Skip to main content
Canllawiau

Trosi cerbyd i garafán modur (cartref modur)

Diweddarwyd 2 Tachwedd 2026

Mae’n ofynnol i DVLA gofnodi manylion cerbydau ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd a gorfodi’r gyfraith. Defnyddir y math corff DVLA i bennu ymddangosiad a hunaniaeth y cerbyd ac ni ddylai effeithio ar gategori yswiriant y cerbyd na chael unrhyw effaith ar derfynau cyflymder neu ofynion deddfwriaethol. Er mwyn newid math corff cerbyd, rhaid i DVLA fod yn fodlon bod y cerbyd yn bodloni ei pholisi ar fathau corff, sef bod rhaid i’r wybodaeth am fath corff sydd ar gofnod y cerbyd ddisgrifio sut mae’r cerbyd yn edrych mewn traffig.

Mae’n bwysig cofio, hyd yn oed os na chaiff math corff y cerbyd ei newid i ‘garafán modur’, gellir dal i ddefnyddio’r cerbyd at y diben hwn, cyn belled â bod y ceidwad yn fodlon bod y cerbyd wedi’i addasu yn bodloni’r nodweddion mewnol gofynnol ar gyfer carafannau modur.

Cyfrifoldeb ceidwad y cerbyd yw sicrhau nad yw unrhyw newidiadau a wneir i’r cerbyd yn peryglu ei ddiogelwch. Os byddwch yn gwerthu’r cerbyd yn ddiweddarach, eich cyfrifoldeb chi fel y ceidwad cofrestredig yw dangos bod y gwaith trosi wedi’i gwblhau’n ddiogel.

Gofynion ar gyfer newid math corff i garafán modur

Dim ond os gall y cerbyd fodloni’r nodweddion mewnol ac allanol a restrir isod y bydd DVLA yn ystyried newid y math corff i ‘garafán modur’ (cartref modur).

Er y bydd DVLA yn ystyried pob cais i newid y math corff, mae rhai cerbydau â ffrâm wreiddiol neu strwythur allanol sydd mor nodedig o ran eu golwg, fel na ellir newid y disgrifiad o’r math corff oddi wrth y dyluniad gwreiddiol, er enghraifft, bws. Os ydych wedi gwneud cais yn flaenorol i drosi eich cerbyd yn gartref modur neu’n garafán modur, ac os cafodd y cais hwnnw ei wrthod, gallwch ofyn i DVLA adolygu eich cais.

Nodweddion parhaol allanol carafannau modur

Mae’r rhestr hon yn disgrifio’r nodweddion allanol a welir yn aml ar garafannau modur, a’i diben yw cynnig arweiniad ar yr hyn y mae DVLA yn disgwyl ei weld wrth ystyried eich cais:

  • 2 neu fwy o ffenestri ar o leiaf un ochr i’r prif gorff (nid yw’n cynnwys ffenestri ar ddrysau’r gyrrwr neu deithwyr) i ddarparu swm rhesymol o olau dydd i’r llety byw
  • drws ar wahân sy’n rhoi mynediad i lety byw y cerbyd (mae hyn yn eithrio drysau’r gyrrwr a theithwyr); mae ffenestr ar y drws hwn yn cyfrif fel ffenestr ar wahân ar y prif gorff
  • to top uchel neu do sy’n codi

Bydd angen tystiolaeth ffotograffig ar DVLA o’r trosiad sydd wedi’i gwblhau.

Tystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi eich cais

Bydd angen tystiolaeth ffotograffig ar DVLA o’r trosiad sydd wedi’i gwblhau. Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth glir bod yr hyn rydych wedi’i greu yn ‘garafán modur’ barhaol a bod y dodrefn a’r gosodiadau wedi’u gosod i safon foddhaol.

Rhaid ichi gynnwys y dystiolaeth ganlynol i gefnogi eich cais:

  • rhestr wirio trosi carafán modur wedi’i chwblhau
  • ffotograffau mewnol o bob un o’r nodweddion gofynnol, gyda’r gwely a’r bwrdd yn eu safle defnyddio (gweler ‘Nodweddion mewnol carafán modur’; rhaid i’r ffotograffau ddangos bod 2 ffenestr neu fwy yn gadael golau dydd i mewn i’r prif lety byw ar o leiaf un ochr i’r prif gorff
  • ffotograffau allanol o’r blaen, y ddwy ochr a’r cefn, gyda’r platiau cofrestru i’w gweld yn glir
  • ffotograff sy’n dangos y rhif adnabod cerbyd (VIN) neu’r rhif siasi wedi’i stampio ar y plât sydd ynghlwm i’r siasi gwreiddiol neu gragen corff y cerbyd

Ar gefn pob ffotograff, ysgrifennwch ddisgrifiad o’r hyn a ddangosir ar y ffotograff, y dyddiad a rhif cofrestru’r cerbyd.

Ni fydd ffotograffau’n cael eu dychwelyd yn awtomatig. Os ydych am i’ch ffotograffau gael eu dychwelyd atoch, rhaid ichi ofyn am hyn yn eich cais.

Os oes gennych V5CW steil newydd gyda blociau wedi’u rhifo amryliw ar y clawr blaen, llenwch adran 1.

Os oes gennych V5CW steil hŷn, llenwch adran 7.

Gwnewch unrhyw newidiadau eraill, os oes angen, ac anfonwch y V5CW gyda’r dystiolaeth ofynnol i:

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Bydd DVLA yn ystyried yr holl wybodaeth a ddarparwyd. Yna, bydd DVLA naill ai’n penderfynu bod rhaid i’r math corff aros yr un fath, neu’n pennu disgrifiad priodol yn seiliedig ar y newidiadau a wnaed, er mwyn sicrhau bod y math corff a gofnodwyd yn adlewyrchu’n gywir olwg allanol y cerbyd mewn traffig.

Mae’n bosibl y bydd angen i DVLA archwilio eich cerbyd hefyd. Bydd DVLA yn talu cost yr archwiliad, ond ni fydd unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â chludo’r cerbyd i’r archwiliad yn cael eu had-dalu. Os na ellir archwilio’r cerbyd, bydd y cais yn cael ei wrthod ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.

Wrth drosi fan neu gerbyd arall yn garafán modur, mae’n bwysig sicrhau diogelwch a defnyddio cwmni trosi ag enw da. Rhaid gosod yn ddiogel unrhyw wregysau diogelwch a seddi a osodir i’w defnyddio wrth deithio. Bydd pwysau’r offer a osodwyd yn cynyddu’r pwysau heb lwyth, a fydd yn lleihau’r prif lwyth. Dylai fod gan y cerbyd sydd wedi’i drosi ddigon o brif lwyth (pwysau heb lwyth namyn pwysau gros y cerbyd) i gludo cymaint o deithwyr ag y mae seddi ar eu cyfer, yn ogystal â bagiau a thanciau dŵr llawn, er enghraifft, heb gael ei orlwytho.

Nodweddion mewnol carafán modur

Mae’r canlynol yn dangos y nodweddion mewnol a welir mewn cerbydau categori M diben arbennig, sydd wedi’u hadeiladu i gynnwys llety byw:

  • seddi a bwrdd
  • llety cysgu, y gellir ei drosi o’r seddi
  • cyfleusterau coginio
  • cyfleusterau storio

Rhaid gosod yr offer hwn yn sownd wrth y man byw. Fodd bynnag, gellir dylunio’r bwrdd fel ei fod yn hawdd ei dynnu.

Mae’r nodweddion hyn wedi’u diffinio gan y gofynion cymeradwyo math ar gyfer carafannau modur.

Gweler y diffiniad llawn o’r nodweddion mewnol gofynnol.