Sut i wneud cais i ymestyn cafeat ar grant cynrychiolaeth
Diweddarwyd 13 Tachwedd 2024
Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais i ymestyn eich cais i atal cais am brofiant (a elwir hefyd yn cafeat):
- os ydych dros 18 oed
- chi yw’r sawl a gyflwynodd y cafeat gwreiddiol
- chi yw’r ymarferydd profiant a benodwyd gan y sawl a gyflwynodd y cafeat gwreiddiol
Ffi
Mae’n costio £3 i ymestyn cais am 6 mis.
Sut i wneud cais
Os mai chi yw’r unigolyn a gyflwynodd y cafeat gwreiddiol, rhaid i chi wneud cais drwy’r post.
Os ydych yn ymarferydd profiant, gallwch wneud cais drwy’r post neu drwy e-bost.
Dim ond os yw’r cafeat gwreiddiol yn dod i ben o fewn mis y gallwch wneud cais.
Gwneud cais drwy’r post
- Lawrlwythwch y ffurflen.
- Llenwch yr holl adrannau.
- Argraffwch y ffurflen.
- Llofnodwch a dyddiwch y ffurflen.
- Talwch y ffi gwneud cais o £3 drwy anfon siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’ gyda’ch ffurflen.
- Anfonwch eich ffurflen i:
Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA
Gwneud cais drwy e-bost fel ymarferydd profiant
- Lawrlwythwch y ffurflen.
- Llenwch yr holl adrannau.
- Llofnodwch a dyddiwch y ffurflen.
- Talwch y ffi gwneud cais o £3 gan ddefnyddio Trosglwyddiad Cyfrif.
- Anfonwch y ffurflen drwy e-bost i leedsdprenquiries@justice.gov.uk.
Cysylltu â ni
Os oes angen help arnoch wrth lenwi’r ffurflen hon, gallwch gysylltu â llinell gymorth profiant.
Llinell gymorth profiant
Rhif ffôn: 0300 303 0648
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 1pm
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc