Allforio cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid GM os nad oes unrhyw fargen Brexit
Yr effaith ar fusnesau sy'n dal neu'n ceisio awdurdodiadau ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i addasu'n enetig (GM), ychwanegion bwyd anifeiliaid neu allforio bwyd anifeiliaid i'r Undeb Ewropeaidd (UE), os bydd y Deyrnas Unedig (DU) yn ymadael â'r UE ym mis Hydref 2019 heb fargen.
Dogfennau
Manylion
Os bydd y DU yn ymadael â’r UE ym mis Hydref 2019 heb fargen, mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut y byddai hyn yn effeithio ar fusnesau sydd:
- yn dal neu geisio awdurdodiadau ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid GM
- yn dal neu geisio awdurdodiadau ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid
- yn allforio cynhyrchion bwyd anifeiliaid i’r UE
- â cheisiadau i ddiweddaru’r rhestr o fwyd anifeiliaid at ddibenion maeth penodol (PARNUTS) sy’n dal i gael eu prosesu wrth i’r DU ymadael â’r UE
- yn cynrychioli cwmnïau sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r UE sy’n dibynnu ar gynrychiolaeth y DU ar gyfer masnach yr UE