Guidance

Buddsoddiad Cymdeithasol gan elusennau - y pŵer newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf (Gwarchod a Buddsoddi Cymdeithasol) Elusennau 2016: Canllaw interim

Updated 1 August 2016

1. Buddsoddiad cymdeithasol

Mae Deddf (Gwarchod a Buddsoddi Cymdeithasol) 2016 (‘Deddf 2016’) yn cyflwyno pŵer statudol newydd i elusennau wneud buddsoddiadau cymdeithasol. Daeth i rym ar 31 Gorffennaf 2016.

Mae’r canllaw interim hwn yn rhan o’r canllaw Elusennau a materion buddsoddi: canllaw i ymddiriedolwyr (CC14), ac mae wedi cael ei gyhoeddi i roi gwybod i ymddiriedolwyr a’u cynghorwyr proffesiynol bod y pŵer statudol mewn grym bellach, a disgrifio’n gyffredinol yr hyn y dylai ymddiriedolwyr ei ystyried pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi cymdeithasol. Caiff ei adolygu yn 2017. Bydd bodolaeth y pŵer a’i gymhwysiad ymarferol gan elusennau yn un o’r materion y bydd y comisiwn yn ei ystyried fel rhan o adolygiad o’i ganllawiau buddsoddi yn y dyfodol.

2. Beth yw ‘buddsoddiad cymdeithasol’?

Yn y ddeddfwriaeth, ystyr ‘buddsoddiad cymdeithasol’ yw ‘gweithred berthnasol’ elusen sy’n cael ei chyflawni ‘gyda’r bwriad o hyrwyddo dibenion yr elusen yn uniongyrchol a gwneud elw ariannol i’r elusen’. Yn y canllaw interim hwn, mae gan y term ‘buddsoddiad cymdeithasol’ yr un ystyr ag sydd iddo yn Neddf 2016.

Mae ‘gweithred berthnasol’ yn golygu un o ddau beth:

  • cymhwyso neu ddefnyddio cronfeydd neu eiddo arall gan yr elusen; neu
  • dderbyn ymrwymiad mewn perthynas ag atebolrwydd unigolyn arall sy’n rhoi cronfeydd neu eiddo arall yr elusen mewn perygl o gael eu cymhwyso neu eu defnyddio, megis gwarant

Yn y cyd-destun hwn, mae cymhwyso neu ddefnyddio cronfeydd neu eiddo arall yn gwneud ‘elw ariannol’ os yw ei ganlyniad yn well i’r elusen yn nhermau ariannol na gwario’r cyfan o’r cronfeydd neu eiddo arall dan sylw, ac mae’r canllaw interim hwn yn defnyddio’r term yn y ffordd hon yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae’r cysyniad o ‘elw ariannol’ ychydig yn wahanol wrth dderbyn ymrwymiad mewn perthynas ag atebolrwydd unigolyn arall, ac fe’i trafodir yn adran 8.

Mae’n bwysig cofio bod penderfynu a yw buddsoddiad cymdeithasol yn cael ei wneud neu beidio yn dibynnu ar gymhelliad yr elusen - os yw’r rhesymau dros gymhwyso cronfeydd mewn ffordd arbennig yn cynnwys hyrwyddo dibenion yr elusen yn uniongyrchol a gwneud elw ariannol yna bydd y weithred arfaethedig yn fuddsoddiad cymdeithasol. Mae’r diffiniad yn un eang a gall gynnwys rhai gweithredoedd na fyddent fel arfer yn cael eu hystyried yn fuddsoddiadau.

Yn wyneb hyn, dylai elusennau ystyried pa weithgareddau eu helusen (os oes) sydd wedi’u cynnwys o fewn y diffiniad o ‘fuddsoddiad cymdeithasol’. Mae dyletswyddau cyfreithiol penodol gan ymddiriedolwyr sy’n gymwys pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi cymdeithasol a dylent allu dangos eu bod wedi gwneud y penderfyniadau hyn mewn ewyllys da.

Nid yw’r pŵer newydd yn newid y ffaith bod rhaid i elusen weithredu i gyflawni ei dibenion elusennol ei hun yn unig (ac eithrio pan fydd yn buddsoddi cronfeydd i wneud elw ariannol ar gyfer yr elusen). Mae’r pŵer yn caniatáu i elusennau wneud yr hyn y mae’r comisiwn yn ei ddisgrifio fel ‘buddsoddiad cymhelliad cymysg’ yn adran 11 o Elusennau a buddsoddiadau (CC14), a buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen lle mae’r cymhelliad ar gyfer gwneud y buddsoddiad hwnnw yn cynnwys gwneud elw ariannol fel y diffinnir yn y Ddeddf newydd. Mewn sawl achos, gall buddsoddiadau cymdeithasol fod yn bethau y gallai elusen fod wedi’u gwneud cyn cyflwyno’r pŵer newydd.

3. Beth nad yw’n fuddsoddiad cymdeithasol?

Ni fydd buddsoddiad ariannol, fel y defnyddir y term hwnnw mewn mannau eraill yng nghanllaw buddsoddi’r comisiwn (CC14), yn fuddsoddiad cymdeithasol. Mae buddsoddiad ariannol yn fuddsoddiad a wneir dim ond at y diben o wneud elw ariannol i’r elusen.

Ni fydd buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen yn fuddsoddiad cymdeithasol oni bai bod yr elw ariannol a ddaw i’r elusen yn ffurfio rhan o’r cymhelliad dros wneud y penderfyniad i gyflawni’r weithred berthnasol.

4. All pob elusen ddefnyddio’r pŵer statudol newydd hwn?

Mae gan y rhan fwyaf o elusennau bŵer i wneud buddsoddiadau cymdeithasol. Pŵer newydd yw hwn wedi’i nodi mewn deddfwriaeth, sy’n golygu mewn sawl achos bod y gyfraith yn rhoi’r pŵer hwn i elusennau heb fod angen i’r ymddiriedolwyr newid unrhyw beth.

Mae’n bwysig nodi bod modd i ddogfen lywodraethol elusen gyfyngu’r pŵer statudol, felly bydd rhaid troi at ddogfen lywodraethol elusen cyn gwneud unrhyw fuddsoddiad i sicrhau bod y pŵer angenrheidiol gan yr elusen. Os yw ymddiriedolwyr yn ansicr o gwbl ynghylch pwerau’r elusen yna dylent geisio cyngor cyfreithiol arbenigol. Os yw ymddiriedolwyr am newid dogfen lywodraethol eu helusen, dylent gyfeirio at ganllaw’r comisiwn Sut i wneud newidiadau i ddogfen lywodraethol eich elusen.

Nid yw’r pŵer newydd hwn yn gymwys i elusennau a sefydlwyd gan ddeddfwriaeth, neu y mae eu dibenion a’u swyddogaethau wedi’u hamlinellu mewn deddfwriaeth, neu elusennau a sefydlwyd gan Siarter Frenhinol. Bydd rhaid i’r elusennau hyn barhau i ddibynnu ar eu pwerau cyfansoddiadol presennol na chânt eu heffeithio gan y ddeddfwriaeth newydd.

5. Dyletswyddau cyffredinol yr ymddiriedolwyr

Nid yw’r ddeddfwriaeth newydd yn newid neu’n drech na dyletswyddau cyffredinol yr ymddiriedolwyr, ac mae’r dyletswyddau hyn yn gymwys i unrhyw benderfyniad ynghylch buddsoddiadau cymdeithasol.

Mae’r rhain yn cynnwys dyletswyddau i:

  • weithredu er lles gorau eich elusen
  • rheoli adnoddau eich elusen mewn modd cyfrifol
  • gweithredu gyda gofal a sgil rhesymol.

Pan fyddant yn gwneud penderfyniadau, mae’n rhaid i ymddiriedolwyr (ymysg pethau eraill):

  • weithredu mewn ewyllys da a dim ond er lles eu helusen
  • sicrhau bod digon o wybodaeth ganddynt
  • rhoi sylw i’r holl ffactorau perthnasol
  • anwybyddu unrhyw ffactorau amherthnasol
  • gwneud penderfyniadau sydd o fewn yr ystod o benderfyniadau y byddai’n rhesymol i gorff ymddiriedolwyr eu gwneud

Gwybod rhagor am ddyletswyddau ymddiriedolwyr a gwneud penderfyniadau

Wrth benderfynu a yw gwneud buddsoddiad cymdeithasol arbennig er budd yr elusen neu beidio, dylai ymddiriedolwyr ystyried y materion canlynol cyn gweithredu:

  • am faint mae’r buddsoddiad cymdeithasol yn para a sut (a phryd) y gallai’r cronfeydd gael eu tynnu’n ôl
  • y risgiau o’r buddsoddiad cymdeithasol yn methu â chyflawni neu danberfformio wrth gyflawni’r budd cenhadaeth disgwyliedig a’r elw ariannol
  • sut y bydd perfformiad y buddsoddiad cymdeithasol yn cael ei fesur, ei asesu a’i fonitro
  • y berthynas rhwng y buddsoddiad cymdeithasol a phortffolio buddsoddi cyffredinol yr elusen (os oes) a’i pholisïau gwariant neu roi grantiau
  • y dreth i’w thalu ar y buddsoddiad cymdeithasol
  • yr elw ariannol disgwyliedig a’r budd disgwyliedig i hyrwyddo dibenion yr elusen, o’r buddsoddiad cymdeithasol, a’r
  • gost debygol o wneud y buddsoddiad cymdeithasol (o ran unrhyw elw ariannol rhagweladwy a/neu unrhyw fudd rhagweladwy i hyrwyddo dibenion yr elusen)

Nid oes rhaid i ymddiriedolwyr atodi gwerth arian manwl i’r elw ariannol disgwyliedig neu’r budd disgwyliedig i hyrwyddo dibenion yr elusen fel rhan o’r asesiad hwnnw (er y gallant ddewis gwneud hynny), ond ni fyddem yn disgwyl i ymddiriedolwyr awdurdodi buddsoddiad cymdeithasol heb sicrhau bod lefel yr elw ariannol a’r budd i hyrwyddo dibenion yr elusen a gaiff yr elusen, o’u cymryd gyda’i gilydd, er budd yr elusen.

6. Pa ddyletswyddau statudol sy’n cael eu rhoi yn Neddf 2016 o ran buddsoddiadau cymdeithasol?

Mae Deddf 2016 yn rhoi rhai dyletswyddau newydd ar ymddiriedolwyr sy’n gymwys i bob ymddiriedolwr elusen pan fyddant yn gwneud penderfyniadau am fuddsoddiadau cymdeithasol. Mae’r dyletswyddau hyn yn cymryd lle dyletswyddau statudol sy’n ymwneud yn benodol â buddsoddiadau ariannol.

Mae’r dyletswyddau newydd hyn yn golygu, cyn arfer unrhyw bŵer i wneud buddsoddiadau cymdeithasol, bod rhaid i’r ymddiriedolwyr:

  • gan ystyried yr holl amgylchiadau, penderfynu a ddylid ceisio unrhyw gyngor am y buddsoddiad cymdeithasol arfaethedig;
  • ceisio ac ystyried unrhyw gyngor y penderfynant y dylid ei geisio; a
  • bodloni eu hunain ei fod er budd yr elusen i wneud y buddsoddiad cymdeithasol, gan ystyried y budd y disgwylir iddo ei greu i’r elusen, trwy hyrwyddo dibenion yr elusen yn uniongyrchol a gwneud elw ariannol

Yn dibynnu ar y cyd-destun, gallai fod angen ceisio amrywiaeth o gyngor. Gallai hyn gynnwys cyngor ar gyfrifyddu cyfreithiol, ariannol neu agweddau eraill ar y weithred arfaethedig. Nid oes rhaid i’r cyngor gael ei ddarparu gan drydydd partïon proffesiynol, a gallai gael ei ddarparu gan staff neu wirfoddolwyr yr elusen. Dylai cyngor gael ei roi gan rywun y mae’n rhesymol i’r ymddiriedolwyr gredu ei fod yn gymwys i roi’r cyngor angenrheidiol.

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr wneud y penderfyniadau hyn mewn modd rhesymol, gan ystyried yr holl ffactorau perthnasol.

Yr ymddiriedolwyr eu hunain sy’n rhaid cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn wrth wneud penderfyniadau. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn caniatáu ar gyfer dirprwyo cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn. Nid yw hyn yn golygu bod rhaid i’r ymddiriedolwyr gymryd yr holl gamau sydd eu hangen er mwyn gallu cydymffurfio â’r dyletswyddau - er enghraifft, gallai’r ymddiriedolwyr ddirprwyo i swyddog yr elusen y dasg o gael hyd i unigolyn priodol i roi’r cyngor, briffio’r unigolyn hwnnw ac yna adolygu a chyflwyno’r cyngor i’r ymddiriedolwyr - ond yr ymddiriedolwyr sy’n rhaid gwneud y penderfyniadau sy’n ofynnol gan y dyletswyddau hyn.

Nid yw hyn yn golygu o reidrwydd bod rhaid i ymddiriedolwyr elusen ystyried yn bersonol bob gweithred arfaethedig yr elusen a allai gael ei gyfrif fel gwneud buddsoddiad cymdeithasol - ond mae’n rhaid iddynt gymryd y camau gofynnol cyn eu bod nhw (yr ymddiriedolwyr) yn arfer unrhyw bŵer i wneud buddsoddiadau cymdeithasol. Er enghraifft, os gofynnir i ymddiriedolwyr elusen gymeradwyo rhaglen o drafodion lle y byddai pob un ohonynt yn fuddsoddiad cymdeithasol, gyda’r bwriad bod swyddogion yr elusen yn rhoi’r rhaglen hon ar waith, yna cymeradwyo’r rhaglen a dirprwyo’r awdurdod i swyddogion fyddai’n cael ei ystyried yn arfer pŵer yr ymddiriedolwyr.

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr adolygu buddsoddiadau cymdeithasol eu helusen o bryd i’w gilydd hefyd. Nid oes rhaid i unrhyw gyfnod o amser penodol fynd heibio cyn cynnal yr adolygiad a bydd y cyfnod priodol yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau sy’n gymwys i elusen arbennig. Dylai’r ymddiriedolwyr benderfynu ar hyn ym mhob achos.

Wrth adolygu buddsoddiadau cymdeithasol mae’n rhaid i ymddiriedolwyr:

  • ystyried a ddylai unrhyw gyngor am y buddsoddiadau cymdeithasol (neu unrhyw fuddsoddiad cymdeithasol) gael ei geisio; a
  • cheisio ac ystyried unrhyw gyngor y penderfynant y dylid ei geisio

Mae’r dyletswyddau hyn yn gymwys pryd bynnag y bydd yr ymddiriedolwyr yn gwneud unrhyw beth sy’n bodloni’r diffiniad o fuddsoddiad cymdeithasol, os ydynt yn defnyddio’r pŵer statudol neu beidio. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried a allai gweithred arbennig gael ei ystyried yn weithred o wneud buddsoddiad cymdeithasol, a chydymffurfio â’r dyletswyddau os ydynt yn penderfynu bod hynny’n wir.

7. All ymddiriedolwyr ddefnyddio gwaddol parhaol elusen i wneud buddsoddiadau cymdeithasol?

Mae’r pŵer statudol yn caniatáu gwneud buddsoddiad cymdeithasol dim ond trwy ddefnyddio asedau a ddelir fel gwaddol parhaol, neu roi gwarant a fyddai’n rhoi asedau gwaddol parhaol mewn perygl, os yw ymddiriedolwyr elusen yn disgwyl na fydd gwneud buddsoddiad cymdeithasol yn groes i unrhyw gyfyngiad mewn perthynas â gwariant sy’n gymwys i’r gwaddol parhaol dan sylw.

Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i ymddiriedolwyr elusennau sydd â gwaddol parhau sicrhau eu bod yn deall y cyfyngiadau sy’n gymwys i’w gwariant cyn gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddiad cymdeithasol. Efallai y bydd rhaid i ymddiriedolwyr geisio cyngor cyfreithiol ar y mater.

Nid yw’r pŵer newydd yn drech nag unrhyw gyfyngiadau presennol ar ddefnyddio gwaddol parhaol, a bydd rhaid iddynt gael eu dilyn mewn unrhyw achos.

Os yw’r ymddiriedolwyr yn dod i’r casgliad na ddisgwylir iddynt weithredu’n groes i’r cyfyngiadau, dylai fod yn rhesymol i ddisgwyl hynny, a dylai’r penderfyniad gael ei seilio ar ystyriaeth o’r holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys cyngor proffesiynol os oes angen.

Gwybod rhagor am Waddol parhaol: rheolau ar gyfer elusennau.

8. Gwarantau

Mae’r diffiniad o weithred a all fod yn fuddsoddiad cymdeithasol yn cynnwys derbyn ymrwymiad mewn perthynas ag atebolrwydd unigolyn arall. Yn y canllaw interim hwn, er hwylustod, rydym wedi cyfeirio at y math hwn o ymrwymiad fel ‘gwarant’, er bod mathau eraill o ymrwymiadau o’r fath. Cyfeirir at unigolyn sy’n rhoi gwarant (mewn geiriau eraill, yn cytuno i dderbyn ymrwymiad) fel ‘gwarantwr’. Mae amrywiaeth o sefyllfaoedd lle y gellid derbyn y math hwn o ymrwymiad.

Mae’n rhaid bod yn ofalus wrth roi gwarantau o’r fath. Mae rhoi gwarant yn golygu cytuno i fod yn gyfrifol am dalu costau neu rwymedigaethau a fyddai’n cael eu talu gan rywun arall fel arall. Un enghraifft fyddai cytuno i dalu rhent tenant i landlord os nad yw’r tenant yn ei dalu, neu gytuno i ad-dalu benthyciad i’r banc os nad yw’r benthyciwr yn cadw i fyny â’i ad-daliadau. Yn dibynnu ar delerau’r warant, gall y costau y gallai fod yn ofynnol i warantwyr eu talu fod yn anrhagweladwy. Er enghraifft, gallai gwarant a roddir i landlord olyga bod rhaid i’r gwarantwr ddigolledu’r landlord os yw’r tenant yn torri’r cytundeb tenantiaeth.

Os gofynnir i elusen roi gwarant, bydd rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried yn ofalus a yw’r pŵer ganddynt i’w roi. Mae’r pŵer i wneud buddsoddiadau cymdeithasol yn cynnwys pŵer i roi gwarantau os ydynt yn bodloni’r diffiniad.

Mae’n bwysig cofio, er mwyn i warant fod yn fuddsoddiad cymdeithasol, rhaid iddo gael ei wneud gyda’r nod o hyrwyddo dibenion yr elusen yn uniongyrchol a gwneud elw ariannol.

Mae’r ddeddfwriaeth yn dweud bod gwarant yn cael ei hystyried yn un sy’n ‘gwneud elw ariannol’ os nad yw’n cael ei defnyddio, neu os yw’n cael ei defnyddio ond nid yw’n arwain at wario’r cyfan o’r cronfeydd neu roi eiddo arall mewn perygl. Mae hyn yn golygu, er mwyn i warant fod yn fuddsoddiad cymdeithasol nid oes rhaid iddi arwain at unrhyw arian yn dod yn ôl i’r elusen (er bod rhaid i fathau eraill o fuddsoddiad cymdeithasol wneud hynny).

Fel y cyfeirir ato yn gynharach yn y canllaw interim hwn, mae’n rhaid i ymddiriedolwyr barhau i gydymffurfio â phob un o’u dyletswyddau cyffredinol wrth arfer unrhyw bŵer i wneud buddsoddiadau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys gwneud penderfyniadau er budd gorau’r elusen, a pheidio â rhoi asedau eu helusen mewn perygl.

Os oes pŵer gan elusen i roi gwarant fel buddsoddiad cymdeithasol, mae’n bwysig cofio bod rhaid i ran o’r rheswm dros roi’r warant hyrwyddo dibenion yr elusen yn uniongyrchol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r weithred ei hun o roi’r warant fwriadu hyrwyddo dibenion yr elusen. Er enghraifft, gallai elusen i’r digartref roi gwarant i landlord ar gyfer tâl rhent tenant ar y sail na fyddai’r tenant, yn absenoldeb y warant honno, yn gallu cael hyd i lety.

9. Budd preifat

Rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau bod unrhyw fudd preifat sy’n codi o weithredoedd eu helusen yn:

  • angenrheidiol yn yr amgylchiadau
  • rhesymol o ran ei swm
  • er lles yr elusen. Rhaid ystyried hyn mewn perthynas ag unrhyw fuddsoddiad cymdeithasol arfaethedig.

Gwybod rhagor am Fudd cyhoeddus: rheolau ar gyfer elusennau.