Canllawiau

Gwasanaeth Cymraeg

Mae gennym wasanaeth i gwmnïau o Gymru a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC) sydd am ddefnyddio'r Gymraeg.

Cysylltwch â ni yn y Gymraeg

Mae croeso i chi anfon e-bost atom neu ffoniwch 0303 1234 500.

Nid oes llinell Cymraeg uniongyrchol. Gofynnwch am siaradwr Cymraeg a chewch eich trosglwyddo i siaradwr Cymraeg yn unol â gofynion ein Cynllun Iaith Gymraeg.

Rhif ffôn: 0303 123 4500 (Cofiwch i ofyn am siaradwr Cymraeg)

Mae’n bwysig i ni eich bod yn cael y cyfle i gyfathrebu yn eich iaith ddewisol. Os ydych wedi dod ar draws unrhyw rwystrau i wneud hynny, anfonwch e-bost at Uned yr Iaith Gymraeg:

UnedyGymraeg@companieshouse.gov.uk

Ffeilio gwybodaeth am gwmni yn Gymraeg

Rydym hefyd yn darparu fersiwn Cymraeg o’n gwasanaeth ffeilio ar-lein a gellir cyrchu ffurflenni dwyieithog gan ddefnyddio’r ddolen ar dudalen trosolwg y cwmni.

Ffurflenni dwyieithog

Gallwch ond defnyddio ffurflenni dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) , os, ar gorffori neu ers hynny, mae’r cyfeiriad swyddfa gofrestredig eich cwmni neu PAC wedi’i leoli yng Nghymru, yn hytrach na Lloegr a Chymru. Gallwch newid eich awdurdodaeth drwy ffeilio ffurflen AD05c (neu ffurflen LLAD05c gyfer PAC).

Dogfennau ellir eu cyflwyno yn yr iaith Gymraeg heb gyfieithiad ardystiedig

Gall cwmnïau neu PACau Cymreig gyflwyno’r dogfennau canlynol i Dŷ’r Cwmnïau yn Gymraeg heb fod â chyfieithiad ardystiedig i’r Saesneg. Bydd y cofrestrydd yn trefnu am y cyfieithiad ardystiedig yn Saesneg a bydd y ddogfen Gymreig ynghyd â’i chyfieithiad Saesneg yn cael ei rhoi ar y cofnod cyhoeddus.

  • memorandwm cymdeithasiad cwmni
  • erthyglau cwmni
  • adroddiad cwmni buddiannau cymunedol
  • penderfyniad neu gytundeb
  • datganiad o gwmni buddiannau cymunedol
  • cyfrifon ac adroddiadau blynyddol
  • cyfrifon ac adroddiadau diwygiedig ac unrhyw adroddiad archwilydd ar gyfrifon ac adroddiadau diwygiedig
  • dogfen y mae gofyn iddi fod ynghlwm wrth gyfrifon grŵp

Gall cwmnïau neu PACau Cymreig gyflwyno cyfieithiad ardystiedig i’r Gymraeg o unrhyw ddogfen yn Saesneg sydd wedi’i wneud neu yn cael ei gyflwyno i’r cofrestrydd.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg ar ein holl sianeli cymdeithasol. Os byddwch chi’n cysylltu â ni yn Gymraeg, byddwn yn ymateb yn Gymraeg.

Gwrandewch ar bodlediad ar ein gwasanaeth Cymraeg.

Gwyliwch ein rhestr chwarae iaith Gymraeg ar YouTube.

Gwybodaeth bellach

Cyhoeddwyd ar 3 March 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 July 2020 + show all updates
  1. Published Welsh Language Scheme Monitoring Report for 2019 to 2020.

  2. Telephone number updated.

  3. Annual monitoring report added for 2018 to 2019.

  4. Social media information updated and YouTube link added

  5. Welsh language scheme monitoring report

  6. Information updated.

  7. 2016 to 2017 report added

  8. Glossary of terms added to further information.

  9. Welsh language report 2015-16 added

  10. 2014-15 Welsh Language Report added

  11. Added translation