Papur polisi

Cynllun 5 mlynedd ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain: Swyddfa Cymru

Cyhoeddwyd 22 Gorffennaf 2025

1. Datganiad o fwriad

Mae Swyddfa Cymru wedi creu’r datganiad hwn o fwriad i dynnu sylw at ei rôl, a’i nod yw defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn ei chyfathrebiadau.

Mae Swyddfa Cymru yn cydnabod pwysigrwydd Deddf Iaith Arwyddion Prydain a’r angen am gynhwysiant yng nghyfathrebiadau’r llywodraeth. Dros y 5 mlynedd nesaf, byddwn yn chwilio am gyfleoedd i integreiddio Iaith Arwyddion Prydain yn ein cyfathrebiadau lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol.

Bydd natur gwaith y swyddfa yn cyfyngu ar yr ystod o achlysuron lle bydd defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn fuddiol. Yn wahanol i adrannau sy’n darparu gwasanaethau uniongyrchol i’r cyhoedd, fel yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), cymharol brin yw’r cyfleoedd sydd gennym i gyfathrebu’n uniongyrchol.

Byddwn yn defnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ac ehangu cynnwys perthnasol sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac wedi’i greu gan adrannau eraill y llywodraeth.

Nod yr adran yw sicrhau bod ein cyfathrebiadau’n dod yn fwy weladwy i bawb yng Nghymru a’r DU. Mae adran gyfathrebu Swyddfa Cymru hefyd yn ceisio cynyddu ein hymdrechion ym maes cynhwysiant wrth ddathlu’r gymuned fyddar yng Nghymru.

2. Y camau nesaf

Bydd Swyddfa Cymru yn ystyried creu mwy o gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ar adeg briodol. Er enghraifft, yn ystod wythnos benodol o welededd, gyda’r bwriad o gynyddu’r niferoedd o un flwyddyn i’r llall.

Byddwn yn defnyddio ein sianeli i ehangu cynnwys sy’n cael ei greu gan adrannau eraill y llywodraeth, a, lle bo hynny’n briodol, Llywodraeth Cymru.

Bydd ein hadran yn ceisio cynnwys ymweliadau a gwaith ymgysylltu â’r gymuned fyddar.