er mwyn iddynt allu penderfynu ar flaenoriaethau lleol a beth sydd orau i ddyfodol hirdymor yr ardaloedd lle maent yn byw. Bydd gan bob tref Fwrdd Tref newydd a fydd yn cynnwys arweinwyr cymunedol a chyflogwyr lleol, a fydd yn llunio Cynllun Hirdymor eu tref ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. Caiff y gwaith hwn ei gefnogi gan gyllid “ar ffurf gwaddol” a chymorth gwerth £20 miliwn i’w fuddsoddi dros y degawd nesaf.

Yn ail, nid ydym yn gwastraffu amser. Rydym am i drefi sefydlu eu Byrddau Tref cyn gynted â phosibl. Felly, rydym yn darparu £50,000 eleni, a £200,000 y flwyddyn nesaf - ynghyd â phecyn data penodol sy’n llawn gwybodaeth leol - er mwyn i drefi allu meithrin eu gallu lleol eu hunain, siarad â phobl leol am yr hyn y maent am ei gael o’u tref a bwrw ati i lunio eu Cynlluniau Hirdymor.

Yn drydydd, rydym am sicrhau bod trefi yn lleoedd y mae pobl a busnes am fuddsoddi ynddynt, gan greu swyddi newydd ac adfywio ein strydoedd mawr a chanol ein trefi. A chredwn y bydd y cyllid ‘gwaddol’ a chymorth lleol gwerth £20 miliwn a ddarperir gan y llywodraeth i bob tref yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad preifat yn ogystal â chyfalaf cymunedol.

Felly, dyma ein cynllun i adfer trefi Prydain: rhoi’r cyfrifoldeb yn nwylo pobl leol, cyflymu’r broses newid a denu buddsoddiad newydd. Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r camau nesaf ar gyfer cyflawni’r cynllun hwnnw a’r cymorth rydym yn ei gynnig i chi er mwyn sicrhau bod Cynlluniau Hirdymor yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. At hynny, mae ein pecyn cymorth polisi yn nodi’r amrywiaeth o bwerau sydd ar gael i ardaloedd lleol.

Mae’n bryd i ni ymwrthod â’r syniad na all rhai cymunedau a rhai lleoedd byth wella ac na fyddant byth yn gwella. Gallant – a byddant yn gwneud hynny. Mae ein Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi yn newid y ffordd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio i gefnogi cymunedau lleol yn llwyr – gan eu grymuso i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Ac mae’n nodi cyfeiriad newydd i drefi Prydain: un sy’n iawn i bobl leol ac a fydd yn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r wlad. 

Rhagair gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

Mae ein Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi yn cynnwys camau ymarferol i godi’r gwastad. Cymunedau yn llywio cynnydd er mwyn i drefi allu mynd ymhellach, a hynny’n gyflymach nag erioed o’r blaen. Galluogi cynghorau i fod yn fwy beiddgar, er mwyn iddynt allu dod â bwrlwm a bywyd yn ôl i strydoedd mawr sydd wedi dirywio. Trigolion lleol yn cael eu hannog i fanteisio i’r eithaf ar eu hysbryd ‘gallu gwneud’ er mwyn sicrhau bod ffyniant yn dychwelyd i drefi ledled y wlad.

Mae’r Cynllun Hirdymor yn seiliedig ar randdeiliaid lleol yn gweithredu er budd pobl leol. Pa drefi? Wel, i’r mwyafrif helaeth o bobl Prydain, mae cartref yn dref – yr ardal lle maent yn byw sy’n rhan bwysig o’u hunaniaeth. Ac eto, mae llawer o drefi mewn trafferthion.

Ers argyfwng ariannol 2008, mae’r gyfradd twf swyddi mewn trefi yn cyfateb i ddim ond hanner y gyfradd mewn dinasoedd a chwarter y gyfradd yn Llundain. Pryd bynnag y byddaf yn ymweld ag un o’r nifer mawr o drefi gwych sydd gennym ym Mhrydain, byddaf yn gadael wedi fy ysbrydoli gan frwdfrydedd a balchder y bobl. Ac eto, rwyf hefyd yn rhannu eu dicter a’u rhwystredigaeth oherwydd strydoedd mawr tlawd yr olwg sy’n llawn siopau gwag a’u pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu.

Rydym wedi cymryd camau breision ar ran trefi yn ogystal â dinasoedd, drwy’r Gronfa Ffyniant Bro sydd eisoes wedi rhoi £4.8 biliwn i gefnogi gwaith adfywio. Mae’r Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi yn rhywbeth cwbl wahanol: ffordd o wleidydda’n lleol sy’n defnyddio ein profiad â Chronfeydd blaenorol ac sy’n parchu adborth lleol er mwyn mabwysiadu dull gwahanol o weithredu – un sy’n nodi popeth y mae cynghorau a chymunedau eisoes yn ei wneud dros eu hardal ac yn gwneud y defnydd gorau ohono.

Mae’n golygu y caiff Byrddau Trefi, sef y cyrff gwneud penderfyniadau newydd, eu rhedeg gan bobl leol dros bobl leol: gan ddod â thrigolion, busnesau ac arweinwyr cymunedol at ei gilydd i greu gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol a chytuno arni.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda Byrddau Trefi fel partneriaid yn y wleidyddiaeth hon ar ei newydd wedd. Ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at weld y mentrau entrepreneuraidd, creadigol a blaengar a fydd yn deillio o’r cyllid. A gwn fod pob un ohonom am weld y gwahaniaeth mewn bywyd a chanlyniadau wrth i ni ddechrau cyfnod newydd o adfywio, ysbrydoliaeth a balchder mewn trefi ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.

Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi – crynodeb

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Fyrddau Trefi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Byddwn yn cyhoeddi fersiynau o’r pecyn cymorth polisi a fydd yn benodol i Gymru a’r Alban ar ddechrau 2024, a fydd yn adeiladu ar gyhoeddiadau presennol, a bydd fersiwn Gymraeg o’r canllawiau hyn yn dilyn.

Diben: Adfywio trefi lleol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban dros y degawd nesaf.

Math o gronfa: Dyrannol

Cymhwystra: Awdurdodau lleol wedi’u dewis ymlaen llaw gan ddefnyddio methodoleg a nodir yn GOV.UK.

Cyllid sydd ar gael: Bydd trefi yn cael cyllid a chymorth gwerth hyd at £20 miliwn.

Dyddiadau pwysig: 

Rhwng 18 Rhagfyr 2023 a 1 Ebrill 2024:

  • bydd awdurdodau lleol yn cael cyllid meithrin gallu gwerth £50,000
  • bydd awdurdodau lleol yn cael pecyn data ar gyfer eu tref, gyda phroffil gwybodaeth leol wedi’i guradu gan Uned Data Gofodol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, i’w rannu â Bwrdd y Dref ar ôl iddo gael ei sefydlu
  • lle y bo’n berthnasol, penodir cadeirydd i Fyrddau Trefi
  • bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda’r cadeirydd er mwyn sefydlu Bwrdd y Dref neu ailbwrpasu Bwrdd Bargen Drefol neu Fwrdd perthnasol cyfatebol yng Nghymru/yr Alban
  • bydd Byrddau Trefi yn dechrau cynllunio a chychwyn gweithgarwch ymgysylltu â’r gymuned

Erbyn 1 Ebrill 2024:

  • rhaid i bob Bwrdd Tref gael ei sefydlu

Rhwng 1 Ebrill 2024 a 1 Awst 2024:

Ar 1 Ebrill, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn rhyddhau’r £200,000 nesaf o gyllid meithrin gallu er mwyn cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Hirdymor, gan gynnwys gweithgarwch ymgysylltu â’r gymuned ychwanegol.

Bydd Byrddau Trefi yn cyflwyno eu Cynlluniau Hirdymor (a fydd yn cynnwys eu gweledigaeth 10 mlynedd a’u cynllun buddsoddi tair blynedd) o 1 Ebrill ymlaen a chyn 1 Awst. Bydd y Cynllun yn nodi sut y caiff cyllid ei ddyrannu a’i wario, gyda’r awdurdod lleol fel y corff sy’n atebol am gyllid yn y pen draw.

Rydym yn annog Byrddau Trefi yn gryf i gyflwyno cynlluniau cyn gynted â phosibl – po gynharaf y sefydlir Bwrdd y Dref ac y cyflwynir Cynllun, y cyflymaf y gall yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ryddhau cyllid.

Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn asesu cynlluniau wrth iddynt ddod i law ac yn rhyddhau cyfalaf a refeniw 2024 a 2025 ar ôl i gynlluniau gael eu cymeradwyo.

Rydym yn cydnabod bod cynghorau yn yr Alban yn gweithredu yn ôl gwyliau gwahanol i wyliau cynghorau yn Lloegr. Bydd yn trafod goblygiadau hyn â’r awdurdodau lleol yn yr Alban.

Awdurdodau lleol sy’n gymwys i gael cyllid

ITL1/2 Rhanbarth Awdurdod lleol Tref/Lle
Dwyrain Canolbarth Lloegr Mansfield Mansfield
Dwyrain Canolbarth Lloegr Boston Boston
Dwyrain Canolbarth Lloegr Bassetlaw Worksop
Dwyrain Canolbarth Lloegr East Lindsey Skegness
Dwyrain Canolbarth Lloegr Newark and Sherwood Stoke-on-Trent
Dwyrain Canolbarth Lloegr Chesterfield Chesterfield
Dwyrain Canolbarth Lloegr Nottingham Clifton
Dwyrain Canolbarth Lloegr South Holland Spalding
Dwyrain Canolbarth Lloegr Ashfield Kirkby-in-Ashfield
Dwyrain Lloegr Tendring Clacton-on-Sea
Dwyrain Lloegr Great Yarmouth Great Yarmouth
Gogledd-ddwyrain Lloegr Redcar and Cleveland Eston
Gogledd-ddwyrain Lloegr South Tyneside Jarrow
Gogledd-ddwyrain Lloegr Sunderland Washington
Gogledd-ddwyrain Lloegr Northumberland Blyth
Gogledd-ddwyrain Lloegr Hartlepool Hartlepool
Gogledd-ddwyrain Lloegr Swydd Durham Spennymoor
Gogledd-orllewin Lloegr Blackburn with Darwen Darwen
Gogledd-orllewin Lloegr Oldham Chadderton
Gogledd-orllewin Lloegr Rochdale Heywood
Gogledd-orllewin Lloegr Tameside Ashton-under-Lyne
Gogledd-orllewin Lloegr Hyndburn Accrington
Gogledd-orllewin Lloegr Wigan Leigh
Gogledd-orllewin Lloegr Bolton Farnworth
Gogledd-orllewin Lloegr Pendle Nelson
Gogledd-orllewin Lloegr Knowsley Kirkby
Gogledd-orllewin Lloegr Burnley Burnley
De-ddwyrain Lloegr Hastings Hastings
De-ddwyrain Lloegr Rother Bexhill-on-Sea
De-ddwyrain Lloegr Ynys Wyth Ryde
De-orllewin Lloegr Torbay Torquay
Gorllewin Canolbarth Lloegr Sandwell Smethwick
Gorllewin Canolbarth Lloegr Walsall Darlaston
Gorllewin Canolbarth Lloegr Wolverhampton Bilston
Gorllewin Canolbarth Lloegr Dudley Dudley
Swydd Efrog a Glannau Humber Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln Grimsby
Swydd Efrog a Glannau Humber Wakefield Castleford
Swydd Efrog a Glannau Humber Doncaster Doncaster
Swydd Efrog a Glannau Humber Rotherham Rotherham
Swydd Efrog a Glannau Humber Barnsley Barnsley
Swydd Efrog a Glannau Humber Gogledd Swydd Lincoln Scunthorpe
Swydd Efrog a Glannau Humber Bradford Keighley
Swydd Efrog a Glannau Humber Kirklees Dewsbury
Swydd Efrog a Glannau Humber Gogledd Swydd Efrog Scarborough
Gorllewin Cymru a’r Cymoedd Merthyr Tudful Merthyr Tudful
Gorllewin Cymru a’r Cymoedd Torfaen Cwmbrân
Dwyrain Cymru Wrecsam Wrecsam
Dwyrain Cymru Bro Morgannwg Y Barri
Gorllewin Canolbarth yr Alban Inverclyde Greenock
De’r Alban Gogledd Swydd Aeron Irvine
De’r Alban Dwyrain Swydd Aeron Kilmarnock
Gorllewin Canolbarth yr Alban Gogledd Swydd Lanark Coatbridge
Gorllewin Canolbarth yr Alban Gorllewin Swydd Dunbarton Clydebank
De’r Alban Dumfries a Galloway Dumfries
Yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd Moray Elgin

Cyllid sydd ar gael

Fel y cadarnhawyd yn nogfen ganllaw ein Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi, mae’r Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi yn mabwysiadu dull ‘gwaddol’ newydd. Mae hyn yn golygu y caiff cyllid ei ryddhau dros gyfnod o saith mlynedd a bod gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i’w wario dros 10 mlynedd, gyda sicrwydd ‘ysgafn’ gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau – darperir y proffil cyllido llawn ar ddecrhau 2024.

Caiff trefi gyllid a chymorth gwerth cyfanswm o hyd at £20 miliwn, a ddarperir drwy’r pwerau a nodir yn Adran 50 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020.

Cyllid meithrin gallu

Bydd awdurdodau lleol arweiniol ym mhob un o’r 55 o drefi yn cael cyllid meithrin gallu gwerth £50,000 ym mlwyddyn ariannol 2023-2024. Fe’i telir fel grant RDEL.

Rydym yn disgwyl i’r cyllid hwn talu’r costau ymlaen llaw sy’n gysylltiedig â sefydlu Bwrdd Tref erbyn 1 Ebrill fan bellaf. Er na fyddwn yn gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno adroddiad ffurfiol ar y ffordd y gwariwyd y swm hwn o £50,000, os bydd cynnydd yn arafach na’r disgwyl, bydd timau ardal yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cynnig cymorth a chyngor. 

Efallai y bydd awdurdodau lleol am ddefnyddio’r arian hwn i wneud y canlynol: 

  • cynnull Bwrdd Tref
  • cynnnal gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned
  • helpu Bwrdd y Dref i ddatblygu Cynlluniau Hirdymor
  • rhoi arbenigedd technegol i Fwrdd y Dref er mwyn iddo allu datblygu prosiectau gan gynnwys astudiaethau dichonoldeb ac achosion busnes

Ar ôl i Fyrddau Tref gael eu sefydlu, byddwn yn rhyddhau cyllid meithrin gallu RDEL gwerth tua £200,000 ar ddechrau blwyddyn ariannol newydd 2024-2025. Dylai Byrddau Tref roi cyngor i awdurdodau lleol ar y ffordd orau o ddefnyddio’r cyllid hwn, er mwyn helpu i ddatblygu eu Cynllun Hirdymor.

Y broses

Sefydlu Bwrdd Tref

Er mai’r awdurdod lleol fydd y corff sy’n atebol dros gyllid a chyflawni cynlluniau o hyd, Byrddau Tref fydd yn gyfrifol am ddatblygu’r Cynllun Hirdymor, gan weithio’n agos gyda phobl leol.

Dylai cadeirydd annibynnol y Cynllun Hirdymor ar gyfer Byrddau Tref gael ei wahodd gan yr awdurdod lleol, gan ystyried pwy sydd yn y sefyllfa orau i gynnull partneriaid ac yn unigolyn uchel ei barch yn y gymuned sydd â brwdfrydedd amlwg dros y lle. Dylid cynnwys yr Aelod Seneddol lleol yn y broses. Ceir rhagor o wybodaeth am lywodraethu yn Atodiad A. Dylid ystyried faint o amser y bydd y cadeirydd yn ei dreulio yn y swydd, o gofio natur y Cynllun Hirdymor gan gynnwys gweledigaeth 10 mlynedd. Mae’n bosibl y bydd trefi am ystyried cynllunio ar gyfer olyniaeth, er enghraifft drwy benodi un neu fwy o is-gadeiryddion. Os bydd gan dref Fwrdd Bargen Drefol ar waith eisoes, neu strwythur tebyg – er enghraifft, is-set briodol o Bartneriaeth Cynllunio Cymunedol yn yr Alban – rydym yn annog yn gryf bod y fforwm hwnnw’n cael ei ddefnyddio fel Bwrdd y Dref, er mwyn osgoi dyblygu diangen a galluogi trefi i fwrw ati’n gyflym i lunio eu Cynllun Hirdymor. Os bwriedir ailbwrpasu fforwm sy’n bodoli eisoes, rhaid i’r cadeirydd, gyda chymorth yr awdurdod lleol, sicrhau bod y bobl gywir o amgylch y bwrdd er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau’r dref yn llawn – efallai y bydd hyn yn gofyn am benodiadau pellach, os ystyrir bod hynny’n briodol.

Rhaid i Fyrddau Tref gael eu cadeirio gan arweinydd cymunedol lleol neu berson busnes lleol. Dylai’r cadeirydd weithredu fel hyrwyddwr y dref a darparu arweinyddiaeth ar gyfer Bwrdd y Dref, gan sicrhau ei fod yn cael ei arwain gan y gymuned a bod ei wreiddiau’n ddwfn yn yr ardal leol. Gall y cadeirydd fod yn unrhyw un sydd â rôl amlwg, megis:

  • sefydliad elusennol lleol
  • dyngarwr
  • pennaeth Coleg Addysg Bellach
  • cyfarwyddwr Bwrdd y GIG neu’r Ymddiriedolaeth
  • cyfarwyddwr clwb pêl-droed

Ni ddylai cynrychiolwyr etholedig, megis aelodau o Senedd Cymru, aelodau seneddol, aelodau o Senedd yr Alban neu gynghorau lleol, gadeirio Bwrdd y Dref.

Aelodau Bwrdd y Dref

Ar ôl ystyried a oes Bwrdd addas sy’n bodoli eisoes y gellir ei ddefnyddio, neu a oes angen sefydlu Bwrdd Tref newydd, dylai’r cadeirydd ymgysylltu â’r awdurdod lleol er mwyn ystyried a oes angen penodi rhagor o aelodau i Fwrdd y Dref. Yn yr un modd, gall y cadeirydd ddewis penodi dirprwy – er nad yw hyn yn ofynnol.

Fel yn achos penodi’r cadeirydd, mae’n werth ystyried hyd yr aelodaeth wrth wahodd aelodau i ymuno â’r Bwrdd ac a oes angen newid cyfansoddiad y Bwrdd yn ystod ei oes.

Yr awdurdod lleol, neu sefydliad amgen megis grŵp cymunedol os cytunir ar hynny rhwng y cadeirydd a’r awdurdod lleol, ddylai weithredu fel ysgrifenyddiaeth Bwrdd y Dref. 

Y tu allan i’r gofynion ynglŷn â chynnwys cynrychiolwyr etholedig penodol ac uwch-gynrychiolaeth o’r heddlu, mae’r canllawiau hyn yn hollol anrhagnodol a bydd yr aelodau yn amrywio yn dibynnu ar y cyd-destun lleol:

1. Cynrychiolwyr seneddol

Rhaid i’r aelodau seneddol lleol perthnasol, er enghraifft, yr aelodau seneddol hynny y mae eu hetholaethau y tu mewn i ffin y dref, fod yn aelodau o Fwrdd y Dref. Efallai y bydd cynghorau yng Nghymru a’r Alban am wahodd eu haelod lleol o Senedd Cymru neu Senedd yr Alban.

2. Cynghorwyr lleol

Mewn ardaloedd lle ceir dwy haen o awdurdodau lleol, dylai fod un cynghorydd o bob haen o lywodraeth leol. Mewn awdurdodau unedol, dylai fod dau gynghorydd o’r awdurdod. Lle y bo’n berthnasol i’r dref, efallai y bydd y cadeirydd am wahaodd cynghorwyr plwyf, tref neu gymuned, gan nodi y dylid cyfyngu ar gyfanswm y cynrychiolwyr etholedig er mwyn hyrwyddo arweinyddiaeth gymunedol.

3. Uwch-gynrychiolydd o’r heddlu

Rhaid i Fyrddau Tref gynnwys uwch-gynrychiolydd o’r heddlu. Yng Nghymru a Lloegr, disgwylir mai Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu fydd hwn, er y gall uwch-gynrychiolydd lleol o’r heddlu weithredu fel dewis amgen, os bydd y cadeirydd yn cytuno ar hynny. Yn yr Alban, efallai y bydd y cadeirydd am wahodd uwch-swyddog yr heddlu. Lle mae meiri awdurdodau cyfun yn arfer swyddogaethau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, disgwylir mai’r Maer neu ei Ddirprwy Faer dros Blismona a Throseddu fydd y cyn Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu fydd y cynrychiolydd, er y gall uwch-gynrychiolydd lleol o’r heddlu weithredu fel dewis amgen, os bydd y cadeirydd yn cytuno ar hynny. Os bydd Byrddau Tref o’r farn bod angen cyfraniad pellach arnynt gan yr heddlu, gan nodi’n arbennig y sgiliau a’r mewnbwn gwahanol a allai gael eu cynnig gan gynrychiolydd gweithredol, mae ganddynt ddisgresiwn i wahodd pwy bynnag sy’n addas i fod yn aelod o’r Bwrdd, yn eu barn nhw.

Dylai aelodau eraill gael eu dewis yn dibynnu ar y cyd-destun lleol ac yn ôl disgresiwn y cadeirydd, ond gallent gynnwys y canlynol:

4. Partneriaid cymunedol, megis:

  • grwpiau cymunedol
  • grwpiau ffydd
  • elusennau lleol
  • fforymau cymdogaeth
  • grwpiau ieuenctid
  • y Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol neu Ryngwyneb y Trydydd Sector yn yr Alban

5. Busnesau a mentrau cymdeithasol lleol, megis:

  • cadeirydd neu aelodau o fwrdd yr Ardal Gwella Busnes lle y’u ceir
  • cyflogwyr lleol allweddol neu fuddsoddwyr allweddol yn y dref

Dangoswyd y gall busnesau cymunedol a busnesau llai o faint gefnogi gwaith adfywio a gwella buddsoddiad yn lleol ac mae gan berchenogion eiddo fuddiant mawr yn y ffordd y caiff trefi eu hailbwrpasu.

6. Diwylliannol, y celfyddydau, treftadaeth a sefydliadau chwaraeon, megis:

  • cyfarwyddwyr clwb chwaraeon lleol
  • grwpiau treftadaeth lleol

7. Asiantaethau cyhoeddus a sefydliadau angori, megis:

  • ysgolion lleol, sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach
  • asiantaethau perthnasol y llywodraeth ar gyfer yr ardal honno, er enghraifft Byrddau Gofal Integredig neu Bartneriaeth Cynllunio Cymunedol yn yr Alban

Dylai Byrddau Tref ystyried nifer eu haelodau a gallent gynnull gweithgorau llai o faint er mwyn hwyluso gweithgarwch ymgysylltu ehangach yn themâu’r Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweithio gyda Byrddau Tref, gyda chymorth awdurdodau lleol, gan roi cyngor masnachol a chyngor ar gontractio er mwyn sicrhau gwerth am arian, yn seiliedig ar arferion gorau o Gronfeydd Ffyniant Bro blaenorol. Yn y lle cyntaf, dylai awdurdodau lleol gysylltu â’u harweinwyr timau ardal presennol.

Rhaid i Fyrddau Tref gael ei sefydlu erbyn 1 Ebrill 2024 fan bellaf er ein bod yn annog eu sefydlu ynghynt lle y bo’n bosibl, er mwyn i Fwrdd y Dref allu cynnal ei gyfarfod cyntaf a dechrau llunio Cynllun Hirdymor cyn gynted â phosibl. Po gynharaf y sefydlir y Bwrdd ac y cyflwynir Cynlluniau Hirdymor, y cynharaf y gall yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gadarnhau cyllid.

Yr hyn a gynigir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

Er mwyn galluogi’r Byrddau Tref – gyda chymorth yr awdurdod lleol – i ddatblygu a chyflwyno eu Cynllun Hirdymor, bydd arweinydd y tîm ardal leol yn gweithredu fel y llinell gyntaf o gymorth ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, gan sicrhau bod help ar gael (er enghraifft, gan ymgysylltu â Phartneriaeth Trefi’r Alban yn yr Alban).

Mae Uned Trefi wedi’i sefydlu yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i weithredu fel canolfan drawsbynciol a fydd yn gweithio gydag adrannau eraill y llywodraeth er mwyn helpu Byrddau Tref i weithio gyda’r awdurdod lleol i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael iddynt. Bydd yn ceisio alinio gweithgarwch trawslywodraethol er mwyn sicrhau y caiff adnoddau llywodraeth ganolog, adnoddau llywodraeth leol ac adnoddau preifat eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon. Mae ein darpariaeth yn cynnwys:

  • pecyn data i bob tref, gyda phroffil gwybodaeth leol wedi’i guradu gan Uned Data Gofodol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau
  • pecyn cymorth polisi, sy’n amlinellu pwerau sydd ar gael i drefi a phartneriaid ym mhob rhan o’r dref
  • rhestr o ymyriadau polisi ynghyd ag achos dros fuddsoddi y cytunwyd arno eisoes
  • cymorth penodol gan y tîm ardal perthnasol er mwyn helpu i dywys y Byrddau Tref a’r awdurdodau lleol drwy’r broses

At hynny, caiff Tasglu Strydoedd Mawr a Threfi annibynnol ar ffurf ymgynghoriaeth ei sefydlu yn 2024 er mwyn cefnogi trefi ar ôl i’w Cynllun Hirdymor gael ei gyflwyno.

Cynnwys Aelodau Seneddol

Mae ASau yn chwarae rôl bwysig wrth gynrychioli barn eu hetholwyr, cydweithio ag awdurdodau lleol a phartneriaid lleol eraill er budd lleoedd lleol. Dylent chwarae rhan ym mhob agwedd ar y broses o lunio a chyflwyno’r Cynllun Hirdymor.

Yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd y Dref, dylai ASau gyfrannu fel unigolion at y gwaith o adolygu’r Cynllun Hirdymor cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Rhaid i bob Cynllun Hirdymor restru’r ASau sy’n rhan o Fwrdd y Dref ac a yw pob un yn cefnogi’r Cynllun Hirdymor terfynol a gyflwynwyd i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i’w ystyried. Efallai y bydd Byrddau Tref yng Nghymru a’r Alban hefyd am rannu eu Cynllun Hirdymor â’u Haelod lleol o Senedd Cymru a Senedd yr Alban, er nad yw’n ofynnol iddynt wneud hynny.

Er nad yw’r ffaith nad yw un neu fwy o ASau yn cefnogi’r Cynllun Hirdymor yn atal yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau rhag ei ystyried, mae’r llywodraeth yn awyddus i weld consensws lleol cyffredinol o blaid yr ymyriadau a gyflwynir.  Os na fydd cytundeb o’r fath, ceidw Gweinidogion yr hawl i ohirio cymeradwyo’r Cynllun Hirdymor nes i gonsensws cyffredinol gael ei sicrhau.

Sicrhau bod Bwrdd y Dref yn sefydliad a arweinir gan y gymuned

Dylai Byrddau Tref fod yn sefydliadau a arweinir gan y gymuned sy’n meithrin gallu dinesig yn y dref, gyda’r awdurdod lleol, neu sefydliad amgen megis grŵp cymunedol, gan ddarparu swyddogaeth ysgrifenyddiaeth. Bydd yr awdurdod lleol yn gweithredu fel y corff cyllido atebol.

Rydym yn annog awdurdodau lleol i helpu i rymuso Bwrdd y Dref i gyflawni’r rôl hon a datblygu gweledigaeth dros newid a arweinir gan y gymuned. Gallai hyn gynnwys rhoi cyngor a chymorth mewn perthynas â dyletswyddau cyfreithiol fel asesiadau effaith, er mwyn helpu arweinwyr o gefndiroedd nad ydynt yn y sector cyhoeddus i ddeall y gofynion hynny y mae’n bosibl eu bod yn llai cyfarwydd â nhw.

Dylai Bwrdd y Dref (neu, os na fydd wedi’i sefydlu eto, cadeirydd Bwrdd y Dref) a’r awdurdod lleol hefyd ystyried sefydliadau cymunedol sy’n bodoli eisoes y mae’n bosibl y byddant yn awyddus i wneud gwaith ar ran Bwrdd y Dref. Gellid defnyddio cyllid meithrin gallu i gefnogi hyn, neu helpu trydydd parti i recriwtio unigolyn i arwain y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Hirdymor yn llawn amser. Dengys ymchwil a wnaed gan Local Trust fod cyflogi un aelod o staff amser llawn o’r gymuned yn helpu i feithrin gallu a chydnerthedd lleol. Os bydd angen cymorth i nodi sefydliadau cymunedol addas, dylai awdurdodau lleol siarad â’u priod arweinwyr tîm ardal yn y lle cyntaf. Bydd timau ardal yn darparu cymorth parhaus dros gyfnod y rhaglen, gan gynnwys helpu awdurdodau lleol a Byrddau Tref i gael y cymorth sydd ei angen arnynt a gweithredu fel canolbwynt rhyngddyn nhw a llywodraeth ganolog, gan gynnwys yr Uned Trefi a’r Tasglu Strydoedd Mawr a Threfi.

Astudiaeth achos: Manteision gweledigaeth a lywir gan y gymuned

Ar ôl bron i 50 mlynedd o ddirywiad diwydiannol, roedd canol tref Whytheville yng nghefn gwlad Virginia (poblogaeth o lai na 10,000) yn awyddus i adfer a sicrhau ffyniant economaidd iddi’i hun a phenododd sefydliad llywodraethu ‘wedi’i bweru gan bobl’ (Downtown Whytheville Inc.) gyda’r nod penodol o adfywio ac ailfywiogi eu cymuned leol. Drwy fabwysiadu dull gweithredu a oedd yn seiliedig ar bobl a lle, llwyddodd Whytheville i fanteisio ar asedau lleol, meithrin partneriaethau rhanbarthol, annog meithrin gallu cymunedol ac, yn y pen draw, ailfywiogi ei heconomi ranbarthol. Cwblhaodd rhaglen fawr i adnewyddu’r strydlun yng nghanol y dref, gan wella palmentydd, goleuadau a chroesfannau cerddwyr ar Main Street a chreu amgylchedd mwy deniadol. Gan gydnabod bod angen mynd i’r afael â phryderon am sgiliau hefyd, aeth Downtown Whytheville Inc. ati i sicrhau cyllid ychwanegol o ffynonellau preifat a chyhoeddus er mwyn dechrau cystadleuaeth ddylunio i fusnesau bach, gan feithrin gallu cymunedol, sicrhau buddsoddiadau hirdymor a chreu ecosystem entrepreneuraidd hunangynhaliol.

Pennu strategaeth

Dylai Byrddau Tref lywio’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi, nodi ble y gellir manteisio i’r eithaf ar y pwerau a nodir yn y pecyn cymorth polisi er mwyn sicrhau newid a llywio’r weledigaeth hirdymor i’w tref, ar y cyd â’r gymuned leol.

Byrddau Tref fydd yn gyfrifol am ddatblygu’r Cynllun Hirdymor. Dylai’r Cynllun Hirdymor hwn gydnabod y gwaith da sy’n mynd rhagddo, neu sydd eisoes wedi’i wneud, ym mhob tref a cheisio adeiladu arno. Mewn llawer o leoedd, mae strategaethau a chynlluniau ar gyfer y dref sy’n cyd-fynd ag amcanion y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi ac rydym yn gobeithio y bydd y Cynlluniau Hirdymor yn adeiladu ar y strategaethau a’r cynlluniau hynny.

Bwriedir i’r rhaglen roi’r sicrwydd hirdymor a hwyluso meddwl strategol. Fodd bynnag, gwyddom y bydd trefi am gadw’r hyblygrwydd a’r gallu i ddiwygio cynlluniau wrth iddynt ddatblygu, yn ogystal ag adlewyrchu cyd-destun a blaenoriaethau newidiol pobl leol. Felly, rydym yn gofyn i Fyrddau Tref, gyda chymorth yr awdurdod lleol, ddatblygu un Cynllun Hirdymor i’w gyflwyno i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar neu cyn 1 Awst 2024. Rydym yn cydnabod bod cynghorau yn yr Alban yn gweithredu yn ôl gwyliau gwahanol i wyliau cynghorau yn Lloegr. Bydd yn trafod goblygiadau hyn â’r awdurdodau lleol yn yr Alban. Darperir manylion pellach am y ffordd y caiff Cynlluniau eu cyflwyno ar ddechrau 2024. Po gynharaf y cyflwynir y cynllun hirdymor, y cyflymaf y gall yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ryddhau’r cyllid.

Dylai’r Cynllun Hirdymor gynnwys gweledigaeth 10 mlynedd, sy’n nodi’n glir y blaenoriaethau tymor hwy ar gyfer y dref a chynllun buddsoddi tair blynedd fel atodiad. Fel gyda’r Bargeinion Tref yn flaenorol, dylai Bwrdd y Dref hefyd ddefnyddio’r Cynllun i gadarnhau’r ardal a gwmpesir.  Fel y sefyllfa ddiofyn, dylai hyn ddefnyddio’r ffiniau a ddiffinnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae hyn yn bwysig er mwyn i gymunedau lleol a chyrff eraill ddeall pa ardal a fydd yn cael budd o’r rhaglen. Rydym yn disgwyl i’r ardal ddaearyddol fod yn un gyffiniol. Bydd angen trafod unrhyw newidiadau arfaethedig i ffiniau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyda’r llywodraeth er mwyn sicrhau ei bod yn cynnwys, fel rhan o’r ardal, y dref a ddewiswyd yn wreiddiol.

Gweledigaeth 10 mlynedd

Dylai gweledigaeth 10 mlynedd Bwrdd y Dref fod yn ddogfen strategol hirdymor. Dylai gael ei hategu gan y wybodaeth a gafwyd drwy ymgysylltu â phobl leol, er mwyn sicrhau cefnogaeth y cyhoedd. Dylai gynnwys:

1. Datganiad o weledigaeth yn cynnwys 250 o eiriau sy’n cyfleu, ar lefel uchel, y weledigaeth ar gyfer dyfodol y dref a sut y caiff llwyddiant ei farnu.

2. Yr achos strategol dros newid, gan adeiladu ar y dystiolaeth yn y pecyn a ddarparwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, gyda data a straeon lleol manylach, lle y bo’n berthnasol.

3. Y canlyniadau a’r amcanion y mae’r dref yn ceisio eu cyflawni a sut maent yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r gymuned leol, gan gynnwys beth sydd angen ei ‘drwsio’, y cyfleoedd y mae’r buddsoddiad yn ei gynnig dros y degawd a chanlyniadau â blaenoriaeth ar gyfer 2034 a thu hwnt.

4. Y cyfeiriad arfaethedig ar gyfer adfywio’r dref, ar draws y tair thema fuddsoddi. Dylai nodi’r ymyriadau sydd ar gael i gyflawni hyn:

a. Dylai Bwrdd y Dref geisio defnyddio’r rhestr o ymyriadau a gall hefyd ystyried ymyriadau eraill nad ydynt ar y rhestr honno (‘off-menu’), ar yr amod eu bod cyd-fynd â’r tair thema fuddsoddi.

b. Nid oes angen i’r Cynllun Hirdymor fanylu ar fuddsoddiadau penodol fel rhan o’r weledigaeth 10 mlynedd. Dim ond ar y tair blynedd gyntaf y mae angen i fanylion am fuddsoddiadau ac ymyriadau ganolbwyntio a dylent gael eu nodi yn yr atodiad sy’n cynnwys y cynllun buddsoddi tair blynedd.

5. Tystiolaeth glir bod Bwrdd y Dref yn cael ei arwain gan y gymuned, gan gynnwys drwy ei aelodau, ffyrdd o weithio a’r gwahaniaeth rhyngddo ef a’r awdurdod lleol, a thystiolaeth o gefnogaeth gan fusnesau lleol, cymdeithas ddinesig a chymunedau. Dylai ddisgrifio’r ffordd yr aethpwyd ati i ymgysylltu â’r rhanddeiliaid hyn hyd yma a sut y bydd y gweithgarwch ymgysylltu hwnnw yn parhau yn y dyfodol.

6. Sut y bydd Bwrdd y Dref yn denu ac yn cyfuno buddsoddiad preifat, cyhoeddus a dyngarol newydd a phresennol, gan nodi’r ymrwymiadau a’r uchelgeisiau presennol i sicrhau rhagor o gymorth yn y dyfodol.

7. Cerrig milltir cyflawni lefel uchel dros oes y rhaglen 10 mlynedd, ynghyd â throsolwg o ymyriadau posibl yn y dyfodol a sut y caiff y pwerau yn y pecyn cymorth polisi eu defnyddio mewn ffordd sy’n gweddu orau i’r dref ar draws y tair thema fuddsoddi.

Mae’r pecyn cymorth polisi yn cwmpasu Lloegr gyfan ac, mewn perthynas â’r pwerau Diogelwch, mae’n cwmpasu Cymru. Byddwn yn rhoi canllawiau ychwanegol ar gyfer trefi yng Nghymru a’r Alban ar ddechrau 2024.

Mae’r pecyn cymorth polisi yn amlinellu’r pwerau sydd eisoes ar gael i drefi er mwyn helpu i wneud gwelliannau. Mae hefyd yn cynnwys pwerau newydd, nas rhoddwyd ar waith eto, a gyflwynwyd drwy Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023.

Atodiad y cynllun buddsoddi tair blynedd

Dylai nodi’r canlynol:

  • yr ymyriadau a’r pwerau y mae Bwrdd y Dref am eu defnyddio dros y tair blynedd ar gyfer pob thema fuddsoddi;
  • a yw’r ymyriadau yn dod o’r rhestr o ymyriadau neu a ydynt yn ymyriadau ‘off-menu’;
  • sut y bydd Bwrdd y Dref yn defnyddio’r ymyriadau yn lleol a faint y byddant yn ei gostio;
  • sut y bydd yr ymyriadau yn helpu i gyflawni’r canlyniadau a nodir yn y weledigaeth 10 mlynedd, yn seiliedig ar dystiolaeth a data.

Bydd awdurdodau lleol yn cael y buddsoddiad o’r Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi dros y tair blynedd nesaf er mwyn ariannu cynllun buddsoddi tair blynedd Bwrdd y Dref. Rydym yn annog Byrddau Tref yn gryf i weithio gyda’r awdurdod lleol a phartneriaid eraill i ystyried sut y gellir denu cyllid ychwanegol o ffynonellau eraill. Gallai hyn gynnwys buddsoddiad preifat newydd, dyngarwch neu arian cyhoeddus arall, yn enwedig pan fo cyfle i gyrff neu asiantaethau weithio mewn partneriaeth.

Dylai awdurdodau lleol hefyd gael eu cynnwys ym mhob rhan o’r broses o ddatblygu’r cynllun, gan gynnwys trafod y rhestr o ymyriadau a phwerau i’w defnyddio o’r pecyn cymorth. Mewn llawer o achosion, bydd angen i’r cyngor gytuno’n ffurfiol drwy ei strwythurau ei hun i ddefnyddio pwerau neu ymyriadau lle maent yn rhyngweithio â chyfrifoldebau cynghorau (er enghraifft, caniatâd cynllunio ar gyfer llwybr beicio newydd). Petai ymyriad yn rhwymo’r awdurdod lleol i wariant yn y dyfodol y tu hwnt i gronfa’r cynllun hirdymor ar gyfer trefi (er enghraifft gwaith cynnal a chadw parhaus ar gyfleuster hamdden newydd), rhaid i Fyrddau Tref ymgysylltu ag awdurdodau lleol a sicrhau y cytunir ar hyn. 

Y rhestr o ymyriadau a ddarperir yn Atodiad C yw’r rhai yr aseswyd eisoes fod ganddynt achos cryf dros fuddsoddi, gwerth am arian a chymhareb cost a budd. Petai Bwrdd Tref yn awyddus i fwrw ymlaen ag un o’r ymyriadau hyn, ni fydd angen achos busnes fel rhan o’r broses asesu – bwriedir i hyn symleiddio’r broses cymaint â phosibl a lleihau biwrocratiaeth. Dylai unrhyw ymyriadau a gymerir o’r rhestr gael eu costio yn ôl cyd-destun lleol tref a dylai’r cynllun buddsoddi ddisgrifio sut maent yn adlewyrchu’r cyfleoedd a’r heriau penodol y mae trefi a chymunedau gwahanol yn eu hwynebu.

Nid yw’r rhestr o ymyriadau yn gynhwysfawr – rydym yn annog Byrddau Tref i feddwl yn greadigol pa atebion a fydd yn cyflawni’r canlyniadau a ddymunir. Os cytunir y bydd ymyriadau eraill nad ydynt ar y rhestr yn diwallu anghenion lleol yn well, dylai Byrddau Tref fwrw ymlaen â nhw. Os bydd Bwrdd Tref yn bwrw ymlaen ag ymyriad nad yw ar y rhestr, bydd angen darparu achos busnes amlinellol, wedi’i ategu gan wybodaeth gan randdeiliaid lleol, cytundeb â’r awdurdod lleol lle mae angen iddo danysgrifennu’r risg a, lle y bo’n bosibl, dystiolaeth rifol.

Pecyn cymorth ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned

Mae ymgysylltu â’r gymuned wrth wraidd y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi ac, felly, dylai cynlluniau adlewyrchu blaenoriaethau lleol a chael eu cyd-lunio â chymunedau, busnesau a thrigolion, gan ddefnyddio tystiolaeth a data sydd ar gael. Gan gydnabod yr enghreifftiau niferus o weithgarwch ymgysylltu â’r gymuned gwych sydd eisoes yn mynd rhagddo yn lleol, mae’r pecyn cymorth hwn yn nodi rhagor o syniadau y mae’n bosibl y bydd Byrddau Tref am eu hystyried.

Fel y nodir yn y Papur Gwyn Ffyniant Bro, bu sawl ymgais i adfywio trefi dros gyfnod estynedig. Un o’r rhesymau pam nad yw’r rhain bob amser wedi bod yn llwyddiannus yw diffyg ymgysylltu â’r gymuned, a methu ag adeiladu ar bartneriaethau presennol, ymgynghori a gweithgarwch parhaus sy’n ysgogi pobl leol i weithredu. Mae’r felin drafod Onward wedi nodi pam mae hyn mor bwysig:

First, doing so helps to ensure regeneration is focused on the actual rather than perceived needs of the community. Second, because a community needs to be invested in an initiative for it to be sustained beyond the initial period of intervention. Third, because engagement helps to build the capacity for action that so many communities lack.

Mae ymchwil Onward i ymdrechion adfywio blaenorol a gweithgarwch ymgysylltu’r llywodraeth ei hun â lleoedd lleol wedi dangos bod buddsoddiad ymlaen llaw yn hanfodol i sicrhau y gall lleoedd gynnal y lefel angenrheidiol o weithgarwch ymgysylltu â’r gymuned. Dyna pam y caiff cyllid meithrin gallu ei ddarparu o ddechrau 2024 ymlaen.

Rhai egwyddorion o ran ymgysylltu â’r gymuned y mae’n bosibl y bydd Byrddau Tref am eu hystyried wrth ddatblygu eu Cynlluniau Hirdymor:

1. Mapwich yr asedau yn yr ardal leol er mwyn adeiladu o gryfderau presennol a gwaith gyda grwpiau cymunedol sydd eisoes yn meddu ar gydberthnasau ac arbenigedd ym maes datblygu cymunedol er mwyn cynllunio gweithgarwch ymgysylltu a sicrhau cwmpas digonol. Ystyriwch ddefnyddio cyllid datblygu wed’i ddyrannu i fuddsoddi yn y sefydliadau hyn er mwyn cefnogi’r gwaith hwn.

2. Ymgysylltwch yn gynnar a nodwch flaenoriaethau ac uchelgeisiau er mwyn sicrhau y caiff y cynlluniau eu cyd-lunio â’r gymuned o’r dechrau.

3. Defnyddiwch wybodaeth leol i ddeall ble mae gweithgarwch ymgysylltu wedi bod ar ei wannaf fel rheol a pha grwpiau a oedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Ceisiwch feithrin cydberthnasau â grwpiau cymunedol er mwyn nodi sut y gall gweithgarwch ymgysylltu weithio’n well i’r grwpiau hyn a goresgyn rhwystrau megis incwm, ethnigrwydd, oedran, anabledd ac iaith.

4. Ewch i’r mannau lle mae’r bobl a byddwch yn greadigol. Cynhaliwch ddigwyddiadau ymgysylltu yn y mannau cymdeithasol lle mae pobl yn cyfarfod, er enghraifft, y stryd fawr leol, clybiau ieuenctid, tafarndai, ysgolion a chanolfannau cymunedol. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfle i gael barn set ehangach o drigolion y mae’n bosibl nad ydynt yn mynd i ddigwyddiadau ymgynghori fel arfer.

5. Defnyddiwch adnoddau cyfranogol, megis cyllidebu cyfranogol. Gallai hyn weithredu fel bachyn i ennyn diddordeb trigolion, helpu i nodi atebion lleol a chyflwyno syniadau arloesol.

6. Nodwch gyfleoedd i sicrhau perchnogaeth gymunedol o gynlluniau a chyflawni. Ystyriwch y gall aelodau o Fwrdd y Dref yn bartneriaid cymunedol, megis sefydliadau cymunedol, chwarae rôl glir yn y broses. Gallai hyn gynnwys datganoli cyllidebau a chyflawni i grwpiau cymunedol ar gyfer blaenoriaethau cymdogaethau.

7. Ymrwymwch i atebolrwydd parhaus. Dylai Bwrdd y Dref gynllunio cyfleoedd parhaus i ymgysylltu â’r gymuned wrth gerrig milltir allweddol o fewn cynlluniau.Mae pobl yn hoffi cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau, rhannu cynnydd a deall sut mae eu mewnbwn wedi bwydo i mewn ar gamau rheolaidd drwy gydol y broses; gellid gwneud hyn drwy e-bost, datganiadau i’r wasg, arddangosfeydd neu ddigwyddiadau wyneb yn wyneb.

8. Chwiliwch am gyfleoedd i gynnwys y gwaith o ddatblygu arweinyddiaeth a gallu cymunedol mewn cynlluniau cyflawni.

9. Peidiwch â gorgymhlethu pethau.

Mae Create Streets, sy’n arbenigo ym meysydd ymchwil, uwchgynllunio, codau dylunio a chyd-lunio â chymunedau, hefyd yn argymell defnyddio’r canlynol:

1. Ymgysylltu’n ehangach. Fel arfer, mae hyn yn golygu gofyn cwestiynau lefel uchel, syml i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd gan alluogi pobl i roi eu barn am le penodol, y da a’r drwg, a gwneud awgrymiadau cadarnhaol i’w wella. Gallai hyn gynnwys:

  • platfformau mapio ar-lein megis platfform ‘Create Communities’
  • digwyddiadau ‘dod at y bobl’. Er enghraifft, gosod stondin mewn digwyddiad cymunedol neu ar stryd fawr leol

2. Ymgysylltu dwfn. Mae hyn yn cynnwys gwaith dadansoddi manylach drwy ofyn cwestiynau allweddol ac ystyried materion drwy:

  • cyfweliadau un i un â rhanddeiliaid allweddol
  • cerdded o amgylch safleoedd gyda thrigolion a chymdogion
  • cydgynllunio gweithdai neu ‘charettes’ (sef cyfarfod cyhoeddus â grŵp rhyngddigyblaethol, sy’n canolbwyntio ar ddatrys problem neu gynllunio dyluniad rhywbeth)

Ceir sawl sefydliad defnyddiol arall sy’n cyhoeddi canllawiau ac a all helpu Byrddau Tref i sicrhau bod y gymuned leol yn chwarae rhan ddigonol yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r Cynllun Hirdymor, gan gynnwys Power to Change, Locality ac Ardaloedd Gweithredu Treftadaeth. Mae gan Gymdeithas Llywodraeth Leol adnoddau penodol i gynnwys trigolion a sefydliadau yn y sector gwirfoddol a’r sector cymunedol yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau lleol ac mewn prosesau gwneud penderfyniadau. Yn yr Alban, mae llawer o enghreifftiau o weithgarwch ymgysylltu cryf â’r gymuned a digon o adnoddau ar gael. Efallai y bydd trefi yn yr Alban am gyfeirio at enghreifftiau a nodwyd drwy Bartneriaeth Trefi’r Alban, yn ogystal â’r safonau cenedlaethol a bennwyd gan Ganolfan Datblygu Cymunedau’r Alban.

Dylai Byrddau Tref fod yn agored â phobl leol drwy gydol y rhaglen o ran sut maent yn buddsoddi arian a defnyddio eu pwerau, gan weithio’n agos gyda’r awdurdod lleol. Rydym yn annog Byrddau Tref i redeg eu hunain mewn ffordd sy’n hwyluso penderfyniadau a arweinir gan y gymuned a chyfleoedd i feddwl am bethau yn wahanol. Megis:

  • cynnal cyfarfodydd mewn man neu leoliad cymunedol, yn lle swyddfeydd cyngor neu adeilad sector cyhoeddus
  • cynnal cyfarfodydd agored i bobl leol arsylwi a gwahodd unigolion nad ydynt yn cymryd rhan fel arfer, gan gynnwys pobl ifanc
  • ffrydio cyfarfodydd agored yn fyw
  • adnabod llwybrau i Fwrdd y Dref ddod yn gorff hunangynhaliol dros amser

Astudiaeth achos: Cod Dylunio a Gorchmynion Datblygu Cymdogaeth Chesham

Gweithiodd Create Streets gyda Chyngor Tref Chesham i ddatblygu Gorchmynion Datblygu Cymdogaeth yn y dref a llywio’r broses o lunio cynllun cymdogaeth wedi’i ddiweddaru. Ceisiwyd barn trigolion drwy gyfuniad o ‘ymgysylltu’n eang’ gan ddefnddio adnoddau ar-lein ac ‘ymgysylltu’n ddwfn’ drwy gynnal cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol, sesiynau ymgynghori naid mewn digwyddiadau cymunedol a sesiynau galw heibio. Hefyd, gofynnwyd i drigolion nodi ‘what good looks like’ i Chesham – a gofynnwyd am adborth hefyd ar fathau drafft o dai ac uwchgynlluniau ar gyfer safleoedd. Cafwyd mwy na 2,822 o ymatebion ar-lein a chyflwynwyd cannoedd yn bersonol, gyda’r canlyniadau yn cael eu defnyddio i lywio cynnwys y cod dylunio a safleoedd Gorchmynion Datblygu Cymdogaeth.

Astudiaeth achos: Rhaglen Fraenaru Cod Dylunio, Cyngor Medway

Mae Cyngor Medway yn datblygu cod dylunio i Chatham, er mwyn cyfrannu at adfywiad trefol canol y dref a sicrhau bod y cymeriad lleol yn cael ei adlewyrchu’n well, gan ddiogelu’r amgylchedd naturiol ar yr un pryd. Gwnaeth y tîm ymgysylltu ac ymgynghori’n helaeth â’r gymuned leol, rhanddeiliaid allweddol, aelodau a swyddogion wrth ddatblygu ei god. Defnyddiwyd cyfuniad o ddwy dechneg, sef platfform digidol ac ymgysylltu wyneb yn wyneb traddodiadol, er mwyn sicrhau y gallai cynifer o bobl â phosibl gymryd rhan ym mhroses y cod dylunio. Roedd y platfform digidol yn canolbwyntio ar 14 o leoedd allweddol, gan alluogi defnyddwyr i gyflwyno sylwadau ar adeiladau, strydoedd neu fannau agored. Cafwyd 1,900 o ymatebion unigol. Roedd y digwyddiadau wyneb yn wyneb wedi galluogi pobl â llai o ddealltwriaeth o bethau technolegol neu nad oedd ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd, rannu eu barn, gyda sesiynau yn cael eu cynnal ar y penwythnos mewn lleoliadau prysur er mwyn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl.

Astudiaeth achos: Dunbarton, Gorllewin Swydd Dunbarton

Bydd Cyngor Sir Gorllewin Swydd Dunbarton yn defnyddio’r £19.9 miliwn sydd wedi’i ddyrannu iddi o’r Gronfa Ffyniant Bro er mwyn helpu i wneud tref Dumbarton yn fwy deniadol i drigolion ac ymwelwyr. Roedd y cais llwyddiannus yn seiliedig ar adborth gan y gymuned a gafwyd drwy weithgarwch ymgynghori helaeth ac arolygon, sy’n dangos sut y gall y Gronfa Ffyniant Bro ddiwallu anghenion y gymuned. Mae’r prosiect y cynnwys adfer Glencairn House a’i droi’n llyfrgell, yn amgueddfa ac yn gyfleuster cymunedol o’r radd flaenaf a gwella cysylltiadau rhwng canol y dref a gorsaf drenau Ganolg Dumbarton. Mae’r prosiect yn gwella cysylltiadau teithio llesol, gan ddenu ymwelwyr a thrigolion i ganol y dref a gwneud Dumbarton yn gyrchfan mwy deniadol.

Cyflwynwch eich Cynllun Hirdymor i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

Dylai Byrddau Tref fynd ati cyn gynted â phosibl i gynnwys y gymuned leol a llunio eu gweledigaeth a’u Cynllun Hirdymor. O 1 Ebrill 2024, dylai Byrddau Tref gyflwyno eu Cynllun Hirdymor i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynlluniau yw 1 Awst 2024. Rydym yn cydnabod bod cynghorau yn yr Alban yn gweithredu yn ôl gwyliau gwahanol i wyliau cynghorau yn Lloegr. Bydd yn trafod goblygiadau hyn â’r awdurdodau lleol yn yr Alban. Caiff manylion pellach am sut i gyflwyno Cynllun Hirdymor eu cyhoeddi mewn canllawiau atodol ar ddechrau 2024. Po agosaf i 1 Ebrill 2024 y cyflwynir y Cynllun Hirdymor, y cynharaf y gall yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ryddhau’r cyllid.

Bydd y weledigaeth 10 mlynedd ac atodiad y cynllun buddsoddi tair blynedd yn destun proses asesu lai manwl gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Bydd hyn yn sicrhau bod ymyriadau arfaethedig trefi yn cyd-fynd ag amcanion ehangach y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi a’r tair thema fuddsoddi. Er y byddwn, o bosibl, yn ceisio eglurhad ynglŷn â rhai pwyntiau, nid porth ‘llwyddo neu fethu’ mo hwn, oni bai bod gwyro sylweddol oddi wrth y tair thema fuddsoddi neu’r gofynion a nodwyd uchod.

Y tair thema fuddsoddi

Bydd trefi ledled y DU yn nodi’r mesurau sydd bwysicaf i bobl leol. Drwy gynnwys pecyn cymorth polisi a rhestr o ymyriadau a rhoi cyfle i Fyrddau Tref fabwysiadu dulliau gweithredu ‘off-menu’, pwrpasol lle y gellir cyfiawnhau dull gweithredu o’r fath, rydym yn rhoi cryn hyblygrwydd i deilwra’r Cynllun Hirdymor ar draws y tair thema fuddsoddi gyffredinol. Nid oes unrhyw ofyniad o ran sut y dylai trefi ddefnyddio’r cyllid ar draws y tair thema. Ond byddem yn disgwyl gweld o leiaf un ymyriad fesul thema yn cael sylw yn y Cynllun Hirdymor, oni all trefi gyfiawnhau dull gweithredu amgen.

Diogelwch

Mae mynd i’r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau tro ar fyd i ardaloedd lleol a helpu busnesau i ffynnu. Mae’n amhosibl sicrhau ffyniant i dref os na fydd pobl yn teimlo’n ddiogel i fynd i mewn i ganol y dref. Mae trefi sy’n teimlo’n anniogel:

  • yn gyrru siopwyr i ffwrdd
  • yn atal buddsoddwyr
  • yn tanseilio’r normau a’r ymddygiad sy’n sail i gymdeithas lewyrchus

Mae’r cynnydd yn nifer y siopau gwag a’r lleihad yn nifer yr ymwelwyr yn golygu bod y styd fawr bellach yn lleoliad sy’n denu llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan leihau balchder mewn lle. Lansiwyd y Cynllun Gweithredu ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol eleni yng Nghymru a Lloegr er mwyn gwneud ein strydoedd yn fwy diogel a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fel mater o frys. I gefnogi hyn, gall trefi ddefnyddio’r cyllid a ddarperir drwy’r Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi er mwyn helpu i leihau troseddau a gwella diogelwch yn yr ardal leol.

Gallai ymyriadau a’r defnydd o bwerau gynnwys:

  • seilwaith diogelwch newydd a gwell, megis teledu cylch cyfyng (CCTV) a goleuadau stryd
  • gweithgarwch plismona ychwanegol mewn mannau lle ceir llawer o droseddau
  • wardeiniaid awdurdodau lleol

Gan gydnabod y potensial i rôl Bwrdd Tref orgyffwrdd â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol, yng Nghymru a Lloegr, a allai, mewn rhai achosion, fod yn cynnal ymyriadau fel hwn eisoes, rydym yn annog Byrddau Tref i fynd ati i ymgysylltu â’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol berthnasol yn eu tref er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ac osgoi dyblygu. Gweler canllaw’r Swyddfa Gartref ar Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol am ragor o wybodaeth.

Astudiaethau achos o ymyriadau diogelwch

Sir Ddinbych – Teledu Cylch Cyfyng

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi defnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i brynu camerâu CCTV a’u gosod mewn mannnau lle y ceir llawer o achosion o dipio anghyfreithlon. Mae’r awdurdod lleol eisoes wedi adnabod pobl a adawodd eitemau mewn lleoliadau ac wedi llwyddo i siarad â’r unigolion hynny. Y nod yw defnyddio’r camerâu i newid ymddygiad pobl yn ogystal ag erlyn unigolion yn y pen draw. Drwy fonitro ac atal gweithgareddau gwrthgymdeithasol mae’r buddsoddiad hwn wedi creu mwy o hyder mewn mannau cyhoeddus ac wedi gwella ansawdd bywyd trigolion.  

Bargen Drefol Bloxwich a Walsall

Cafodd Bloxwich a Walsall £20 miliwn yr un gan eu priod Fargeinion Trefol ac maent wedi bod yn cydweithio’n agos ers hynny.

Dywedodd pobl leol o’r ddwy dref eu bod am gerdded mwy ond eu bod yn teimlo’n anniogel yn aml oherwydd traffig, llygredd ac ofn troseddau. Mae’r trefi bellach yn cyflwyno llwybrau troed newydd, lonydd beicio a lleoedd mwy diogel i gloi beiciau, gan ei gwneud yn haws i bobl symud o amgylch a rhwng y ddwy dref a’r ardal o’u hamgylch. Bydd goleuadau a gwelliannau eraill yn golygu bod pobl yn teimlo’n fwy diogel ac yn fwy hyderus yn cerdded o gwmpas ac y bydd ganddynt fwy o ddewis o ran sut maent yn teithio. Fel rhan o hyn, mae Bwrdd y Fargen Drefol yn gobeithio y bydd ansawdd aer ac iechyd a lles cyffredinol pobl leol yn gwella wrth iddynt ddewis yn fwyfwy i adael eu ceir gartref.

Strydoedd mawr, treftadaeth ac adfywio

Fel y nododd gwaith ymchwil gan More in Common a Power to Change, ‘for many people, nothing epitomises local neglect more than the state of their local high street’. Ers y 1960au, mae ein strydoedd mawr wedi canolbwyntio ar weithgarwch manwerthu. Fodd bynnag, mae costau gorbenion cynyddol, gorgyflenwad o ofod manwerthu, twf canolfannau siopa ar gyrion trefi a siopa ar-lein wedi creu amgylchedd manwerthu lleol heriol.

Gall strydoedd mawr a chanol trefi sy’n llawn adeiladau gwag wneud lle yn llai addas i bobl fyw ynddo. O ganlyniad, mae’n llai deniadol i weithwyr medrus ac mae’n fwy anodd cadw gweithwyr medrus yno, sy’n aml yn golygu bod gan drefi boblogaeth hŷn ac yn creu amgylchedd economaidd sy’n gwaethygu’r heriau demograffig hyn. 

Er mwyn sicrhau eu parhau i fod yn rhan hanfodol o’n trefi ac y gallant gynnig cyfleoedd i bobl leol, mae angen cymorth ar strydoedd mawr traddodiadol i addasu a chynnig darpariaeth amrywiol. Gall trefi ddefnyddio’r cyllid hwn i wella canol eu trefi, gan wneud y lleoliadau hyn a’u hadeiladau yn fwy deniadol a hygyrch i drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Gallai ymyriadau a’r defnydd o bwerau gynnwys:

  • diogelu a gwella safleoedd treftadaeth yn y dref
  • creu a chynnal a chadw parciau a mannau gwyrdd
  • sefydlu Ardaloedd Gwella Busnes
  • cynnal arwerthiannau rhentu strydoedd mawr.

Astudiaethau achos o strydoedd mawr, treftadaeth ac adfywio

Aberdâr

Mae Rhaglen Grant Gwella Eiddo ar Raddfa Fawr, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU ac a weinyddir gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn darparu cymorth ariannol er mwyn sicrhau bod canol trefi allweddol yn cael eu defnyddio unwaith eto at ddibenion economaidd, gan gynnig grantiau o hyd at £250k. Mae hen siop Trina’s Boutique yn eiddo gwag yng nghanol tref sy’n cael budd o hyn. Bydd y datblygiad yn cynnwys adnewyddu’r tu mewn i’r eiddo yn llwyr er mwyn darparu lle i fusnes annibynnol unigryw ar y llawr gwaelod gyda 151m2 o ofod masnachol yn cael ei gwblhau, a thair uned breswyl o ansawdd uchel ar y lloriau uchaf. Ochr yn ochr â gwaith mewnol, caiff y tu allan i’r adeilad ei adnewyddu’n llwyr a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y strydlun yn Aberdâr.

Neuadd Ymarfer Lincoln, Lincoln

Mae Neuadd Ymarfer eiconig Lincoln wedi cael £1 filiwn o’r Gronfa Trefi. Mae’r Neuadd Ymarfer, a leolir ar gyrion un o’r wardiau mwyaf difreintiedig yn economaidd yn Swydd Lincoln, wedi ailagor fel cyfadail celfyddydau a hamdden amlbwrpas, newydd sbon. Yn ystod y dydd, mae’r Neuadd Ymarfer yn lleoliad hamdden i grwpiau cymunedol lleol ac yn darparu hyfforddiant i oedolion er mwyn helpu pobl i gael gwaith. Gyda’r nos, mae’n cynnig rhaglen lawn o gynherddau, comedi, dramâu a phantomeimiau. Ar y cyd â lleoliadau celfyddydau eraill, mae’r Neuadd Ymarfer yn sicrhau bod y celfyddydau yn fwy gweladwy yn y gymuned ac fwy hygyrch. At hynny, bydd yn cynnig gwasanaeth galw heibio iechyd meddwl a fydd wedi’i leoli yn y caffi cymunedol. Hyd yma, mae’r prosiect wedi creu 929 metr sgwâr o ofod masnachol o ansawdd uchel ac wyth swydd barhaol newydd. Rhagwelir y bydd cynnydd o bron i 50,000 yn nifer yr ymwelwyr â’r lleoliad.

Farnworth (Bolton)

Mae’r grant gwerth £13.3 miliwn y mae Farnworth wedi’i gael o Gronfa Strydoedd Mawr y Dyfodol yn helpu’r dref i drawsnewid ei chanol, ysgogi twf a sicrhau y gall ddiwallu anghenion pobl leol yn y dyfodol. Mae ardal y farchnad yn cael ei hailddatblygu, gan ei thrawsnewid yn ddatblygiad amlddefnydd o ansawdd uchel, sy’n cynnwys sgwâr cyhoeddus newydd. At hynny, mae’r cyllid wedi helpu i ehangu Canolfan Hamdden Farnworth, gan ddarparu campfa fwy o faint, stiwdio ddawns newydd a lleoedd parcio ceir ychwanegol. Mae’r cyllid hefyd yn helpu cerddwyr, beicwyr a phobl â phroblemau symudedd i ddefnyddio Market Street drwy nifer o welliannau wedi’u targedu.

Altrincham

Nododd arolwg a gynhaliwyd gan y BBC yn 2010 mai yn Altrincham roedd y stryd fawr wacaf yn Lloegr, gyda 29% o’r siopau yn wag. Daeth manwerthwyr lleol at ei gilydd i ffurfio ‘Partneriaeth Altrincham’, er mwyn adfer y stryd fawr a bu Fforwm Cynllun Cymdogaeth y dref yn llywio prosiectau i gynyddu nifer y lleoedd parcio, creu tai ychwanegol yng nghanol y dref a sefydlu cynllun benthyciadau i fusnesau bach allu adnewyddu gofod manwerthu nad oedd yn cael ei ddefnyddio. Yn 2016, sefydlwyd Ardal Gwella Busnes Altrincham. Ar y cyd ag arweinwyr busnes, creodd gronfa i gefnogi prosiectau a digwyddiadau lleol fel yr Orymdaith Lusernau flynyddol, digwyddiad cynnau Goleuadau Nadolig a ‘Trooping the Corgis’. Mae trafnidiaeth yn y dref wedi gwella gyda lonydd beicio newydd, ardaloedd i gerddwyr yn unig a mannau gwefru cerbydau trydan, a chyfleusterau hamdden sydd wedi’u gwneud yn wyrddach ac yn fwy hygyrch.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, yn 2018, coronwyd Altrincham fel y dref oedd â’r stryd fawr orau ym Mhrydain yn seremoni wobrwyo Strydoedd Mawr Prydain Fawr. Helpodd y wobr hon y dref i groesawu digwyddiadau uchel eu proffil, gan gynnwys rhan olaf pencampwriaeth feicio ‘Tour of Britain’, ac Altrincham oedd y dref beilot ar gyfer ‘Diwrnod Perffaith Strydoedd Mawr Cenedlaethol’ y llywodraeth. Diolch i waith y gymuned, gyda chymorth arweinwyr lleol, yn 2022, enwyd y dref yn un o’r lleoedd gorau i fyw yn y DU ynddo gan y Sunday Times am y bumed flwyddyn yn olynol.

Cumbernauld, Gogledd Swydd Lanark

Bydd y prosiect hwn gwerth £9.2 miliwn, a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Bro, yn galluogi Cyngor Gogledd Swydd Lanark i gyflawni gweledigaeth uchelgeisiol i sefydlu Cumbernauld fel tref newydd ar gyfer yr 21ain ganrif a fydd yn dod ag addysg, cyflogaeth a chartrefi i ganol tref fwyaf Gorllewin Swydd Lanark. Cynlluniwyd y prosiect yn seiliedig ar weithgarwch ymgynghori helaeth â’r gymuned a bydd yn cynnwys prynu a dymchwel canolfan siopa sy’n methu ac adeiladau o’i hamgylch, er mwyn datblygu Canolbwynt Trefol newydd a fydd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer adfywio canol y dref yn ehangach, datgloi buddsoddiad a helpu i wireddu potensial Cumbernauld.

Trafnidiaeth a chysylltedd

Mae pa mor hawdd y gall trigolion gyrraedd y stryd fawr, gweithleoedd a chanolfannau siopa lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod trefi yn ffynnu yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu cynnig opsiynau o ran trafnidiaeth, megis:

  • cysylltu rhannau gwahanol o’r dref â seilwaith newydd
  • darparu ffyrdd diogel er mwyn i bobl allu cerdded neu feicio i ganol y dref
  • sicrhau bod opsiynau o ran trafnidiaeth gyhoeddus yn ymarferol ac yn hygyrch.

Er bod gwella cysylltedd trafnidiaeth yn elfen hanfodol o’r gwaith o sicrhau ffyniant bro, ni fydd yn gwella sefyllfa economaidd lle ar ei ben ei hun. Bydd angen defnyddio buddsoddiad ochr yn ochr â themâu eraill, yn enwedig diogelwch, er mwyn sicrhau bod opsiynau o ran trafnidiaeth yn cael eu hystyried yn ddeniadol ac yn ddiogel. O’i ddefnyddio’n dda, gallai’r cyllid hwn wella cysylltedd mewn trefi a darparu lleoedd parcio fforddiadwy o ansawdd da y mae’n haws dod o hyd iddynt – gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwella hyfywedd – ar gyfer strydoedd mawr a chanolfannau siopa lleol, a galluogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth lleol.

Gallai ymyriadau a’r defnydd o bwerau gynnwys:

  • cynlluniau seilwaith newydd
  • gwelliannau ffyrdd, megis trwsio tyllau mewn ffyrdd neu wella cyffyrdd gorlawn
  • rhaglenni newydd i annog beicio
  • sicrhau bod canol y dref yn fwy hygyrch ac yn haws i gerdded o’i gwmpas

Astudiaethau achos o drafnidiaeth a chysylltedd

Leven, Fife

Sicrhaodd Cyngor Fife £19.4 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro er mwyn cefnogi gwaith adfywio yn Glenrothes a Leven. Ymgynghorwyd yn helaeth â’r cyhoedd drwy Brosiect Cysylltedd Levenmouth a ymgysylltodd â’r gymuned leol. Hwylusodd y prosiect ddigwyddiadau cyhoeddus, digwyddiadau ar-lein a digwyddiadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol a threfniadau cydweithio â phartneriaid yn y prosiect a oedd yn rhan allweddol o’r gwaith o ddatblygu’r prosiect. Arweiniodd hyn at gais llwyddiannus a ddefnyddiodd adborth o grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid lleol. Bydd y cyllid yn helpu i gyflwyno llwybr troed pellter hir uchelgeisiol a fydd yn cysylltu Loch Leven, Kinross a Levenmouth ac yn adnewyddu Riverside Park er mwyn cynyddu twristiaeth ac ennyn mwy o ddiddordeb yn yr ardal.

Cyfnewidfa Drafidiaeth y Porth

Bydd Cyfnewidfa Drafnidiaeth y Porth, sydd wedi cael mwy na £3.5 miliwn o Gronfa Ffyniant Bro y llywodraeth, yn darparu cyfnewidfa bysiau a threnau fodern i’r dref, gan sicrhau teithiau di-dor ledled y rhwydwaith. Bwriedir i’r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus well hon wella mynediad at wasanaethau lleol, cyflogaeth a swyddogaethau tai ar gyfer trigolion.

Bydd Cyfnewidfa Drafnidiaeth Porth yn gonglfaen i’r rhaglen adfywio, datblygu a buddsoddi gynhwysfawr ar gyfer canol y dref a’r ardal o’i hamgylchedd. Bydd yn helpu i greu cymunedau cynaliadwy a llewyrchus.

Y tu hwnt i’w brif swyddogaeth i wella trafnidiaeth, disgwylir i’r prosiect gynyddu nifer yr ymwelwyr â’r Porth, gan ei gwneud yn haws i bobl gyrraedd y dref a chrwydro’r rhanbarth lleol. Bydd hyn, yn ei dro, yn denu mwy o fuddsoddiad i’r ardal leol.

Gwelliannau i Goridor yr A16 yn Swydd Lincoln

Mae bron i £20 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro wedi’i ddefnyddio i wella coridor yr A16 rhwng Boston a Spalding. Bydd y cyllid yn llehau tagfeydd ar y ffordd, yn mynd i’r afael â chysylltedd ac yn gwella cyfleusterau cerdded a beicio.

Yn ogystal â dod â manteision i drigolion ac ymwelwyr â’r ardal, disgwylir i’r buddsoddiad agor yr ardal i ragor o fuddsoddiad. Yn benodol, mae coridor yr A16 yn llwybr allweddol i’r sector bwyd-amaeth, sy’n ased economaidd blaenllaw i Dde Swydd Lincoln.

Cymorth gan y Tasglu Strydoedd Mawr a Threfi

Yn 2024, gall trefi ledled Prydain hefyd gael cymorth ar ffurf ymgynghoriaeth drwy Dasglu Strydoedd Mawr a Threfi newydd. Daw’r cymorth hwn ar ôl i Fyrddau Tref gyflwyno eu Cynllun Hirdymor, gan mai diben y Tasglu Strydoedd Mawr a Threfi yw darparu cymorth ‘creu lleoedd’ ymarferol er mwyn cyflawni’r cynlluniau hynny. Bydd y Tasglu Strydoedd Mawr a Threfi ar gael i bob un o’r 55 o drefi, gan adeiladu ar lwyddiant y Tasglu Strydoedd Mawr presennol sydd, hyd yma, wedi ymweld â mwy na 130 o leoedd lleol yn Lloegr. Bydd yn defnyddio gwersi a ddysgwyd o lwyddiannau’r Tasglu Strydoedd Mawr i fynd ymhellach drwy gynnull arbenigwr ym maes adfywio er mwyn iddynt nodi a lledaenu arferion gorau , rhannu gwybodaeth â’r Uned Trefi am y tueddiadau a’r datblygiadau arloesol a allai gefnogi gwaith adfywio a sicrhau manteision ehangach posibl i economi a chymdeithas y DU. Bydd hefyd yn darparu cymorth a hyfforddiant ymarferol, pwrpasol i leoedd, gan roi mynediad i ganllawiau ac adnoddau, yn enwedig pan fydd awdurdodau lleol yn wynebu heriau o ran capasiti. Ar ôl iddynt gael eu sefydlu, dylai Byrddau Tref ymgysylltu â’r Tasglu Strydoedd Mawr a Threfi yn uniongyrchol, er mwyn deall sut i wneud y defnydd gorau o’r pwerau a’r hyblygrwydd a nodir yn y pecyn cymorth polisi. 

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am gwmpas a nodau’r Tasglu Strydoedd Mawr a Threfi ar ddechrau 2024.

Sut y byddwn yn monitro prosiectau

Gwerthuso

Ochr yn ochr â diweddariadau ar y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi yn y dyfodol, byddwn yn nodi ein cynlluniau ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb gwerthuso ac yn ystyried a fyddai’n gwaith gwerthuso yn ymarferol ac yn ddigon cadarn.

Sicrwydd

Caiff cyllid y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi ei sicrhau yn unol â’r gofynion a nodir yn Fframwaith Sicrwydd Awdurdodau Lleol Cronfeydd Ffyniant Bro, gan ddefnyddio tair llinell amddiffyn.

Os dyfernir y grant drwy Gytundeb Cyllid nad yw’n Grant (GFA), a bod y derbynnydd yn awdurdod lleol, darperir y llinell amddiffyn gyntaf gan yr awdurdod lleol a’r Prif Swyddog Cyllid sy’n gyfrifol amdani (Adran 151/127/114 yng Nghymru a Lloegr, Adran 95 yn yr Alban ac Adran 54 yng Ngogledd Iwerddon) gan ei fod yn gweithredu ar lefel rheoli gweithredol yn yr awdurdod lleol sy’n cael y cyllid.

Bydd yn ofynnol i’r Prif Swyddog Cyllid gyflwyno Datganiad ar y Defnydd o Grant a Llythyr Sicrwydd i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Bydd yn ofynnol i’r Prif Swyddog Cyllid ddarparu cadarnhad ysgrifenedig ei fod wedi ymrwymo i fynd ati i gynnal yr holl wiriadau angenrheidiol er mwyn sicrhau y caiff ei faterion ariannol mewn perthynas â’r rhaglen gyllido eu gweinyddu’n briodol, yn enwedig mewn perthynas â gwaith gweinyddu ariannol a thryloywder trefniadau llywodraethu. Bydd y llinell amddiffyn gyntaf hefyd yn cynnwys gwiriadau cydymffurfiaeth er mwyn sicrhau bod y gofynion llywodraethu sy’n ymwneud â Bwrdd y Dref yn cael eu bodloni.

Ymgymerir â’r ail linell amddiffyn gan y Tîm Sicrwydd a Chydymffurfiaeth yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cynnal amrywiaeth o wiriadau, ar sail risg a sampl. Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgysylltu â’r broses hon a’i chefnogi.

Cyflawnir y drydedd linell amddiffyn gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth a bydd ar ffurf adolygiad o’r gweithgarwch a gwblhawyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyfer yr ail linell amddiffyn. Bydd Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth yn ymgysylltu â thimau archwilio mewnol sy’n gweithredu mewn gweinyddiaethau datganoledig fel y bo’n briodol.

Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022

Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 wrth roi cymhorthdal neu lunio cynllun cymorthdaliadau. Dylai cyrff atebol gyfeirio at y Canllawiau Statudol ar gyfer Cyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau y Deyrnas Unedig. I gael rhagor o wybodaeth, gweler rheolau ynglŷn â Rheoli Cymorthdaliadau: Gofynion allweddol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus.

Os bydd cymhorthdal yn bresennol, rhaid i gyrff atebol ystyried egwyddorion y gofynion rheoli cymorthdaliadau a nodir yn y Canllawiau Statudol ar reoli cymorthdaliadau oni ellir rhoi’r cyllid fel Cymorth Ariannol Lleiaf.

Os bydd cymhorthdal yn fwy na therfynau Cymorth Ariannol Lleiaf neu pe gallai fod yn fwy na’r terfynau hynny (ac nad yw’n dod o fewn un o’r eithriadau a ganiateir gan Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022), neu os na ellir ei ddarparu o dan lwybr symlach (gweler Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022: Canllawiau ar lwybrau symlach am ragor o wybodaeth), bydd angen i gyrff atebol neu ymgeiswyr eraill asesu cymorthdaliadau yn erbyn egwyddorion rheoli cymorthdaliadau a gofynion eraill.

Sut y dylai cyrff atebol ystyried gwybodaeth am reoli cymorthdaliadau

Rhaid i gyrff atebol weithio gyda’u holl randdeiliaid er mwyn deall sut y gellir cyflawni prosiectau arfaethedig gan gydymffurfio â gofynion rheoli cymorthdaliadau. Dylai cyrff atebol ddefnyddio’r fframwaith asesu yn ogystal â’u ymatebion yn y cynnig ehangach (yn enwedig unrhyw wybodath am gyflawnadwyedd) wrth asesu gofynion rheoli cymorthdaliadau.

Os bydd cais yn peri risg annerbyniol y caiff prosiect ei gyflawni heb gydymffurfio â gofynion rheoli cymorthdaliadau, caiff corff atebol ddewis ei wrthod neu fynnu bod addasiadau yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau na fydd cyllido’r prosiect yn torri unrhyw reolau ynglŷn â rheoli cymorthdaliadau.

Beth fydd yn digwydd os na chydymffurfir â gofynion rheoli cymorthdaliadau na chyfraith Cymorth Gwladwriaethol

Efallai y bydd angen i gyrff atebol adennill cyllid o gyflawnwyr prosiect os na chydymffurfiwyd â gofynion rheoli cymorthdaliadau na chyfraith Cymorth Gwladwriaethol.

Felly, dylai cyrff atebol sicrhau bod unrhyw gyflawnwyr prosiect yn rheoli’r broses o reoli cymorthdaliadau neu gymorth Gwladwriaethol yn unol â’u dull gweithredu y cytunwyd arno a chymryd camau i fonitro hyn. Dylent sicrhau bod cytundebau prosiectau yn cael eu llunio er mwyn ei gwneud yn bosibl i gymhorthdal/cymorth Gwladwriaethol gael ei adennill os cafodd ei gamddefnyddio.

Argymhellir hefyd y dylai cyflawnwyr prosiect sicrhau bod partneriaid yn y prosiect yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau ac y gallant adennill cyllid oddi arnynt os na chaiff ei reoli mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r gyfraith neu os caiff ei gamddefnyddio.

Atodiad A: Gofynion llywodraethu Byrddau Tref

1. Tryloywder

Yn unol ag egwyddorion bywyd cyhoeddus, rhaid i weithrediadau Bwrdd y Dref fod yn dryloyw.

Dylai Bwrdd y Dref gyhoeddi enwau ei aelodau a’i drefniadau llywodraethu (gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd a chofnodion o benderfyniadau) ar wefan y cyngor arweiniol.

Rydym yn disgwyl i Fyrddau Tref gyfarfod bob chwarter a chyhoeddi’r canlynol:

  • proses gwneud penderfyniadau wedi’i dogfennu sy’n amlinellu hawliau pleidleisio’r bwrdd
  • proffiliau aelodau’r bwrdd
  • holl bapurau’r bwrdd cyn y cyfarfod o fewn 5 diwrnod gwaith
  • cofnodion drafft cyfarfodydd yn diyn y cyfarfod o fewn 10 diwrnod gwaith
  • y cofnodion terfynol, ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan y bwrdd o fewn 10 diwrnod gwaith
  • unrhyw achosion o wrthdaro buddiannau y rhoddwyd gwybod amdanynt, yn y cofnodion cyhoeddedig

Dylai Byrddau Tref ddilyn trefniadau llywodraethu a chyllid y cyngor arweiniol wrth ystyried adroddiadau preifat, gan sicrhau bod yr holl bapurau ar gael i’r cyhoedd fel mater o drefn.

2. Cod ymddygiad

Dylai holl aelodau Bwrdd y Dref ymrwymo i god ymddygiad sy’n seiliedig ar Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan).

Dylai fod prosesau clir ar gyfer rheoli achosion o wrthdaro buddiannau (masnachol, gwirioneddol a phosibl) wrth wneud penderfyniadau, sy’n gymwys i bawb sy’n ymwneud â gwaith Bwrdd y Dref.

3. Datgan buddiannau

Dylai’r cyngor arweiniol roi canllawiau ar y canlynol:

  • buddiannau ariannol ac anariannol y mae’n rhaid i unigolion eu datgan
  • y broses y mae’n rhaid i aelodau Bwrdd y Dref eu dilyn ar gyfer datgan buddiannau
  • y broses ar gyfer gwneud cais am eithriad

Yna, rhaid i aelodau Bwrdd y Dref gwblhau datganiad o fuddiannau, y bydd y prif gyngor yn ei ddal wedyn. Gall y datganiad hwn fod mewn fformat y mae’r prif gyngor eisoes yn ei ddefnyddio.

Aelodau Bwrdd y Dref sy’n gyfrifol am ddatgan eu buddiannau cyn i Fwrdd y Dref ystyried unrhyw benderfyniadau. Rhaid i’r cyngor arweiniol gofnodi’r canlynol:

  • camau a gymerir mewn ymateb i unrhyw fuddiant a ddatganwyd
  • unrhyw roddion neu letygarwch a roddir i Fwrdd y Dref neu aelodau unigol

Atodiad B: Pecyn cymorth polisi

Bwriedir i’r Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi helpu ardaloedd lleol i fanteisio i’r eithaf ar yr holl bwerau ac adnoddau sydd ar gael iddynt.

Fel rhan o’r broses o lunio cynllun buddsoddi, rydym yn disgwyl i Fyrddau Tref, gyda chymorth yr awdurdod lleol, ddangos sut maent yn defnyddio pwerau, lle maent yn gymwys. 

Mae’r pecyn cymorth polisi yn cwmpasu Lloegr yn gyfan gwbl a Chymru yn rhannol (mewn perthynas â’r pwerau diogelwch). Nid yw’n gymwys i’r Alban. Dylai Byrddau Tref yng Nghymru a’r Alban ystyried yr ysgogiadau lleol a chenedlaethol sydd ar gael iddynt er mwyn datblygu eu Cynllun Hirdymor. Byddwn yn rhoi canllawiau ychwanegol ar y mesurau hyn ar gyfer trefi yng Nghymru a’r Alban ar ddechrau 2024.

Y pwerau diogelwch sydd ar gael

Er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae sawl pŵer y gall awdurdodau lleol, yr heddlu a sefydliadau cyfrifol eraill eu defnyddio yng Nghymru a Lloegr.

Pwerau yn Neddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014

Crynodeb o’r pwerau a gyflwynwyd drwy Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yw hwn. Os yw awdurdodau lleol yn ystyried defnyddio’r pwerau hyn, gweler Canllawiau Statudol y Swyddfa Gartref i Weithwyr Proffesiynol Rheng Flaen.

1. Defnyddir Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus i fynd i’r afael ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, megis grŵp sy’n feddw ac yn afreolus neu gŵn yn baeddu mewn parc cyhoeddus, drwy osod amodau ar y defnydd o ardal benodol, sy’n gymwys i bawb. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am roi Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, ar unrhyw fan cyhoeddus yn eu hardal, ond rhaid iddynt wneud hynny gan ymgynghori â’r heddlu a chynrychiolwyr cymunedol priodol.

Gall Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus gael eu rhoi gan yr awdurdod lleol os bydd yn fodlon, ar sail resymol, fod y gweithgaredd neu’r ymddygiad dan sylw, a gyflawnwyd, neu sy’n debygol o gael ei gyflawni, mewn man cyhoeddus:

  • wedi cael, neu’n debygol o gael, effaith andwyol ar ansawdd bywyd unigolion yn yr ardal leol
  • yn barhaus ei natur neu’n debygol o fod yn barhaus ei natur
  • yn afresymol neu’n debygol o fod yn afresymol a’i fod yn cyfiawnhau’r cyfyngiadau a osodir
  • Gall Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus bara am hyd at dair blynedd

Gallai awdurdodau lleol ddefnyddio Byrddau Tref i gytuno ar Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus a’u cynnwys mewn gweithgarwch ymgynghori â’r cyhoedd. Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad gofynnol a nodir yn y ddeddfwriaeth a’r cyrff perthnasol.

2. Mae gwaharddebau sifil yn adnodd a all atal unigolion rhag ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol yn gyflym. Gall gwaharddeb sifil hefyd gynnwys gofynion cadarnhaol, megis ei gwneud yn ofynnol i unigolyn ddilyn cwrs adsefydlu cyffuriau.

Fe’u rhoddir gan lys sifil yn dilyn cais gan asiantaethau gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • yr heddlu
  • awdurdodau lleol
  • darparwyr tai

Rhaid i’r llys fodloni ei hun, yn ôl pwysau tebygolrwydd, fod yr atebydd wedi ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol neu wedi bygwth gwneud hynny a’i bod yn gyfiawn ac yn gyfleus rhoi’r waharddeb er mwyn atal yr atebydd rhag ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol.

3. Bwriedir i Hysbysiad Gwarchod y Gymuned atal unigolion, busnesau neu sefydliadau rhag ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol. Fe’u defnyddir i ddelio â phroblemau neu niwsansau parhaus, sy’n cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd y gymuned drwy dargedu’r rhai sy’n gyfrifol. Gall Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned gael eu defnyddio gan yr heddlu, awdurdodau lleol a darparwyr tai cofrestredig.

Dim ond os bydd y troseddwr wedi cael rhybudd ysgrifenedig a digon o amser i wneud y newidiadau angenrheidiol y gellir cyflwyno Hysbysiad Gwarchod y Gymuned. Gall methu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwarchod y Gymuned arwain at wŷs i’r llys ac, yn dilyn euogfarn, gall arwain at ddirwy o hyd at Lefel 4, sef £2,500 i individuals neu £20,000 i fusnesau ar hyn o bryd. Gellir cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig ar gyfer yr ymddygiad hwn hefyd.

4. Gall pwerau cau wahardd mynediad i safleoedd trwyddedig a heb eu trwyddedu am gyfnod penodol. Fe’u defnyddir i gau safle dros dro lle y ceir achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu lle mae’n debygol y ceir achosion o’r fath. Defnyddir y pŵer mewn dau gam; y cam cyntaf yw’r Hysbysiad Cau a’r ail yw’r Gorchymyn Cau.
Gall yr Hysbysiad Cau gael ei ddefnyddio gan yr awdurdod lleol neu’r heddlu y tu allan i’r llys a gall gael ei gyflwyno, yn y lle cyntaf, am 48 awr neu ei ymestyn o 24 awr hyd at 48 awr gan brif swyddog gweithredol yr awdurdod lleol (pennaeth gwasanaeth â thâl) neu unigolyn a enwir ganddo, neu gan uwch-arolygydd yr heddlu. Ar ôl i Hysbysiad Cau gael ei gyflwyno, rhaid gwneud cais i’r llys ynadon am Orchymyn Cau, oni fydd yr hysbysiad cau wedi’i ganslo. Gall y Gorchymyn Cau, os caiff ei roi gan y Llys, bara am hyd at chwe mis.

5. Gwneir Gorchmynion Ymddygiad Troseddol yn y llys troseddol. Bwriedir iddynt atal unigolyn sydd wedi’i gael yn euog o drosedd arall, rhag ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol (gan gynnwys bygwth eraill yn y gymuned, bod yn feddw’n barhaus ac ymddwyn mewn ffordd ymosodol yn gyhoeddus). Gall unigolion gael eu herlyn o dan Orchmynion Ymddygiad Troseddol yn dilyn cais gan yr heddlu neu’r awdurdod lleol. Er mwyn rhoi Gorchymyn Ymddygiad Troseddol, rhaid i’r llys fodloni ei hun, y tu hwnt i amheuaeth resymol, fod y troseddwr wedi ymddwyn mewn ffordd sydd wedi aflonyddu ar unrhyw unigolyn, ei ddychryn neu beri gofid iddo neu sy’n debygol o wneud hynny. Rhaid i’r llys hefyd ystyried y bydd gwneud y gorchymyn yn helpu i atal y troseddwr rhag ymddwyn yn y fath fodd.

Rhaid i delerau’r CBO gynnwys hyd y gorchymyn. Ar gyfer oedolion, isafswm o ddwy flynedd hyd at gyfnod amhenodol. Ar gyfer unigolion o dan 18 oed, rhaid i’r gorchymyn fod am gyfnod o rhwng blwyddyn a thair blynedd.

6. Mae’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn rhwyd ddiogelwch statudol bwysig i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy’n credu nad ydynt wedi cael ymateb boddhaol i’w cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae gan ddioddefwyr yr hawl i ofyn am adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol, pan gyrhaeddir trothwy lleol. Rhaid i’r adolygiad gynnwys pob parti perthnasol gan gynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu, byrddau gofal integredig a darparwyr cofrestredig er mwyn adolygu achos dioddefwr. Diben hyn yw dod ag asiantaethau at ei gilydd er mwyn mabwysiadu dull cydgysylltiedig o ddatrys problemau er mwyn dod o hyd i ateb ar gyfer y dioddefwr. Gallai Byrddau Tref gymryd rhan yn y broses o gynrychiolwyr dioddefwyr yn eu cymunedau.

Astudiaeth achos: Cyngor Sandwell

Gweithiodd Cyngor Sandwell gydag ASB Help i adolygu ei broses Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Ymgynghorodd y cyngor â’i bartneriaid statudol, rhanddeiliaid eraill a’r gymuned yn ystod ei adolygiad. Datblygodd bolisi diwygiedig y bwriedir iddo wella’r gwasanaeth i ddioddefwyr, gan gynnwys cynnig pecyn triphlyg’ o gymorth, gwasanaeth eirioli a chynrychiolaeth yn yr adolygiad achos i unrhyw ddioddefwr pan gyrhaeddir y trothwy, yn ogystal â throthwy newydd sy’n ei gwneud yn bosibl i achosion nad ydynt yn bodloni’r prif feini prawf gael eu hatgyfeirio i adolygiad achos gan uwch-reolwr o un o’r partneriaid statudol. At hynny, lluniodd gyfres o ddogfennau er mwyn rhoi mwy o eglurder i ddioddefwyr a helpu staff i wneud penderfyniadau.

7. Mae Rhwymedi Cymunedol yn rhoi cyfle i ddioddefwyr leisio eu barn mewn perthynas â chosbi unigolion sydd wedi ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol y tu allan i’r llys pan ddewisir datrysiad cymunedol, rhybuddiad amodol neu rybuddiad amodol ieuenctid fel yr ymateb mwyaf priodol. Mae “Dogfen Rhwymedi Cymunedol”, a lunnir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (gyda chytundeb y prif gwnstabl lleol ac ar ôl ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd a grwpiau cymunedol), yn cynnwys rhestr o gamau y gall y dioddefwr eu dewis i’w cymryd gan y cyflawnwr.

Pwerau yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

8. Gall awdurdodau lleol gyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig er mwyn cymryd camau gorfodi priodol yn erbyn tipio anghyfreithlon, dympio anghyfreithlon a gwastraff anghyfreithlon. Gall Hysbysiadau Cosb Benodedig amrywio o £150 i £1,000, os cânt eu setlo y tu allan i’r llys neu swm diderfyn os eir â nhw i’r llys.

Cynllun Gweithredu ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

9. Gan adeiladu ar bwerau presennol, ar 27 Mawrth 2023, cyhoeddodd y llywodraeth y Cynllun Gweithredu ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Mae’r Cynllun Gweithredu yn nodi dull newydd uchelgeisiol o weithio gydag asiantaethau lleol er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru a Lloegr.

Fel rhan o’r Cynllun Gweithredu, gwnaethom gyhoeddi cynlluniau braenaru ar gyfer dull Ymateb i Fannau Problemus a Chyfiawnder Di-oed. Yn achos rhai trefi sy’n rhan o’r Rhaglen, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar Fwrdd eu Tref fydd yn dal cyfrifoldebau am y cynlluniau peilot hyn.  Gellid defnyddio Byrddau Tref fel fforwm i drafod sut y caiff y dull Plismona Mannau Problemus a Chyfiawnder Di-oed ei ddefnyddio mewn Tref. Gan ystyried Plimona Mannau Problemus yn benodol, dylai hyn fod yn seiliedig ar ddata a gwaith dadansoddi a wnaed gan yr Heddlu, a allai olygu nad oes yr un man problemus yn cael ei nodi na’i flaenoriaethu. Bydd Swyddogion yn dal i gael eu defnyddio yn unol â chyfarwyddyd yr Heddlu lleol. Gallai ystyriaethau gynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt):

  • sut i ddefnyddio cyllid Ymateb i Fannau Problemus ar gyfer wardeiniaid awdurdod lleol ychwanegol drwy Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol.
  • Os nodir mwy nag un man problemus, gallai’r lleoliadau gael eu trafod a’u hadolygu ar y cyd â’r Heddlu.
  • sut y caiff troseddau sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac achosion o dorri gorchmynion eu hatgyfeirio i’r rhaglen Cyfiawnder Di-oed neu raglenni gwaith tebyg, megis ‘Youth Diversion’.

Cynigion i atgyfnerthu pwerau presennol ymhellach

Ar 14 Tachwedd 2023, cyflwynodd y llywodraeth y Bil Cyfiawnder Troseddol i’r Senedd.  Drwy’r bil hwn, rydym yn ymrwymedig i atgyfnerthu a gwella pwerau presennol er mwyn lleihau ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Y pwerau sydd ar gael mewn perthynas â strydoedd mawr, treftadaeth ac adfywio

Strydoedd Mawr a Chanol Trefi

1. Mae Arwerthiannau Rhentu Strydoedd Mawr yn bŵer newydd i awdurdodau lleol yn Lloegr a gyflwynwyd drwy Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023. Bydd y llywodraeth yn paratoi’r is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i roi Arwerthiannau Rhentu Strydoedd Mawr ar waith yn ystod y flwyddyn nesaf a bydd yn darparu pecyn cymorth ar wahân i awdurdodau lleol er mwyn helpu i’w cyflwyno. Ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith, bydd yn rhaid i landlordiaid osod eiddo masnachol a fu’n wag am fwy na blwyddyn yn ystod cyfnod o 24 mis yng nghanol trefi ar brydlesau 1-5 mlynedd a gaiff eu harwerthu drwy’r awdurdod lleol.

Bydd Arwerthiannau Rhentu Strydoedd Mawr yn galluogi awdurdodau lleol i leihau nifer yr eiddo gwag, hyrwyddo safonau gosod gofynnol ar gyfer unedau masnachol a threfniadau rhent hyblyg a gwella’r defnydd a’r canfyddiad o strydoedd mawr lleol. Byddant hefyd yn ceisio sicrhau mwy o gydweithredu rhwng landlordiaid ac awdurdodau lleol a gwneud tenantiaethau yng nghanol trefi yn fwy hygyrch a fforddiadwy i denantiaid, gan gynnwys busnesau bach a grwpiau cymunedol.

2. Yn Lloegr, gall awdurdodau lleol a Byrddau Tref annog busnesau i wneud cais am drwyddedau palmant. Mae’n rhain yn caniatáu i ddodrefn gael eu gosod y tu allan i’r safle, gan greu lleoedd bwyta awyr agored. Caiff proses gwneud cais newydd ei chyflwyno drwy Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023. Darllenwch y canllawiau presennol ar drwyddedau palmant.

3. Mae Ardaloedd Gwella Busnes yn ardal lle mae busnesau lleol wedi pleidleisio dros fuddsoddi gyda’i gilydd er mwyn gwella eu hamgylchedd. Mewn Ardaloedd Gwella Busnes, codir ardoll ar dalwyr ardrethi busnes cymwys ar ben y bil ardrethi busnes, er mwyn cyflawni prosiectau a darparu gwasanaethau er budd pob un ohonynt.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pa brosiectau neu wasanaethau y gellir eu darparu drwy Ardal Gwella Busnes ond rhaid iddo fod yn ychwanegol at wasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Gallai gwelliannau gynnwys mesurau diogelwch ychwanegol, gwaith glanhau a mesurau amgylcheddol. Yn ôl a ddeëllir, mae mwy na 300 o Ardaloedd Gwella Busnes yn gweithredu ledled y DU.

Astudiaeth achos: Cenhadon

Gall Ardaloedd Gwella Busnes gyflogi cenhadon dinas i weithredu fel presenoldeb gweladwy a chroesawgar yn yr ardal. Gall cenhadon gyflawni amrywiaeth o dasgau wrth iddynt batrolio’r ardal, gan gynnwys rhoi cyfarwyddiadau i aelodau o’r cyhoedd ar sut i gyrraedd atyniadau a chyfleusterau a helpu busnesau i fynd i’r afael ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a rhoi gwybod amdanynt.

Yn ogystal â chenhadon yn ystod y dydd, mae Ardal Gwella Busnes Wolverhampton yn darparu Gwarcheidwaid Nos. Mae’r cenhadon nos hyn yn helpu i gadw canol y dref yn ddiogel drwy ddarparu presenoldeb gweladwy yn yr ardal sy’n rhoi sicrwydd i bobl. Yn ôl adroddiad blynyddol 2022 ar Ardal Gwella Busnes Wolverhampton, mae ei Gwarcheidwaid Nos bellach yn gweithredu gwasanaeth 60 noson drwy gydol y flwyddyn, gyda’r Ardal Gwella Busnes yn prynu camerâu a wisgir ar y corff er mwyn gwella lefel y wybodaeth a gesglir gan eu partolau. Mae patrolau’r Gwarcheidwaid Nos yn ategu darpariaeth yr Hafan Ddiogel Gyda’r Hwyr a Chymorth Cyntaf Gyda’r Hwyr, gan helpu i sicrhau bod pobl yn mwynhau’r economi liw nos.

Adfywio a Chynllunio Cymdogaeth

4. Mae hawliau datblygu a ganiateir yn ganiatâd cynllunio a roddir yn genedlaethol gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau sy’n ei gwneud yn bosibl i waith adeiladu a newid defnydd penodol ddigwydd heb orfod cyflwyno cais cynllunio. Yn Lloegr, gall hawliau datblygu a ganiateir wneud y canlynol:

  • darparu ar gyfer newid defnydd adeiladau presennol megis swyddfeydd, siopau a bwytai a geir yng Nghanol Trefi i’w defnyddio at ddibenion preswyl
  • helpu busnesau i dyfu drwy roi caniatâd i ymestyn eu safle presennol
  • galluogi awdurdodau lleol i gynnal marchnadoedd awyr agored am gyfnod amhenodol er mwyn cefnogi cymunedau a busnesau lleol a rhoi hwb i’r stryd fawr
  • ei gwneud yn bosibl i dir gael ei ddefnyddio dros dro at unrhyw ddiben am hyd at 28 diwrnod fesul blwyddyn galendr, y gellir defnyddio 14 diwrnod o’r cyfanswm hwnnw ar gyfer marchnadoedd. Ym mis Gorffennaf 2023, lansiodd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ymgynghoriad ar gynigion i gynyddu nifer y diwrnodau y gall marchnaoedd weithredu o dan yr hawl datblygu a ganiateir hon. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Medi 2023 ac, ar hyn o bryd, rydym yn dadansoddi’r ymatebion er mwyn llywio’r camau nesaf. Gwneir cyhoeddiadau pellach maes o law. Darllenwch fwy am yr ymgynghoriad

5. Mae Gorchmynion Datblygu Lleol yn adnoddau cynllunio â ffocws lleol y gall awdurdodau cynllunio lleol eu defnyddio i roi caniatâd cynllunio ar gyfer mathau penodol o waith datblygiad mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig. Gall Gorchmynion Datblygu Lleol chwarae rôl bwysig o ran cymell gwaith datblygu drwy symleiddio’r broses gynllunio a gwneud buddsoddi yn fwy deniadol. Gallai awdurdodau lleol ddefnyddio Gorchmynion Datblygu Lleol am sawl rheswm, gan gynnwys er mwyn adfywio’r stryd fawr, cymell gwaith datblygu ar safleoedd segur a darparu tai. Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Gynllunio wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar baratoi Gorchmynion Datblygu Lleol, yn ogystal ag astudiaethau achos o arferion da.

Astudiaeth achos: Gorchymyn Datblygu Lleol. Grimsby

Mae Gorchymyn Datblygu Lleol wedi cyflwyno datblygiad tai newydd yn Grimsby. Datblygodd Cyngor Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln y Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer y safle yn 2016. Roedd y safle trefol 4 hectar wedi bod yn wag ers 2005 ac roedd yn ddolur llygad. Nod y cyngor oedd cynyddu’r tebygolrwydd y gallai’r safle gael ei ddatblygu ar gyfer datblygiad amlddefnydd a fyddai’n cynnwys unedau preswyl yn bennaf. Cafodd y cais cynllunio materion a gadwyd yn ôl ar gyfer datblygiad amlddefnydd yn cynnwys 184 o dai, 76 o fflatiau a 1000 metr sgwâr a arwynebedd llawr masnachol ganiatâd cynllunio yn 2017. Mae pobl leol bellach yn cael budd o’r cartrefi a ddarparwyd.

6. Er mwyn cyflwyno datblygiadau preswyl o ansawdd uchel ac adfywio safleoedd masnachol, gall Byrddau Tref weithio gyda’r awdurdod cynllunio lleol i gyflwyno polisïau cynllun lleol a Gorchmynion Datblygu Lleol. Bydd Cynlluniau Atodol ar eu newydd wedd (ar ôl iddynt gael eu cyflwyno drwy Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023) yn cynnig ffordd fwy hyblyg i awdurdodau cynllunio adweithio ac ymateb i newidiadau annisgwyl yn eu hardal, ar wahân i’r broses o baratoi’r cynllun lleol.

7. Gall cynghorau plwyf a fforymau cymdogaeth, fel “cyrff cymwys”, baratoi cynllun datblygu cymdogaeth neu orchymyn datblygu cymdogaeth.

  • Gellir defnyddio cynlluniau datblygu cymdogaeth, er enghraifft, i neilltuo safleoedd datblygu, dynodi mannau gwyrdd gwarchodedig a phennu polisïau ar ddylunio ac er mwyn diogelu treftadaeth leol. Ar ôl iddynt gael eu llunio, maent yn rhan o’r cynllun datblygu lleol, y mae penderfyniadau cynllunio yn cael eu gwneud yn ei erbyn gan yr awdurdod cynllunio lleol.

  • Mae gorchmynion datblygu cymdogaeth yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith datblygu mewn cymdogaeth, er enghraifft, i ddatblygu tai ar safleoedd neilltuedig neu ar gyfer newid defnydd penodol er mwyn cefnogi’r gwaith o adfywio’r stryd fawr. Os bydd cyrff cymwys yn paratoi neu’n diweddaru eu cynlluniau datblygu cymdogaeth, fe’u hanogir i ystyried sut y gellir cysoni polisïau yn eu cynllun â’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Hirdymor.

8. Mae adran 226 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn bŵer prynu gorfodol sy’n galluogi awdurdodau lleol i ddod â thir ynghyd neu gaffael eiddo er mwyn cyflawni cynlluniau adfywio, ar yr amod bod achos cymhellol er budd y cyhoedd dros ddefnyddio’r pŵer. Gellir ei defnyddio i gaffael tir gwag neu ddiffaith ac eiddo gwag neu adfeiliedig ar stryd fawr (sy’n ddolur llygad ac sy’n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol), er mwyn gwella llesiant yr ardal ac annog mwy o weithgarwch economaidd.

Mae Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 yn cynnwys mesur sy’n egluro y gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r pŵer prynu gorfodol at ddibenion o dan adran 226 i gyflawni gweithgarwch adfywio yn eu hardaloedd. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyder i awdurdodau lleol ddefnyddio eu pŵer cynllunio gorchymyn prynu gorfodol o dan adran 226 at ddibenion adfywio. Disgwylir i’r mesur hwn ddod i rym a chael ei ddefnyddio gan awdurdod lleol, ar ddechrau 2024.

Astudiaeth achos: Prynu Gorfodol, Sheffield

Defnyddiodd Cyngor Dinas Sheffield ei bwerau gorchymyn prynu gorfodol o dan adran 226 i gaffael tir ar ymyl ogleddol canol dinas Sheffield. Roedd y rhan fwyaf o’r tir yn cynnwys adeiladau gwag ac adfeiliedig o wahanol gyfnodau, a oedd yn golygu bod y tir yn ddiolwg. Roedd y gorchymyn prynu gorfodol yn golygu y gallai gaffael y tir er mwyn iddo allu cyflawni cynllun ailddatblygu ac adfywio cynhwysfawr. Roedd y cynllun yn ddatblygiad amlddefnydd a oedd yn cynnwys swyddfeydd, unedau preswyl, gwestai, unedau manwerthu a chyfleusterau hamdden.

9. Mae adran 17 o Ddeddf Tai 1985 yn bŵer prynu gorfodol sy’n grymuso awdurdodau tai lleol (yng Nghymru a Lloegr) i gaffael tir, tai neu eiddo arall er mwyn darparu llety tai (ar yr amod bod achos cymhellol er budd y cyhoedd dros ddefnyddio’r pŵer). Rhaid i’r ymarfer caffael sicrhau mantais tai feintiol neu ansoddol.

Astudiaeth achos: Adnewyddu Stryd Fawr, Swydd Amwythig

Yn ddiweddar, prynodd Cyngor Swydd Amwythig Dafarn y White Lion yn Wem. Saif y dafarn goetsys hon sy’n rhestredig Gradd II mewn man amlwg yn y dref a bu’n wag ers 20 mlynedd. Ar ôl prynu’r adeilad am £92,000, gall y Cyngor bellach sicrhau y caiff ei adfer mewn modd sensitif, ond gall hefyd sicrhau y bydd yn cael ei ddefnyddio unwaith eto (o bosibl ar gyfer cartrefi a defnydd masnachol a fydd yn denu ymwelwyr i’r rhan hon o’r stryd fawr) a fydd o fudd i’r dref.

10. Drwy Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gall awdurdod cynllunio lleol gyflwyno Hysbysiad Adran 215 i’w gwneud yn ofynnol i berchennog gymryd camau i lanhau tir neu adeiladau, pan fydd eu cyflwr yn cael effaith andwyol ar amwynder ardal. Rhaid i’r hysbysiad hwn nodi’r camau sydd i’w cymryd a’r amserlenni cysylltiedig. Dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried sut y gallai defnydd rhagweithiol o’r pŵer hwn helpu i gyflawni nodau adfywio lleol, gan nodi cyfleoedd gyda’u Bwrdd Tref, Ceir enghreifftiau cadarnhaol yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 Adran 215: canllawiau arfer gorau.

11. Cyflwynodd Deddf Tai 2004 bŵer i awdurdodau tai lleol fynd yn gyfrifol am reoli eiddo preswyl cymwys, a elwir yn Orchmynion Rheoli Anheddau Gwag.

12. Mae Deddf Cyfraith Eiddo 1925 yn galluogi awdurdod lleol sydd â dyled ar eiddo gwag i gofrestru’r ddyled fel pridiant, wedi’i gofrestru yn Rhan 2 o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol. Mae gan yr awdurdod lleol yr holl bwerau a rhwymedïau sydd ar gael i forgeisai o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, a fyddai’n cynnwys pŵer i orfodi gwerthu’r eiddo er mwyn adennill y ddyled.

Diogelu Treftadaeth

13. Mae canllawiau dylunio a chodau dylunio yn Lloegr yn rhoi sicrwydd i berchenogion eiddo, datblygwyr a buddsoddwyr ynghylch y gofynion y bydd angen i ddatblygiadau newydd eu bodloni. Maent yn allweddol i sicrhau buddsoddiad ac osgoi oedi a rhoi sicrwydd i bobl leol y bydd datblygiadau yn cyrraedd safon hysbys ac y diogelir eu cymeriad. Ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith drwy Ddeddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023, gall awdurdodau fabwysiadu codau dylunio fel cynlluniau atodol, y rhoddir cryn bwys arnynt mewn penderfyniadau. Nid oes angen i ganllawiau a chodau dylunio ymdrin â phob agwedd ar waith dylunio ond gallant ganolbwyntio ar agweddau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod datblygiad yn dderbyniol a lle y gellir pennu paramedr. Gweler Newport and Ryde Commercial Frontage Design Guide (Ynys Wyth), fel enghraifft.

Gweler y canllaw dylunio cenedlaethol.

Gweler y canllaw ar y Cod Dylunio Enghreifftiol Cenedlaethol.

Astudiaeth achos: Kilmarnock, Dwyrain Swydd Aeron

Bydd y buddsoddiad hwn gwerth £20 miliwn yn Kilmarnock, a ddarparwyd gan y Gronfa Ffyniant Bro, yn creu theatr a neuadd gyngerdd a fydd yn denu perfformwyr uchel eu proffil ac yn sicrhau bod y celfyddydau perfformio yn fwy hygyrch i bobl leol. Cafodd y prosiect ei gwmpasu a’i ddiffinio yn dilyn gweithgarwch ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid drwy ddatblygu Cynllun Datblygu Integredig Trefol Kilmarnock a’r Cynllun Gweithredu i Ddathlu Canol Tref Kilmarnock, a nododd fod angen buddsoddi yn Theatr y Palace a’r Neuadd Fawr.  Bydd yn trawsnewid yr adeilad hanesyddol yn atyniad i ymwelwyr, gan ddathlu treftadaeth unigryw’r ardal. Bydd y prosiect yn gwella hygyrchedd mewn ardaloedd i gwsmeriaid ac ardaloedd perfformio, yn creu caffi a bar newydd ac yn galluogi’r theatr i sefydlu cwnni theatr ieuenctid newydd.

14. Mae’n ddyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol i baratoi cynigion i ddiogelu neu wella cymeriad neu olwg eu hardaloedd cadwraeth o bryd i’w gilydd, a chyflwyno’r cynigion yn drwy gyfarfod cyhoeddus yn yr ardal. Fe’u gelwir yn gynigion rheoli ardal gadwraeth, a all fod yn strategaeth neu’n gynllun gweithredu sy’n cynnwys gwaith cynllunio a buddsoddi ehangach mewn lleoedd a mesurau rheoli, y cytunwyd arnynt gan randdeiliaid lleol mewn partneriaeth â’r awdurdod cynllunio lleol. Un enghraifft o hyn yw Cyngor Bwrdeistref Dudley, sy’n gweithio gyda’r gymuned leol i wella Ardal Gadwraeth Canol Tref Brierly Hill yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, gan ddilyn y camau a nodwyd yn ei gynllun rheoli.

Gweler cyngor Historic England ar Arfarnu, Dynodi a Rheoli Ardaloedd Cadwraeth.

15. Mae Gorchmynion Cydsyniad Adeilad Rhestredig lleol yn galluogi awdurdodau lleol i roi cydsyniad adeilad rhestredig fel caniatâd cyffredinol rhagweithiol ledled eu hardal gyfan neu mewn rhan ohoni, ar gyfer addasu neu ymestyn grwpiau o adeiladau rhestredig o ddisgrifiad penodol. Gellir defnyddio hyn, er enghraifft, i roi caniatâd ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni megis paneli solar ar adeiladau rhestredig. Darllenwch ganllaw Historic England ar Orchmynion Cydsyniad Adeilad Rhestredig.

16. Gall awdurdodau cynllunio lleol lunio rhestrau lleol er mwyn rhoi rhywfaint o ddiogelwch i asedau treftadaeth sy’n bwysig yn lleol o dan y system gynllunio. Os bydd ased wedi’i restru’n lleol, dylid rhoi pwys arno mewn penderfyniadau cynllunio. Dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried y rôl y gallai rhestru asedau ei chwarae o ran diogelu treftadaeth, gan weithio gyda Byrddau Tref i wneud hynny. Ceir canllawiau pellach ar y broses hon yn Historic England: Local Listing Historic England.

17. Gall adeiladau hanesyddol sydd wedi dadfeilio greu ymdeimlad o ddirywiad, hyd yn oed os mai un perchennog esgeulus sy’n gyfrifol am eu cyflwr. Mae adran 48 o Ddeddf Adeiladau Rhestredig 1990 yn galluogi awdurdod cynllunio lleol i gyflwyno Hysbysiad Atgyweirio i berchennog adeilad rhestredig, gan nodi’r gwaith sydd, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol, yn rhesymol angenrheidiol er mwyn diogelu’r adeilad yn briodol.

18. Mae adran 78 o Ddeddf Adeiladu 1984 yn ymwneud â mesurau brys. Fodd bynnag, cyn arfer eu pwerau, rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu perchennog a meddiannydd yr adeilad o’i fwriad. Darllenwch am y canllaw ar gamau gorfodi i ddiogelu adeiladau hanesyddol.

Perchenogaeth Gymunedol

19. O dan y Cynllun Asedau o Werth Cymunedol, o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, gall adeilad neu ddarn o dir gael ei gofrestru fel “Ased o Werth Cymunedol” os yw ei brif ddefnydd yn hyrwyddo llesiant cymdeithasol neu fuddiannau cymdeithasol cymuned a’i fod yn debygol o wneud hynny yn y dyfodol.Gall grwpiau cymunedol a chynghorau plwyf gyflwyno enwebiadau ar gyfer Asedau o Werth Cymunedol, y bydd awdurdodau lleol yn eu hystyried wedyn. Os caiff Asedau o Werth Cymunedol ei roi ar werth, caiff cymunedau gyfle i wneud cais i’w brynu, er mwyn ei ddiogelu at ddefnydd y gymuned (a elwir yn Hawl y Gymuned i Wneud Cais). Gallai awdurdodau lleol weithio gyda Byrddau Tref er mwyn ystyried y rôl y gall y broses hon ei chwarae o ran nodi a diogelu asedau lleol.

20. Mae Trosglwyddo Asedau Cymunedol (Cydsyniad Gwaredu Cyffredinol) yn galluogi awdurdodau lleol i werthu tir ac adeiladau am bris sy’n is na’u gwerth marchnadol pan ellir sicrhau budd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol. Er bod y broses hon yn un gymhleth, gallai awdurdodau lleol a Byrddau Tref ystyried a yw hwn yn adnodd priodol ar gyfer cefnogi perchenogaeth gymunedol a diogelu treftadaeth eu tref.

Astudiaeth achos: Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, Harborough

Roedd yr ‘Hub’ yn arfer bod yn bafiliwn brics anghyfannedd a oedd yn eiddo i Gyngor Dosbarth Harborough. Dros y blynyddoedd, dadfeiliodd yr adeilad yn raddol ac, oherwydd ei gyflwr gwael a chost sylweddol y gwaith o’i gynnal a’i gadw, nid oedd yn economaidd ymarferol ei gynnal a’i gadw mwyach ac roedd mewn perygl o gael ei ddymchwel. Drwy gytuno ar brydles hedyn pupur am 125 o flynyddoedd i Gyngor Plwyf Eglwysig, Plwyf Eglwysig St Luke a gyda grant gwerth £250,000 o’r Gronfa Perchenogaeth Gymunedol, caiff yr adeilad ei adnewyddu er mwyn creu Canolfan Gymunedol a Chaffi, a fydd yn cynnig man cyfarfod i bobl ac yn helpu i ddarparu gwasanaethau cymorth a buddion eraill i’r gymuned leol.

Y pwerau sydd ar gael o ran trafnidiaeth a chysylltedd

Dylunio strydoedd a gwella ffyrdd

1. Mae awdurdodau traffig lleol yn gyfrifol am reoli eu rhwydwaith ffyrdd er budd yr holl draffig, gan gynnwys pobl sy’n cerdded ac yn olwyno. Dylai gwaith dylunio strydoedd geisio greu amgylchedd dymunol a deniadol. Dangoswyd bod creu amgylchedd o’r fath, sy’n annog pobl i oedi a threulio amser, yn sicrhau manteision economaidd, gan gyfrannu at dwf.

Mae camau y gall awdurdodau traffig lleol eu cymryd yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:

  • gwneud yn siŵr bod troedffyrdd yn ddigon llydan er mwyn i bawb allu eu defnyddio, yn enwedig pobl anabl, a darparu ar gyfer y galw disgwyliedig.
  • darparu’r math cywir o groesfannau mewn mannau addas, gyda nodweddion hygyrchedd megis cyrbiau isel a phalmentydd botymog.
  • creu amgylchedd deniadol i gerddwyr, er enghraifft drwy waith plannu, celfyddyd stryd a defnyddio deunyddiau sympathetig
  • darparu digon o seddi, cysgodfannau a mesurau eraill er mwyn sicrhau y gall pobl orffwys a mwynhau’r lle yn ogystal â symud o gwmpas yn ddiogel ac yn hygyrch
  • sicrhau bod dodrefn stryd sefydlog megis biniau sbwriel a mannau gwefru cerbydau trydan wedi’u gosod mewn mannau priodol ac nad ydynt yn rhwystro pobl drwy wneud y droedffordd yn gulach na’r lled lleiaf a argymhellir
  • sicrhau bod dodrefn stryd symudol megis hysbysfyrddau A a dodrefn caffis wedi’u gosod yn ystyrlon a bod camau yn cael eu cymryd os nad ydynt
  • cynnal a chadw troedffyrdd er mwyn gwneud yn siŵr bod yr wyneb yn wastad, heb unrhyw beryglon baglu, yn glir o sbwriel ac wedi’u graeanu mewn tywydd oer

Mae gan awdurdodau lleol bwerau i wneud newidiadau i gynlluniau ffyrdd, gan gynnwys troedffyrdd, drwy wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth gan gynnwys Deddf Priffyrdd 1980, Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a Deddf Rheoli Traffig 2004.

Mae amrywiaeth o gyngor ar arferion da ar gael er mwyn cefnogi awdurdodau lleol. Mae Manual for Streets a Manual for Streets 2 yn nodi egwyddorion dylunio strydoedd sydd â’r nod o sicrhau mai anghenion pobl sy’n cerdded ac yn olwyno yw’r brif ystyriaeth. Mae Inclusive Mobility yn nodi argymhellion ynglŷn â lledau lleiaf troedffyrdd. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am sicrhau y caiff newidiadau i’w ffyrdd eu cyflawni mewn ffordd sy’n eu galluogi i gydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb, yn enwedig Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Atgoffir awdurdodau lleol bod y gohiriad o ran mannau a rennir sy’n ymgorffori wyneb gwastad, a gyhoeddwyd yn y Strategaeth Drafnidiaeth Gynhwysol, ar waith o hyd. Mae wynebau gwastad yn golygu nad oes cyrbiau ar gael i wahaniaethu rhwng y droedffordd a’r gerbytffordd, ac mae grwpiau sy’n cynrychioli pobl ag amhariad ar y golwg yn arbennig wedi nodi’n glir y gall hyn ei gwneud yn anodd iddynt symud o gwmpas yn annibynnol ac yn ddiogel.

Seilwaith Trafnidiaeth Lleol

2. Mae’r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn dâl y gall awdurdodau lleol ei godi ar ddatblygiadau newydd yn eu hardal. Gellir ei defnyddio i gyllido amrywiaeth eang o seilwaith er mwyn cefnogi’r gwaith o ddatblygu ardal. Gallai hyn gynnwys trafnidiaeth, ysgolion, ysbytai a mannau gwyrdd.

Os bydd datblygiad y gellir codi tâl arno yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal cyngor plwyf, rhaid i’r awdurdod codi tâl drosglwyddo cyfran o dderbyniadau’r Ardoll Seilwaith Cymunedol o’r datblygiad i’r cyngor plwyf. Gelwir hyn yn gyfran y gymdogaeth. Gall cymunedau heb gyngor plwyf elwa o gyfran y gymdogaeth o hyd. Os nad oes unrhyw gyngor plwyf, bydd yr awdurdod codi tâl yn cadw derbyniadau’r Ardoll Seilwaith Cymunedol ond dylai ymgysylltu â’r cymunedau lle mae’r gwaith datblygu wedi’i wneud a chytuno â nhw ar y ffordd orau o wario’r cyllid cymdogaeth. Darllenwch y canllaw ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol

Byddwn yn diweddaru’r canllawiau er mwyn nodi’n glir y dylai awdurdodau lleol, a chynghorau plwyf lle maent i’w cael, gynnwys Byrddau Tref yn y broses o benderfynu ar flaenoriaethau ar gyfer y ffordd y caiff cyfran y gymdogaeth ei gwario.

Astudiaethau achos: Cyngor Plwyf Chalfont St Giles a Bryste

Defnyddiodd Cyngor Plwyf Chalfont St Giles yr arian a ddyrannwyd iddo o’r Ardoll Seilwaith Cymunedol i wario £8,650 ar lwybrau hygyrch ym Maes Chwaraeon Chalfont St Giles.

Defnydiodd Bryste, sy’n ardal heb blwyf, £25,000 o gyfran y gymodogaeth o’i derbyniadau o’r Ardoll Seilwaith Cymunedol er mwyn helpu i ariannu clwb ieuenctid a £17,000 i wneud gwelliannu i Dai Gwydr Meithrinfa Blanhigion Blaise, sy’n darparu planhigion o ansawdd uchel a chyflenwadau i fusnesau a chynghorau drwy gydol y flwyddyn.

3. Mae Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 yn cynnwys pwerau i gyflwyno Ardoll Seilwaith newydd a fydd, yn y pen draw, yn disodli’r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn Lloegr (heb gynnwys Ardoll Seilwaith Cymunedol Faerol a godir gan Faer Llundain). O dan yr Ardoll Seilwaith, bydd yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol lunio strategaethau Cyflenwi Seilwaith, gan nodi strategaeth ar gyfer y ffordd y maent yn bwriadu gwario enillion o’r Ardoll. Drwy ganllawiau, byddwn yn nodi’n glir bod disgwyl i awdurdodau lleol gynnwys Byrddau Tref yn y broses o nodi blaenoriaethau buddsoddi, gan gynnwys blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth a chysylltedd, pan wneir gwaith datblygu mewn tref.

Atodiad C: Rhestr o ymyriadau polisi

Rydym yn annog Byrddau Tref i ymgysylltu â chymunedau ac ystyried yr ymyriadau isod. Dylent gyflwyno’r ymyriadau mwyaf priodol fel rhan o’u Cynllun Hirdymor, gan ddilyn y canllawiau uchod. Mae’r achos dros gefnogi’r ymyriadau eisoes wedi’i gytuno, gan symleiddio proses y Cynllun Hirdymor.

Mae’r ymyriadau yn hyblyg ac, felly, gall lleoedd ganolbwyntio ar yr hyn sy’n diwallu eu hanghenion lleol orau. Dylai Byrddau Tref ystyried sut y gallant roi ymyriadau ar waith i gyd-fynd â nodweddion lleol, gan adlewyrchu’r cyfleoedd a’r heriau y mae’n eu cymunedau yn eu hwynebu.

Gall Byrddau Tref hefyd ddatblygu ymyriadau nad ydynt ar y rhestr hon os byddant yn cyflwyno achos busnes amlinellol i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fel rhan o’u Cynllun Hirdymor. Dylai’r achos busnes hwn fod yn seiliedig ar dystiolaeth rifol lle y bo modd.

Ymyriadau diogelwch

S1: Dylunio a rheoli’r amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd wedi’i dirlunio er mwyn ‘atal troseddu drwy ddylunio’. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • hyrwyddo’r defnydd gweithredol o strydoedd a mannau cyhoeddus yn ystod y dydd a gyda’r nos
  • gwelliannau i oleuadau stryd
  • gosod systemau teledu cylch cyfyng newydd

S2: Ymgysylltu â’r heddlu ac ystyried ar y cyd ymyriadau i ganolbwyntio ar atal troseddau gweladwy mewn ardaloedd ddiffiniedig. Gallai ymyriadau gynnwys:

  • plismona mannau lle ceir llawer o droseddau
  • plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau

S3: Mesurau i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau a lleihau aildroseddu. Gallai’r rhain gynnwys:

  • rhaglenni chwaraeon y bwriedir iddynt atal troseddau a lleihau aildroseddu
  • mentora
  • modelau dargyfeirio cyn cyhuddo a arweinir gan yr heddlu ar gyfer troseddwyr ifanc
  • strategaethau atal penodol
  • rhaglenni hanner ffordd

S4: Mesurau i leihau bwrgleriaeth fynych. Gallai’r rhain gynnwys: 

  • Gwarchod Cymdogaeth
  • rhoi cyngor ar atal troseddau
  • marcio eiddo
  • tynhau diogelwch y targed (gwneud eiddo yn fwy diogel)
  • gwyliadwriaeth cocŵn (rhoi cyngor ar atal troseddau, cymorth ac arweiniad i gymdogion a chyfeiriadau cartrefi cyfagos y mae eiddo wedi’i ddwyn ohonynt)
  • gosod gatiau mewn alïau

Ymyriadau ar gyfer strydoedd mawr, treftadaeth ac adfywio

H1: Cyllid ar gyfer gwaith adfywio seiliedig ar le a gwelliannau i ganol trefi a’r stryd fawr, a allai gynnwys gwella hygyrchedd i bobl anabl, gan gynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • adfywio sgwâr neu stryd fawr tref
  • gwelliannau i dir y cyhoedd, er enghraifft dodrefn stryd neu welliannau addurnol eraill
  • cyflwyno rhaglenni allgymorth, ymgysylltu a chyfranogi ar gyfer mannau cymunedol, gan gynnwys canolfannau ieuenctid a llyfrgelloedd cyhoeddus

H2: Cyllid ar gyfer prosiectau ac asedau seilwaith cymunedol a chymdogaeth newydd neu welliannau i rai presennol, gan gynnwys y rhai sy’n gwella gallu cymunedau i wrthsefyll peryglon naturiol, megis llifogydd, a chymorth i ddatgarboneiddio cyfleusterau, cynnal archwiliadau effeithlonrwydd ynni a gosod mesurau arbed ynni a mesurau ynni adnewyddadwy mewn adeiladau cymunedol (gan gynnwys gwariant cyfalaf a chostau rhedeg). Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • adeiladu amddiffynfeydd newydd neu ddiweddaru rhai presennol er mwyn gwella gallu cymunedau i wrthsefyll peryglon naturiol fel llifogydd neu erydu arfordirol

H3: Creu a gwella mannau gwyrdd, gerddi cymunedol, cyrsiau dŵr ac argloddiau lleol. Gwelliannau i’r amgylchedd naturiol ac ymgorffori mwy o’r nodweddion naturiol hyn mewn mannau cyhoeddus ehangach. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • datblygu parc newydd, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â’r mynediad lleiaf i fannau gwyrdd
  • datblygu parc neu ardd gymunedol newydd
  • gwelliannu i lwybr halio camlas, yn enwedig mewn cymdogaethau mwy difreintiedig
  • plannu coed mewn trefi neu ar hyd cyrsiau dŵr
  • newidiadau i’r ffordd y rheolir mannau gwyrdd a lleiniau ymyl ffordd
  • adfywio parciau neu erddi cymunedol presennol, yn enwedig mewn ardaloedd â pharciau a gerddi o ansawdd gwael
  • gwella mynediad i barciau sy’n bodoli eisoes

H4: Mwy o gymorth ar gyfer gweithgareddau, prosiectau a chyfleusterau celfyddydol, diwylliannol, creadigol a threftadaeth, a sefydliadau hanesyddol sy’n rhan o’r cynnig diwylliannol a threftadaeth lleol. Gallai hyn gynnwys y canlynol:  

  • cyflwyno rhaglenni o ddigwyddiadau ar gyfer mannau cymunedol, gan gynnwys canolfannau ieuenctid a llyfrgelloedd cyhoeddus
  • datblygu, adfer neu adnewyddu asedau a safleoedd naturiol, diwylliannol a threftadaeth lleol

H5: Cymorth ar gyfer celfyddydau lleol a gweithgareddau diwylliannol, treftadaeth a chreadigol. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • cyllid ar gyfer lleoedd gwneuthurwyr
  • cyllid ar gyfer orielau celf, amgueddfeydd a llyfrgelloedd lleol ar gyfer arddangosfeydd
  • cymorth ar gyfer arddangosiadau artistiaid er mwyn iddynt ddangos eu gwaith
  • perfformiadau cerddoriaeth a theatr dan arweiniad y gymuned leol, teithiau, digwyddiadau awduron a dangos ffilmiau
  • cyllid ar gyfer digwyddiadau diwylliannol, treftadaeth a chreadigol

H6: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo ymgyrchoedd ehangach sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol a’i harchwilio. Gallai hyn gynnwys y canlynol: 

  • ymgyrchoedd sy’n hyrwyddo’r ardal leol a’i diwylliant, ei threftadaeth, ei chyfleusterau hamdden a’r hyn sydd ganddi i’w gynnig i ymwelwyr i drigolion ac ymwelwyr
  • ymgyrchoedd i annog ymwelwyr o leoedd sydd ymhellach i ffwrdd i ymweld â’r rhanbarth ac aros yno, gan gydweithio â lleoedd eraill lle y bo’n briodol

H7: Cyllid ar gyfer gwirfoddoli sy’n cael effaith a phrosiectau gweithredu cymdeithasol i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol a dynol mewn mannau lleol. Gallai hyn gynnwys y canlynol:  

  • cyllid ar gyfer grwpiau gwirfoddoli lleol, megis elusennau ieuenctid a grwpiau gofalwyr
  • cymorth i bobl ddatblygu prosiectau gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol yn lleol

H8: Cyllid ar gyfer cyfleusterau, twrnameintiau, timau a chynghreiriau chwaraeon lleol; er mwyn dod â phobl at ei gilydd. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • adnewyddu a chynnal a chadw cyfleusterau chwaraeon presennol
  • cymorth ar gyfer cynghreiriau chwaraeon lleol
  • adfywio ardal nas defnyddir er mwyn adeiladu cyfleusterau chwaraeon
  • creu meysydd chwarae 3G newydd a chyfleusterau chwaraeon eraill

H9: Buddsoddi mewn meithrin gallu, gwella cydnerthedd (a allai gynnwys y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd) a chymorth seilwaith ar gyfer grwpiau cymdeithas sifil a grwpiau cymunedol lleol. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • cyllid ar gyfer mannau cyhoeddus, megis neuaddau pentref, llyfrgelloedd neu ganolfannau cymunedol i’w defnyddio gan grwpiau cymdeithas sifil neu grwpiau cymunedol
  • cymorth i bobl ddatblygu prosiectau gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol yn lleol

H10: Buddsoddiad a chymorth ar gyfer seilwaith digidol ar gyfer cyfleusterau cymunedol lleol

H11: Buddsoddi mewn marchnadoedd awyr agored a gwelliannau i seilwaith manwerthu a sector gwasanaethu canol trefi, gyda chymorth cofleidiol i fusnesau bach. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • cyllid i gefnogi’r gwaith o sefydlu marchnad awyr agored newydd a’i rhedeg yn barhaus
  • gweithgarwch cymorth busnes i entrepreneuriaid

H12: Cyllid ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r economi ymwelwyr (masnach a defnyddwyr, fel ei gilydd), fel atyniadau lleol, llwybrau, teithiau a chynhyrchion twristiaeth yn fwy cyffredinol. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • datblygu llwybrau a theithiau lleol i ymwelwyr
  • grantiau ar gyfer datblygu, hyrwyddo a chynnal a chadw atyniadau lleol i dwristiaid
  • datblygu profiadau lleol eraill i ymwelwyr sy’n seiliedig ar yr hyn a gynigir gan yr ardal leol

H13: Grantiau er mwyn helpu lleoedd i wneud cais am ddigwyddiadau a chynadleddau busnes sy’n cefnogi’r sectorau twf lleol ehangach a’u cynnal. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • grantiau i wneud cais am gynhadledd ar gyfer sector blaenllaw ei sicrhau a’i gynnal yn lleol.

Ymyriadau ar gyfer trafnidiaeth a chysylltedd

T1: Cymorth ar gyfer gwelliannau teithio llesol yn yr ardal leol. Gallai hyn gynnwys y canlynol:  

  • creu llwybrau troed a llwybrau beicio newydd, yn enwedig mewn ardaloedd sydd ag anghenion iechyd neu anghydraddoldebau cymdeithasol
  • uwchraddio llwybrau troed a llwybrau beicio presennol, yn enwedig mewn ardaloedd sydd ag anghenion iechyd neu anghydraddoldebau cymdeithasol

T2: Cyllid ar gyfer seilwaith a chysylltiadau bysiau er mwyn cyflymu teithiau Gallai hyn gynnwys y canlynol: 

  • gwelliannau i signalau traffig
  • lonydd a choridorau bysiau
  • gwella’r wybodaeth sydd ar gael i deithwyr

T3: Lloegr a’r Alban yn unig: Cyllid refeniw ychwanegol ar gyfer model cyllido’r Rhaglen Buddsoddi mewn Gwella Gwasanaethau Bysiau a Mwy (BSIP+) o fis Mehefin 2024 ymlaen – a fyddai’n dyfarnu cyllid i Awdurdodau Trafnidiaeth Lleol yn seiliedig ar sgorau cysylltedd er mwyn iddynt allu cynnal gweithgareddau a fyddai’n hybu twf economaidd.

T4: Cyllid ar gyfer rhwydweithiau ffyrdd newydd neu welliannau i rai presennol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gyrraedd y dref a symud o’i hamgylch Gallai hyn gynnwys y canlynol:  

  • gwelliannau i systemau rheoli traffig er mwyn lleihau tagfeydd
  • diogelwch ar y ffordd
  • cynnal a chadw priffyrdd (gan gynnwys tyllau)

T5: Cyllid i wella cysylltedd a hygyrchedd rheilffyrdd Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • ychwanegu gorsafoedd ar hyd rheilffyrdd presennol
  • gwella hygyrchedd ac ansawdd teithiau mewn gorsafoedd ac o’u hamgylch
  • gwella’r wybodaeth sydd ar gael i deithwyr

T6: Lleihau allyriadau o gerbydau Gallai hyn gynnwys y canlynol: 

  • cyfleusterau gwefru cerbydau trydan
  • caffael bysiau di-allyriadau

T7: Buddsoddiad a chymorth ar gyfer seilwaith digidol ar gyfer cyfleusterau cymunedol lleol