Canllawiau

Cwmnïau rheoli fflatiau, cwmnïau hawl i reoli (HiR) a chymdeithasau cyd-ddeiliaid

Diweddarwyd 15 March 2019

Applies to England, Northern Ireland and Wales

1. Cwmnïau rheoli fflatiau

Ffurfiwyd cwmni rheoli fflatiau i reoli eiddo sydd wedi ei rannu’n nifer o fflatiau ar wahân. Fel arfer mae gan bob perchennog fflat brydles ar ei fflat ei hunan. Ond, gall fod yn aelod o gwmni rheoli sy’n berchen ar rydd-ddaliad (neu brydles) yr adeilad cyfan hefyd.

Mae pob perchennog fflat yn aelod o’r cwmni. Mae hyn yn golygu mae gan berchnogion y fflatiau lais yn y ffordd y mae’r adeilad yn cael ei redeg.

Os yw’r aelodau yn berchen ar gyfrannau yn y cwmni, fel rheol maent yn trosglwyddo eu cyfrannau i’r perchnogion newydd pan fyddant yn gwerthu eu fflat. Mae’n ymarfer cyffredinol i gael yr amod hwn yn erthyglau cymdeithas y cwmni. Mae hyn yn sicrhau bod y cwmni cyfyngedig yn cynrychioli buddiannau’r holl berchnogion fflat presennol.

Hefyd mae’n golygu bod y cwmni’n parhau i fod yn endid cyfreithiol ar wahân, ni waeth pwy sy’n dal ei gyfrannau. Gall prydleswyr hefyd sefydlu cwmni cyfyngedig HiR. Mae hyn yn rhoi’r ‘hawl i reoli’ yr adeilad y maent yn byw ynddo

Gall sefydlu cwmni cyfyngedig i berchen ar, a rheoli, ardaloedd cyffredin datblygiadau lle mae gwahanol unedau, a hynny o dan ‘gyd-ddeiliad’. Gelwir y math hwn o gwmni yn gymdeithas gyd-ddeiliad.

1.1 Sut i gofrestru cwmni rheoli fflatiau

I gofrestru (corffori) cwmni fflatiau rheoli yn Nhŷ’r Cwmnïau, bydd angen anfon y canlynol atom:

Wrth gwblhau adran A7 ar y ffurflen IN01c, rhaid ticio opsiwn 3 (erthyglau pwrpasol), a chynnwys yr erthyglau gyda’ch dogfennau eraill.

Mae’r Cyngor Cynghori ar Brydlesau (LEASE) yn rhoi cyngor rhad ac am ddim am y gyfraith sy’n effeithio ar eiddo preswyl prydlesol yn Lloegr a Chymru. Mae ei wefan yn cynnig cyngor a manylion cyswllt.

Mae cyfraith rheoli eiddo yn wahanol yn yr Alban. Gallwch ddarllen canllawiau Llywodraeth yr Alban ar oruchwylwyr eiddo.

2. Cwmnïau hawl i reoli (HiR)

Cyflwynwyd cwmnïau HiR o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Cwmnïau preifat sy’n gyfyngedig drwy warant yw’r rhain ac maent yn galluogi lesddeiliaid tymor hir mewn blociau o fflatiau gymryd drosodd rheolaeth eu hadeilad.

Rhaid i lesddeiliaid sefydlu cwmni cyfyngedig trwy warant i gyflawni’r swyddogaethau rheoli. Pennir y rheolau cyfansoddiadol y mae gofyn i gwmni HiR yn Lloegr eu cynnwys yn Rheoliadau Cwmnïau HiR (Erthyglau Enghreifftiol) (Lloegr) 2009. Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i bob cwmni HiR presennol ac arfaethedig.

2.1 Sut i gofrestru cwmni HiR

I gofrestru (corffori) HiR, mae angen arnoch anfon atom:

Wrth gwblhau adran A7 ar y ffurflen IN01c, rhaid ticio opsiwn 3 (erthyglau pwrpasol), a chynnwys yr erthyglau gyda’ch dogfennau eraill.

Rhaid i enw eich cwmni ddiweddu â’r geiriau ‘Cwmni HiR Cyfyngedig’ neu ‘RTM Company Limited’. Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) sy’n gyfrifol am gwmnïau HiR yn Lloegr. Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar wefan DCLG.

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno rheoliadau diwygiedig ar gyfer cwmnïau HiR yng Nghymru cyn gynted â phosibl. Am wybodaeth ymhellach, anfon e-bost at alyn.williams@wales.gsi.gov.uk neu ffoniwch 01685 729191.

Nid yw cwmnïau HiR yn bodoli yn yr Alban, nac yng Ngogledd Iwerddon.

3. Cymdeithasau Cyd-ddeiliaid

Cyflwynwyd Cymdeithasau Cyd-ddeiliaid o dan Ddeddf Cyd-ddeilliaid a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Math o berchnogaeth rydd-ddaliad ar dir yw cyd-ddeiliad sydd ar gael yn lle perchnogaeth prydlesau hir ar fflatiau a mathau eraill o eiddo rhyngddibynnol.

Mae’n cyfuno perchnogaeth rhydd-ddaliad ar un eiddo (uned) mewn datblygiad mwy ag aelodaeth o gwmni cyfyngedig sy’n berchen ar, ac yn rheoli, ardaloedd cyffredin datblygiad. Er enghraifft, bloc o fflatiau lle mae pob fflat yn uned - a’r holl rannau eraill, fel y cynteddau, o dan gyd-ddeiliad.

Pennir y rheolau cyfansoddiadol y mae angen i gymdeithasau cyd-ddeiliad a gofrestrir yn Lloegr a Chymru eu cynnwys yn ‘Rheoliadau Cyd-ddeiliad 2009’.

3.1 Sut i gofrestru cwmni cymdeithas cyd-ddeiliad

I gofrestru (corffori) eich cyd-ddeiliad yn Nhŷ’r Cwmnïau, mae angen arnoch anfon atom:

Wrth gwblhau adran A7 ar y ffurflen IN01c, rhaid ticio opsiwn 3 (erthyglau pwrpasol), a chynnwys yr erthyglau gyda’ch dogfennau eraill.

Rhaid i enw eich cwmni ddiweddu â’r geiriau ‘Cymdeithas Cyd-ddeiliad Cyfyngedig’ neu ‘Commonhold association Limited’.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am gymdeithasau cyd-ddeiliad. Mae’r Cyngor Cynghori ar Brydlesau (LEASE) yn rhoi cyngor rhad ac am ddim am y gyfraith sy’n effeithio ar eiddo preswyl prydlesol yn Lloegr a Chymru.

Nid yw cwmnïau Cymdeithasau Cyd-ddeiliad yn bodoli yn yr Alban, nac yng Ngogledd Iwerddon.