Canllawiau

Anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol

Diweddarwyd 27 April 2021

Gallwch ddefnyddio’r canllaw hwn o 6 Ebrill 2021 ymlaen.

Rhagarweiniad

Mae’r canllaw Offer TWE Sylfaenol hwn yn esbonio sut i lunio ac anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS), a gall ei ddefnyddio gan gyflogwyr nad yw eu meddalwedd fasnachol y gyflogres yn cynnwys yr opsiwn hwn. Gall hyd yn oed y cyflogwr mwyaf ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol i gyflwyno EPS os oes angen.

Y sgrinluniau yn y canllaw hwn yw’r prif rai y bydd angen i chi wybod amdanynt. Nid yw’n cynnwys pob sgrin gan fod rhai ohonynt yn rhai na fydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn eu defnyddio gan eu bod yn berthnasol i amgylchiadau mwy anarferol.

O ganlyniad i welliannau parhaus, efallai y bydd y sgriniau yn Offer TWE Sylfaenol yn edrych ychydig yn wahanol i’r rhai sydd i’w gweld yn y canllaw hwn.

Pwysig

Mae’r canllaw hwn yn cymryd yn ganiataol eich bod yn defnyddio meddalwedd fasnachol y gyflogres i redeg eich cyflogres ac yn rhoi gwybod am yr wybodaeth hon mewn amser real. Gallwch ddefnyddio’r EPS pan fyddwch am wneud y canlynol:

  • cyfrifo’ch lwfans Ardoll Brentisiaethau
  • hawlio gostyngiad yn y swm sydd angen i chi ei dalu i CThEM
  • hawlio’r lwfans cyflogaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG)
  • lleihau’r symiau a ddangosir ar EPS blaenorol
  • datgan na wnaed unrhyw daliadau i gyflogai mewn mis treth
  • cadarnhau mai hwn yw eich ʽcyflwyniad olaf ar gyfer y flwyddyn dreth’

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr amgylchiadau hyn yn y canllaw Rhedeg Cyflogres.

Fel rheol, gallwch adennill taliadau statudol drwy ddal eich treth, eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’ch didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) yn ôl o is-gontractwyr. Fodd bynnag, os nad oes gennych ddigon o ddidyniadau i dalu neu adennill y taliad statudol, efallai y bydd yn bosibl i chi wneud cais am arian ymlaen llaw.

Dechrau arni

Er mwyn anfon EPS gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol, mae’n rhaid sicrhau eich bod wedi gwneud y canlynol:

  1. Lawrlwytho a gosod y feddalwedd Offer TWE Sylfaenol. Os nad oes gennych y feddalwedd yn barod, gallwch ei lawrlwytho nawr.

    Os yw’r feddalwedd eisoes gennych, rhaid i chi ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf. I wneud hyn, gwnewch yn siŵr fod eich cyfrifiadur wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd, wedyn agorwch Offer TWE Sylfaenol. Dewiswch ʽGosodiadau’, wedyn ʽDiweddaru’, wedyn ʽGwirio nawr’. Os oes diweddariad ar gael, derbyniwch y neges ar y sgrin i ddechrau’r diweddariad.

  2. Sefydlu’r cyflogwr

    I’ch helpu i wneud hyn, cyfeiriwch at y canllaw Defnyddwyr sy’n defnyddio Offer TWE Sylfaenol am y tro cyntaf: lawrlwytho a gosod Offer TWE Sylfaenol. Bydd hwn yn dangos i chi sut i osod y feddalwedd a hefyd, sut i sefydlu cronfa data’r cyflogwr a’r cyflogeion.

Gwnewch yn siŵr eich bod ond yn dilyn camau 1 i 6 gan nad oes rhaid i chi sefydlu unrhyw gyflogeion ar gyfer cyflwyno EPS.

Enghreifftiau o sefyllfaoedd a chyfarwyddiadau penodol

I hawlio gostyngiad yn y swm y mae angen i chi ei dalu i CThEM, dilynwch y camau canlynol:

Cam 1 – dewis y cyflogai a’r flwyddyn dreth gywir
Cam 2 – hawlio gostyngiad yn y swm y mae angen i chi ei dalu i CThEM
Cam 7 – anfon yr wybodaeth i CThEM

I roi gwybod i CThEM am unrhyw fisoedd treth cyfan heb daliadau i gyflogeion, dilynwch y camau dilynol:

Cam 1 – dewis y cyflogai a’r flwyddyn dreth gywir
Cam 3 – rhoi gwybod i CThEM na wnaethoch dalu unrhyw gyflogau staff o fewn mis treth cyfan
Cam 7 – anfon yr wybodaeth i CThEM

I gadarnhau mai hwn yw eich ‘cyflwyniad olaf ar gyfer y flwyddyn dreth’, dilynwch y camau canlynol:

Cam 1 – dewis y cyflogai a’r flwyddyn dreth gywir
Cam 4 – cyflwyniad olaf ar gyfer y flwyddyn dreth
Cam 7 – anfon yr wybodaeth i CThEM

I hawlio’r Lwfans Cyflogaeth newydd – os ydych eisoes yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol, dilynwch y camau canlynol:

Cam 1 – dewis y cyflogai a’r flwyddyn dreth gywir
Cam 5 – hawlio’r Lwfans Cyflogaeth
Cam 7 – anfon yr wybodaeth i CThEM

I hawlio’r Lwfans Cyflogaeth newydd – os nad ydych eisoes wedi defnyddio Offer TWE Sylfaenol, dilynwch y camau canlynol:

Dechrau arni
Cam 7 – anfon yr wybodaeth i CThEM

I gyfrifo’ch lwfans yr Ardoll Brentisiaethau, dilynwch y camau canlynol:

Cam 6 – yr Ardoll Brentisiaethau – cyfrifo a rhoi gwybod am y lwfans ardoll
Cam 7 – anfon yr wybodaeth i CThEM

Cam 1: dewis y cyflogai a’r flwyddyn dreth gywir

O’r ‘Hafan’, dewiswch y cyflogwr cywir o’r rhestr cyflogwyr.

Bydd hyn yn mynd â chi i’r sgrin ‘Manylion y cyflogwr’ fel y dangosir isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y flwyddyn dreth gywir ar frig y sgrin.

Rhaid i hyn ddangos y flwyddyn dreth yr ydych am gyflawni tasgau ynddi, megis anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr.

Os yw’n berthnasol, ewch yn ôl i Enghreifftiau o sefyllfaoedd a chyfarwyddiadau penodol.

Cam 2: Sut i hawlio swm adenilladwy

Ar ddiwedd y mis treth

Mae mis treth yn cwmpasu’r cyfnod o’r 6ed o un mis i’r 5ed o’r mis nesaf.

Ar ôl i chi dalu’r cyflogau staff diwethaf bob mis treth, ond cyn y 19eg o’r mis nesaf, bydd yn rhaid i chi ddilyn y camau nesaf.

Cyfrifo symiau adenilladwy ar gyfer y mis treth

Symiau adenilladwy

Efallai y bydd modd i chi leihau’r swm sy’n daladwy i CThEM ar gyfer y canlynol:

  • Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) a adenillwyd, ac mae’n bosibl y bydd iawndal yn ddyledus
  • Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) a adenillwyd, ac mae’n bosibl y bydd iawndal yn ddyledus
  • Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) a adenillwyd, ac mae’n bosibl y bydd iawndal yn ddyledus
  • Tâl ar y Cyd i Rieni (ShPP) a adenillwyd, ac mae’n bosibl y bydd iawndal yn ddyledus
  • didyniadau CIS a gymerwyd o’ch taliadau fel isgontractwr os yw’ch busnes yn gwmni cyfyngedig
  • Mae Tâl ar y cyd i Rieni mewn Profedigaeth (SPBP) wedi’i adennill, ac mae’n bosibl y bydd iawndal yn ddyledus.

Cyfrifo faint sy’n adenilladwy

Os gwnaethoch dalu unrhyw daliadau SMP, SAP, SPP, ShPP neu SPBP i staff yn ystod y mis treth, gallwch ddefnyddio’r cyfrifianellau perthnasol i gyfrifo faint o’r taliad statudol y gallwch ei adennill a hefyd, swm unrhyw iawndal. Gwnewch nodyn o unrhyw symiau.

Gellir dod o hyd i’r holl gyfrifianellau yn Offer TWE Sylfaenol gan ddefnyddio’r cysylltiad ‘Cyfrifianellau’ ar frig y sgrin.

Nodi symiau adenilladwy

O’r sgrin ‘Trosolwg o’r Cyflogwr’, dewiswch y cysylltiad ʽCrynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy’ o’r ddewislen.

Dewiswch y cysylltiad ‘Ychwanegu swm adenilladwy’ o’r ddewislen.

Nodwch y ‘Dyddiad adennill’. Rydym yn argymell eich bod yn nodi’r diwrnod olaf yn y mis treth pan dalwyd cyflogau ynghyd â’r cyfanswm ar gyfer pob swm adenilladwy sy’n berthnasol i’r mis treth hwnnw.

Rhaid i’r dyddiad a nodir yma fod ar ôl unrhyw ddyddiad adennill a nodwyd eisoes.

Llenwch y blychau fel sy’n briodol a dewiswch ʽNesaf’.

Os ydych yn hawlio gostyngiad yn nidyniadau CIS, gwnewch yn siŵr eich bod ond yn nodi didyniadau a wnaed o incwm y cwmni cyfyngedig fel isgontractwr ac nid didyniadau a wnaed o’i isgontractwyr ei hun.

Mae hyn yn mynd â chi yn ôl i’r sgrin ‘Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy’, sydd nawr wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r symiau adenilladwy yr ydych newydd eu nodi.

Mae ‘cyflwyniadau heb eu gwneud’ nawr yn dangos (1) am fod nodi’r symiau adenilladwy wedi creu EPS. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno yng Ngham 7 – anfon yr wybodaeth i CThEM.

Mae EPS wedi’i greu ac mae’n bwysig eich bod yn ei anfon yn ddi-oed. Tan eich bod yn anfon yr EPS, ni fyddwch wedi hawlio rhyddhad ar gyfer y symiau adenilladwy. Mae hyn yn golygu y bydd CThEM yn disgwyl i chi dalu swm llawn y didyniadau (treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a didyniadau benthyciad myfyriwr) a ddangosir ar y Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS).

Nawr, ewch i Gam 7 – anfon yr wybodaeth i CThEM.

Os ydych yn cyflwyno EPS ar ôl y 19eg o’r mis

Ni chymerir yr EPS i ystyriaeth ar gyfer y cyfnod hwnnw a bydd yn rhaid i chi dalu’r swm llawn sy’n ddyledus o’ch FPS. Pan fydd yr EPS yn dod i law, bydd yn cael ei ystyried yn erbyn y cyfnod nesaf.

Sut i ddiwygio’r symiau adenilladwy

Os ydych yn gwneud camgymeriad, er enghraifft, rydych yn nodi’r swm adenilladwy anghywir ar gyfer mis un, gallwch newid y swm.

O’r ‘Hafan’, gwnewch y canlynol:

  • dewis y cyflogwr o’r rhestr ‘Cyflogwr’
  • dewis y cysylltiad ‘Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy’ o’r ddewislen
  • o’r tabl yng nghanol y sgrin, dewis ‘Newid’ ar gyfer y mis treth y gwnaethoch gamgymeriad ynddo – peidiwch â dewis ‘Dileu’
  • diwygio’r symiau gan nodi’r swm cywir ar gyfer y mis treth hwnnw, a dewis ‘Nesaf’
  • mae hyn yn mynd â chi yn ôl i’r ‘Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr’ sydd bellach wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r swm adenilladwy yr ydych newydd ei nodi

Nawr, ewch i Gam 7 – anfon yr wybodaeth i CThEM ac anfonwch yr wybodaeth ddiwygiedig i CThEM.

Cam 3: rhoi gwybod i CThEM na wnaethoch dalu unrhyw gyflogau staff o fewn mis treth cyfan

Rhaid i chi anfon FPS bob tro eich bod yn talu eich cyflogeion.

Os nad ydych yn talu unrhyw gyflogeion yn ystod mis treth cyfan (o’r 6ed o fis calendr i’r 5ed o’r mis canlynol), ni fydd CThEM yn gwybod hynny a bydd yn dal i ddisgwyl i chi gyflwyno FPS.

Os nad yw CThEM yn cael FPS sy’n cwmpasu unrhyw ran o fis treth cyfan, efallai y bydd yn anfon gorchymyn am swm penodol atoch. Gall CThEM gyfrifo swm amcangyfrifedig a all fod arnoch ar sail taliadau neu ffurflenni treth blaenorol.

I osgoi hyn, bydd yn rhaid i chi ‘Ychwanegu cyfnod heb unrhyw daliadau i gyflogeion’, wedyn anfon EPS. Mae hyn yn disodli’r ‘Dim slip talu’.

Awgrym

Gallwch roi gwybod am unrhyw daliadau na wnaed i gyflogeion ar gyfer y canlynol:

  • mis treth sydd eisoes wedi dod i ben
  • y mis treth presennol
  • un mis treth cyfan neu fwy yn y dyfodol, hyd at uchafswm o 6 mis, ond rhaid i’r dyddiad dechrau fod yn ddyddiad cyntaf y mis treth nesaf

Er enghraifft, ar 15 Tachwedd, gallwch gyflwyno EPS ‘Dim Taliad’ ar gyfer y cyfnod, 6 Rhagfyr i 5 Ionawr. Ni allwch gyflwyno EPS ‘Dim Taliad’ ar gyfer y cyfnod, 6 Ionawr i 5 Chwefror.

O’r sgrin ‘Manylion y Cyflogwr’, dewiswch y cysylltiad ‘Cyfnodau heb unrhyw daliadau i gyflogeion’ o’r ddewislen.

O’r ddewislen, dewiswch y cysylltiad ‘Ychwanegu cyfnod heb unrhyw daliadau i gyflogeion’.

Nodwch y dyddiadau dechrau a gorffen.

Symudwch drwy’r sgriniau drwy ddewis ‘Nesaf’.

Mae’n rhaid i’r EPS gael ei gyflwyno i CThEM erbyn y 19eg o’r mis ar ôl diwedd y mis treth.

Nawr, ewch i Gam 7 – Anfon yr wybodaeth i CThEM.

Cam 4: cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth

Ar ôl i chi dalu’r cyflogau olaf ar gyfer y flwyddyn dreth, dylech anfon y cyflwyniad terfynol ar gyfer datganiad y flwyddyn dreth.

O’r sgrin ‘Manylion y Cyflogwr’, gwnewch y canlynol:

  • gwneud yn siŵr eich bod wedi dewis y flwyddyn dreth gywir ar frig y dudalen – os ydych am anfon y cyflwyniad terfynol ar gyfer 2019 i 2020, rhaid i chi ddewis y flwyddyn dreth 2019 i 2020 yn gyntaf
  • dewis y cysylltiad ‘Cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth’ o’r ddewislen

O’r ddewislen, dewiswch y cysylltiad ‘Cwblhau’r cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth’.

Ticiwch ‘Ai hwn yw eich cyflwyniad terfynol?’ a dewiswch ‘Nesaf’. Bydd y cam hwn yn creu ‘Cyflwyniad heb ei wneud’.

Nawr, ewch i Gam 7 – Anfon yr wybodaeth i CThEM ac anfonwch yr wybodaeth i CThEM.

Os yw’n berthnasol, ewch yn ôl i Enghreifftiau o sefyllfaoedd a chyfarwyddiadau penodol.

Cam 5: hawlio’r Lwfans Cyflogaeth

O fis Ebrill 2014 ymlaen, mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr wedi gallu hawlio Lwfans Cyflogaeth, erbyn hyn, dyletswydd pob cyflogwr yw gwirio a yw’n gymwys i hawlio’r lwfans hwn, cyn iddo wneud hawliad. Mae rhagor o arweiniad ynghylch cymhwystra i’w weld ar wefan GOV.UK

Hefyd, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol y byddwch yn gorfod hawlio’r lwfans hwn yn flynyddol o fis Ebrill 2020 ymlaen oherwydd na fydd yn cael ei gario ymlaen yn ddiddiwedd fel yr oedd yn y gorffennol.

Pan fyddwch yn actifadu blwyddyn dreth newydd yn BPT, cyflwynir y sgrin ganlynol i chi:

Mae’r sgrin newydd hon yn cynnwys neges o rybudd (a nodir gan driongl oren) sy’n rhoi gwybod i chi nad ydych wedi ‘dynodi a ydych yn gymwys i hawlio Lwfans Cyflogaeth ac am wneud hynny’. Mae hefyd yn eich cyfeirio at y cysylltiad Lwfans Cyflogaeth yn adran y ddewislen ar ochr chwith y sgrin. Pan ddewisir y cysylltiad hwn, bydd sgrin newydd yn ymddangos, fel y dangosir:

Mae’r sgrin hon yn esbonio’r meini prawf cymhwystra newydd y mae’n rhaid eu gwirio cyn hawlio’r Lwfans Cyflogaeth, ac mae’n cynnwys cysylltiad i ganllaw ar GOV.UK sy’n esbonio’n fanylach. Mae hefyd yn rhoi gwybod i chi y byddwch yn gorfod hawlio’r lwfans hwn yn flynyddol o fis Ebrill 2020 ymlaen oherwydd na fydd yn cael ei gario ymlaen yn ddiddiwedd fel yr oedd yn y gorffennol.

Pan fyddwch wedi darllen yr wybodaeth ar y sgrin, dewiswch ‘Nesaf’ i’ch galluogi i symud ymlaen yn y broses.

Mae’r sgrin ganlynol yn cynnwys sawl cwestiwn newydd i’ch galluogi i gadarnhau eich bod yn gynnwys i hawlio Lwfans Cyflogaeth ar gyfer y flwyddyn dan sylw.

Dylid dewis ‘Nid yw rheolau Cymorth Gwladwriaethol yn berthnasol’ dim ond pan nad yw busnes yn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd economaidd. Er enghraifft, mae’n bosibl na fydd rhai elusennau, clybiau chwaraeon amatur cymunedol, neu berson sy’n cyflogi rhywun i ddarparu gofal personol, yn cymryd rhan mewn gweithgarwch economaidd, ac felly byddant yn syrthio y tu allan i reolau Cymorth Gwladwriaethol De Minimis. Enghraifft o hyn fyddai elusen addysgiadol fach, sy’n cyflogi staff i ddysgu Saesneg fel ail iaith yn rhad ac am ddim yn y gymuned leol. Mae’r cyflogwyr hyn yn gymwys ar gyfer y lwfans o hyd, ond ni fydd y lwfans yn cael ei ystyried yn Gymorth Gwladwriaethol De Minimis o dan yr amgylchiadau hyn.

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr eraill yn ymgymryd â gweithgaredd economaidd, felly mae rheolau Cymorth Gwladwriaethol De Minimis yn berthnasol, a dylent ddewis o leiaf un o’r pedwar sector busnes Cymorth Gwladwriaethol De Minimis wrth hawlio Lwfans Cyflogaeth:

  1. Amaethyddiaeth
  2. Dyframaeth a Physgodfeydd
  3. Cludo llwythi ar y ffyrdd
  4. Diwydiannol ac Arall ar gyfer popeth arall – gall enghreifftiau o’r mathau o fusnesau sy’n dewis yr opsiwn hwn gynnwys gwasanaethau neu gyfleustodau, marchnata, gweithgynhyrchu. Byddai salon gwallt neu fwyty, er enghraifft, yn dod o dan y sector hwn oherwydd eu bod yn cynnig nwyddau a gwasanaethau.

Mae’n rhaid i chi nawr gwblhau pob adran ar y sgrin hon, gan ddilyn yr arweiniad uchod cyn ceisio symud ymlaen. Ar ôl ei gwblhau, dewiswch ‘Nesaf’.

Nawr, ewch i Gam 7 – Anfon yr wybodaeth i CThEM, ac anfonwch yr wybodaeth i CThEM.

Cam 6: yr Ardoll Brentisiaethau – cyfrifo a rhoi gwybod am y lwfans ardoll

Yr Ardoll Brentisiaethau

O 6 Ebrill 2017 ymlaen ac yn sgil cyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau, newidiodd y ffordd y mae’r llywodraeth yn ariannu prentisiaethau yn Lloegr.

Dim ond cyflogwyr sydd â biliau cyflog blynyddol dros £3 miliwn, (a rhai cwmnïau ac elusennau cysylltiedig sydd â biliau cyflog o dan y swm hwn), sydd yn rhaid talu’r Ardoll Brentisiaethau.

Os ydych yn gyflogwr (ac nid ydych yn gysylltiedig â chwmnïau nac elusennau eraill) ac mae eich bil cyflog blynyddol yn llai na £3 miliwn bob blwyddyn, does dim angen gweithredu.

At ddibenion yr ardoll, ‘cyflogwr’ yw rhywun sy’n gyfrannwr eilaidd, hynny yw, rhywun sy’n agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Eilaidd ar enillion ei gyflogeion.

Codir yr ardoll ar gyfradd o 0.5% o’ch bil cyflog blynyddol. Mae gennych lwfans ardoll o £15,000 bob blwyddyn i’w osod yn erbyn yr ardoll y mae’n rhaid i chi’i thalu (yn amodol ar y rheolau o ran cwmnïau cysylltiedig ac elusennau cysylltiedig). Bydd hyn yn golygu y byddwch ond yn talu’r ardoll os yw’ch bil cyflog yn fwy na £3 miliwn mewn unrhyw flwyddyn. Mae’r ardoll ond yn daladwy ar falans eich bil cyflog dros £3 miliwn.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch Ariannu prentisiaethau: sut mae’n gweithio.

Sut i roi gwybod am yr ardoll

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEM am eich rhwymedigaeth i dalu’r ardoll os:

  • rydych yn credu y bydd eich bil cyflog dros £3 miliwn ym mlwyddyn dreth 2021 i 2022
  • rydych yn gwmni neu’n elusen sy’n gysylltiedig â chwmnïau ac elusennau eraill o fewn grŵp ac rydych wedi rhannu’r lwfans ardoll gwerth £15,000 ar draws y grŵp, ac mae dosraniad eich lwfans yn golygu eich bod yn gwybod y bydd gennych rwymedigaeth i dalu’r ardoll ym mlwyddyn dreth 2021 i 2022

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i CThEM am eich rhwymedigaeth i dalu’r Ardoll Brentisiaethau bob mis. Mae Offer TWE Sylfaenol wedi’i ddiweddaru i gynnwys yr wybodaeth y bydd angen i chi ei chwblhau ynghylch yr Ardoll Brentisiaethau.

Mae’r 3 maes fel a ganlyn:

  • Yr Ardoll Brentisiaethau sy’n ddyledus ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn
  • mis treth
  • swm lwfans blynyddol yr Ardoll Brentisiaethau

Mae Offer TWE Sylfaenol wedi’i ddiweddaru i’ch helpu i gyfrifo’ch rhwymedigaeth i dalu’r ardoll ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn.

Fel arall, gallwch gyfrifo’r Ardoll Brentisiaethau â llaw, a dim ond defnyddio Offer TWE Sylfaenol i roi gwybod i CThEM am eich Ardoll Brentisiaethau, drwy lenwi’r 3 maes perthnasol.

I ddechrau’r broses o gyfrifo’r Ardoll Brentisiaethau, dewiswch y gyfrifiannell ‘Yr Ardoll Brentisiaethau’ o’r ddewislen ar ochr chwith y sgrin ‘Manylion y cyflogwr’.

Bydd y sgrin ganlynol yn ymddangos a gofynnir i chi p’un a ydych am ddyrannu swm llawn y lwfans ardoll, sef £15,000.00, i’r cynllun hwn.

Bydd y sgrin ganlynol yn ymddangos.

Dewiswch ‘Ychwanegu cyfrifiad ardoll brentisiaethau am y cyfnod’ i fynd â chi i’r dudalen gyfrifo ar Offer TWE Sylfaenol.

At ddibenion yr ardoll, bil cyflog cyflogwr yw pob un o enillion y cyflogai sy’n agored i CYG Dosbarth 1 Eilaidd. Mae hyn hefyd yn cynnwys yr holl enillion sy’n is na’r trothwy eilaidd.

Mae’r bil cyflog hefyd yn cynnwys enillion cyflogeion o dan 21 a phrentisiaid o dan 25 oed. Nid yw’n cynnwys unrhyw enillion lle nad yw cyflogwr yn agored i dalu CYG Dosbarth 1 Eilaidd.

Ni ddylai ffigur y bil cyflog gynnwys y canlynol:

  • enillion cyflogeion sydd o dan 16 oed
  • enillion cyflogeion nad ydynt yn agored i ddeddfwriaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU
  • unrhyw daliad nad yw’n cael ei ystyried yn enillion at ddibenion cyfraniadau Yswiriant Gwladol, neu’n cael ei ddiystyru’n swyddogol, er enghraifft, taliadau pensiwn nad ydynt yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • buddiannau sy’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A
  • taliadau i gyflogeion sy’n gweithio dramor ac yn gwneud cyfraniadau cyflogai yn unig

Dylech wneud a chyflwyno’r cyfrifiad bob mis ynghyd â’ch FPS.

Pan fydd eich cyfrifiad wedi’i gwblhau, gallwch fwrw golwg ar grynodeb o’r Ardoll Brentisiaethau fel y nodir isod.

Wedyn, gellir bwrw golwg ar adroddiad blynyddol yr Ardoll Brentisiaethau.

Sgrin i’w gweld yn unig yw hon, a hynny er gwybodaeth yn unig.

Mae’r sgrin isod yn dangos holl gofnodion cyfrifo’r Ardoll Brentisiaethau ar gyfer y cyflogwr a ddewiswyd. O yma, gallwch wneud y canlynol:

  • ychwanegu cofnod o gyfrifo Ardoll Brentisiaethau
  • bwrw golwg ar adroddiad yr Ardoll Brentisiaethau
  • golygu swm blynyddol yr Ardoll Brentisiaethau
  • golygu cofnod unigol o gyfrifo’r Ardoll Brentisiaethau
  • dileu cofnod unigol o gyfrifo’r Ardoll Brentisiaethau
  • nodi cofnod o gyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau

Cam 7: anfon yr wybodaeth i CThEM

O’r hafan, gwnewch y canlynol:

  • dewis y cyflogwr o’r rhestr ‘Cyflogwr’
  • dewis y cysylltiad ‘Cyflwyniadau heb eu gwneud’ o’r ddewislen – byddwch yn gweld bod data i’w gyflwyno
  • dewis y cysylltiad ‘Anfon pob cyflwyniad heb ei wneud’ o’r ddewislen

Ar y sgrin ddilynol, dewiswch ‘Nesaf’.

Byddwch wedyn yn gweld y sgrin ‘Dilysu cyflwyniad’ lle y bydd rhaid i chi nodi eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch Cyfrinair. Nodwch y rhain ac wedyn dewis ‘Nesaf’.

Yr enw arall ar y rhain yw Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth.

Mae’r sgrin nesaf yn dangos bod y neges yn y broses o gael ei hanfon i Borth y Llywodraeth.

Dylech wedyn gael y neges ganlynol sy’n cadarnhau bod y cyflwyniad wedi bod yn llwyddiannus

Rhoi gwybod yn flynyddol a thasgau

Pryd i anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS)

Dylech anfon eich adroddiad terfynol mewn EPS yn hytrach nag FPS os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • gwnaethoch anghofio rhoi ‘Iawn’ yn y maes ‘Cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn’ yn yr FPS diwethaf, ond bydd Offer TWE Sylfaenol yn caniatáu i chi gyflwyno FPS ychwanegol, os yw cyn 19 Ebrill
  • ni wnaethoch dalu unrhyw un yn ystod cyfnod cyflog terfynol y flwyddyn dreth
  • gwnaethoch anfon eich FPS terfynol yn gynnar ac ni wnaethoch dalu unrhyw un am un mis treth cyfan neu fwy, yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf