Ffurflen

Sut i lenwi ffurflen gweithred newid enw i blentyn

Diweddarwyd 20 Awst 2025

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Cyn i chi ddechrau

Cyn i chi wneud cais dylech yn gyntaf ddarllen y prif gyfarwyddyd ar newid eich enw chi neu enw plentyn trwy weithred newid enw. Mae’n cynnwys gwybodaeth am:

  • pa bryd rydych a pha bryd nad ydych angen gweithred newid enw
  • sut i wneud gweithred newid enw eich hun
  • y dogfennau y mae’n rhaid i chi gynnwys pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru gweithred newid enw
  • y ffi i gofrestru gweithred newid enw
  • ble i anfon eich ffurflenni ar ôl eu llenwi
  • sut y gallwch wneud cais ar-lein os byddai’n well gennych wneud hynny

Os cafodd y plentyn ei eni yn yr Alban, dylech ddilyn y rheolau a’r cyfarwyddyd ar gyfer newid enw plentyn yn yr Alban.

Mae’n rhaid i chi hefyd gwblhau:

Os ydych yn penderfynu gwneud cais ar-lein yna nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen gweithred newid enw. Bydd yn cael ei llenwi ar eich rhan a’i hanfon atoch i’w hargraffu a’i llofnodi ar ôl i chi wneud cais.

Llenwi’r ffurflen gweithred newid enw

Rhaid i chi gynnwys holl fanylion enw newydd y plentyn a’i hen enw trwy’r holl ffurflen, gan gynnwys unrhyw enwau canol. Mae hon yn ddogfen gyfreithiol, sy’n dod yn weithred newid enw y plentyn, felly:

  • ni ddylech groesi allan unrhyw beth ynddi ac ni ddylai gynnwys camgymeriadau
  • dylai fod wedi’i hargraffu ar un ochr y papur

Rhaid i rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant lofnodi’r ffurflen. Os na fydd un ohonoch yn cytuno i lofnodi’r ffurflen, bydd angen i’r llall wneud cais am orchymyn llys. Dylech gysylltu â’ch llys teulu lleol i wneud cais am orchymyn llys.

Mae’n rhaid i chi lofnodi’r ffurflen ym mhresenoldeb 2 dyst. Bydd angen i’ch tystion hefyd lofnodi’r ffurflen.

Mae’n rhaid i chi gymryd llungopi o’r ffurflen i’w chynnwys yn eich arddangosion. Byddwn yn cadw’r llungopi er mwyn cyfeirio ati ac i wneud copïau os bydd arnoch eu hangen. Byddwn yn dychwelyd y ffurflen gweithred newid enw wreiddiol atoch fel eich copi chi.

Dinasyddiaeth y plentyn

I newid enw plentyn trwy weithred newid enw, rhaid i chi fod yn:

  • Ddinesydd Prydeinig
  • Dinesydd y Gymanwlad
  • Dinesydd tiriogaethau dibynnol Prydain

Rhaid i’r unigolyn sy’n llofnodi’r datganiad statudol (y ‘datganydd’) hefyd fod yn ddinesydd Prydeinig, y Gymanwlad neu diriogaethau dibynnol Prydain. Rhaid i chi gynnwys ar y ffurflen yr adran o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 sy’n cymhwyso’r plentyn fel dinesydd. Rhaid i’r datganydd gynnwys yn y datganiad statudol pa adran o’r ddeddf sy’n berthnasol i’w dinasyddiaeth nhw.

Adran 1 (1)

Adeg eu geni, roeddech chi neu riant arall y plentyn naill ai’n:

  • ddinesydd Prydeinig
  • wedi’ch geni yn y DU, mewn tiriogaeth ddibynnol Prydain neu wlad o’r Gymanwlad
  • wedi setlo yn y DU neu’r wlad lle cafodd y plentyn ei eni

Adran 6 (1)

Mae gan y plentyn dystysgrif frodori

Adran 37 (1)

Os yw’r plentyn yn ddinesydd yn un o diriogaethau dibynnol Prydain neu wlad o’r Gymanwlad.

Tystion

Rhaid i chi gael 2 dyst yn bresennol pan fyddwch yn llofnodi ffurflen gweithred newid enw’r plentyn. Gall tystion fod wedi eich adnabod am unrhyw gyfnod o amser. Rhaid i’r tystion:

  • lofnodi’r ffurflen gyda beiro, nid llofnod digidol
  • peidio â bod yn perthyn i chi neu eich plentyn trwy enedigaeth neu briodas

Gall eich datganydd, cyfreithiwr, comisiynydd llwon neu swyddog y llys hefyd fod yn dyst.

Cael help gyda gweithred newid enw

Os oes arnoch angen gofyn cwestiwn am y weithred o newid enw’r plentyn, cysylltwch â’r Tîm Gweithred Newid Enw yn Adran Mainc y Brenin.

Tîm Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Rhif ffôn: 020 3936 8957 (opsiwn 6)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau

E-bost: kbdeedspoll@justice.gov.uk
Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Mae’r cyfeiriad e-bost uchod ar gyfer ymholiadau yn unig. Ni ddylech gyflwyno’r ffurflenni gweithred newid enw trwy e-bost.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Tîm Gweithred Newid Enw os oes gennych ymholiad am weithred newid enw bresennol sy’n 5 oed neu lai.

Os oes gennych ymholiad am weithred newid enw sy’n hŷn na 5 oed, cysylltwch â’r Archifau Cenedlaethol.