Skip to main content
Canllawiau

Gofyn i DVLA adolygu cais ynghylch math corff cartref modur sydd wedi'i wrthod

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i ofyn i DVLA adolygu ei phenderfyniad i wrthod eich cais ynghylch math corff cartref modur.

Os cafodd eich cais ynghylch math corff cerbyd cartref modur ei wrthod, defnyddiwch y ffurflen hon i ofyn i DVLA adolygu’r penderfyniad.

Gofyn am adolygiad  

Bydd arnoch angen:

  • yr enw a’r cyfeiriad y mae’r cerbyd wedi’i gofrestru iddo

  • y rhif cofrestru cerbyd

  • delwedd o’r llyfr log cerbyd (V5CW) diweddaraf

Dechrau nawr

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd DVLA yn adolygu eich cais ac yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth rydych wedi’i darparu o’r blaen. Os yw’n dderbyniol, bydd DVLA yn diweddaru ac yn cyhoeddi V5CW sy’n dangos y math corff diwygiedig.

Os nad yw’r dystiolaeth yn cyd-fynd â’r meini prawf, bydd DVLA yn rhoi gwybod ichi am ei phenderfyniad ac ni fydd y V5CW yn newid.

Argraffu'r dudalen hon