Sut i lenwi ffurflen IHT100d
Diweddarwyd 6 Ebrill 2025
Pryd y dylech lenwi’r ffurflen hon
Dylech ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i CThEF bod Treth Etifeddiant yn ddyledus pan fydd yr ymddiriedolaeth yn 10 oed.
Mae angen i chi roi gwybod i ni am asedion yn yr ymddiriedolaeth sy’n ‘eiddo perthnasol’ yn union cyn y pen-blwydd 10 oed.
Cyn i chi ddechrau
Dylech gwblhau pob maes. Os oes gwybodaeth ar goll, efallai na fyddwn yn gallu delio â’ch ffurflen.
Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl nodiadau perthnasol cyn i chi ddechrau i lenwi’r ffurflen.
Gellid cynnwys rhai mathau o asedion mewn mwy nag un adran o’r ffurflen, fel stociau a chyfranddaliadau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu rhoi yn yr adran gywir Peidiwch â chynnwys yr un ased mewn mwy nag un adran.
Nid oes angen i chi anfon copïau o ddogfennau atom (er enghraifft, llythyr gan fanc gyda’r balans mewn cyfrif, neu dystiolaeth o rwymedigaethau) oni bai ein bod yn gofyn yn benodol i chi wneud hynny.
Mae’n rhaid i chi gadw’r holl ddogfennau rydych chi wedi’u defnyddio i lenwi’r ffurflen gan y byddwn yn gofyn i chi am rai neu bob un ohonynt yn nes ymlaen.
Adran A: ynghylch y setlwr
Mae’n rhaid i chi gynnwys enw a manylion personol y setlwr.
Os oedd y trosglwyddiad cyn 6 Ebrill 2025
Gwiriwch y llawlyfr rheolau domisil (yn agor tudalen Saesneg) neu rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a oedd y setlwr yn byw yn y DU neu a ystyrir ei fod yn byw yn y DU.
Os oedd y trosglwyddiad ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025
Gwiriwch reolau preswylio hirdymor y DU os nad ydych yn siŵr a oedd y trosglwyddwr yn preswylio’n hirdymor yn y DU.
Os oedd y digwyddiad cyn 6 Ebrill 2025, bu farw’r setlwr cyn 6 Ebrill 2025 neu’r ddau
Gwiriwch y llawlyfr rheolau domisil (yn agor tudalen Saesneg) neu rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a oedd y setlwr yn byw yn y DU neu a ystyrir ei fod yn byw yn y DU.
Ym mhob achos arall, gwiriwch y llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) am reolau preswylio hirdymor yn y DU os nad ydych yn siŵr a oedd y setlwr yn preswylio’n hirdymor yn y DU.
Adran B: manylion y person neu’r busnes sy’n delio â’r digwyddiad hwn
Dylech gynnwys enw a manylion personol y person sy’n delio â’r digwyddiad trethadwy.
Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen heb gymorth cyfreithiwr neu gyfrifydd ac eisiau i CThEF ysgrifennu atoch ond rhywun arall i ddelio â galwadau ffôn, dylech gynnwys awdurdod ysgrifenedig ar wahân pan fyddwch yn anfon y ffurflen atom.
Adran C: ynglyn â’r ymddiriedolaeth
Os ydych yn ymddiriedolwr, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth.
Os yw’r ymddiriedolaeth eisoes wedi’i chofrestru, gwnewch yn siŵr bod y manylion yn gyfredol cyn llenwi’r ffurflen hon.
Y dyddiad cychwynnodd yr ymddiriedolaeth
Dyma’r dyddiad pan gafodd yr asedion eu rhoi yn yr ymddiriedolaeth am y tro cyntaf.
Cyfeirnod Treth Etifeddiant
Dysgwch sut i gael cyfeirnod Treth Etifeddiant.
Os nad oes un gennych, gadewch y blwch C4 yn wag.
Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
Rhif 10 digid yw hwn. Byddwch yn cael UTR pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer Treth Incwm neu’n sefydlu cwmni cyfyngedig.
Dysgwch sut i ddod o hyd i’ch rhif UTR.
Os nad oes un gennych, gadewch y blwch C5 yn wag.
Adran D: yr hyn sy’n ffurfio atodlenni eich cyfrif ymddiriedolaeth
Mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi rhai tudalennau atodol os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol.
Mae’r setlwr yn byw y tu allan i’r DU
Dylech lenwi atodlen D31 os yw’r setlwr naill ai:
inheritance-tax-domicile-outside-the-united-kingdom-d31.cy
-
yn ddomisil mewn gwlad dramor
-
yn cael ei drin fel un sy’n byw yn y DU
Dysgwch ragor o wybodaeth am y rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).
Dylech lenwi atodlen D31a os nad oedd y setlwr yn breswylydd hirdymor yn y DU.
Os yw stociau a chyfranddaliadau wedi’u cynnwys
Dylech lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys unrhyw stociau a chyfranddaliadau.
Os oedd unrhyw ddyledion yn ddyledus i’r ymddiriedolaeth
Dylech lenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg) os oedd unrhyw arian ar fenthyg gan yr ymddiriedolaeth. Er enghraifft, morgais neu fenthyciad personol nad yw wedi’i ad-dalu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.
Os oedd unrhyw bolisïau yswiriant yn gysylltiedig
Dylech lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) os oes unrhyw bolisïau yswiriant wedi’u cynnwys yn y digwyddiad.
Os yw nwyddau cartref a phersonol wedi’u cynnwys
Dylech lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys unrhyw nwyddau cartref a phersonol.
Os yw tir ac adeiladau wedi’u cynnwys
Dylech lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys tir, adeiladau, coed neu dangoed yn y DU.
Os ydych yn hawlio rhyddhad eiddo amaethyddol.
Dylech lenwi atodlen D37 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu rhyddhad eiddo amaethyddol.
Os ydych yn hawlio rhyddhad eiddo busnes.
Dylech lenwi atodlen D38 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu rhyddhad eiddo busnes.
Os yw asedion tramor wedi’u cynnwys
Dylech lenwi atodlen D39 (yn agor tudalen Saesneg) os yw unrhyw un o’r asedion y tu allan i’r DU.
Adran E: asedion yn y DU sy’n agored i dreth fel rhan o’r digwyddiad hwn
Mae’n rhaid i chi lenwi adran E gyda manylion yr holl asedion a drosglwyddwyd fel rhan o’r digwyddiad hwn.
Mae’n rhaid i chi brisio’r holl asedau fel pe bai pob eitem wedi’i gwerthu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy. Gelwir hyn y ’gwerth marchnad agored’.
Talgrynnwch werth yr asedion a’r rhwymedigaethau i lawr i’r £1 agosaf. Dylid dangos treth i’r geiniog agosaf.
Mae’n rhaid i bob blwch ddangos cyfanswm pob math o ased. Er enghraifft, dylai blwch E2 ddangos cyfanswm yr holl gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu.
Asedion lle gellir talu treth mewn rhandaliadau
Gellir talu asedion a gynhwysir yng ngholofn B mewn rhandaliadau blynyddol dros 10 mlynedd.
Dysgwch ragor am asedion y gellir eu talu mewn rhandaliadau (yn agor tudalen Saesneg).
Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu llog ar randaliadau, ond mae rhai asedion sy’n gymwys i gael rhyddhad llog (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r rhandaliadau hyn yn ddi-log dim ond os yw’r rhandaliad yn cael ei dalu ar neu cyn y dyddiad dyledus.
E1 Tai, adeiladau a thir
Mae’n rhaid i chi nodi gwerth holl eiddo rhydd-ddaliad, lesddaliad, etifeddol ac eiddo symudol arall yn y DU sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad hwn. Peidiwch â chynnwys ffermdai a thir fferm.
Os oes gennych brisiad proffesiynol, atodwch gopi gyda’r ffurflen hon.
Mae angen i chi hefyd lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhoi manylion pob eitem o dir.
E2 Banc, cymdeithas adeiladu a chyfrifon ariannol eraill
Mae’n rhaid i chi gynnwys pob cyfrif gyda’r canlynol:
-
banc
-
cymdeithas adeiladu
-
cymdeithas gilyddol, gyfeillgar neu gydweithredol
-
archfarchnad
-
cwmni yswiriant
Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau gwahanol ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.
E3 Arian parod
Mae hyn yn cynnwys unrhyw sieciau a wneir i’r trosglwyddai.
E4 Bondiau Premiwm a chynhyrchion Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol
Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau gwahanol ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.
Cysylltwch â Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (ar wefan NS&I) (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn gwybod y gwerth ar ddyddiad y trosglwyddiad.
E5 Nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol
Dylech gynnwys yr holl nwyddau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Er enghraifft, tsieni, dillad, gemwaith a cheir. Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg).
E6 Polisïau aswiriant bywyd, pensiynau a diogelu morgeisi
Rhowch wybod i ni am unrhyw bensiynau a pholisïau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Os oedd y trafodiad yn cynnwys polisi yswiriant bywyd ond nad oeddent mewn gwirionedd ymhlith yr asedion a gynhwysir yn y digwyddiad trethadwy rydych yn rhoi gwybod i ni amdano, mae angen i ni wybod am y trefniadau.
Mae’n rhaid i chi lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) a chynnwys copi o bob polisi pan fyddwch yn anfon y ffurflen.
E7 Gwarantau Llywodraeth y DU a rhai bwrdeisiol
Dylech gynnwys:
-
Stoc y Trysorlys
-
Stoc y Siecr
-
Stoc Drosadwy
-
stoc a benthyciadau cyfunol
-
Stociau ariannu
-
Bondiau Cynilo
-
Bondiau Buddugoliaeth
-
Benthyciadau Rhyfel
-
stoc y Llywodraeth a gedwir ar Gofrestr Banc Lloegr
-
bondiau a gyhoeddwyd gan endidau trefol (awdurdodau llywodraeth leol)
Dylech lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) i roi gwybod i ni amdanynt.
E8 Stociau, cyfranddaliadau a buddsoddiadau a restrwyd
Dylech gynnwys:
-
pob stoc, cyfranddaliad, dyledeb a gwarantau a restrwyd ar Restr Ddyddiol Swyddogol y Gyfnewidfa Stoc
-
ymddiriedolaethau unedol
-
ymddiriedolaethau buddsoddi
-
cwmnïau buddsoddi pen agored
-
cyfranddaliadau a restrir ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig sy’n rhan o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA)
-
cyfranddaliadau tramor a restrir ar Gyfnewidfa Stoc Llundain.
Peidiwch a chynnwys cyfranddaliadau a restrwyd a oedd yn rhoi rheolaeth dros gwmni i’r ymadawedig. Dylech gynnwys y rhain ym mlwch E12.
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg). Copïwch y ffigur o flwch SS1 ar yr atodlen a’i nodwch ym mlwch E8 ar y ffurflen hon.
E9 Difidendau neu log ar stociau, cyfranddaliadau a gwarantau
Defnyddiwch atodlen D32 i lenwi’r blwch hwn. Dylech gynnwys cyfanswm gwerth y difidendau a’r llog ar asedion ym mlychau E7, E8, E10, E11 ac E12 sy’n ddyledus ar ddyddiad y trosglwyddiad ond nad oeddent wedi’u talu eto.
E10 Cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd, a chyfranddaliadau anrhestredig, ac eithrio daliannau sy’n rhoi rheolaeth
Os nad yw cwmni wedi’i restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, unrhyw gyfnewidfa stoc a gydnabyddir tramor neu farchnad amgen, mae ei gyfranddaliadau a’i warantau yn cael eu dosbarthu fel heb eu rhestru.
Dylech nodi cyfanswm gwerth y stociau a’r cyfranddaliadau canlynol os nad oedd gan y setlwr reolaeth o’r cwmni.
-
stociau a chyfranddaliadau mewn cwmnïau cyfyngedig preifat anrhestredig
-
cyfranddaliadau a fasnachir ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM), gan gynnwys cyfranddaliadau sy’n rhan o ISA.
-
cyfranddaliadau a ddelir mewn Cynllun Buddsoddiad Menter (EIS) neu mewn Cynllun Dechrau Busnes (BSS)
Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys y rhain pan fyddwch yn llenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg).
E11 Rhandaliadau ar gyfranddaliadau
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu treth mewn rhandaliadau ar gyfranddaliadau heb eu rhestru nad ydynt yn gymwys i gael rhyddhad busnes os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- gallwch ddangos y bydd talu mewn un swm yn achosi caledi ariannol
- mae o leiaf 20% o’r dreth sy’n ddyledus ar asedion sy’n gymwys i gael eu talu fesul rhandaliadau
-
mae’r cyfranddaliadau’n werth mwy na £20,000 ac yn ffurfio:
-
o leiaf 10% o werth cyfanswm y cyfranddaliadau a gyhoeddwyd gan y cwmni
-
o leiaf 10% o werth cyfranddaliadau cyffredin a ddelir yn y cwmni
-
Os oes gennych dreth i’w thalu ar ddaliannau cyfranddaliadau nas rhestrir, nad ydynt yn rhoi rheolaeth, ac mae’r rhain yn gymwys i’w talu drwy randaliadau, nodwch werth y cyfranddaliadau ym mlwch E11. Gallwch ddod o hyd i’r gwerth hwn ym mlychau 3 a 4 yn Atodlen D32.
E12 Daliannau sy’n rhoi rheolaeth ar gyfer cyfranddaliadau anrhestredig, cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd a chyfranddaliadau rhestredig
Os oedd gan y person a wnaeth y trosglwyddiad reolaeth o’r cwmni, dylech gynnwys:
-
cyfranddaliadau masnachu ar AIM gan gynnwys cyfranddaliadau sy’n rhan o ISA
-
cyfranddaliadau masnachu ar y Off Exchange (OFEX)
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys y stociau a’r cyfranddaliadau.
E13 Ffermydd, ffermdai a thir ffermio
Dylech gynnwys cyfanswm gwerth yr asedion rydych yn didynnu rhyddhad amaethyddol arnynt.
Bydd yn rhaid i chi hefyd wneud y canlynol:
-
llenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg), gan roi manylion llawn yr asedion os ydych am hawlio rhyddhad
-
llenwi atodlen D37 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych am hawlio Rhyddhad Amaethyddol
E14 Busnesau gan gynnwys busnesau ffermio, asedion busnes a choed
Dylech gynnwys gwerth net buddiant mewn busnes ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.
Os yw’r setlwr wedi cymryd rhan mewn mwy nag un busnes, mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi atodlen D38 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer pob busnes neu bartneriaeth. Nodwch gyfanswm gwerth yr holl fusnesau ym mlwch E14.
E15 Tir, adeiladau a hawliau eraill dros dir
Dylech gynnwys gwerth unrhyw dir, adeiladau neu hawliau eraill dros dir nad ydynt wedi’u cynnwys mewn unrhyw flychau eraill ar y ffurflen hon.
Gallai hyn gynnwys:
-
eiddo sydd wedi eu gosod
-
garejys cloi
-
tir segur
-
eiddo diffaith
-
chwareli
-
meysydd awyr
-
hawliau pysgota neu hawliau eraill sydd ynghlwm wrth dir.
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) gyda manylion y tir neu’r eiddo.
E16 Dyledion sy’n ddyledus i’r Ymddiriedolaeth
Dylech nodi’r ffigur o flwch 3 pan fyddwch yn llenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg).
E17 Ad-daliad Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf
Dylech nodi cyfanswm unrhyw dreth a ad-dalwyd i’r ymddiriedolaethau. Os nad ydych yn gwybod yr union swm, dylech roi amcangyfrif rhesymol.
E18 Asedion eraill
Dylech nodi cyfanswm gwerth unrhyw asedion eraill nad ydynt eisoes wedi’u cynnwys. Mae’n rhaid i chi gynnwys manylion yr asedion hyn yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’.
Adran F: rhwymedigaethau, eithriadau a rhyddhadau
Dylech gynnwys dyledion a oedd yn ddyledus gan yr ymddiriedolaeth ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy yn unig.
Peidiwch â chynnwys y canlynol:
-
ffioedd am wasanaethau proffesiynol a gynhelir ar ôl dyddiad y digwyddiad
-
unrhyw ffioedd cyfreithiwr, asiant tai neu brisio a dynnwyd wrth ddelio â’r digwyddiad
Rhwymedigaethau
Ar gyfer blwch F1, dylech restru’r holl ddyledion sy’n ddyledus gan y trosglwyddwr y gellir eu didynnu o’r asedion a gynhwysir yn adran E, colofn A.
Dylech lenwi enw’r person neu’r sefydliad y mae’r arian yn ddyledus iddynt ac esbonio’n fyr pam mae’r arian yn ddyledus. Os ydych yn cynnwys didyniad ar gyfer ffioedd cyfreithiwr neu gyfrifydd, rhowch y dyddiadau ar gyfer y cyfnod pan gafodd y gwaith ei gwneud.
Ar gyfer blwch F2, dylech gynnwys rhyddhad ac eiddo sydd wedi’i eithrio yn erbyn asedion a restrir yn adran E, colofn B yn unig.
Eithriadau a rhyddhadau
Mae nifer o ryddhad sy’n lleihau gwerth y trosglwyddiad y mae angen i chi dalu treth arno.
Gallwch ddod o hyd i ragor o arweiniad yn adran IHTM11000 o’r Llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).
I ddidynnu rhyddhad yn erbyn yr asedion a restrir ym mlychau E1 i E18, dylech ysgrifennu teitl y rhyddhad a’r swm yr hoffech ei ddidynnu yn y lle a ddarperir.
Ar gyfer blwch F3, dim ond cynnwys rhyddhad yn erbyn asedion a restrir yn adran E, colofn A. Ychwanegwch y rhyddhad at ei gilydd ac ysgrifennwch yn y blwch cyfanswm.
Ar gyfer blwch F4, dim ond cynnwys rhyddhad ac eiddo eithriedig yn erbyn asedion a restrir yn adran E, colofn B.
Adran G: cyfrifo cyfradd y dreth
Ymddiriedolaethau cysylltiedig
Mae angen i ni wybod am unrhyw ymddiriedolaethau eraill a sefydlwyd gan y setlwr ar yr un diwrnod.
Dylid prisio’r asedion yn yr ymddiriedolaethau eraill hyn ar y dyddiad y dechreuodd yr ymddiriedolaeth. Os yw’r tâl ar neu ar ôl 18 Tachwedd 2015, nid ydym bellach yn ystyried gwerth hanesyddol eiddo nad yw’n berthnasol, er enghraifft eiddo eithriedig ac ‘ymddiriedolaethau arbennig’.
Ychwanegiadau ar yr un diwrnod (ar gyfer diwedd cyfnodau sy’n digwydd ar neu ar ôl 18 Tachwedd 2015)
Os ychwanegodd y setlwr unrhyw asedion at ymddiriedolaeth arall ar yr un diwrnod, a gynyddodd werth yr ymddiriedolaeth o fwy na £5,000, byddwn yn ystyried hyn i gyfrifo’r gyfradd dreth a godir.
Taliadau ymadael
Mae angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw ffioedd ymadael a gododd yn ystod y cyfnod 10 mlynedd sy’n dod i ben ar ddyddiad y pen-blwydd.
Wrth gyfrifo cyfanswm y gwerth ar gyfer blwch G9, ni ddylech gynnwys unrhyw rannau sy’n gymwys i gael rhyddhad. Er enghraifft, peidiodd asedion gwerth £100,000 â bod yn eiddo perthnasol. Mae rhyddhad busnes yn ganiataol ar 50%. Felly, y swm y dylech ei gynnwys yw £50,000.
Trosglwyddiadau trethadwy
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni a yw’r trosglwyddiad trethadwy wedi arwain at gynyddu gwerth yr ymddiriedolaeth. Nid oes ots a oedd asedion wedi’u trosglwyddo i’r ymddiriedolaeth ei hun. Y prawf yw os, o ganlyniad i’r trosglwyddiad trethadwy a wnaed gan y setlwr, cynyddwyd gwerth yr ymddiriedolaeth. Anwybyddwch unrhyw drosglwyddiadau a wnaed ar y diwrnod y gwnaed y setliad.
Gall trosglwyddiad trethadwy godi pan fydd eiddo eithriedig a gedwir mewn ymddiriedolaeth yn dod yn eiddo perthnasol. Gall hyn ddigwydd pan fydd setlwr a oedd yn byw yn y DU o’r blaen (cyn 6 Ebrill 2025), neu nad yw’n breswylydd hirdymor yn y DU ar ôl y dyddiad hwn, yn dod yn breswylydd hirdymor yn y DU.
Ar gyfer blwch G14, os yw mwy nag un trosglwyddiad yn bodloni’r amodau a nodir ym mlwch G12, bydd angen i chi gyfrifo gwerth y trosglwyddiadau trethadwy a wnaed yn y 7 mlynedd sy’n dod i ben yn union cyn pob trosglwyddiad. Pan fyddwch wedi gwneud hynny, dewiswch y canlyniad uchaf a nodwch y gwerth ym mlwch G14.
Haen gyfradd sero.
Ar gyfer blwch G15, nodwch werth uwch blychau G11 a G14.
Os yw’r swm ym mlwch G16 yn fwy na chyfanswm gwerth trethadwy y trosglwyddiad ym mlwch F11, mae’n golygu nad oes Treth Etifeddiant yn ddyledus ar y trosglwyddiad hwn a dylech barhau o adran J a chwblhau’r datganiad.
Adran H: cyfrifo’r dreth sy’n daladwy
Rhyddhad treth ychwanegol ar gyfer eiddo a ychwanegwyd
Bydd y gyfradd gychwynnol o Dreth Etifeddiant yn cael ei gostwng i adlewyrchu’r amser nad oedd eiddo yn eiddo perthnasol.
Rhennir y cyfnod 10 mlynedd yn 40 chwarter. Er enghraifft, os yw rhywfaint o’r eiddo ar y pen-blwydd wedi bod yn yr anheddiad am 5 mlynedd (20 chwarter) yn unig, yna bydd y gyfradd ar yr eiddo hwnnw yn hanner y gyfradd gychwynnol a roddir ym mlwch H10.
Defnyddiwch gyfrifiannell chwarteri Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) i roi nifer y chwarteri cyflawn i chi.
Llenwch y tablau ym mlychau H15 a H16 i gyfrifo’r rhyddhad ychwanegol ar asedion a ychwanegwyd at yr ymddiriedolaeth. Nodwch bob ased ar linell ar wahân.
Dewch o hyd i ragor o arweiniad ac enghreifftiau am ryddhad ar gyfer asedion sydd wedi bod yn eiddo perthnasol am lai na’r 10 mlynedd lawn (yn agor tudalen Saesneg).
Dyddiadau cau llog a thalu ar gyfer y tâl pen-blwydd 10 mlynedd
Mae Treth Etifeddiant yn ddyledus heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y mis y digwyddodd y digwyddiad trethadwy.
Os yw’ch taliad ar ôl y dyddiad dyledus, ychwanegir llog at unrhyw dreth heb ei dalu ac fe’i codir ar gyfradd ddyddiol.
Dylech ddefnyddio’r gyfrifiannell llog Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo swm y llog sy’n ddyledus ar eich taliad a chwblhau’r tabl cryno ym mlwch H19.
Adran I: awdurdod ar gyfer ad-dalu Treth Etifeddiant
Os bydd angen i ni ad-dalu Treth Etifeddiant, byddwn yn ei had-dalu’n uniongyrchol drwy Daliadau Cyflymach i’r cyfrif banc yn enwau pawb a lofnododd y ffurflen.
Os nad oes gennych gyfrif banc yn yr enwau hynny, gallai fod yn anodd i chi gael yr ad-daliad. Er mwyn osgoi unrhyw anawsterau, rhowch fanylion y cyfrif yr ydych eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu iddo.
Adran J: Datgelu cynllun arbed treth
Dylech gynnwys y ddau peth canlynol:
-
cyfeirnod yr hyrwyddwr neu’r cynllun os ydych wedi cael un
-
blwyddyn dreth neu’r dyddiad pan ddisgwylir y fantais dreth
Dysgwch am y rheolau ar gyfer datgelu cynlluniau arbed treth (yn agor tudalen Saesneg).
Datganiad
Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr holl ymddiriedolwyr wedi darllen y datganiad ac yn cytuno bod yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen, unrhyw atodlenni a dogfennau ategol eraill yn gywir.
Bydd CThEF yn derbyn ffurflenni IHT100 heb lofnod gwlyb gan asiant neu ymddiriedolwr, cyn belled â bod enwau a manylion personol yr ymddiriedolwyr yn cael eu dangos ar y dudalen ddatganiad.
Os ydych yn asiant
Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad canlynol yn y blwch gwybodaeth ychwanegol ar dudalen 12:
‘Fel yr asiant sy’n gweithredu ar eu rhan, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad ffurflen IHT100 hwn, wedi gweld yr IHT100 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 10 yr IHT100.’
Os ydych yn ymddiriedolwr
Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad canlynol yn y blwch gwybodaeth ychwanegol ar dudalen 12:
‘Fel yr ymddiriedolwr sy’n gweithredu yn y mater hwn, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100 hwn yw’r ymddiriedolwyr ac wedi gweld yr IHT100 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 10 yr IHT100.’
Anfon eich ffurflen wedi’i lenwi atom
Dylech anfon y ffurflen i’r cyfeiriad a ddangosir ar waelod y ffurflen.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y canlynol:
-
copïau o unrhyw ddogfen yr ydym wedi gofyn amdani
-
unrhyw atodlenni wedi’u cwblhau (darllenwch adran D)
Dysgwch beth sy’n digwydd ar ôl i chi anfon eich ffurflen wedi’i lenwi atom (yn agor tudalen Saesneg).
Help
Cysylltwch â’r llinell gymorth Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen.