Sut i wneud newidiadau i ddogfen lywodraethol eich elusen (CC36)
Dysgwch sut i wneud newidiadau i ddogfen lywodraethol eich elusen.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Mae’r canllawiau hyn yn egluro sut gall elusennau wneud newidiadau i’w dogfen lywodraethu. Er enghraifft, dibenion neu reolau’r elusen ar gynnal cyfarfodydd.
Mae canllawiau ar wahân ar gyfer:
- cwmnïau elusennol
- Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO)
- ymddiriedolaethau a chymdeithasau anghorfforedig
Darllenwch y canllawiau sy’n berthnasol i’ch math o elusen. Bydd hyn yn eich helpu i ddilyn y rheolau cywir.
Os nad ydych chi’n gwybod beth yw math eich elusen, gwiriwch eich dogfen lywodraethu.
Gall eich dogfen lywodraethol fod yn:
- Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu (os yn gwmni elusennol)
- cyfansoddiad (os yn CIO)
- gweithred ymddiriedolaeth, trawsgludiad, cynllun neu ewyllys (os oes ymddiriedolaeth)
- cyfansoddiad, rheolau neu gynllun (os yw’n gymdeithas anghorfforedig)
Darllenwch y canllaw hwn i weld gwybodaeth am:
- y pwerau y gallwch eu defnyddio i wneud newidiadau
- newidiadau sydd angen awdurdod y Comisiwn a sut i wneud cais am awdurdod
- sut i wneud newidiadau
- pwy i ddweud wrthyntam newidiadau
- pryd fydd newidiadau’n dod i rym