Canllawiau

Trwydded gyffredinol i symud adweithyddion amhendant a gliriwyd o fuchesi yng Nghymru neu Loegr sydd â statws heb TB swyddogol i'w lladd neu i uned besgi gymeradwy

Diweddarwyd 1 Ionawr 2026

Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981

Gorchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (O.S. 2021/1001)

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1379 (Cy.122))

Yn unol ag erthygl 24 o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021  ac erthygl 23 o Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Gweinidogion Cymru, drwy’r drwydded gyffredinol hon, yn awdurdodi symud anifeiliaid buchol sy’n adweithyddion amhendant a gliriwyd o’r safle y maent wedi’u cyfyngu iddo yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

  1. 1. Mae symudiadau a ganiateir o dan y drwydded hon o fuches yng Nghymru neu Loegr â statws heb TB swyddogol (OTF):

    1. a) yn uniongyrchol i ladd-dy

    2. b) i farchnad neu ganolfan gasglu a gymeradwywyd i dderbyn anifeiliaid buchol dan gyfyngiadau TB y mae pob anifail yn mynd yn uniongyrchol ohoni i gael ei ladd

    3. c) yn uniongyrchol i uned besgi gymeradwy (AFU)

    4. d) i gasgliad arbennig cymeradwy (Lloegr yn unig) neu arwerthiant arbennig ar gyfer anifeiliaid buchol dan gyfyngiadau TB (‘marchnad oren’) yng Nghymru neu Loegr ac oddi yno i uned besgi gymeradwy yng Nghymru neu Loegr neu i ladd-dy

  2. 2. Ni ellir symud unrhyw anifeiliaid buchol i safle neu oddi arno os bydd symudiadau o’r fath yn groes i unrhyw gyfyngiadau eraill sy’n ymwneud â chlefydau hysbysadwy sydd mewn grym ar adeg y symud arfaethedig.

  3. 3. Rhaid i symudiadau i uned besgi gymeradwy neu gasgliad arbennig cymeradwy neu arwerthiant arbennig ar gyfer anifeiliaid buchol dan gyfyngiadau TB fodloni amodau’r Drwydded Gyffredinol ar gyfer Symud Gwartheg yng Nghymru neu Loegr.

  4. 4. Cadw anifeiliaid sy’n cael eu cludo ar wahân:

    1. a) ni chaniateir dadlwytho anifeiliaid (ac eithrio mewn argyfwng) o’r cerbyd y maent yn cael eu cludo ynddo nes eu bod yn cyrraedd safle pen y daith

    2. b) gall anifeiliaid buchol eraill o fuches OTF deithio yn yr un cerbyd â’r adweithyddion amhendant a gliriwyd pan fyddant yn cael eu cludo i’r un safle pen y daith

    3. c) gellir cludo rhywogaethau eraill o anifeiliaid (er enghraifft, ceffylau, defaid a moch) yn yr un cerbyd ond dim ond pan fyddant yn cael eu symud i gael eu lladd yn yr un lladd-dy a’u bod yn ddarostyngedig i’r rheoliadau ynglŷn â chludo anifeiliaid

  5. 5. Glanhau a diheintio cerbydau a chynwysyddion

    1. a) rhaid glanhau a diheintio unrhyw ddull trafnidiaeth a ddefnyddir i gludo anifeiliaid dan y Drwydded hon yn unol â gofynion Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Lloegr) (Rhif 3) 2003 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr neu Orchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru

    2. b) rhaid i’r diheintydd a ddefnyddir gael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio rhag twbercwlosis o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion Cymeradwy) (Lloegr) 2007 yn Lloegr neu Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion Cymeradwy) (Cymru) 2007 yng Nghymru a’i ddefnyddio yn unol â gofynion cymeradwyaeth o’r fath

Ceidwad y gwartheg sy’n gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â’r amodau a nodir yn y drwydded hon. Mae methu â chydymffurfio â thelerau’r drwydded hon yn drosedd o dan Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 neu Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010.

Daw’r drwydded hon i rym am 00:01 o’r gloch ar 1 Ionawr 2026.

Llofnodwyd gan:

Sergio Thomas

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Alison Jones

O dan awdurdod y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Dyddiedig: 11 Rhagfyr 2025

Nodiadau

  1. 1. Diffinnir adweithyddion amhendant a gliriwyd fel anifeiliaid buchol a gafodd ganlyniad amhendant i’r prawf croen twbercwlin ac, ar ôl ail brawf heb fod yn llai na 60 diwrnod wedyn, a gafodd ganlyniad negatif i’r prawf croen. Yng Nghymru, mae’r polisi hwn ond yn gymwys i adweithyddion amhendant a ddatgelir o dan y dehongliad safonol.
  2. 2. Yn yr Ardal Risg Uchel, yr Ardal Ymylol ac mewn buchesi sydd wedi’u heintio â TB yn yr Ardal Risg Isel yn Lloegr, mae adweithyddion amhendant a gliriwyd wedi’u cyfyngu am weddill eu hoes drwy hysbysiad i’r daliad lle y cawsant eu profi a dim ond o dan drwydded y gellir eu symud oddi ar y daliad, oni chaiff prawf gwaed gama interfferon ei gynnal arnynt wedyn â chanlyniadau negatif.
  3. 3. Yng Nghymru, mae adweithyddion amhendant a gliriwyd wedi’u cyfyngu am weddill eu hoes drwy hysbysiad i’r daliad lle y cawsant eu profi a dim ond o dan drwydded y gellir eu symud oddi ar y daliad
  4. 4. Mae uned besgi gymeradwy (AFU) yn cynnwys uned besgi gymeradwy (uwch) (AFUE) sydd â thir pori
  5. 5. Os rhoddir dŵr i’r gwartheg trwyddedig wrth eu symud, mae’n rhaid cyflenwi’r dŵr mewn bwced lân yn syth o dap, nid o gafn dŵr. Yna rhaid diheintio’r bwced
  6. 6. Rhaid cofnodi’r broses o symud y gwartheg o dan y drwydded hon yn y cofnod y mae’n ofynnol ei gadw o dan Reoliadau Adnabod Gwartheg 2007 neu Reoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 a rhaid rhoi gwybod i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain am unrhyw symudiadau o fewn tridiau i’r symudiad.

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn un o Asiantaethau Gweithredol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac mae hefyd yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a’r Asiantaeth Safonau Bwyd i ddiogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion er budd pobl, yr amgylchedd a’r economi.