Papur polisi

Ymateb y Llywodraeth i'r adolygiad o dreialon clinigol masnachol

Ymateb llawn y llywodraeth i adolygiad annibynnol yr Arglwydd O'Shaughnessy o dreialon clinigol masnachol y DU.

Dogfennau

Manylion

Cyhoeddodd y llywodraeth ei hymateb cychwynnol i Adolygiad yr Arglwydd O’Shaughnessy i dreialon clinigol masnachol y DU ym mis Mai 2023. Roedd yr ymateb cychwynnol yn croesawu holl argymhellion yr adolygiad mewn egwyddor, a gwnaeth bum prif ymrwymiad gyda chefnogaeth hyd at £121 miliwn o gyllid.

Mae’r adroddiad hwn yn nodi ein hymateb yn llawn ac yn integreiddio argymhellion yr Arglwydd O’Shaughnessy i’n rhaglen waith i roi ein gweledigaeth 10 mlynedd feiddgar ac uchelgeisiol ar waith, Achub a Gwella Bywydau: Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol y DU. Mae’n darparu:

  • diweddariad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y pum prif ymrwymiad
  • dangosyddion perfformiad cenedlaethol newydd a fydd yn sbarduno cynnydd wrth gyflwyno ymchwil glinigol ar draws y DU
  • ymateb wedi’i flaenoriaethu ar yr argymhellion sy’n weddill a’r rhaglen waith bresennol a gyhoeddwyd yn ein cynlluniau gweithredu blaenorol, y mae’r ddogfen hon yn eu disodli
Cyhoeddwyd ar 22 November 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 December 2023 + show all updates
  1. Added Welsh version.

  2. First published.