Trwydded gyffredinol ar gyfer symud gwartheg sy'n adweithyddion amhendant a gliriwyd i'w lladd
Trwydded gyffredinol ar gyfer symud gwartheg sy'n adweithyddion amhendant a gliriwyd o fuchesi â statws heb TB swyddogol yng Nghymru neu Loegr yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i'w lladd.
Dogfennau
Manylion
Rhaid i chi ddilyn amodau’r drwydded gyffredinol pan fyddwch yn symud gwartheg sy’n adweithyddion amhendant a gliriwyd o fuches yng Nghymru neu Loegr sydd â statws heb TB swyddogol.
Yn Lloegr, mae adweithydd amhendant a gliriwyd yn anifail y nodwyd ei fod yn adweithydd amhendant mewn prawf croen TB, sydd wedyn yn cael prawf clir ar adeg yr ail brawf 60 diwrnod yn ddiweddarach.
Yng Nghymru, mae adweithydd amhendant a gliriwyd yn anifail y nodwyd ei fod yn adweithydd amhendant o dan y dehongliad safonol mewn prawf croen TB, sydd wedyn yn cael prawf clir ar adeg yr ail brawf 60 diwrnod yn ddiweddarach.
Os na allwch gydymffurfio â’r amodau, neu os nad oes gan eich buches statws heb TB swyddogol, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Rhaid i chi hefyd ddilyn amodau’r drwydded symud gyffredinol: gwartheg yng Nghymru neu’r drwydded symud gyffredinol: gwartheg yn Lloegr.
Updates to this page
-
Licence updated due to the roll-out of the Resolved Standard Policy in Wales from 1 January 2026.
-
Updated the general licence because of a new TB Order that came into force in England on 1 October 2021.
-
First published.