Skip to main content
Ffurflen

Sut i lenwi ffurflen IHT100e

Diweddarwyd 6 Ebrill 2026

Pryd y dylech lenwi’r ffurflen hon

Dylech ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i ni am yr asedion nad ydynt yn cael eu dal mewn ymddiriedolaethau arbennig mwyach.

Cyn i chi ddechrau

Dylech lenwi pob maes. Os oes gwybodaeth ar goll, efallai na fyddwn yn gallu delio â’ch ffurflen.

Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl nodiadau perthnasol cyn i chi ddechrau i lenwi’r ffurflen.

Gellid cynnwys rhai mathau o asedion mewn mwy nag un adran o’r ffurflen, fel stociau a chyfranddaliadau. Peidiwch â chynnwys yr un ased mewn mwy nag un adran.

Nid oes angen i chi anfon copïau o ddogfennau atom (er enghraifft, llythyr gan fanc sy’n dangos y balans mewn cyfrif, neu dystiolaeth o rwymedigaethau) oni bai ein bod yn gofyn yn benodol i chi wneud hynny.

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl ddogfennau rydych chi wedi’u defnyddio i lenwi’r ffurflen – efallai y byddwn yn gofyn i chi am rai neu bob un ohonynt yn nes ymlaen.

Adran A: ynghylch y setlwr

Mae’n rhaid i chi gynnwys enw a manylion personol y setlwr.

Os oedd y setlwr wedi marw neu fod trosglwyddo’r asedion wedi digwydd cyn 6 Ebrill 2025

Os nad ydych yn gwybod a oedd domisil y setlwr yn y DU, gwiriwch y Rheolau domisil ar gyfer Treth Etifeddiant yn y llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych yn gwybod a oedd domisil y setlwr wedi’i ystyried ei fod yn y DU, gwiriwch y Rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Os oedd y setlwr wedi marw neu fod trosglwyddo’r asedion wedi digwydd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025

Os nad ydych yn gwybod a oedd y setlwr yn breswylydd tymor hir yn y DU, gwiriwch y Rheolau man preswylio tymor hir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg).

Adran B: manylion y person neu’r busnes sy’n delio â’r digwyddiad hwn

Dylech gynnwys enw a manylion personol y person sy’n delio â’r digwyddiad trethadwy.

Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen heb gymorth cyfreithiwr neu gyfrifydd ac am i CThEF ysgrifennu atoch chi, ond am i rywun arall ddelio â galwadau ffôn, dylech gynnwys awdurdod ysgrifenedig ar wahân pan fyddwch yn anfon y ffurflen atom.

Adran C: ynglŷn â’r ymddiriedolaeth 

Os ydych yn ymddiriedolwr, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth

Os yw’r ymddiriedolaeth eisoes wedi’i chofrestru, gwnewch yn siŵr bod y manylion yn gyfredol cyn llenwi’r ffurflen hon. 

Y dyddiad y dechreuodd yr ymddiriedolaeth

Dyma’r dyddiad pan gafodd yr asedion eu rhoi yn yr ymddiriedolaeth am y tro cyntaf.

Cyfeirnod Treth Etifeddiant

Dysgwch sut i gael cyfeirnod Treth Etifeddiant

Os nad oes un gennych, gadewch y blwch C3 yn wag. 

Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)

Rhif 10 digid yw hwn. Byddwch yn cael UTR pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer Treth Incwm neu’n sefydlu cwmni cyfyngedig. 

Dysgwch sut i ddod o hyd i’ch rhif UTR

Os nad oes un gennych, gadewch y blwch C4 yn wag. 

Math o ymddiriedolaeth 

Ticiwch un blwch i ddangos y math o ymddiriedolaeth arbennig yr ydych yn rhoi gwybod i ni amdani. Darllenwch am ymddiriedolaethau arbennig yn y Llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Adran D: Ynglŷn â’r digwyddiad trethadwy

Ticiwch y blychau sy’n berthnasol i’r digwyddiad hwn.

Bydd angen i chi roi rhagor o fanylion os yw’r digwyddiad trethadwy yn un o’r canlynol: 

  • lle nad yw ymddiriedolaeth yn bodloni amodau arbennig mwyach

  • gostyngiad yng ngwerth asedion yr ymddiriedolaeth

  • digwyddiad nad yw wedi’i gynnwys yn yr opsiynau a roddir

Os oes unigolion sydd wedi elwa o’r digwyddiad, dylech roi’r canlynol: 

  • ei enw a’i gyfeiriad

  • disgrifiad a chyfran yr unigolyn o’r ased

  • gwerth yr ased

Mae’n rhaid i chi brisio’r holl asedion fel pe bai pob eitem wedi’i gwerthu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy. Gelwir hyn y ‘gwerth marchnad agored’.

Talgrynnwch werth yr asedion a’r rhwymedigaethau i lawr i’r £1 agosaf.

Adran E: Beth sy’n ffurfio cyfrif eich ymddiriedolaeth

Mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi adrannau ychwanegol, a elwir yn ‘atodlenni’, os ydych yn rhoi gwybod i CThEF am y mathau canlynol o incwm.

Mae’r setlwr yn byw y tu allan i’r DU

Dylech lenwi atodlen D31 os oedd y setlwr yn byw y tu allan i’r DU: 

  • ar ddechrau’r setliad

  • ar adeg unrhyw ychwanegiadau — ar gyfer ychwanegiadau, dylech lenwi atodlen D31 ar gyfer pob achlysur

Dysgwch ragor am y rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

O 6 Ebrill 2025 ymlaen, os nad ywʼr setlwr yn breswylydd hirdymor yn y DU, llenwch atodlen D31a.

Gwybodaeth am Reolau preswylio hirdymor y Dreth Etifeddiant yn y DU (yn agor tudalen Saesneg).

Os yw stociau a chyfranddaliadau wedi’u cynnwys 

Dylech lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) os oedd yr asedau’n cynnwys unrhyw stociau a chyfranddaliadau. 

Os oedd unrhyw ddyledion yn ddyledus i’r ymddiriedolaeth 

Dylech lenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg) os oedd unrhyw arian ar fenthyg gan yr ymddiriedolaeth. Er enghraifft, morgais neu fenthyciad personol nad yw wedi’i ad-dalu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.

Os oedd unrhyw bolisïau yswiriant yn gysylltiedig 

Dylech lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) os oes unrhyw bolisïau yswiriant wediʼu cynnwys yn y digwyddiad. 

Os yw nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol wedi’u cynnwys

Dylech lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg) os ywʼr asedauʼn cynnwys unrhyw nwyddau cartref a phersonol.

Os yw tir neu adeiladau wedi’u cynnwys

Dylech lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedau’n cynnwys tir, adeiladau, coed, neu dangoed yn y DU.

Os ydych yn hawlio Rhyddhad Amaethyddol 

Dylech lenwi atodlen D37 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu rhyddhad ar gyfer eiddo amaethyddol.

Os ydych yn hawlio Rhyddhad Busnes

Dylech lenwi atodlen D38 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu Rhyddhad Busnes.

Os yw asedion tramor wedi’u cynnwys

Dylech lenwi atodlen D39 (yn agor tudalen Saesneg) os yw unrhyw un o’r asedion y tu allan i’r DU.

Adran F: asedion yn y DU sy’n agored i dreth fel rhan o’r trosglwyddiad hwn

Mae’n rhaid i chi lenwi adran F gan roi manylion yr holl asedion a gafodd eu trosglwyddo fel rhan o’r digwyddiad hwn.

Mae’n rhaid i chi brisio’r holl asedion fel pe bai pob eitem wedi’i gwerthu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy. Gelwir hyn yn ‘gwerth marchnad agored’.

Talgrynnwch werth yr asedion a’r rhwymedigaethau i lawr i’r £1 agosaf. Dylid dangos treth i’r geiniog agosaf.

Mae’n rhaid i bob blwch ddangos cyfanswm pob math o ased. Er enghraifft, cyfanswm yr holl gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu ym mlwch F2.

Asedion lle gellir talu treth fesul rhandaliad

Gellir talu asedion a gynhwysir yng ngholofn B mewn rhandaliadau blynyddol dros 10 mlynedd. Dysgwch ragor am asedion y gellir eu talu mewn rhandaliadau.

Fel arfer, mae angen i chi dalu llog ar randaliadau, ond mae rhai asedion sy’n gymwys i gael rhyddhad rhag llog. Rhagor o wybodaeth am randaliadau â rhyddhad rhag llog yn y llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg). Dim ond os yw’r rhandaliad wedi’i dalu cyn y dyddiad dyledus y mae’r rhandaliadau hyn yn rhydd o log.

F1 Tai, adeiladau a thir

Mae’n rhaid i chi gynnwys yr holl eiddo rhydd-ddaliol, prydlesol, etifeddadwy ac eiddo ansymudol eraill yn y DU sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Peidiwch â chynnwys ffermdai a thir fferm. 

Os oes gennych brisiad proffesiynol, atodwch gopi gyda’r ffurflen hon.

Bydd angen i chi lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) yn rhoi manylion pob eitem o dir.

F2 Cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu a chyfrifon ariannol eraill

Mae’n rhaid i chi gynnwys pob un gyda’r canlynol:

  • banc
  • cymdeithas adeiladu
  • cymdeithas gilyddol, gyfeillgar neu gydweithredol
  • archfarchnadoedd
  • cwmnïau yswiriant

Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.

Bydd y banc neu gymdeithas adeiladu’n gallu rhoi gwybod i chi faint oedd ym mhob cyfrif ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy a faint o log oedd yn ddyledus hyd at y dyddiad hwnnw, ond nad oedd wedi’i dalu.

F3 Arian parod

Mae hyn yn cynnwys unrhyw sieciau a wneir i’r trosglwyddai. 

F4 Bondiau Premiwm a chynhyrchion Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)

Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.

Cysylltwch â Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (ar wefan NS&I) os nad ydych yn gwybod y gwerth ar ddyddiad y trosglwyddiad.

F5 Nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol

Dylech gynnwys yr holl nwyddau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Er enghraifft, tsieni, dillad, gemwaith a cheir. Mae hefyd angen i chi lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg).

F6 Polisïau aswiriant bywyd, pensiynau a diogelu morgeisi

Rhowch wybod i ni am unrhyw bensiynau a pholisïau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Os oedd y trafodyn yn cynnwys polisi aswiriant bywyd ond nid oedd mewn gwirionedd ymhlith yr asedion a oedd wedi’u cynnwys yn y digwyddiad trethadwy rydych yn rhoi gwybod i ni amdano, bydd angen i ni gael gwybod am y trefniadau.

Mae’n rhaid i chi lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) a chynnwys copi o bob polisi pan fyddwch yn anfon y ffurflen.

F7 Gwarantau Llywodraeth y DU a gwarantau bwrdeisiol

Dylech gynnwys:

  • Stoc y Trysorlys
  • Stoc y Siecr
  • Stoc Drosadwy
  • stoc a benthyciadau cyfunol
  • Stoc Ariannu
  • Bondiau Cynilo
  • Bondiau Buddugoliaeth
  • Benthyciadau Rhyfel
  • stoc y Llywodraeth a gedwir ar Gofrestr Banc Lloegr
  • bondiau a gyhoeddwyd gan endidau trefol (awdurdodau llywodraeth leol)

Peidiwch â chynnwys cyfranddaliadau a restrwyd a oedd yn rhoi rheolaeth dros gwmni i’r ymadawedig. Dylech gynnwys y rhain ym mlwch F12.

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg). Copïwch y ffigur o flwch SS1 ar yr atodlen a’i nodi ym mlwch F8 ar y ffurflen hon.

F9 Difidendau neu log ar stociau, cyfranddaliadau a gwarantau

Defnyddiwch atodlen D32 i lenwi’r blwch hwn. Dylech gynnwys cyfanswm gwerth y difidendau a’r llog ar asedion ym mlychau F7, F8, F10, F11 ac F12 sy’n ddyledus ar ddyddiad y trosglwyddiad ond nad oeddent wedi’u talu eto.

F10 Cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd, a chyfranddaliadau anrhestredig, ac eithrio daliannau sy’n rhoi rheolaeth 

Os nad yw cwmni wedi’i restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, unrhyw gyfnewidfa stoc a gydnabyddir tramor neu farchnad amgen, mae ei gyfranddaliadau a’i warantau yn cael eu dosbarthu fel heb eu rhestru.

Os nad oedd gan y setlwr reolaeth dros y cwmni, dylech nodi cyfanswm gwerth y stociau a chyfranddaliadau canlynol: 

  • stociau a chyfranddaliadau anrhestredig mewn cwmnïau cyfyngedig preifat
  • cyfranddaliadau a fasnachwyd ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM), gan gynnwys y cyfranddaliadau sy’n rhan o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA)
  • cyfranddaliadau a ddelir mewn Cynllun Buddsoddiad Menter (EIS) neu mewn Cynllun Dechrau Busnes (BSS)

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg).

F11 Rhandaliadau ar gyfranddaliadau

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd modd i chi dalu treth fesul rhandaliad ar unrhyw gyfranddaliadau a gwarantau sy’n gymhwysol am Ryddhad Busnes. Mae hyn yn wir p’un a ydynt wedi’u rhestru neu beidio.

Hefyd, efallai y bydd modd i chi dalu treth fesul rhandaliad ar gyfranddaliadau anrhestredig nad ydynt yn gymhwysol am Ryddhad Busnes os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • gallwch ddangos y bydd talu mewn un swm yn achosi caledi ariannol
  • mae o leiaf 20% o’r dreth sy’n ddyledus ar asedion sy’n gymwys i gael eu talu mewn rhandaliadau
  • mae’r cyfranddaliadau’n werth mwy nag £20,000 ac yn ffurfio un o’r canlynol:
    • o leiaf 10% o werth cyfanswm y cyfranddaliadau a gyhoeddwyd gan y cwmni
    • o leiaf 10% o werth cyfranddaliadau cyffredin a ddelir yn y cwmni

Os oes gennych dreth i’w thalu ar ddaliannau cyfranddaliadau anrhestredig, nad ydynt yn rhoi rheolaeth, ac mae’r rhain yn gymhwysol i’w talu fesul rhandaliad, nodwch werth y cyfranddaliadau ym mlwch F11. Gallwch ddod o hyd i’r gwerth hwn ym mlychau 3 a 4 yn atodlen D32.

F12 Daliannau sy’n rhoi rheolaeth ar gyfer cyfranddaliadau anrhestredig, cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd a chyfranddaliadau rhestredig

Os oedd gan y person a wnaeth y trosglwyddiad reolaeth dros y cwmni, dylech gynnwys cyfranddaliadau sydd wedi’u masnachu ar farchnad nad yw’n bodloni diffiniad CThEF o fod ‘wedi’i rhestru’. Mae hyn yn cynnwys cyfranddaliadau a ddelir mewn ISA.

Gallwch ddod o hyd i restr o’r marchnadoedd cyfnewid stoc sydd wedi’u cydnabod (yn agor tudalen Saesneg) ac sy’n cael eu diffinio fel rhai sydd ‘wedi’u rhestru’ neu ‘nad ydynt wedi’u rhestru’ at ddibenion CThEF.

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys y stociau a’r cyfranddaliadau.

F13 Ffermydd, ffermdai a thir ffermio

Dylech gynnwys cyfanswm gwerth yr asedion yr ydych yn didynnu Rhyddhad Amaethyddol oddi arnynt. 

Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol hefyd:

F14 Busnesau gan gynnwys busnesau ffermio, asedion busnes a choed

Dylech gynnwys gwerth net buddiant mewn busnes ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.

Os gwnaeth y setlwr gymryd rhan mewn mwy nag un busnes, mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi atodlen D38 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer pob busnes neu bartneriaeth. Nodwch gyfanswm gwerth yr holl fusnesau ym mlwch F14.

F15 Tir, adeiladau a hawliau eraill dros dir

Dylech gynnwys gwerth unrhyw dir, adeiladau neu hawliau eraill dros dir nad ydynt wedi’u cynnwys mewn unrhyw flychau eraill ar y ffurflen hon. 

Gall hyn gynnwys:

  • eiddo sydd wedi eu gosod
  • garejys cloi
  • tir segur
  • eiddo diffaith
  • chwareli
  • meysydd awyr
  • hawliau pysgota neu hawliau eraill sydd ynghlwm wrth dir

F16 Dyledion sy’n ddyledus i’r Ymddiriedolaeth

Dylech nodiʼr ffigur o flwch 3 pan fyddwch yn llenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg).

F17 Ad-daliad Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf

Dylech nodi cyfanswm unrhyw dreth a ad-dalwyd i’r ymddiriedolaeth. Os nad ydych yn gwybod yr union swm, dylech nodi amcangyfrif rhesymol.

F18 Asedion eraill

Dylech nodi cyfanswm gwerth unrhyw asedion eraill nad ydynt eisoes wedi’u cynnwys.

Mae’n rhaid i chi gynnwys manylion yr asedion hyn yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’.

Adran G: Rhwymedigaethau, esemptiadau a rhyddhadau

Dim ond dyledion a oedd yn ddyledus gan yr ymddiriedolaeth ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy y dylech eu cynnwys.

Peidiwch â chynnwys y canlynol: 

  • ffioedd am wasanaethau proffesiynol a gynhelir ar ôl dyddiad y digwyddiad

  • unrhyw ffioedd a godwyd gan gyfreithiwr, asiant eiddo neu wasanaeth prisio wrth ddelio â’r digwyddiad trethadwy

Rhwymedigaethau 

Ar gyfer blwch G1, dylech restru’r holl ddyledion sy’n ddyledus gan y trosglwyddwr y gellir eu didynnu o’r asedion a gynhwysir yn adran F, colofn A.

Dylech lenwi enw’r person neu’r sefydliad y mae’r arian yn ddyledus iddo ac esbonio’n fras pam mae’r arian yn ddyledus. Os byddwch yn cynnwys didyniadau am ffioedd cyfreithwyr neu gyfrifwyr, rhowch y dyddiadau ar gyfer y cyfnod pan wnaed y gwaith.

Ar gyfer blwch G2, dim ond esemptiadau, rhyddhadau ac eiddo sydd wedi’u heithrio yn erbyn asedion a restrwyd yn adran F, colofn B, y dylech eu cynnwys.

Esemptiadau a rhyddhadau

Mae nifer o ryddhadau sy’n lleihau gwerth y trosglwyddiad y mae angen i chi dalu treth arno.

 Mae rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Os yw’r rhyddhad trethiant dwbl yn cael ei hawlio oherwydd bod y person yn byw y tu allan i’r DU, llenwch atodlen D31.

Er mwyn didynnu’r rhyddhadau yn erbyn yr asedion a restrwyd ym mlychau F1 i F18, dylech ysgrifennu teitl y rhyddhad a’r swm rydych am ei ddidynnu yn y blwch a ddarperir.

Ar gyfer blwch G3, dim ond rhyddhadau yn erbyn yr asedion a restrwyd yn adran F, colofn A, y dylech eu cynnwys. Adiwch y rhyddhadau at ei gilydd ac ysgrifennu’r canlyniad yn y blwch ar gyfer y cyfanswm.

Ar gyfer blwch G4, dim ond rhyddhadau ac eiddo sydd wedi’u heithrio yn erbyn yr asedion a restrwyd yn adran F, colofn B, y dylech eu cynnwys.

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae rhyddhad o 100% ar werth cyfunol eiddo amaethyddol neu fusnes cymhwysol (neu’r ddau) yn destun lwfansau rhyddhad newydd.

Mae’r rhain yn capio gwerth eiddo amaethyddol neu fusnes cymhwysol sy’n gallu cael rhyddhad o 100%. Mae unrhyw werth eiddo amaethyddol neu fusnes cymhwysol sy’n uwchlaw’r lwfans rhyddhad sydd ar gael yn cael rhyddhad o 50%.

Mae sut mae’r lwfans rhyddhad yn gweithio yn dibynnu ar y math o rodd neu ymddiriedolaeth.

Darllenwch y nodiadau arweiniol ar D37 (Rhyddhad Amaethyddol) a D38 (Rhyddhad Busnes), ynghyd ag adran IHTM25500 o Lawlyfr Treth Etifeddiant CThEF — cyfeiriwch at yr adran ‘Gwirio faint o ryddhad y gallwch ei hawlio’ er mwyn cyfrifo faint o ryddhad y gallwch ei hawlio.

Hefyd, o 6 Ebrill 2026 ymlaen, os nad yw marchnad yn cael ei chyfrif fel un ‘rhestredig’ at ddibenion CThEF, dim ond ar gyfradd o 50% y gall cyfranddaliadau a ddelir mewn cwmnïau sydd wedi’u rhestru ar y marchnadoedd hyn gymhwyso erbyn hyn. Darllenwch yr arweiniad ynghylch marchnadoedd cyfnewidfa stoc gydnabyddedig (yn agor tudalen Saesneg) i wirio pa farchnadoedd stoc rydym yn ystyried fel rhai sydd ‘wedi’u rhestru’.

Adran H: Cyfrifo’r dreth

Cyfrifo’r gyfradd dreth

Mae treth ar ymddiriedolaethau arbennig yn cael ei chodi ar gyfradd unffurf syʼn meinhau dros amser, yn dibynnu ar y cyfnod sydd wedi mynd heibio. Maeʼr cyfnod yn cael ei gyfrif yn nifer y chwarter blynyddoedd a aeth heibio ers iʼr eiddo trethadwy gael ei ddal gan yr ymddiriedolaeth.

Ni ddylech gyfrif unrhyw gyfnod chwaith:

  • cyn 13 Mawrth 1975
  • pan oedd yr eiddo yn eiddo eithriedig

Defnyddiwch yr offeryn cyfrifo chwarteri i gyfrifo nifer y chwarteri cyflawn (yn agor tudalen Saesneg) rhwng y 2 ddyddiad perthnasol.

Llenwch y tabl yn H2 i gyfrifo cyfanswm y gyfradd dreth.

  1. Nodwch nifer y chwarterau cyflawn a gyfrifwyd yn y rhes briodol yn yr ail golofn.
  2. Lluoswch bob rhif âʼr gyfradd chwarterol i gael cyfanswm y gyfradd dreth ar gyfer pob 40 chwarter (neu bob cyfnod 10 mlynedd).
  3. Adiwch yr holl gyfraddau treth at ei gilydd a nodi’r ffigur hwn ym mlwch cyfanswm y gyfradd dreth.

Enghraifft

Roedd ymddiriedolaeth a sefydlwyd ar 1 Mai 1995 wedi methu â bodloni’r amodau a oedd wedi’i heithrio rhag prif daliadau a thaliadau cymesur ar 1 Ionawr 2020.

Maeʼr canlynol yn gyfrifiad i gyfrifo cyfanswm y gyfradd dreth ar gyfer y taliadau.

1. Nifer y chwarterau cyflawn rhwng 1 Mai 1995 ac 1 Ionawr 2020 yw:

  • 1 Mai 1995 i 30 Ebrill 2005 = 40 (chwarteri 1 i 40)
  • 1 Mai 2005 i 30 Ebrill 2015 = 40 (chwarteri 41 i 80)
  • 1 Mai 2015 i 31 Hydref 2019 = 18 (chwarteri 81 i 120)

2. Lluoswch y chwarteri âʼr gyfradd chwarterol ar ffurflen IHT100e ar gyfer pob 40 chwarter:

  • 40 × 0.25 = 10% (chwarteri 1 i 40)
  • 40 × 0.2 = 8% (chwarteri 41 i 80)
  • 40 × 0.15 = 2.7% (chwarteri 81 i 120)

3. Cyfanswm y gyfradd dreth yw 10% + 8% + 2.7% = 20.7%.

Grosio

Gan ddefnyddio’r wybodaeth o’r enghraifft o H2, bydd enghraifft o gyfrifiad o’r gyfradd (gros) newydd fel a ganlyn, 20.7 ÷ (100 – 20.7) × 100 = 26.1%

Dyddiadau cau ar gyfer talu a llog ar gyfer asedion nad ydynt yn cael eu dal mewn ymddiriedolaethau arbennig mwyach

Mae Treth Etifeddiant yn ddyledus heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y mis y digwyddodd y digwyddiad trethadwy. 

Os yw’ch taliad ar ôl y dyddiad dyledus, ychwanegir llog at unrhyw dreth heb ei thalu ac fe’i codir ar gyfradd ddyddiol. 

Dylech ddefnyddio Cyfrifiannell cyfradd llog Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo unrhyw log sy’n ddyledus ar eich taliad.

Adran I: Awdurdod ar gyfer ad-dalu Treth Etifeddiant

Os bydd angen i ni ad-dalu Treth Etifeddiant, byddwn yn ei had-dalu’n uniongyrchol drwy Daliadau Cyflymach i’r cyfrif banc yn enwau pawb a lofnododd y ffurflen.

Os nad oes gennych gyfrif banc yn yr enwau hynny, gallai fod yn anodd i chi gael yr ad-daliad.

Er mwyn osgoi unrhyw anawsterau, rhowch fanylion y cyfrif yr ydych eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu iddo.

Adran J: Datgelu cynlluniau arbed treth 

Dylech gynnwys y ddau beth canlynol:

  • cyfeirnod yr hyrwyddwr neu’r cynllun, os ydych wedi cael un

  • y flwyddyn dreth neu’r dyddiad pan ddisgwylir y fantais dreth

Dysgwch am y rheolau ar gyfer datgelu cynlluniau arbed treth (yn agor tudalen Saesneg).

Datganiad

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr holl ymddiriedolwyr wedi darllen y datganiad ac yn cytuno bod yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen, unrhyw atodlenni a dogfennau ategol eraill yn gywir.

Bydd CThEF yn derbyn ffurflenni IHT100e heb lofnod â llaw gan asiant neu ymddiriedolwr, cyhyd â bo enwau a manylion personol yr ymddiriedolwyr i’w gweld ar dudalen y datganiad.

Os ydych yn asiant

Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad hwn yn yr wybodaeth ychwanegol ar dudalen 10:

‘Fel yr asiant sy’n gweithredu ar eu rhan, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100e hon, wedi gweld yr IHT100e ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 8 yr IHT100e.’ 

Os ydych yn ymddiriedolwr

Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad hwn yn yr wybodaeth ychwanegol ar dudalen 10:

‘Fel yr ymddiriedolwr sy’n gweithredu yn y mater hwn, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100e hon, yn ymddiriedolwyr ac wedi gweld yr IHT100e ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 8 yr IHT100e.’ 

Anfon eich ffurflen wedi’i llenwi atom

Dylech anfon y ffurflen i’r cyfeiriad a ddangosir ar waelod y ffurflen.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y canlynol:

  • copïau o unrhyw ddogfen yr ydym wedi gofyn amdani

  • unrhyw atodlenni wedi’u llenwi (darllenwch adran D)

Darllenwch beth syʼn digwydd ar ôl i chi anfon eich ffurflen wediʼi llenwi atom (yn agor tudalen Saesneg).

Cael help

Cysylltwch â’r llinell gymorth Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen.