Cynllun 5 mlynedd ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain: Swyddfa Cymru
Mae'r cynllun hwn yn nodi sut mae Swyddfa Cymru yn bwriadu gwella'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn ei chyfathrebiadau dros y 5 mlynedd nesaf.
Dogfennau
Manylion
Mae Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 yn mynnu bod yn rhaid i adrannau gweinidogol penodol y llywodraeth adrodd ynghylch sut maent yn hyrwyddo neu’n hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain wrth gyfathrebu â’r cyhoedd.
Gofynnwyd i bob adran weinidogol lunio cynllun 5 mlynedd ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain, i nodi sut maent yn bwriadu gwella’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yn eu hadrannau.
Caiff y rhain eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r trydydd adroddiad ar Iaith Arwyddion Prydain, sy’n crynhoi’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y llywodraeth i wella’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain.
Gofynnir i adrannau roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn eu cynllun 5 mlynedd yn y pedwaredd adroddiad ar Iaith Arwyddion Prydain. Disgwylir y bydd hwn yn cael ei gyhoeddi yng Ngorffennaf 2026.