Adroddiad monitro iaith Cymraeg Tŷ'r Cwmnïau 2024 i 2025
Cyhoeddwyd 28 Hydref 2025
1. Cyflwyniad
Paratowyd Cynllun Iaith Gymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg a derbyniodd gymeradwyaeth lawn Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 20 Ebrill 2010.
Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025.
Mae Tŷ’r Cwmnïau yn falch o gael ei brif swyddfa yng Nghaerdydd a’r gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu cynnig i’n cwsmeriaid. Ers i ni sefydlu ein Huned Gymraeg ym mis Medi 2020, rydym yn teimlo bod cyfathrebu wedi gwella ar draws pob maes o Dŷ’r Cwmnïau ac mae holl wasanaethau cwsmeriaid Cymru yn cael eu monitro gan Uned yr Iaith Gymraeg i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel i’n cwsmeriaid yng Nghymru.
Rydym hefyd wedi cynnal pwyllgor iaith Gymraeg sy’n cyfarfod yn rheolaidd i fonitro cynnydd a pherfformiad, ynghyd â thîm o siaradwyr Cymraeg y gallwn ymgynghori â nhw ar faterion bob dydd. Mae aelodaeth y pwyllgor yn dod o bob rhan o’r sefydliad, gan gynnwys ein Cyfarwyddwr Digidol a Thechnoleg sy’n gweithredu fel cadeirydd.
2. Cyflawniadau
Rydym yn parhau i gyflwyno pwerau a newidiadau newydd o dan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol (2023). Mae’r ddeddf yn rhoi pŵer i Dŷ’r Cwmnïau chwarae rôl fwy arwyddocaol wrth fynd i’r afael â throseddau economaidd a chefnogi twf economaidd. Dros amser, bydd y mesurau yn arwain at well tryloywder a gwybodaeth fwy cywir a dibynadwy ar ein cofrestrau. Cyflwynodd y ddeddf y newidiadau mwyaf i Dŷ’r Cwmnïau ers sefydlu cofrestriadau corfforaethol ym 1844.
Mae hyn wedi gofyn am newidiadau i’n ffurflenni, canllawiau, llythyrau a systemau ar-lein. Mae’r newidiadau hyn i gyd wedi cael eu gwneud yn y Gymraeg hefyd. Rydym hefyd wedi gorfod creu gwasanaethau, ffurflenni, canllawiau a llythyron newydd o ganlyniad i’n pwerau newydd.
3. Cydymffurfio â’r Cynllun Iaith Gymraeg
Mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i fod wedi ymrwymo i gydymffurfio â’i Gynllun Iaith Gymraeg. Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, fe wnaethom gyflawni’r canlynol.
Cyfarfu ein pwyllgor Cymraeg bob chwarter i sicrhau bod Cynllun Iaith Gymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn cydymffurfio ac adolygu’r cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu. Cynhaliwyd cyfarfodydd gwasanaeth Cymraeg hefyd i ystyried y gwasanaethau a gynigir i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.
Parhaodd tîm o siaradwyr Cymraeg o wahanol ardaloedd yn Nhŷ’r Cwmnïau i ymateb i ymholiadau cwsmeriaid. Yn ystod y cyfnod adrodd, gofynnodd 6 o gwsmeriaid i siarad yn Gymraeg a chawsom 21 o negeseuon e-bost yn Gymraeg drwy’r e-bost ymholiadau cyffredinol.
Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, cysylltodd 15 o gwsmeriaid Cymraeg yn uniongyrchol ag Uned yr Iaith Gymraeg gydag ymholiadau cyffredinol, gan gynnwys:
- cyngor ar sut i ffeilio cyfrifon yn ddwyieithog
- cyngor ar sut i gael gwared ar gyfeiriad pan fydd cwmni wedi defnyddio eu cyfeiriad heb eu caniatâd
- ymholiad cosb ffeilio hwyr
- cyngor ar sut i newid cyfeiriad cwmni
Fe wnaethom barhau i sicrhau bod y ffurflenni sy’n cael eu ffeilio mwyaf – sy’n ffurfio 95% o’r ffeiliau ar y gofrestr – ar gael yn ddwyieithog, ar ffurf bapur ac yn electronig.
Fe wnaethom barhau i adolygu canllawiau Tŷ’r Cwmnïau i sicrhau bod yr holl ganllawiau a grëwyd gan Dŷ’r Cwmnïau ar gael yn ddwyieithog, ac eithrio’r hyn nad yw’n berthnasol i gwmnïau o Gymru yn benodol (er enghraifft, canllawiau ar faterion sy’n effeithio ar gwmnïau’r Alban yn unig).
Derbyniodd cwsmeriaid a oedd yn gohebu â Thŷ’r Cwmnïau yn Gymraeg ymateb yn Gymraeg. Mae pob adran yn Nhŷ’r Cwmnïau yn cyfathrebu â’n Huned Gymraeg i sicrhau bod gan y cwsmer ei ohebiaeth yn yr iaith o’u dewis. Darparodd yr uned wasanaeth cyfieithu ar gyfer pob adran i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarparwn o’r un ansawdd â’r Saesneg. Mae Uned yr Iaith Gymraeg hefyd wedi darparu cyngor ac arweiniad i arweinwyr gweithredol ar uwchsgilio siaradwyr Cymraeg.
Rydym wedi recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg i sicrhau bod yna bobl wrth law gyda’r wybodaeth angenrheidiol i ddelio ag unrhyw ffeilio Cymraeg sy’n dod i mewn.
Cyfieithwyd pob set o gyfrifon Cymraeg a dderbyniwyd gan gwmnïau Cymreig i’r Saesneg ar gyfer y cofnod cyhoeddus, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae’r cyfrifon hyn bellach yn cael eu cyfieithu gan ddarparwr allanol i sicrhau bod y cyfrifon ar gael ar y cofnod cyhoeddus mewn modd effeithlon ac amserol. Rydym hefyd wedi cyflwyno anodiad er mwyn hysbysu’r asiantau credyd bod y cyfrifon yn aros am gyfieithiad gan ei bod yn ymddangos ar ein gwefan yn syth heb gyfieithiad.
Yn ogystal, fe wnaethom barhau i gyfieithu gohebiaeth i’r Gymraeg i fodloni gofynion ein Cynllun Iaith Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys llythyrau, ffurflenni, canllawiau, gwaith prosiect a chyfieithiadau ar gyfer ein gwasanaethau ffeilio ar-lein.
Roedd pob cytundeb a gyhoeddwyd yn cynnwys cymal sy’n sicrhau bod ein partneriaid gwasanaeth yn cydymffurfio ag ymrwymiadau Cymraeg Tŷ’r Cwmnïau.
Parhaodd Tŷ’r Cwmnïau i gymryd rhan ym Mhwyllgor CALL rhyngadrannol Llywodraeth y DU. Mae’r pwyllgor yn dod â chynrychiolwyr o unedau Cymraeg gwahanol adrannau Llywodraeth y DU at ei gilydd yn rheolaidd ac yn darparu fforwm delfrydol i rannu arfer gorau a dod o hyd i atebion i wella ein gwasanaethau Cymraeg gyda’r golwg at gyflawni dull mwy safonedig ar draws y llywodraeth. Rhoddodd cydweithwyr o’r pwyllgor CALL gefnogaeth i sefydlu’r Uned Gymraeg yn Nhŷ’r Cwmnïau.
4. Prif ffrydio’r Gymraeg
4.1 Safle ymgyrchoedd
Mae gennym wefan gwbl ddwyieithog i hyrwyddo newidiadau sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol Mae’r wefan Gymraeg wedi cael ei weld dros 2,000 o weithiau. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi ei ddiweddaru gyda gwybodaeth fanylach am y newidiadau. Er enghraifft, gwybodaeth am gwblhau gwiriad hunaniaeth a Darparwyr Gwasanaethau Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA).
4.2 Cyfryngau cymdeithasol
X
Ym mis Medi 2024, fe wnaethom newid ein dull o X (Twitter gynt). Rydym bellach yn ei ddefnyddio fel gwasanaeth cwsmeriaid ymatebol ac offeryn monitro yn hytrach na darlledu negeseuon yn rhagweithiol.
Rydym yn postio negeseuon pob bore yn y Gymraeg a’r Saesneg ar X i annog defnyddwyr i gysylltu â ni os oes ymholiad ganddynt. Rydym wedi postio 24 o negeseuon bore yn y Gymraeg. Mae’r rhain wedi cael eu gweld fwy na 9,300 o weithiau ac wedi cael 9 ymrwymiadau.
Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, fe wnaethom bostio 16 gwaith ar Facebook yn yr iaith Gymraeg. Wnaeth y postiadau hyn:
- hyrwyddo’r wefan Newidiadau i gyfraith cwmniau’r DU
- cynnig cefnogaeth i ddefnyddwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau i Dŷ’r Cwmnïau, megis ffeilio cyfrifon blynyddol a ffeilio datganiadau cadarnhau
Mae ein postiadau Cymraeg ar Facebook wedi cael eu gweld dros 9,000 o weithiau.
YouTube
Fe wnaethom ychwanegu 6 fideo at ein rhestr chwarae Cymraeg ar YouTube. Mae’r rhestr chwarae yn cynnwys fideos fel:
- Beth yw Tŷ’r Cwmnïau?
- Ffeiliwch eich cyfrifon ar amser i osgoi cosbau ffeilio’n hwyr
- Amcanion y cofrestrydd
Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, roedd y rhestr chwarae Cymraeg wedi ei gwylio 764 o weithiau ac amser gwylio o 6.4 awr.
Rydyn ni’n parhau i weithio ar ein strategaeth YouTube. Mae hyn yn cynnwys treialu swyddogaethau newydd fel ‘YouTube shorts’ ac ystyried sut i ddefnyddio ymarferoldeb newydd arall i wneud y gorau o’n cynnwys Cymraeg.
4.3 Ymgyrchoedd
Yn ystod haf 2024, fe wnaethom gynnal ein hymgyrch ‘cyfrifoldebau cyfarwyddwr’. Mae’r ymgyrch hon yn annog cyfarwyddwyr cwmnïau i gyflawni eu cyfrifoldebau i Dŷ’r Cwmnïau. Fe wnaethom gyhoeddi:
- 5 post Cymraeg ar X a dderbyniodd dros 1,800 o argraffiadau
- 6 post Cymraeg ar Facebook a gafodd dros 5,500 o argraffiadau
Rydym yn gweithio ar negeseuon Cymraeg ar gyfer ein hymgyrch DGCA yn haf 2025 a’n hymgyrch wirfoddol gwirio hunaniaeth.
4.4 Hwb gyrfaoedd
Yn ystod 2024 i 2025 fe wnaethom barhau i ddatblygu gwefan ein hwb gyrfaoedd i anelu at bobl a allai wneud cais am rolau yn Nhŷ’r Cwmnïau. Mae’r wefan yn gwbl ddwyieithog.
Ychwanegwyd tudalennau newydd ar sut i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn gywir wrth ymgeisio am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Fe wnaethom hefyd rannu canllawiau ar wneud cais am rolau o dan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd.
Mae’r ganolfan gyrfaoedd yn parhau i berfformio’n dda, gyda chyfartaledd o 944 o ymwelwyr unigryw bob mis yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Byddwn yn parhau i ddatblygu ac ychwanegu cynnwys dwyieithog newydd i’r ganolfan gyrfaoedd yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
4.5 E-bost i bob cyfeiriad e-bost cofrestredig
Rydym wedi bod yn casglu cyfeiriadau e-bost cofrestredig ar gyfer pob cwmni ers mis Mawrth 2024. Ym mis Mawrth ac Ebrill 2025, fe wnaethom anfon yr e-bost cyntaf at holl gyfeiriadau e-bost cofrestredig. Anfonon ni e-bost dwyieithog at 1,815 o gwmnïau gyda gorffeniad enw Cymraeg (er enghraifft, ‘Cyfyngedig’).
4.6 Straeon newyddion
Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, fe wnaethom gyhoeddi 3 allan o gyfanswm o 7 stori newyddion yn ddwyieithog:
- Tŷ’r Cwmnïau yn gwneud cynnydd ar weithredu diwygiadau
- Tŷ’r Cwmnïau i ymuno GOV.UK One Login
- Mae’r gwasanaeth cyfrifon ar-lein a Ffurflenni Treth Cwmnïau yn cau
Gyda’i gilydd, derbyniodd y straeon hyn 25 o ymweliadau tudalen unigryw.
4.7 Canllawiau GOV.UK
Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, gwnaethom gyhoeddi 7 tudalen ganllawiau newydd yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg:
- Gwneud cais i ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio meddalwedd
- Sut i fodloni safon gwiriad hunaniaeth Tŷ’r Cwmnïau
- Bod yn Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA)
- Gwneud cais i gofrestru fel asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau
- Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau
- Pryd mae angen i chi wirio’ch hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau
- Dywedwch wrth Dŷ’r Cwmnïau eich bod wedi gwirio hunaniaeth rhywun
Mae’r tudalennau hyn yn ymwneud â gofynion newydd ar gyfer gwiriad hunaniaeth a chofrestru fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig.
Mae’r tudalennau hyn wedi cael 158 o ymweliadau tudalen unigryw.
Fe wnaethom hefyd greu ‘tudalen casgliad’ gwiriad hunaniaeth Gymraeg gyda dolenni i’r tudalennau canllawiau newydd.
4.8 Cyfrif cyflwynydd ar gyfer ffeilio meddalwedd
Fe wnaethom gyhoeddi fersiwn Gymraeg o’n taith cyfrif cyflwynydd meddalwedd. Dyma’r daith ddwyieithog gyntaf o’r dechrau i’r diwedd ar ein gwasanaeth Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni.
5. Dangosyddion perfformiad
Yn ystod y cyfnod adrodd, roedd 6,210 Cwmnïau gydag awdurdodaeth yng Nghymru a 19 o bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC) gydag awdurdodaeth yng Nghymru wedi’u hymgorffori.
Erbyn diwedd y cyfnod adrodd, roedd 35,262 o gwmnïau gydag awdurdodaeth yng Nghymru a 1566 o gwmnïau gydag awdurdodaeth yng Nghymru ar y gofrestr.
Erbyn diwedd y cyfnod adrodd, roedd 1,961 o gwmnïau Cymreig wedi’u hymgorffori gyda diweddglo enw Cymreig ar y gofrestr.
5.1 Canolfan gyswllt Tŷ’r Cwmnïau
Erbyn hyn mae gennym 4 aelod llawn amser o staff sy’n siarad Cymraeg yn y ganolfan gyswllt. Mae gofyniad cytundebol i ddarparu gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os yw cwsmer yn gofyn yn benodol am siaradwr Cymraeg ac nad oes un ar gael, rydym yn cynnig y dewis i’r cwsmer gwblhau’r alwad yn Saesneg neu ofyn am rif ffôn cyswllt y cwsmer fel y gall siaradwr Cymraeg gysylltu â nhw’n uniongyrchol, yn unol â’n Cynllun Iaith Gymraeg. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, derbyniwyd 6 galwad yn Gymraeg a 21 e-bost yn Gymraeg.
Mae’r Uned Gymraeg yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r ganolfan gyswllt i sicrhau bod pawb yn deall pwysigrwydd darparu darpariaeth Gymraeg, waeth pa mor fach yw’r nifer sy’n cysylltu â ni ar hyn o bryd.
Mae’r Uned Gymraeg hefyd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda siaradwyr Cymraeg yn y ganolfan gyswllt i wneud yn siŵr eu bod yn gallu defnyddio ac ymarfer eu Cymraeg gan fod canran y galwadau Cymraeg ar hyn o bryd yn isel.
Rydym yn sylweddoli nad yw ein cynnig presennol o gwsmer yn gorfod gofyn am wasanaeth Cymraeg yn ddelfrydol ac mae ein Rheolwr Uned Gymraeg yn gweithio gyda’r ganolfan gyswllt a’r prif gyswllt rhwng Tŷ’r Cwmnïau a’r ganolfan gyswllt i weld sut y gallwn wella hyn yn y dyfodol.
5.2 Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth iaith
Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi parhau i hyrwyddo cyfleoedd datblygu Cymraeg i’n staff a chynnig cyfleoedd i’r staff ddefnyddio eu Cymraeg yn y gweithle.
Mae’r Uned Gymraeg yn cynnal Caffi Cymraeg yn yr adeilad bob mis i roi cyfle i staff ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg yn y gwaith. Mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn mynychu ond hefyd dysgwyr Cymraeg o wahanol ardaloedd Tŷ’r Cwmnïau. Mae’r Uned Gymraeg hefyd yn darparu sesiynau cymorth ar-lein i’r staff sy’n dysgu Cymraeg yn Nhŷ’r Cwmnïau ar hyn o bryd.
Mae’r Uned Gymraeg hefyd yn rhoi erthyglau rheolaidd a geirfa Gymraeg ar ein tudalen Rhyngweithiol. Mae hyn wedi codi ymwybyddiaeth ac wedi sicrhau bod y Gymraeg yn weladwy ar draws Tŷ’r Cwmnïau. Mae gan Uned yr Iaith Gymraeg dudalen barhaol hefyd ar Interact (ein gwefan fewnrwyd fewnol) sy’n cynnwys canllawiau ar gyfer pob maes ar gyfathrebu Cymraeg, ein Cynllun Iaith Gymraeg, a rhestr o siaradwyr Cymraeg ym mhob ardal.
Mae gan dudalen gymdeithasol fewnol Uned yr Iaith Gymraeg 99 o aelodau; rydym yn parhau i ddarparu cynnwys Cymraeg ac yn hysbysebu ein digwyddiadau yma. Mae gennym tudalen Teams penodol ar gyfer hyrywddo digwyddiadau Cymraeg.
Cynigiodd Tŷ’r Cwmnïau gyfleoedd dysgu Cymraeg i’r holl staff yn unol â’i Gynllun Addysg Oedolion. Mae’r sefydliad wedi cefnogi’n llawn y rhai sydd wedi manteisio ar y cyfle hwn trwy dalu cost y cwrs, yn ogystal â darparu amser hwyluso i astudio.
Erbyn hyn mae gennym 2 garfan sy’n dysgu Cymraeg drwy Ddysgu Cymraeg Morgannwg yn Nhŷ’r Cwmnïau. Mae’r gwersi yn cael ei gynnal ar-lein ac mae 17 o bobl yn Dilyn cyrsiau Mynediad 2 a Sylfaen 1.
Parhaodd Tŷ’r Cwmnïau i annog a chefnogi diwrnodau gwirfoddoli sy’n gyfrwng cadarnhaol o gyfrannu at y gymuned leol wrth ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg.
Mae Tŷ’r Cwmnïau hefyd yn cefnogi gweithgareddau allgymorth ac ar hyn o bryd maent yn gweithio gydag Ysgol Gyfun Glantaf fel rhan o hyn.
Roedd Tŷ’r Cwmnïau hefyd yn rhan o stondin ‘Gwasanaethau Cymreig Llywodraeth y DU’ yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhontypridd. Creodd Uned yr Iaith Gymraeg rota i roi’r profiad o fod yn yr Eisteddfod i’r siaradwyr a’r dysgwyr Cymraeg yn Nhŷ’r Cwmnïau, rhai wedi cael profiad o fod yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf.
6. Cwynion
Nifer y cwynion a dderbyniwyd am ddiffyg darpariaeth gwasanaethau Cymraeg a’r camau a roddwyd ar waith i ddatrys y cwynion hyn.
Yn ystod y cyfnod adrodd hwn bu 1 achos pan gysylltodd cwsmer â Thŷ’r Cwmnïau mewn perthynas â’i wasanaeth Cymraeg. Gweler crynodeb o’r cwynion isod.
Anfonodd un cwsmer e-bost at ein Huned Gymraeg gan ddweud nad oeddent yn derbyn galwad ffôn Cymraeg pan ofynnwyd amdano na galwad yn ôl. Trefnodd Uned yr Iaith Gymraeg gyfarfod gydag arweinydd cyswllt y ganolfan gyswllt i sicrhau bod y broses yn cael ei dilyn yn gywir a bod adolygiad llawn yn cael ei gynnal o ganlyniad i hyn.
Mae Uned yr Iaith Gymraeg yn parhau i fonitro’r gwasanaeth hwn drwy wneud gwiriadau spot rheolaidd ar y ganolfan gyswllt. O ganlyniad, mae’r ganolfan gyswllt wedi recriwtio fwy o siaradwyr Cymraeg a sicrhau bod trefn ar waith fel y dylai siaradwr Cymraeg fod ar gael bob amser. Cysylltodd Uned yr Iaith Gymraeg â’r cwsmer ar unwaith i esbonio’r sefyllfa ac i sicrhau eu bod yn gallu cyfathrebu yn eu dewis iaith.
7. Casgliad
Bydd ein Huned Gymraeg a’r Pwyllgor Cymraeg yn parhau i sicrhau bod pob ardal o Dŷ’r Cwmnïau yn ymwybodol o’r cyfrifoldebau sefydliadol o dan y Cynllun Iaith Gymraeg a bod pawb yn gweld pwysigrwydd cynnig iaith Gymraeg rhagweithiol i’n cwsmeriaid.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth Cymraeg rhagorol i’n cwsmeriaid a byddwn yn gweithio gyda phob adran yn Nhŷ’r Cwmnïau i hyrwyddo dwyieithrwydd ar draws y sefydliad.
Rydym wedi adeiladu ar y gwaith eleni o wella ein darpariaeth Cymraeg a byddwn yn parhau i roi camau ar waith i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried ym mhob adran o’r sefydliad.
8. Cynllun gweithredu Tŷ’r Cwmnïau
8.1 Deddfwriaeth a Mentrau
| Camau angenrheidiol | Dyddiad targed | Perchennog | Cynnydd hyd yma/nodiadau |
|---|---|---|---|
| Adolygu’r cynllun gweithredu bob chwarter | Pob chwarter | Uned yr Iaith Gymraeg | Adolygwyd cynnwys y cynllun gweithredu fel rhan o Bwyllgor yr Iaith Gymraeg a gyfarfu bob chwarter yn 2024-2025. |
| Adolygu’r cynllun strategol bob chwarter i gysylltu â chynllun gweithredu’r Gymraeg | Pob chwarter | Uned yr Iaith Gymraeg | Mae ein hymrwymiad i wasanaethau’r Gymraeg yn sail i 2 o’n nodau strategol allweddol - gwasanaethau gwych sy’n rhoi profiad gwych i’r defnyddiwr a chofrestri o ddata sy’n ysbrydoli ymddiriedaeth a hyder. |
| Ystyried sut y bydd polisïau, prosiectau a datblygiadau newydd yn cydymffurfio â’r ymrwymiadau a nodir yn y Cynllun Iaith Gymraeg | Parhaus | Uned yr Iaith Gymraeg | Rydym wedi parhau, a byddwn yn parhau, i ystyried ein Cynllun Iaith Gymraeg mewn polisïau, datblygiadau a phrosiectau newydd. Mae Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg bellach wedi’i gynnwys fel rhan o adolygiadau Porth y Rheolwyr Prosiect. |
8.2 Staffio
| Camau angenrheidiol | Dyddiad targed | Perchennog | Cynnydd hyd yma/nodiadau |
|---|---|---|---|
| Cynnal yr hyfforddiant iaith gyfredol, gan dargedu sgiliau Cymraeg llafar | Parhaus | Uned yr Iaith Gymraeg/ Tîm Dysgu a Thalent | Mae 2 garfan o ddysgu Cymraeg ar waith ar hyn o bryd ac mae’r Uned Gymraeg yn parhau i hyrwyddo’r modiwlau Cymraeg Gwaith ledled y sefydliad. |
| Sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg yn bresennol ym mhob un o’r prif feysydd gweithredol er mwyn darparu yswiriant i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg | Parhaus | Cyfarwyddwyr Gyfarwyddiaeth Cyflenwi ar gyfer Cwsmeriaid | Mae Tŷ’r Cwmnïau yn sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg ar gael ym mhob ardal i archwilio ffeilio Cymraeg neu ymateb i gwsmeriaid o Gymru. Rydym wedi recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg yn adran cyfrifon y busnes i sicrhau bod unrhyw un sy’n cyflwyno eu cyfrifon yn Gymraeg yn cael gwasanaeth cyfartal a’r Saesneg gan fod gennym staff wrth law i archwilio a phrosesu’r cyfrifon hyn. |
| Hyrwyddo’r hyn sy’n ofynnol o TC o dan y Cynllun Iaith yn fewnol, gan sicrhau bod staff yn deall eu cyfrifoldebau ac yn gwybod ble i droi am gymorth. | Parhaus | Uned yr Iaith Gymraeg/Strategaeth a Pholisi | Fe wnaethom wneud staff yn ymwybodol o’n hymrwymiad i’n Cynllun Iaith Gymraeg yn rheolaidd ar ein gwefan fewnrwyd fewnol. Mae’r Uned Gymraeg hefyd wedi bod yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth Gymraeg gyda’r holl adrannau. |
| Cynnal tîm Cymraeg yn Nhŷ’r Cwmnïau i ddarparu yswiriant i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg a chynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod materion a chynnydd | Parhaus | Uned yr Iaith Gymraeg/Cyflenwi Cwsmeriaid | Mae tîm y Gymraeg wedi parhau i fod ar gael ac wedi cyfarfod yn rheolaidd. |
8.3 Ymgyrchoedd, cyhoeddusrwydd, arddangosfeydd, hysbysebu a datganiadau i’r wasg
| Camau angenrheidiol | Dyddiad targed | Perchennog | Cynnydd hyd yma/nodiadau |
|---|---|---|---|
| Sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn mynychu pob digwyddiad yng Nghymru lle mae presenoldeb gan TC. | Parhaus | Y Tîm Digwyddiadau | Byddwn yn sicrhau hyn os ydym yn mynychu digwyddiadau yn y dyfodol. Mae llawer o rwydweithio nawr yn digwydd yn rhithiol. |
| Sicrhau bod llenyddiaeth Gymraeg ar gael mewn digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru | Parhaus | Y Tîm Digwyddiadau | Byddwn yn sicrhau hyn os ydym yn mynychu digwyddiadau yn y dyfodol. Mae llawer o rwydweithio nawr yn digwydd yn rhithiol. |
| Sicrhau bod hysbysebion a datganiadau i’r wasg sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru ar gael yn Gymraeg | Parhaus | Adnoddau Dynol/Uned yr Iaith Gymraeg/Cyfathrebu allanol | Lle cyhoeddir hysbysebion swyddi yn y wasg Gymraeg maent yn ddwyieithog. Nawr bod modd hysbysebu yn Gymraeg ar wefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil rydym nawr wedi dechrau hysbysebu rhai swyddi trwy’r Gymraeg. Mae angen adeiladu ar hyn. |
8.4 Cyhoeddiadau a ffurflenni
| Camau angenrheidiol | Dyddiad targed | Perchennog | Cynnydd hyd yma/nodiadau |
|---|---|---|---|
| Sicrhau bod cyhoeddiadau Cymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn cael eu diweddaru ochr yn ochr â fersiynau Saesneg | Parhaus | Uned Strategaeth, Polisi, Cyfathrebu a’r Gymraeg | Mae TC yn parhau i sicrhau bod cyhoeddiadau Cymraeg yn cael eu diweddaru’r un pryd â’r cyhoeddiadau Saesneg. |
| Sicrhau bod yr holl ffurflenni statudol Cymraeg yn cael eu diweddaru’r un pryd â’r fersiynau Saesneg | Parhaus | Uned Strategaeth, Polisi, Cyfathrebu a’r Gymraeg | Mae TC yn dal i sicrhau bod ffurflenni Cymraeg yn cael eu diweddaru ar yr un pryd â ffurflenni Saesneg. |
| Monitro defnydd o lythyrau er mwyn sicrhau bod fersiynau Cymraeg yn cael eu defnyddio pan fo hynny’n briodol | Parhaus | Datblygiad Newid Busnes | Mae TC yn dal i fonitro’r defnydd o lythyrau er mwyn sicrhau y darperir ateb yn Gymraeg lle bo angen. Drwy gydol y cyfnod mae ein tîm Cymorth Cyflawni i Gwsmeriaid wedi adolygu’r ddarpariaeth o lythyron Cymraeg sydd gennym. |
8.5 Gwefannau
| Camau angenrheidiol | Dyddiad targed | Perchennog | Cynnydd hyd yma/nodiadau |
|---|---|---|---|
| Sicrhau bod y wefan Gymraeg yn cael ei diweddaru’r un pryd â’r fersiwn Saesneg, pan fo hynny’n briodol, a bod y wybodaeth ar y wefan Gymraeg yn gyfoes. | Parhaus | Cyfathrebu Allanol/Uned yr Iaith Gymraeg | Fe wnaethom barhau i gynyddu cynnwys Cymraeg ar GOV.UK. Mae’r Uned Gymraeg yn monitro hyn ac yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r tîm cyfathrebu allanol. |
| Cyfryngau cymdeithasol | Parhaus | External communications/Welsh Language Unit | Rydym yn sicrhau bod postiadau Cymraeg X a Facebook yn cael eu postio yn wythnosol. Mae hyn yn bwysig er mwyn annog mwy o gwsmeriaid o Gymru i gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Mae gennym neges ar y ddau blatfform i ddweud ein bod yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. |
8.6 Cyfarfodydd wyneb yn wyneb
| Camau angenrheidiol | Dyddiad targed | Perchennog | Cynnydd hyd yma/nodiadau |
|---|---|---|---|
| Sicrhau bod modd i gwsmeriaid sydd am gynnal eu busnes yn Gymraeg ofyn am gael siarad â siaradwr Cymraeg. | Parhaus | Uned yr Iaith Gymraeg/Gwasanaethau Cwsmeriaid | Nid oes cyfarfodydd wyneb i wyneb yn digwydd rhagor ond gallwn gynnig y gwasanaeth yma dros Teams. |
8.7 Cyfathrebu dros y ffôn
| Camau angenrheidiol | Dyddiad targed | Perchennog | Cynnydd hyd yma/nodiadau |
|---|---|---|---|
| Sicrhau bod cwsmeriaid sydd eisiau cynnal eu busnes yn Gymraeg yn gallu siarad â siaradwr Cymraeg | Parhaus | Canolfan gyswllt/Gwasanaethau Cwsmeriaid/Uned yr Iaith Gymraeg | Mae system mewn lle i sicrhau bod y cwsmer yn gallu cyfathrebu gyda TC yn y Gymraeg. Mae rhai problemau wedi codi gyda hwn felly mae Uned y Gymraeg yn monitro’r gwasanaeth yn rheolaidd. |
8.8 Arwyddion
| Camau angenrheidiol | Dyddiad targed | Perchennog | Cynnydd hyd yma/nodiadau |
|---|---|---|---|
| Sicrhau bod modd i gwsmeriaid sydd am gynnal eu busnes yn Gymraeg ofyn am gael siarad â siaradwr Cymraeg. | Parhaus | Uned Ystadau/Iaith Gymraeg | Cynhyrchir yr holl arwyddion cyhoeddus yn ddwyieithog |
8.9 Cwynion
| Camau angenrheidiol | Dyddiad targed | Perchennog | Cynnydd hyd yma/nodiadau |
|---|---|---|---|
| Sicrhau bod cwynion am wasanaethau Cymraeg TC yn cael eu harchwilio’n fanwl ac yn cael eu datrys yn brydlon, a hynny’n unol â threfn gwynion arferol TC | Parhaus | Uned yr Iaith Gymraeg/Adran berthnasol | Adran gwynion yr adroddiad. |
| Monitro’r cwynion am wasanaethau dwyieithog | Parhaus | Uned yr Iaith Gymraeg | Mae’r Uned Gymraeg yn monitro pob cwyn ynglŷn â’r gwasanaeth dwyieithog yn unol ag adran gwynion yr adroddiad. |