Gofyn am ganiatâd i wneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig ar ran rhywun arall: Ffurflen DA2
Defnyddiwch y ffurflen hon i ofyn i lys teulu am ganiatâd i wneud cais ar ran unigolyn arall sydd angen eu diogelu rhag cam-drin domestig, neu’r risg o gam-drin domestig.
Yn berthnasol i Loegr
Dogfennau
Manylion
Rhaid i chi ddarllen y canllawiau ar wneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig yn y llys teulu cyn llenwi’r ffurflen hon.
Pwy all wneud cais
Gallwch ond wneud cais os yw’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn:
- Manceinion Fwyaf
- bwrdeistrefi Croydon, Bromley neu Sutton yn Llundain
- Hartlepool, Middlesbrough, Redcar, Cleveland a Stockton-on-Tees
- Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam)
Mae’r broses gwneud cais yn wahanol os oes gennych achos sifil parhaus yn y llys sirol gyda’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt.
Darllen y canllawiau ar gyfer gwneud cais am DAPO mewn llys sirol
Ble i wneud cais
Dim ond yn y llysoedd teulu canlynol y gallwch wneud cais:
Os yw’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn Sutton, gallwch wneud cais naill ai yn Croydon neu Bromley.
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho dogfennau yn eich galluogi i wneud fwy o bethau, megis argraffu’r ddogfen.
Mae Adobe Reader yn feddalwedd rhad ac am ddim y gallwch ei ddefnyddio gyda dogfennau PDF. Gallwch ei ddefnyddio i’ch galluogi i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru i gael y treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
- Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
- Cliciwch botwm dde y llygoden ar ddolen y ffurflen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
- Cadwch y ffurflen (yn eich ffolder ‘dogfennau’, er enghraifft).
- Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen sydd wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch ag ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk.
Os oes arnoch angen fersiwn wedi’i argraffu o’r ffurflen cysylltwch â’ch llys lleol.
Dewch o hyd i fwy o ffurflenni llys a thribiwnlys yn ôl categori.
Dysgwch sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn defnyddio gwybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.
Updates to this page
-
Added new areas and courts that are participating in the pilot. Added a Welsh version of the landing page and form.
-
Added new areas to the 'Who can apply' section.
-
Added a new area and county court that you can apply to.
-
First published.