Ffurflenni Rhywogaethau mewn perygl: cartrefu a gofal
Cofnodwch drefniadau cartrefu a gofal ar gyfer rhywogaethau CITES ar gyfer mewnforio ac os ydynt ar fin symud i safle newydd.
Dogfennau
Manylion
Os ydych yn mewnforio neu’n symud anifail mewn perygl i safle newydd, rhaid i chi gyflwyno cofnod o’r trefniadau cartrefu a gofal.
Rhaid i chi gwblhau a chyflwyno ffurflen cartrefu a gofal os ydych yn gwneud y canlynol:
- symud rhywogaeth mewn perygl sy’n destun cyfyngiadau symud i safle newydd
- mewnforio rhywogaeth mewn perygl i’r DU am y tro cyntaf
Gweler Cadarnhewch a oes angen trwydded CITES arnoch i fewnforio neu allforio rhywogaethau mewn perygl i gael rhagor o wybodaeth am reolaethau a rhywogaethau’r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau o Ffawna a Fflora Gwyllt Mewn Perygl (CITES).
Symud anifeiliaid
Rhaid i chi wneud cais am ganiatâd i symud anifail i safle newydd os yw wedi’i restru dan Atodiad A CITES a’i fod yn destun cyfyngiadau symud (fel sydd wedi’u rhestru ar eich trwydded neu dystysgrif).
Defnyddiwch y ffurflen gyntaf – Symud sbesimen Atodiad A CITES o’r cyfeiriad cymeradwy: holiadur am gartrefu, gofal a defnydd cadwraeth – ar gyfer anifeiliaid o dan:
- amod cyfyngiad symud ar drwydded mewnforio CITES
- tystysgrif defnydd masnachol
- tystysgrif a gyhoeddwyd yn flaenorol
Mewnforio anifeiliaid
Os ydych yn gwneud cais i fewnforio anifail sydd wedi’i restru ar CITES i’r DU am y tro cyntaf, rhaid i chi gwblhau’r ffurflen a elwir yn Holiadur anifeiliaid byw: cartrefu a gofal (Live animals: accommodation and care questionnaire).
Os ydych yn gwneud cais i fewnforio rhywogaeth ddyfrol sydd wedi’i rhestru ar CITES i’r DU am y tro cyntaf, rhaid i chi gwblhau’r ffurflen a elwir yn Holiadur rhywogaethau dyfrol byw: cartrefu a gofal (Live aquatic: accommodation and care questionnaire).
Anfonwch y ffurflenni i Ganolfan Fasnach Ryngwladol APHA: Bryste.
Updates to this page
-
Added Welsh version of form.
-
Two accommodation and care questionnaires added for live animals and aquatic
-
First published.