Canllawiau

Ystadau sy'n datblygu: gwasanaethau cofrestru. Cymeradwyo terfynau ystadau (cyfarwyddyd ymarfer 41, atodiad 1)

Diweddarwyd 9 May 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Gwasanaeth di-dâl yw cymeradwyo terfynau ystadau a ddarparwn cyn llunio’r gosodiad. Ei ddiben yw cymharu arolwg cyntaf y datblygwr o’r safle gyda maint y teitl cofrestredig. Mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn cynnig y manteision canlynol

  • mae modd nodi gwahaniaethau ar y cyfle cyntaf rhwng terfynau’r teitl cofrestredig a’r terfynau allanol fel y maent ar y safle
  • gall y datblygwr a Chofrestrfa Tir EF gydweithio gan wybod i sicrwydd bod y ddau yn gwneud penderfyniadau ar sail yr un terfynau allanol
  • gall Cofrestrfa Tir EF ddweud wrthych os yw hawddfreintiau penodol y bwriadwch eu rhoi yn dod o fewn maint cofrestredig y datblygiad neu beidio. Gallwn hefyd gynghori ar y rhai sydd oddi allan i’r maint cofrestredig

2. Sut i wneud cais

Anfonwch gopi atom o gynllun arolwg y safle fel y paratôdd yr arolygwr tir yn dangos hyd a lled y tir sydd yn y datblygiad yn eglur. Mae atodiad 5 i’r cyfarwyddyd ymarfer hwn yn rhoi gwybodaeth fanwl am ofynion cynlluniau. Bydd nodiadau’n egluro natur y terfynau allanol, e.e. ffens ystad newydd ar linell y berth bresennol, yn ddefnyddiol hefyd i gymharu eich arolwg gyda manylion yr Arolwg Ordnans. Gallwch anfon y cynlluniau atom naill ai gyda’r cais i gofrestru’r safle neu ar ôl cwblhau’r cofrestru. Fodd bynnag, ni fyddwn mewn sefyllfa i gymeradwyo’r cynlluniau tan ar ôl cwblhau’r cofrestru.

Dylid anfon cynlluniau terfynau i’w cymeradwyo trwy’r ffurflen ar GOV.UK. Sylwer y byddai’n rhaid cyflwyno’r cais i gofrestru’r tir yn y ffordd arferol cyn hyn, gan nad oes modd derbyn y cais i gofrestru trwy ebost.

Byddwn yn cymharu’r terfynau allanol sy’n cael eu dangos ar eich cynllun arolwg o’r safle gyda therfynau’r teitl cofrestredig a map diweddaraf yr Arolwg Ordnans. Ar yr amod bod y terfynau’n cytuno, byddwn yn eu cymeradwyo.

Nid yw’r gymeradwyaeth hon yn cadarnhau bod caniatâd cynllunio i ddatblygu wedi ei geisio neu ei gael. Awdurdodau cynllunio lleol, nid gan Gofrestrfa Tir EF, sy’n ymdrin â chaniatâd cynllunio. Mewn rhai achosion gallwn wrthod cais i gymeradwyo cynllun terfynau ystad drafft os ydym yn credu y gallai rhoi’r gymeradwyaeth gamarwain aelodau’r cyhoedd i gredu bod datblygiad pellach yn debygol, megis pan geisir cymeradwyaeth am gynllun y tybir ei fod yn gynllun buddsoddi mewn bancio tir (lle y mae tirfeddiannwr yn rhannu ei dir i nifer o leiniau bychain i’w gwerthu a lle honnir bod gan y lleiniau werth sylweddol o ran buddsoddiad, fel arfer wrth ddisgwyl datblygiad yn y dyfodol).

Cyfeiriwch bob cais i gymeradwyo terfynau ystadau trwy’r ffurflen ar GOV.UK neu, os ydych yn defnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF, trwy’r ardal Gwasanaeth Cymorth Arbenigol newydd ym mhorthol Cofrestrfa Tir EF.

3. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.