Cais i ymestyn cafeat ar grant cynrychiolaeth: Ffurflen PA8B
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais i ymestyn eich cais i atal cais am brofiant (a elwir yn gafeat).
Dogfennau
Manylion
Gallwch wneud cais i ymestyn eich cais i atal cais am brofiant a elwir hefyd yn gafeat.
Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais os ydych chi dros 18 oed a:
- chi yw’r sawl a gyflwynodd y cafeat gwreiddiol
- chi yw’r ymarferydd profiant a benodwyd gan y sawl a gyflwynodd y cafeat gwreiddiol
Ffi
Mae’n costio £3 i ymestyn cais am 6 mis.
Sut i wneud cais
Rhaid i chi wneud cais drwy’r post. Dim ond os yw eich cafeat gwreiddiol i fod i ddod i ben o fewn mis y gallwch wneud cais.
I wneud cais drwy’r post:
- Llwythwch y ffurflen i lawr.
- Llenwch yr holl adrannau.
- Argraffwch y ffurflen.
- Llenwch y ffurflen a’i dyddio.
- Talwch y ffi ymgeisio o £3 drwy anfon siec yn daladwy i ‘Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF gyda’ch ffurflen.
- Dychwelwch eich ffurflen ar ôl ei llenwi i:
HMCTS Probate
PO Box12625
Harlow
CM20 9QE
Cysylltwch â ni
Os oes angen help arnoch wrth lenwi’r ffurflen hon, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth profiant.
Llinell gymorth profiant
Ffôn: 0300 303 0648
Dydd Llun i Dydd Gwener, 9am i 1pm
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
- Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
- Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
- Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
- Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.
Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.
Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 February 2024 + show all updates
-
Updated the probate helpline opening times.
-
Updated phone line opening times
-
Added translation