Papur polisi

Cynllun Gweithredu Bregusrwydd GLlTEF - Hydref 2023

Diweddarwyd 12 December 2023

1. Cyflwyniad

Gall bod angen defnyddio un o’n gwasanaethau fod yn brofiad brawychus i unrhyw un. Gall fod yn her hyd yn oed yn fwy i’r rhai hynny sy’n agored i niwed yn ein cymdeithas.

Rydyn ni’n dweud bod pobl yn agored i niwed pan maen nhw’n cael anhawster ac angen cymorth ychwanegol. Gallai hyn fod yn anabledd, yn gyflwr iechyd meddwl neu’n brofiad sydd wedi gwneud i rywun deimlo’n anniogel.

Mae ein Cynllun Gweithredu Bregusrwydd yn dangos sut rydym yn anelu at wneud ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd yn hygyrch i bawb. Mae’n nodi’r hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau nad yw ein defnyddwyr sy’n agored i niwed dan anfantais neu fod unrhyw wahaniaethu yn digwydd yn eu herbyn, wrth i ni ddarparu gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwrando ar bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau sy’n fwy agored i niwed, a’n partneriaid sy’n cefnogi grwpiau sy’n agored i niwed. Rydym yn gweithio i addasu a gwella ein gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion. Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) ac adrannau eraill y llywodraeth i sicrhau ein bod yn darparu’r lefel gywir o gefnogaeth. Mae’n bwysig i ni bod ein defnyddwyr sy’n agored i niwed bob amser yn gallu cael mynediad at y system gyfiawnder yn ddiogel ac mewn modd hyderus.

2. Cefndir

Rydym wedi ymrwymo i ddiweddaru ein Cynllun Gweithredu Bregusrwydd, a gyhoeddwyd ddiwethaf ym mis Ebrill 2023.

Fel o’r blaen, mae’r cynllun hwn yn cynnwys ein gwaith fel rhan o’n rhaglen ddiwygio i ddylunio gwasanaethau hygyrch yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth. Dyma nhw:

  • rhoi cymorth i’n defnyddwyr sy’n agored i niwed gael mynediad at wasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd a chymryd rhan ynddynt a’u cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chymorth eraill pan fo angen
  • casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed
  • sicrhau bod ein gwasanaethau’n hygyrch i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein defnyddwyr sy’n agored i niwed yn gallu defnyddio ein gwasanaethau a byddwn yn gwneud hyn drwy:

3. Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud ers ein diweddariad diwethaf

3.1. Rhoi cymorth i’n defnyddwyr sy’n agored i niwed gael mynediad at wasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd a chymryd rhan ynddynt a’u cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chymorth eraill pan fo angen

Traws-Awdurdodaethol

Rydym wedi:

  • creu hyfforddiant ac adnoddau i staff adnabod anghenion defnyddwyr a’u cyfeirio at gymorth pan fydd ganddynt anghenion ychwanegol na all GLlTEF eu diwallu
  • parhau â’r gwasanaeth cymorth digidol cenedlaethol i ddefnyddwyr ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.  Mae’r gwasanaeth yn cefnogi defnyddwyr sy’n methu neu’n cael trafferth mynd ar-lein. Rydym yn parhau i weithio gyda We Are Group (We Are Digital gynt), un o brif ddarparwyr sgiliau digidol a chynhwysiant y DU. Gyda’n gilydd rydym wedi cefnogi defnyddwyr Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant, Gwasanaeth Un Ynad, Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein, Gwasanaeth Profiant, Ysgariad a Help i Dalu Ffioedd i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein

  • cefnogi staff GLlTEF i gwblhau rhaglen hyfforddi am ddiogelu i helpu i amddiffyn defnyddwyr sy’n agored i niwed sydd mewn perygl o niwed neu esgeulustod

  • monitro’r broses o gyflwyno’r opsiwn sgwrsio dros y we ar gyfer y Tribiwnlys Cyflogaeth yn Yr Alban. Rydym wedi nodi’r angen i wella hygyrchedd. Mae’r gwasanaeth sgwrsio dros y we yn cynnig cefnogaeth i ddefnyddwyr sy’n llai hyderus wrth ddefnyddio TG

Llysoedd Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd

Rydym wedi:

  • parhau i gyflawni ein Cynllun Gweithredu Cam-drin Domestig Cenedlaethol, a fydd yn helpu partïon drwy’r broses llys

  • diweddaru’r hyfforddiant cam-drin domestig a byddwn yn cefnogi staff i’w gwblhau erbyn diwedd 2023

  • adolygu canlyniadau cynllun peilot ceisiadau Cyfraith Deulu Breifat ar gyfer ymgyfreithwyr drostynt eu hunain. Mae gwneud gwelliannau yn golygu ein bod yn barod i barhau i brofi i weld sut y gallwn wella’r system i geiswyr. Mae achosion Cyfraith Breifat yn achosion sy’n digwydd rhwng aelodau o’r teulu, fel rhieni neu berthnasau eraill ac nid ydynt yn cynnwys Awdurdod Lleol.

Troseddol

Rydym wedi:

  • cefnogi’r broses o ddarparu rhaglenni’r GIG i gyflwyno gwasanaethau gofal iechyd yn ein canolfannau remand. Bydd hyn yn helpu diffynyddion sy’n agored i niwed a nodwyd drwy’r gwasanaethau Cyswllt a Dargyfeirio
  • ei gwneud yn bosibl i ddioddefwyr a thystion sy’n agored i niwed recordio eu tystiolaeth ymlaen llaw mewn lleoliad i ffwrdd o’r llys neu safleoedd cyswllt o bell swyddogol, o dan Adran 28 Deddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999. Mae hyn yn caniatáu recordio tystiolaeth a chroesholi cyn y treial, yn amodol ar ddisgresiwn barnwrol. Bydd hyn yn helpu dioddefwyr a thystion sy’n agored i niwed fel:
  • pob plentyn sy’n dyst
  • unrhyw dyst y mae ansawdd ei dystiolaeth yn debygol o gael ei leihau oherwydd ei fod yn:

    • a.) dioddef o anhwylder meddyliol
    • b.) bod ganddo nam sylweddol ar ei ddeallusrwydd a gweithrediad cymdeithasol
    • c.) bod ganddo anabledd corfforol neu ei fod yn dioddef o anhwylder corfforol
  • gwneud gwelliannau i’r cyfleusterau a’r dechnoleg mewn tri Llys y Goron (Snaresbrook, Leeds, a Newcastle) trwy’r cynllun peilot Cymorth Arbenigol Trais Rhywiol (SSVS). Mae hyn er mwyn gwella profiad dioddefwyr trais rhywiol sy’n oedolion yn Llysoedd y Goron.

3.2 Casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed

Traws-Awdurdodaethol

Rydym wedi:

  • parhau i gynnal asesiadau mynediad at gyfiawnder ar draws y gwasanaethau Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein (OCMC), Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCS), Ysgariad a Phrofiant. Mae’r asesiadau hyn yn helpu i nodi rhwystrau cyffredin rhag cael mynediad at gyfiawnder, beth sy’n achosi’r rhwystrau hyn a beth allai helpu i’w stopio.

casglu data nodweddion gwarchodedig o’r gwasanaeth:

  • Ysgariad
  • Profiant
  • Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein (OCMC)
  • Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCS)
  • Siambr Mewnfudo a Lloches (IAC)
  • Pledio Ar-lein ar gyfer y Gwasanaeth Un Ynad
  • Gwŷs rheithgor

i’n helpu i gael gwell dealltwriaeth o bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

3.3 Gwneud ein gwasanaethau’n hygyrch i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed

Traws-Awdurdodaethol

Rydym wedi:

  • cyflwyno Cynllun Blodau Haul Anableddau Cudd ar draws ein holl safleoedd, fel rhan o’n hymrwymiad yn y strategaeth awtistiaeth draws-lywodraethol. Mae rhai pobl yn dewis gwisgo cortyn blodyn haul i ddangos bod angen cymorth ychwanegol, help neu ychydig mwy o amser arnynt.

  • cyflwyno gweithdai ymwybyddiaeth hygyrchedd i staff yn y Llysoedd Barn Brenhinol i helpu i gefnogi defnyddwyr sy’n agored i niwed

  • parhau i fod yn aelod gweithgar o’r Gweithgor Cyswllt Di-groeso gan Garcharorion sy’n cefnogi mynd i’r afael â’r ffaith bod tystion yn cael eu bygwth gan garcharorion ar remand

  • ehangu’r Gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo i bob awdurdodaeth. Mae gwrandawiadau fideo yn caniatáu i’r rhai sy’n rhan o’r gwrandawiad fynychu o bell, os yw’r barnwr yn cytuno.

Llysoedd Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd

Rydym wedi:

  • gwneud gwelliannau i’r broses ysgariad trwy wneud yr iaith a ddefnyddiwn ar-lein, yn haws ei deall

  • cyflwyno gweminar genedlaethol i’n staff hyrwyddo gwaith CourtNav,  adnodd ar-lein i helpu unrhyw un sy’n cwblhau ceisiadau Cyfraith Teulu i gael amddiffyniad cyfreithiol yng Nghymru neu Loegr. Mae hyn yn helpu staff i gyfeirio ceiswyr at y cymorth cywir wrth ystyried cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn meddiannaeth. Mae gorchmynion rhag molestu a gorchmynion meddiannaeth yn amddiffyn pobl rhag cael eu cam-drin neu aflonyddu arnynt.

  • cyflwyno fflagiau achos i’n systemau rheoli achosion sifil. Mae fflagiau achos yn hysbysu staff bod angen rhywbeth penodol mewn achos. Gallai hyn fod yn fesurau arbennig, addasiadau rhesymol, yr iaith Gymraeg neu unrhyw beth arall y mae angen i’r llys fod yn ymwybodol ohono.

4. Ein cynllun

4.1 Rhoi cymorth i’n defnyddwyr sy’n agored i niwed gael mynediad at wasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd a chymryd rhan ynddynt a’u cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chymorth eraill pan fo angen

Rydym yn: Amserlen i’w chwblhau Yr Awdurdodaeth sy’n gysylltiedig
cynyddu mynediad i’r Gwasanaeth Cymorth Digidol Cenedlaethol. Mae hyn ar gyfer defnyddwyr ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi defnyddwyr, sy’n methu neu’n cael trafferth mynd ar-lein    
Byddwn yn canolbwyntio ar: ddatblygu a chynnig cefnogaeth ar draws y broses gwneud cais lawn, cyflwyno gwasanaethau newydd fel y gallwn gefnogi mwy o ddefnyddwyr, datblygu’r rhestr o bartneriaid sy’n darparu’r gwasanaeth i sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth o ansawdd i bob defnyddiwr sydd ei angen, dadansoddi profiadau defnyddwyr er mwyn deall eu hanghenion yn well i wella ein gwasanaeth Parhaus Traws-Awdurdodaethol
creu canllawiau newydd i helpu staff i gefnogi defnyddwyr sy’n profi trawma Haf 2024 Traws-Awdurdodaethol
parhau i ymgorffori Polisi Diogelu GLlTEF i helpu i amddiffyn defnyddwyr sy’n agored i niwed rhag camdriniaeth neu esgeulustod Parhaus Traws-Awdurdodaethol
gwneud newidiadau i’r cynllun dileu ffioedd presennol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar. Bydd ceisiadau digidol a phapur ar gael i’n defnyddwyr Gwanwyn 2024 Traws-Awdurdodaethol
cefnogi staff i gwblhau hyfforddiant cam-drin domestig Gaeaf 2023 Traws-Awdurdodaethol
parhau i adolygu ceisiadau Cyfraith Deulu Breifat ar gyfer ymgyfreithwyr drostynt eu hunain i weld sut y gallwn wella’r system ar gyfer ceiswyr. Mae achosion cyfraith breifat yn achosion sy’n digwydd rhwng aelodau o’r teulu, fel rhieni neu berthnasau eraill ac nid ydynt yn cynnwys awdurdod lleol. Haf 2024 Teulu
ymestyn yr opsiwn sgwrsio dros y we presennol ar gyfer defnyddwyr Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn yr Alban i ddefnyddwyr yng Nghymru a Lloegr drwy ein Canolfannau Gwasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd. Mae’r gwasanaeth sgwrsio dros y we yn cynnig cefnogaeth i ddefnyddwyr sy’n llai hyderus wrth ddefnyddio TG Haf 2024 Tribiwnlysoedd
cynnal gwerthusiad o’r Gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo yn yr awdurdodaeth troseddol. Mae ymchwilwyr defnyddwyr yn gweithio gyda chyfieithwyr i ddeall y swyddogaeth sydd ei hangen arnynt i gefnogi defnyddwyr orau Parhaus Troseddol
treialu gwasanaeth cwnsela i reithwyr a sesiynau briffio rheithwyr mewn 15 safle llys ar draws yr ystad droseddol Haf 2024 Troseddol
parhau i ymgysylltu â chydweithwyr yn y GIG i ddarparu gwasanaethau i’r rhai sydd ag iechyd meddwl gwael, anawsterau dysgu, camddefnyddio sylweddau neu wendidau eraill, Y nod yw lleihau risg, aildroseddu a gwella canlyniadau Parhaus Troseddol
parhau i gefnogi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gyflawni’r prosiect Cymorth Arbenigol Trais Rhywiol (SSVS) trwy gyflwyno hyfforddiant trawma i staff. Mae hyn er mwyn gwella profiad dioddefwyr trais rhywiol sy’n oedolion yn Llys y Goron. Haf 2024 Troseddol

4.2 Casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed

Rydym yn: Amserlen i’w chwblhau Awdurdodaeth sy’n gysylltiedig
parhau i gynnal asesiadau mynediad at gyfiawnder ar draws ein gwasanaethau. Mae’r asesiadau hyn yn caniatáu i GLlTEF helpu i nodi rhwystrau cyffredin rhag cael mynediad at gyfiawnder, beth sy’n achosi’r rhwystrau hyn a beth allai helpu i’w stopio Parhaus Traws-Awdurdodaethol
parhau i gasglu data nodweddion gwarchodedig, a fydd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Parhaus Traws-Awdurdodaethol
gweithio gydag OCS, un o’n partneriaid gwasanaethau dan gontract i ddeall cynnwys eu deunydd hyfforddi ar ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ar gyfer Swyddogion Diogelwch y Llys Parhaus Traws-Awdurdodaethol
gwneud gwelliannau i hyfforddiant presennol Tywyswyr i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig Gwanwyn 2024 Traws-Awdurdodaethol
gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS) i sicrhau eu bod yn cael gwybod am orchmynion rhag molestu. Mae gorchmynion rhag molestu yn amddiffyn pobl rhag cael eu cam-drin neu eu haflonyddu yn eu herbyn. Bydd hyn yn helpu HMPPS i reoli ymddygiad troseddwyr er mwyn atal partïon gwarchodedig rhag cael rhywun yn ceisio cysylltu â nhw yn ddi-groeso. Parhaus Llysoedd Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd

4.3 Gwneud gwasanaethau’n hygyrch i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed

Rydym yn: Amserlen i’w chwblhau Awdurdodaeth sy’n gysylltiedig
diweddaru ffurflenni yn barhaus fel eu bod yn glir ac yn hawdd i’w defnyddio ac yn sicrhau bod opsiwn papur hefyd ar gael i’n defnyddwyr pan fyddwn yn cyflwyno proses ddigidol. Parhaus Traws-Awdurdodaethol
parhau i wneud gwelliannau i hygyrchedd ffisegol ein hadeiladau Parhaus Traws-Awdurdodaethol
gwneud gwelliannau i’r Llinell Dalu Awtomataidd (APL) sy’n ffordd arall o dalu am warantau mewn perthynas â Dyfarniadau’r Llys Sirol (CCJ’s). Mae’r gwelliannau’n rhoi gwell gwybodaeth i’n defnyddwyr ar sut i ddefnyddio’r APL Gwanwyn 2024 Llysoedd
Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd    
digideiddio’r broses gwneud cais am ysgariad. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr gyflwyno gwybodaeth bellach pan ofynnir am hynny drwy’r porth ar-lein yn hytrach nag e-bost. Hydref 2024 Teulu

5. Edrych i’r dyfodol

Byddwn yn parhau i adolygu unrhyw newidiadau a wnawn i ddeall beth yw’r effeithiau ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal gwerthusiad cyffredinol o’r rhaglen Ddiwygio, sy’n canolbwyntio ar fynediad at gyfiawnder a bregusrwydd ar draws pob awdurdodaeth. Fel rhan o hyn, maent wedi comisiynu astudiaeth ansoddol a fydd yn archwilio’r heriau y mae oedolion sy’n agored i niwed a sydd â phroblemau cyfreithiol yn eu profi, a pha gymorth fyddai wedi eu helpu i gael cyfiawnder. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn HMCTS Reform Overarching Evaluation: Research.

Byddwn yn parhau i siarad â rhanddeiliaid a phartneriaid allanol ac os byddwn yn dod o hyd i effeithiau negyddol ar bobl agored i niwed sy’n defnyddio ein gwasanaethau, byddwn yn parhau i gymryd camau i’w datrys a chynnwys ein gwaith yn ein Cynllun Gweithredu Bregusrwydd.

Byddwn yn parhau i gyhoeddi ein cynllun ar GOV.UK.