Canllawiau

Llofnodi eich gweithred morgais: canllaw i drawsgludwyr

Diweddarwyd 7 March 2023

Applies to England and Wales

Mae’r gwasanaeth Llofnodi eich gweithred morgais yn caniatáu i geisiadau morgais digidol llwyddiannus ddiweddaru’r gofrestr ar unwaith, heb yr angen i weithiwr cais Cofrestrfa Tir EF ei adolygu.

Gofynion ar gyfer defnyddio Llofnodi eich gweithred morgais

Mae’r canlynol yn ofynnol er mwyn defnyddio’r gwasanaeth Llofnodi eich gweithred morgais:

Defnyddio Llofnodi eich gweithred morgais

Bydd y rhoddwr benthyg neu’r canolwr naill ai’n:

  • rhoi’r cyfeirnod e-MD ichi er mwyn ichi allu creu’r weithred eich hunan, neu’n
  • creu’r weithred ond yn anfon y dynodwr atoch i ddefnyddio’r weithred gywir o fewn rhwydwaith Cofrestrfa Tir EF

Diogelu’ch tystysgrif SSL

Rydym yn storio tocyn ar eich cyfrifiadur a elwir yn dystysgrif SSL (rydym yn defnyddio tystysgrifau X509). Bydd eich tystysgrif SSL unigryw yn eich dilysu ac yn eich galluogi i ddefnyddio Business Gateway.

Rhaid ichi ddiogelu eich tystysgrif gan ddefnyddio mesurau diogelwch fel amgryptio disg a rheolyddion mynediad. Bydd y mesurau hyn yn atal pobl rhag ffugio mai chi ydyn nhw.

Os caiff eich tystysgrif ei dileu neu os ydych o’r farn ei bod wedi ei pheryglu, dylech gysylltu â chymorth i gwsmeriaid Cofrestrfa Tir EF.

Cyflwyno eich cais yn gywir y tro cyntaf

Creu gweithred

Dylech sicrhau bod y manylion a ddefnyddiwyd i greu’r weithred yn gywir trwy wirio:

  • bod enwau’r perchnogion (gan gynnwys enwau canol) yn cyfateb i’r gofrestr
  • bod y dyddiad geni yn gywir er mwyn caniatáu i hunaniaeth gael ei gadarnhau
  • bod rhifau ffôn symudol yn gywir ac yn wahanol ar gyfer pob perchennog (ni fydd y cymerwr benthyg yn gallu llofnodi gweithred morgais os yw ei rif ffôn symudol yn anghywir)
  • bod cyfeiriad yr eiddo yn cyfateb i’r cyfeiriad A1 ar y gofrestr
  • bod y cyfeiriad ar gyfer gohebu yn cyfateb i’r cyfeiriad B1 ar y gofrestr

Rhyddhau

Ni allwn gofrestru arwystl morgais digidol newydd os oes arwystl yn bodoli ar y gofrestr. Bydd eich cais am forgais digidol yn cael ei adolygu â llaw os nad ydych yn rhyddhau arwystl sy’n bodoli cyn anfon eich cais. Efallai bydd gofyn inni anfon cais am wybodaeth (ymholiad) ar gyfer y rhyddhau hefyd.

Cyflwyno cais am forgais digidol

Ni fydd eich cais yn awtomeiddio os:

  • oes mwy nag un arwystl – dylech anfon unrhyw ryddhau cyn anfon eich cais am forgais digidol
  • ydych yn cyflwyno dogfennau ychwanegol – dylech atodi unrhyw ddogfennau ychwanegol at eich cais gwreiddiol
  • yw’r ffurflen eAP1 yn cynnwys nodiadau
  • nad yw’r ffi a ddyfynnir ar yr eAPI yn cyfateb i’n ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru

Rhoddwyr benthyg morgeisi

Gweler ein canllaw i roddwyr benthyg morgeisi a rhestr lawn o roddwyr benthyg sy’n gallu defnyddio’r gwasanaeth Llofnodi eich gweithred morgais.

Cysylltu

I gael gwybod rhagor, anfonwch ebost i: digitalmortgages@landregistry.gov.uk.