Trosi cerbyd i garafán modur (cartref modur)
Yr hyn y mae DVLA yn disgwyl ei weld wrth ystyried eich cais i newid disgrifiad y math corff ar eich tystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) i garafán modur.
Dogfennau
Manylion
Mae’n ofynnol i DVLA gofnodi manylion cerbydau ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd a gorfodi’r gyfraith. Defnyddir y math corff DVLA i bennu ymddangosiad a hunaniaeth y cerbyd ac nid yw’n effeithio ar gategori yswiriant y cerbyd na chael unrhyw effaith ar derfynau cyflymder neu ofynion deddfwriaethol. I newid math corff cerbyd, rhaid i DVLA fod yn fodlon bod y cerbyd yn bodloni’r polisi ar gyfer mathau corff. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r wybodaeth am fath corff a gedwir ar y cofnod cerbyd ddisgrifio sut y mae cerbyd yn edrych mewn traffig.
Hyd yn oed os na chaiff math corff y cerbyd ei newid i ‘garafán modur’, gellir dal i ddefnyddio’r cerbyd at y diben hwn, cyn belled â bod y ceidwad yn fodlon bod y cerbyd wedi’i addasu yn cynnwys y nodweddion mewnol gofynnol ar gyfer carafannau modur.
Cyfrifoldeb ceidwad y cerbyd yw sicrhau nad yw unrhyw newidiadau a wneir i’r cerbyd yn peryglu ei ddiogelwch. Os byddwch yn gwerthu’r cerbyd yn ddiweddarach, eich cyfrifoldeb chi fel y ceidwad cofrestredig yw dangos bod y gwaith trosi wedi’i gwblhau’n ddiogel.
Os ydych wedi cael cais i newid math corff eich cerbyd i ‘garafán modur’ wedi’i wrthod yn y gorffennol, gallwch ailymgeisio gan fod polisi DVLA wedi newid yn ddiweddar.