Canllawiau

Allforio cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid GM os nad oes unrhyw fargen Brexit

Diweddarwyd 11 April 2019

This canllawiau was withdrawn on

This guidance was withdrawn on 7 August 2019

This page has been replaced by newer guidance. Go to Exporting GM food and animal feed products for the latest information.

Mae sicrhau’r fargen a drafodwyd â’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Nid yw hyn wedi newid.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Llywodraeth baratoi ar gyfer pob sefyllfa bosibl, gan gynnwys sefyllfa ‘dim bargen’. Ers dwy flynedd, mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithredu rhaglen sylweddol o waith i sicrhau bod y Deyrnas Unedig (DU) yn barod i ymadael â’r UE ar y diwrnod ymadael.

Wrth i ni agosáu at y dyddiad hwnnw, roeddem ni’n gwybod o’r cychwyn cyntaf y byddai gofyn i ni gyflymu ein paratoadau ar gyfer sefyllfa ‘dim bargen’. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod cynlluniau ar waith pe bai’n rhaid dibynnu arnynt.

Dros yr haf, cyhoeddodd y Llywodraeth gyfres o Hysbysiadau Technegol (cyfanswm o 106) yn amlinellu gwybodaeth a fyddai’n galluogi busnesau a dinasyddion i ddeall beth fyddai gofyn iddyn nhw ei wneud mewn sefyllfa ‘dim bargen’ er mwyn gallu cynllunio a pharatoi.

Mae’r Hysbysiad Technegol hwn yn cynnig canllawiau er mwyn parhau i gynllunio os na fydd bargen wedi’i tharo.

Hefyd, mae hysbysiad fframio cyffredinol wedi’i amgáu sy’n egluro dull y Llywodraeth o baratoi’r DU ar gyfer y canlyniad hwn er mwyn lleihau unrhyw amhariad a sicrhau ein bod yn ymadael mor effeithiol â phosibl.

Rydym yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ar hysbysiadau technegol a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i gynlluniau ddatblygu.

1. Pwrpas

Canllawiau ar yr hyn sydd angen i rai busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid ei wneud i baratoi at y rheolau a’r prosesau a fydd yn berthnasol pe byddem ni’n ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) heb fargen. Mae’r canllawiau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer busnesau yn y Deyrnas Unedig (DU) yn benodol:

  • sy’n dal neu’n ceisio awdurdodiadau ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi’i addasu’n enetig (GM)
  • sy’n dal neu’n ceisio am awdurdodiadau ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid
  • sy’n allforio cynhyrchion bwyd anifeiliaid i’r UE
  • sydd â cheisiadau i ddiweddaru’r rhestr o fwyd anifeiliaid at ddibenion maeth penodol (PARNUTS) sy’n dal i gael eu prosesu wrth i’r DU ymadael â’r UE
  • sy’n cynrychioli cwmnïau sydd wedi’u lleoli mewn gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE sy’n dibynnu ar gynrychiolaeth y DU ar gyfer masnach yr UE

2. Rheolau o 31 Hydref 2019 ymlaen, os na chaiff bargen ei tharo

Bydd angen i fusnesau o fewn cwmpas yr hysbysiad hwn fod wedi’u sefydlu yn yr UE neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), neu fod â chynrychiolydd sydd wedi’i sefydlu yn yr UE neu’r AEE os ydynt am fasnachu yn yr UE. Mae’r AEE yn cynnwys Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy. Rôl y cynrychiolydd yw rhoi sicrwydd bod y sefydliad nad yw yn yr UE yn cydymffurfio â deddfwriaeth yr UE. Mae’r canllawiau canlynol yn esbonio beth sydd angen i’r busnesau hyn ei wneud.

2.1 Penodi cynrychiolydd

Wrth benodi cynrychiolydd, dylai busnesau’r DU sicrhau bod y cynrychiolydd posibl wedi’i leoli yn un o 27 o wledydd yr UE, neu wlad yn yr AEE, a’i fod yn gallu darparu’r sicrwydd angenrheidiol i weithredu fel y cyfryw. Pan gaiff ei benodi, mae angen i’r cynrychiolydd gyflwyno cais i’r awdurdod cymwys priodol yng ngwlad yr UE neu wladwriaeth yr AEE lle mae wedi’i leoli. Dylai’r busnes yn y DU gael cadarnhad ei fod wedi gwneud hynny ac, yn olaf, fod yr awdurdod cymwys wedi hysbysu’r Comisiwn Ewropeaidd.

2.2 Busnesau yn y DU sy’n dal awdurdodiadau ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid GM, neu ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid

Bydd angen i fusnesau yn y DU sydd ag awdurdodiadau gan yr UE ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid GM, neu ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, ddynodi cynrychiolydd sydd wedi’i sefydlu yn yr UE neu’r AEE. Bydd angen i chi ddarparu manylion y cynrychiolydd i’r Comisiwn Ewropeaidd. Gallai hyn fod yn gangen o’ch busnes sydd wedi’i sefydlu yn yr UE neu’r AEE, neu fusnes arall. Mae angen i newidiadau i awdurdodiadau penodol i’r deilydd ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid GM neu ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid gael eu diwygio yn rhan o ddeddfwriaeth yr UE a fyddai’n gorfod bod ar waith erbyn 31 Hydref 2019. Mae angen i fusnesau sydd wrthi’n mynd drwy newidiadau o’r fath gysylltu â’r Comisiwn Ewropeaidd cyn gynted â phosibl.

2.3 Allforwyr cynhyrchion bwyd anifeiliaid y DU i’r UE

Bydd gofyn i’r rheiny sy’n allforio cynhyrchion bwyd anifeiliaid i’r UE fod â chynrychiolaeth yn yr UE neu’r AEE. Fel canllaw yn unig, mae gweithdrefnau cyfredol y DU ar fod yn gynrychiolydd ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Bydd gan bob un o wledydd yr UE eu systemau eu hunain mewn perthynas â hyn, a dylai busnesau ymgynghori â’r awdurdod cymwys perthnasol yn y wlad benodol am gyngor pellach ar ennill cydnabyddiaeth ar gyfer eu cynrychiolydd. Byddai’r gofyniad o ran cynrychiolaeth gwlad nad yw’n rhan o’r UE yn berthnasol i’r holl gynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n cael eu hallforio i’r UE.

Byddai’r gofyniad o ran cynrychiolaeth gwlad nad yw’n rhan o’r UE yn berthnasol i bob cynnyrch bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn dilyn cyhoeddi dehongliad diwygiedig gan y Comisiwn Ewropeaidd o Reoliad (CE) 183/2005, Erthygl 24. Ar hyn o bryd mae’r ASB yn ceisio eglurder ar y dehongliad hwn, ond dylai cwmnïau ragweld y dehongliad diwygiedig hwn ac ystyried dynodi cynrychiolydd o fewn yr UE neu’r AEE.

2.4 Busnesau eraill o fewn cwmpas y canllawiau hyn

Bydd gofyn i fusnesau’r DU sydd wedi gwneud cais i’r UE i awdurdodi bwyd neu fwyd anifeiliaid GM; ychwanegion bwyd anifeiliaid; neu ddiweddariadau i’r rhestr o gynhyrchion PARNUTS, a bod eu cais yn dal i gael ei brosesu a’u bod yn dymuno i’r cais neu geisiadau barhau, ddynodi cynrychiolydd sydd wedi’i sefydlu o fewn gwlad yn yr UE neu’r AEE. Byddai angen i’r busnes hefyd ddarparu manylion y cynrychiolydd i’r Comisiwn Ewropeaidd. Ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, mae hyn yn berthnasol i’r ddau awdurdod cyffredinol a’r rhai sy’n gysylltiedig â deiliad awdurdodiad penodol.

Bydd angen i fusnesau yn y DU sy’n gweithredu fel cynrychiolwyr ar gyfer sefydliadau mewn gwledydd nad ydynt yn yr UE er mwyn eu galluogi i allforio cynnyrch bwyd i’r UE, hysbysu’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli na fyddant bellach yn gallu gweithredu fel cynrychiolydd a’u cynghori y bydd angen iddynt benodi cynrychiolydd wedi’i leoli mewn gwlad yn yr UE neu’r AEE.

2.5 Sut y mae llywodraeth y DU yn gweithio gyda phawb â diddordeb

Mae’r ASB wedi cysylltu â rhanddeiliaid allweddol i roi gwybod iddynt am y gofynion hyn a’r diweddaraf ynghylch datblygiadau.

3. Rhagor o wybodaeth

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych gwestiynau am yr hysbysiad technegol hwn, anfonwch e-bost at yr Asiantaeth Safonau Bwyd: euexit@food.gov.uk

Canllawiau yn unig sydd o fewn yr hysbysiad hwn. Dylech ystyried a oes angen cyngor proffesiynol ar wahân arnoch cyn gwneud unrhyw baratoadau penodol.

Mae’n rhan o raglen gynllunio barhaus y llywodraeth ar gyfer pob canlyniad posibl. Rydym ni’n disgwyl trafod cytundeb llwyddiannus gyda’r UE.

Mae llywodraeth y DU yn glir bod yn rhaid i ni barchu ein perthynas unigryw ag Iwerddon. Rydym ni’n rhannu ffiniau tir â nhw ac yn gyd-lofnodwyr Cytundeb Belfast. Mae llywodraeth y DU wedi mynd ati’n gyson i osod y Cytundeb a’i olynwyr wrth wraidd ein dull ni o weithio. Mae’n ymgorffori’r egwyddor caniatâd y mae statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon yn seiliedig arno. Rydym ni’n cydnabod y sail y mae wedi’i ddarparu ar gyfer y cydweithio economaidd a chymdeithasol dwfn ar ynys Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys cydweithio Gogledd-De rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, ac rydym ni’n ymrwymo i ddiogelu hyn yn unol â llythyr ac ysbryd Strand dau o’r Cytundeb.

Mae llywodraeth Iwerddon wedi nodi y bydd angen iddi drafod trefniadau pe na bai unrhyw fargen â’r Comisiwn Ewropeaidd ac Aelod-wladwriaethau’r UE. Byddai’r DU yn barod yn y sefyllfa hon i ymgysylltu’n adeiladol i fodloni ein hymrwymiadau a gweithredu er lles gorau pobl Gogledd Iwerddon, gan gydnabod yr heriau sylweddol y byddai diffyg cytundeb cyfreithiol rhwng y DU a’r UE yn eu creu yn y cyd-destun unigryw a sensitif hwn.

Er hynny, mae llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gyfrifol, fel y llywodraeth sofran yng Ngogledd Iwerddon, am barhau i baratoi ar gyfer yr ystod lawn o ganlyniadau posibl, gan gynnwys sefyllfa ‘dim bargen’. Wrth i ni wneud hynny, ac wrth i benderfyniadau gael eu gwneud, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i amgylchiadau unigryw Gogledd Iwerddon.

Mae Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein yn rhan o’r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac yn cymryd rhan mewn trefniadau UE eraill. Fel y cyfryw, mewn llawer o feysydd, mae’r gwledydd hyn yn mabwysiadu rheolau’r UE. Os yw hyn yn wir, gallai’r hysbysiadau technegol hyn hefyd fod yn berthnasol iddynt, a dylai busnesau a dinasyddion yr AEE ystyried a oes angen iddynt gymryd unrhyw gamau i baratoi ar gyfer sefyllfa ‘dim bargen’.