Sut i lenwi’r ffurflen gweithred newid enw i oedolion
Diweddarwyd 20 Awst 2025
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Cyn i chi ddechrau
Cyn i chi wneud cais dylech yn gyntaf ddarllen y prif gyfarwyddyd ar newid eich enw trwy weithred newid enw. Mae’n cynnwys gwybodaeth am:
- pa bryd rydych a pha bryd nad ydych angen gweithred newid enw
- sut i wneud gweithred newid enw eich hun
- y dogfennau y mae’n rhaid i chi gynnwys pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru gweithred newid enw
- y ffi i gofrestru gweithred newid enw
- ble i anfon eich ffurflenni ar ôl eu llenwi
- sut y gallwch wneud cais ar-lein os byddai’n well gennych wneud hynny
- sut i newid enw plentyn trwy weithred newid enw
Os cawsoch eich geni yn yr Alban, dylech ddilyn y rheolau a’r cyfarwyddyd ar gyfer newid eich enw yn yr Alban.
Rhaid i chi hefyd gwblhau a chynnwys:
- datganiad statudol gweithred newid enw ar gyfer oedolyn
- llungopïau o ddogfennau penodol - dyma fydd eich ‘arddangosion’. Gweler y prif gyfarwyddyd i gael gwybodaeth am y dogfennau y mae’n rhaid i chi gynnwys
- dalen flaen ar gyfer pob arddangosyn – gallwch ddefnyddio ein templed dalen flaen arddangosyn
Os ydych yn penderfynu gwneud cais ar-lein yna nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen gweithred newid enw. Bydd yn cael ei llenwi ar eich rhan a’i hanfon atoch i’w hargraffu a’i llofnodi ar ôl i chi wneud cais.
Llenwi’r ffurflen gweithred newid enw
Mae’n rhaid i chi gynnwys holl fanylion eich enw newydd a’ch hen enw trwy’r holl ffurflen, gan gynnwys unrhyw enwau canol. Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy’n dod yn weithred newid enw, felly:
- ni ddylech groesi allan unrhyw beth ynddi ac ni ddylai gynnwys camgymeriadau
- dylai fod wedi’i hargraffu ar un ochr y papur
Mae’n rhaid i chi ddatgan eich statws perthynas. Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, byddwch angen caniatâd ysgrifenedig eich gŵr, gwraig neu bartner os ydych yn newid eich enw.
Mae’n rhaid i chi lofnodi’r ffurflen ym mhresenoldeb 2 dyst. Bydd angen i’ch tystion hefyd lofnodi’r ffurflen.
Mae’n rhaid i chi gymryd llungopi o’r ffurflen i’w chynnwys yn eich arddangosion. Byddwn yn cadw’r llungopi er mwyn cyfeirio ati ac i wneud copïau os bydd arnoch eu hangen. Byddwn yn dychwelyd y ffurflen gweithred newid enw wreiddiol atoch fel eich copi chi.
Eich dinasyddiaeth
I newid eich enw trwy weithred newid enw, mae’n rhaid i chi fod yn:
- Ddinesydd Prydeinig
- Dinesydd y Gymanwlad
- Dinesydd tiriogaethau dibynnol Prydain
Rhaid i’r unigolyn sy’n llofnodi’ch datganiad statudol (eich ‘datganydd’) hefyd fod yn ddinesydd Prydeinig, y Gymanwlad neu diriogaethau dibynnol Prydain.
Rhaid i chi gynnwys ar y ffurflen yr adran o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 sy’n eich cymhwyso fel dinesydd. Rhaid i’ch datganydd gynnwys yn y datganiad statudol pa adran o’r ddeddf sy’n berthnasol i’w dinasyddiaeth nhw.
Adran 1 (1)
Os cawsoch eich geni ar neu ar ôl:
- 1 Ionawr 1983 yn y DU
- 21 Mai 2002 mewn tiriogaeth ddibynnol Prydain neu wlad o’r Gymanwlad
Ac ar adeg eich genedigaeth roedd eich mam neu’ch tad naill ai yn:
- ddinesydd Prydeinig
- wedi setlo yn y DU neu’r wlad lle cawsoch eich geni
Adran 6 (1)
Mae gennych dystysgrif frodori.
Adran 11 (1)
Os cawsoch eich geni ar neu cyn 31 Rhagfyr 1982 yn y DU, tiriogaeth ddibynnol Prydain neu wlad o’r Gymanwlad ac rydych naill ai yn:
- ddinesydd Prydeinig
- dinesydd gyda’r hawl i aros yn y DU dan Ddeddf Mewnfudo 1971 (fel yr oedd mewn grym ar y pryd)
Adran 37 (1)
Os ydych yn ddinesydd yn un o diriogaethau dibynnol Prydain neu wlad o’r Gymanwlad.
Cael help gyda gweithred newid enw
Os oes arnoch angen gofyn cwestiwn am y weithred o newid eich enw, cysylltwch â’r Tîm Gweithred Newid Enw yn Adran Mainc y Brenin.
Tîm Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL
Rhif ffôn: 020 3936 8957 (opsiwn 6)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: kbdeedspoll@justice.gov.uk
Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Mae’r cyfeiriad e-bost uchod ar gyfer ymholiadau yn unig. Ni ddylech gyflwyno’r ffurflenni gweithred newid enw trwy e-bost.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Tîm Gweithred Newid Enw os oes gennych ymholiad am weithred newid enw bresennol sy’n 5 oed neu lai.
Os oes gennych ymholiad am weithred newid enw sy’n hŷn na 5 oed, cysylltwch â’r Archifau Cenedlaethol.