Ffurflen

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau EF (SSCS5A)

Diweddarwyd 5 March 2024

Applies to England, Scotland and Wales

1. Ynglŷn â’r cyfarwyddyd hwn

Bwriad y cyfarwyddyd hwn yw eich helpu i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC).

Mae ‘apêl’ yn golygu gwneud cais i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) am ddyfarniad annibynnol ynghylch a yw penderfyniad a wnaed gan HMRC yn gywir ai peidio.

Gall eich apêl gael ei hystyried gan dribiwnlys sy’n rhan o’r system llysoedd a thribiwnlysoedd sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch hawliau pobl. Mae’r tribiwnlys yn delio ag anghydfodau ynghylch:

  • credydau treth
  • budd-dal plant
  • lwfans gwarcheidwad
  • gofal plant di-dreth
  • 30 awr o ofal plant am ddim
  • isafswm pensiwn gwarantedig
  • diogelwch cyfrifoldebau cartref
  • credydau yswiriant gwladol

Yn y mwyafrif o achosion, mae’n gwneud penderfyniad annibynnol ar apeliadau mewn gwrandawiad.

Cyn y gallwch apelio i’r tribiwnlys, mae’n rhaid ichi yn gyntaf ofyn i’r penderfyniad am eich budd-dal gael ei ailystyried. Gelwir hyn yn ‘gorfodi i ailystyried’.

Os ydych wedyn yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad am un o’r mathau hyn o fudd-daliadau, dylech lenwi ffurflen SSCS5.

2. Beth i’w ystyried

Cewch apelio os oes gennych hawl i apelio dan y gyfraith yn unig. Nid oes gennych hawl i apelio yn erbyn pob penderfyniad. Pan fyddwch yn cael llythyr swyddogol gyda’r penderfyniad, mae’n rhaid iddo ddweud a oes gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad ai peidio. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol a roddir ar HMRC.

I’ch cynorthwyo:

  • mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch a oes gennych hawl i gredyd treth, budd-dal plant, lwfans gwarcheidwad, gofal plant di-dreth neu 30 awr o ofal plant am ddim, isafswm pensiwn gwarantedig, diogelwch cyfrifoldebau cartref neu gredydau yswiriant gwladol ac os felly, faint
  • nid oes gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau am faterion gweinyddol, megis adennill gordaliad

Os yw’r llythyr penderfyniad yn dweud nad oes gennych hawl i apelio, ond eich bod chi’n credu bod HMRC wedi gwneud camgymeriad ac y dylai fod gennych hawl i apelio, gallwch anfon eich apêl atom a chael dyfarniad cyfreithiol ynghylch a oes hawl cyfreithiol i wrando eich achos ai peidio. Efallai yr hoffech drafod y mater hwn gyda HMRC yn gyntaf.

Mae’n rhaid ichi nodi’n glir yn sail eich apêl eich bod yn credu bod gennych hawl i apelio ac egluro pam. Bydd hyn yn ein galluogi i adnabod y pwynt rydych yn anghytuno yn ei gylch a chymryd y camau angenrheidiol. Os yw’r tribiwnlys yn dyfarnu bod gennych hawl i apelio, gall yr apêl barhau.

Ond, os yw’r tribiwnlys yn dyfarnu nad oes gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw (hynny yw, bod eich apêl ‘allan o awdurdodaeth’), bydd eich apêl yn dod i ben. Mae’r mathau hyn o achosion yn anghyffredin, a byddai’n well i chi gael cyngor gan rywun sydd â dealltwriaeth neu brofiad i wneud yn siŵr eich bod yn gywir.

A ddylech apelio

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn ymwneud â sut i apelio. Ni all ddweud wrthych a oes gennych achos da ai peidio. Bydd ein staff yn hapus i helpu ag ymholiadau dros y ffôn neu e-bost ynghylch eich apêl wrth iddi fynd drwy’r broses. Fodd bynnag, ni allant roi eu barn ynghylch a ydych yn debygol o ennill neu golli, neu a ddylech gymryd cam penodol ai peidio. Rhywbeth i chi benderfynu yn ei gylch yw hynny.

Efallai y bydd modd i chi gael cyngor ynghylch a oes gennych achos da ai peidio gan:

  • Cyngor ar Bopeth
  • gwasanaeth hawliau lles
  • canolfan gynghori
  • canolfan y gyfraith
  • cyfreithiwr
  • undeb llafur

Efallai y bydd rhai ohonynt yn fodlon eich helpu i baratoi eich achos a dod i’r gwrandawiad tribiwnlys gyda chi. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ffynonellau cymorth gan wasanaethau gwybodaeth eich cyngor lleol neu ar-lein.

Bydd llawer o’r bobl sy’n gwneud apêl yn dewis cael cyngor a chymorth proffesiynol. Os ydych yn penderfynu gofyn am gyngor, gwnewch hynny cyn gynted â phosib h.y. pan fyddwch yn ystyried apelio. Peidiwch ag aros nes bydd eich apêl wedi cychwyn.

Os bydd oedi cyn ichi gael cyngor, er enghraifft oherwydd ni allwch gael apwyntiad yn syth, cymerwch sylw o’r terfyn amser ar gyfer apelio. Os yw’r terfyn amser bron â dod i ben, ni ddylech ddisgwyl tan ichi gael cyngor cyn gwneud apêl. Wrth ystyried apelio neu beidio, mae angen ichi wybod hefyd beth all ac ni all y tribiwnlys ei wneud ichi.

Nid oes gan dribiwnlysoedd bwerau diderfyn - gallant ond wneud yr hyn y mae’r gyfraith yn caniatáu iddynt ei wneud. Gall y tribiwnlys roi’r penderfyniad y maent yn tybio oedd y penderfyniad cywir i’w wneud ar y pryd yn lle’r penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn.

Ni all y tribiwnlys:

  • newid y gyfraith - mae’n rhaid iddo weithredu’r gyfraith fel y mae, hyd yn oed os yw hynny’n arwain at ganlyniad sy’n annheg yn eich barn chi
  • delio â chwynion gweinyddol, megis oedi neu ddiffyg cwrteisi - os ydych yn credu eich bod wedi cael gwasanaeth gwael gan HMRC, dylech gysylltu â’u gwasanaeth cwsmeriaid nhw

3. Gwneud eich apêl

Mae’r gyfraith yn cynnwys rheolau penodol ynghylch apeliadau a gallwn ond dderbyn eich apêl os yw’n bodloni’r meini prawf cyfreithiol hyn. Rhaid i’ch apêl:

  • fod yn ysgrifenedig
  • bod wedi’i hysgrifennu yn Gymraeg neu’n Saesneg
  • cynnwys copi o unrhyw hysbysiad gorfodi i ailystyried
  • rhoi rhesymau dros yr apêl
  • fod wedi’i llofnodi gennych chi, oni bai fod HMRC neu lys wedi penodi rhywun arall i weithredu ar eich rhan

Os nad yw eich apêl yn bodloni’r meini prawf hyn, efallai y bydd rhaid i ni ei dychwelyd i chi. Efallai na fyddwn yn gallu ystyried eich apêl oni bai eich bod yn darparu’r manylion hyn.

Bydd arnoch angen dweud wrthym beth yw dyddiad eich llythyr gorfodi i ailystyried (rhan 2 o ffurflen SSCS5) a chynnwys copi o’ch hysbysiad gorfodi i ailystyried pan fyddwch yn anfon eich ffurflen apelio atom.

Oherwydd y gofyniad cyfreithiol i gynnwys gwybodaeth benodol, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio ffurflen apêl SSCS5 i wneud eich apêl.

Mae’r ffurflen yn eich helpu i gasglu’r wybodaeth berthnasol ac mae’n cynnwys rhestr wirio fer i’ch cynorthwyo.

Mae’r ffurflen hefyd yn gofyn cwestiynau ichi ynghylch pa fath o wrandawiad yr hoffech, unrhyw ddyddiadau yr hoffech i ni eu hosgoi ac a oes gennych unrhyw anghenion arbennig.

Os byddai’n well gennych, cewch wneud eich apêl drwy ysgrifennu llythyr yn unig. Fodd bynnag, byddwch mewn risg o adael allan rhywfaint o’r wybodaeth sy’n ofynnol dan y gyfraith. Hefyd, efallai y bydd rhaid i ni ysgrifennu atoch i ofyn am eich gofynion o ran y gwrandawiad a’r dyddiadau rydych ar gael, a byddai hyn yn achosi oedi yn y broses. Os ydych eisiau gwneud apêl drwy ysgrifennu eich llythyr eich hun, defnyddiwch y ffurflen apêl fel arweiniad a rhowch yr holl wybodaeth y mae’r ffurflen apêl yn gofyn amdani yn eich llythyr chi.

Terfynau amser

Mae gennych un mis calendr i apelio, yn cychwyn o’r dyddiad rydych yn cael eich Hysbysiad Gorfodi i Ailystyried.

Ni ystyrir bod eich apêl wedi’i chyflwyno hyd nes y bydd wedi ein cyrraedd ni. Er enghraifft, os anfonwyd y llythyr penderfyniad atoch ar 15 Mawrth, rhaid i’ch apêl ein cyrraedd ni erbyn 15 Ebrill.

Os yw’r terfyn amser wedi mynd heibio, rhaid ichi esbonio pam bod yr apêl yn hwyr. Os na fyddwch yn gwneud hyn, efallai y bydd eich apêl yn cael ei dychwelyd i chi. Mae yna adran ar y ffurflen apêl lle gallwch roi rhesymau dros anfon yr apêl yn hwyr.

Os yw’r terfyn amser ar fin dod i ben, efallai y bydd eich apêl yn hwyr erbyn iddi ein cyrraedd ni, hyd yn oed os nad yw’n hwyr ar y diwrnod yr ydych yn ei phostio.

Os na fydd HMRC yn gwrthwynebu’r rhesymau dros anfon yr apêl yn hwyr, yn gyffredinol bydd yr apêl yn mynd rhagddi fel petai wedi cyrraedd mewn pryd. Byddwn yn ysgrifennu atoch os bydd HMRC yn gwrthwynebu’r ffaith fod eich apêl yn hwyr.

Y ffurflen apêl

Mae mathau gwahanol o ffurflenni apelio yn dibynnu ar y math o benderfyniad budd-dal yr ydych yn apelio yn ei erbyn. I apelio yn erbyn penderfyniad HMRC, mae’n rhaid ichi lawrlwytho a llenwi ffurflen SSCS5.

4. Llenwi ffurflen SSCS5

Ni ellir cyflwyno apeliadau HMRC ar-lein. Bydd angen i chi lawrlwytho ffurflen SSCS5.

Bydd angen ichi hefyd:

  • ddweud wrthym dyddiad eich llythyr penderfyniad - a elwir yn llythyr ‘gorfodi i ailystyried’
  • cynnwys copi o’ch hysbysiad gorfodi i ailystyried

Nid oes angen i bawb lenwi pob rhan o’r ffurflen. Mae gan bobl sy’n gwneud apeliadau wahanol amgylchiadau, felly efallai mai dim ond rhai rhannau o’r ffurflen y bydd angen ichi eu llenwi.

Fodd bynnag, rhaid i bawb lenwi adran 1, 2, 5, 6, 6a, a 9 o’r ffurflen SSCS5. Dylech ddefnyddio inc du i lenwi’r ffurflen gan y bydd angen i ni ei sganio a’i hanfon i HMRC. Nid yw inc lliw nad yw’n ddu, yn dangos yn dda mewn sganiau a llungopïau.

Dylech hefyd ddefnyddio PRIFLYTHRENNAU i lenwi’r ffurflen fel bod yr holl fanylion pwysig yn glir - oni bai fod yr adran ar y ffurflen yn dweud wrthych am wneud fel arall.

Adran 1 - eich manylion

Pan rydym yn cyfeirio atoch ‘chi’ rydym yn golygu’r unigolyn sy’n gwneud yr apêl. Bydd angen ichi ddweud wrthym pwy ydych chi a ble’r ydych chi’n byw fel y gallwn ysgrifennu atoch. Bydd HMRC angen yr wybodaeth hon hefyd i allu adnabod pwy ydych chi pan fyddwn yn gofyn iddynt egluro pam y daethant i’w penderfyniad.

Yn yr adran hon bydd angen i chi roi eich:

  • teitl (er enghraifft, Mr, Mrs neu Miss)
  • enw cyntaf
  • unrhyw enwau canol
  • cyfenw
  • dyddiad geni
  • rhif yswiriant gwladol
  • cyfeiriad cartref
  • cyfeiriad e-bost (os ydych eisiau gallu dilyn trywydd eich apêl a’i rheoli ar-lein)
  • rhif ffôn symudol
  • rhif ffôn llinell dir (os oes gennych un)

Mae arnom angen eich rhif ffôn rhag ofn y byddwn angen cysylltu â chi ar fyr rybudd. Er enghraifft:

  • os daw dyddiad gwrandawiad ar gael yn gynt na’r disgwyl
  • byddai’n haws egluro rhywbeth i chi dros y ffôn yn hytrach na’n ysgrifenedig

Os byddwch yn ticio’r blwch neges testun, gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eich apêl ar ffurf negeseuon testun.

Adran 2 - eich apêl HMRC

Mae Adran 2 yn ymwneud â’r penderfyniad yr ydych yn apelio yn ei erbyn. Bydd yn eich helpu i gael copi o’ch hysbysiad gorfodi i ailystyried wrth law pan fyddwch yn llenwi’r rhan hon o’r ffurflen.

Yn yr adran hon mae angen ichi:

  • roi dyddiad eich llythyr hysbysiad gorfodi i ailystyried (bydd arnoch angen cynnwys copi ohono pan fyddwch yn anfon eich apêl)
  • rhoi rhesymau os yw eich apêl yn hwyr

Cyfrinachedd

Fel arfer mae 2 barti i’r apêl, chi a HMRC. Fodd bynnag, weithiau gall yr anghydfod gynnwys unigolyn arall.

Er enghraifft, os yw’r ddau riant (neu oedolyn arall) yn hawlio budd-dal plant, efallai y bydd yr unigolyn arall hefyd yn barti i’r apêl.

Mae gan y parti arall hawl i weld y dystiolaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r apêl. Mae hyn yn golygu efallai y bydd rhai mathau o dystiolaeth, megis biliau neu gyfriflenni banc a fydd yn cynnwys eich cyfeiriad cartref.

Os nad ydych eisiau i’r parti arall wybod eich cyfeiriad, gallwch ofyn iddo gael ei gadw’n gyfrinachol. Os byddwch yn gwneud hyn, bydd unrhyw dystiolaeth a geir sy’n ymwneud â chi yn cael ei golygu i ddileu manylion cyfeiriad cyn y caiff ei dosbarthu.

Defnyddiwch y gwagle yn Adran 2 i ddweud os ydych eisiau i’ch cyfeiriad cartref gael ei gadw’n gyfrinachol.

Adran 3 - ynglŷn â’r unigolyn y cawsoch eich penodi i’w helpu

Nid oes angen i chi lenwi’r adran hon oni bai eich bod yn apelio ar ran rhywun rydych yn gofalu am ei faterion. Gallai fod yn blentyn yr ydych yn rhiant iddo/i, neu gallai fod yn oedolyn na all reoli ei fuddion neu fudd-daliadau ei hun. Os yw’r unigolyn yn oedolyn, mae’n rhaid eich bod chi wedi cael eich penodi’n ffurfiol i weithredu ar eu rhan gan HMRC, neu gan lys, oherwydd cyflwr yr unigolyn. Os ydych ond yn helpu’r unigolyn gyda’i apêl ar sail cytundeb anffurfiol, byddwch yn gweithredu fel cynrychiolydd a bydd angen ichi lenwi adran 4 yn lle’r adran hon. Yn yr adran hon bydd angen ichi ddarparu eu:

  • teitl
  • enw cyntaf
  • unrhyw enwau canol
  • cyfenw
  • dyddiad geni
  • rhif yswiriant gwladol
  • cyfeiriad cartref

Adran 4 - ynglŷn â’ch cynrychiolydd (os oes gennych un)

Nid oes gan bawb gynrychiolydd, ac os nad oes gennych un, gallwch anwybyddu’r adran hon a symud i adran 5.

Mae gennych hawl i gael cynrychiolydd o’ch dewis chi, ond rhaid i chi drefnu hyn eich hun. Nid oes rhaid i’ch cynrychiolydd fod â chymhwyster cyfreithiol. Gall ef neu hi fod yn ffrind neu’n aelod o’r teulu. Fodd bynnag, bydd eich cynrychiolydd yn cael gweld tystiolaeth sy’n berthnasol i’r apêl, megis cyfriflenni banc a fyddwch efallai yn ystyried yn gyfrinachol. Wrth ddewis cynrychiolydd, dylech gofio beth yw swyddogaeth cynrychiolydd mewn tribiwnlys.

Dylai cynrychiolydd allu:

  • eich cynghori ynghylch y math o dystiolaeth fydd yn helpu eich achos
  • cael gafael ar dystiolaeth i chi neu eich helpu i gael gafael arni
  • cysylltu â HMRC i weld a ellir setlo’r achos heb fynd i wrandawiad tribiwnlys
  • ymchwilio i’r gyfraith
  • paratoi datganiad ysgrifenedig i’r tribiwnlys yn crynhoi eich achos
  • eich cynghori ar faterion cysylltiedig, gan gynnwys budd-daliadau eraill
  • delio â goblygiadau penderfyniad y tribiwnlys

Bydd y mwyafrif o bobl sydd â chynrychiolydd yn cael eu cynrychioli gan sefydliad proffesiynol megis canolfan gynghori neu wasanaeth hawliau lles. Yn yr adran hon o’r ffurflen bydd angen ichi ddarparu gwybodaeth am eich cynrychiolydd, gan gynnwys:

  • enw a chyfeiriad y sefydliad
  • enw’r unigolyn yn y sefydliad sy’n eich cynrychioli (os ydych yn ei wybod)
  • rhif ffôn (dewisol) - i gael diweddariadau ar ffurf negeseuon testun am eich apêl
  • cyfeiriad e-bost (dewisol) - i gael diweddariadau ar ffurf negeseuon e-bost am eich apêl

Byddwn yn cysylltu â’ch cynrychiolydd ynghylch eich apêl a byddwn yn dweud wrthynt am bethau fel dyddiadau gwrandawiadau. Byddwn yn gofyn i HMRC anfon copi o bapurau eich apêl atyn nhw ac atoch chi.

Os ydych eisiau cael cynrychiolydd ond nid ydych wedi llwyddo i gysylltu ag asiantaeth gyngor hyd yna, gallwch dal gyflwyno’ch apêl. Yna gallwch roi’r manylion angenrheidiol i ni yn hwyrach ymlaen pan fydd gennych gynrychiolydd. Rhaid i chi wneud hyn yn ysgrifenedig gan fod arnom angen eich caniatâd ysgrifenedig i gymryd cyfarwyddiadau gan rywun sy’n gweithredu ar eich rhan. Gan amlaf, bydd eich cynrychiolydd yn trefnu hyn ar eich cyfer.

Hyd yn oed os oes gennych gynrychiolydd, mae’n debyg y bydd y tribiwnlys eisiau siarad yn uniongyrchol â chi yn y gwrandawiad, gan ofyn cwestiynau i chi a gwrando ar eich atebion. Mae hyn oherwydd y bydd gennych yr wybodaeth a phrofiad uniongyrchol o’r pethau y bydd y tribiwnlys eisiau clywed amdanynt fwyaf.

Adran 5 - y rhesymau dros eich apêl

Ysgrifennwch y rhesymau pam rydych yn meddwl bod y penderfyniad yn anghywir. Nid oes angen ichi ddefnyddio PRIFLYTHRENNAU i lenwi’r adran hon.

Nid oes rhaid i’ch rhesymau fod yn hir neu wedi eu hysgrifennu mewn iaith gyfreithiol - ond mae angen ichi ddweud mwy na dim ond, ‘Rwy’n anghytuno’. Dylech esbonio mewn ffordd syml pam rydych yn credu bod y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn yn anghywir. Efallai y byddai’n ddefnyddiol ichi ddarllen eich hysbysiad gorfodi i ailystyried neu eich llythyr penderfyniad ac ysgrifennu beth rydych yn anghytuno ag o, a pham.

Bydd eich rhesymau yn cael eu hystyried gan dribiwnlys annibynnol sydd ar wahân i HMRC. Efallai y byddai’n ddefnyddiol ichi hefyd ddweud beth rydych chi’n meddwl y dylai’r penderfyniad cywir fod.

Y mwyaf penodol ydych chi ynghylch y pwyntiau sy’n destun dadl, yr hawsaf y bydd hi i’r tribiwnlys ddeall pam yr ydych yn anghytuno â’r penderfyniad a chanolbwyntio ar hyn cyn y gwrandawiad. Gallwch atodi tystiolaeth yr ydych yn teimlo y gallai gefnogi eich apêl, ond ni ddylech oedi cyn apelio tra rydych yn dod o hyd i’r dystiolaeth.

Os oes arnoch angen mwy o le i ysgrifennu eich rhesymau, gallwch atodi darn o bapur ar wahân.

Adran 6 - ynglŷn â’ch gwrandawiad apêl

Byddwn fel arfer yn trefnu gwrandawiad ar gyfer eich apêl. Fe gynhelir y gwrandawiad wyneb yn wyneb, drwy fideo neu dros y ffôn. Fe ddisgwylir i chi a’ch cynrychiolydd gymryd rhan. Rydym yn galw hyn yn ‘wrandawiad llafar’. Gall y tribiwnlys gyfarwyddo pa fath o wrandawiad a gynhelir.

Mewn gwrandawiad llafar byddwch chi, a’ch cynrychiolydd (os oes gennych un), yn cael cyfle i siarad â’r tribiwnlys, cyflwyno eich achos ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. Mae gan HMRC hefyd yr hawl i gymryd rhan mewn gwrandawiad llafar a chyflwyno eu hachos.

Y dewis arall yn hytrach na gwrandawiad llafar yw bod y tribiwnlys yn dod i benderfyniad ynghylch eich achos heb wrandawiad. Ni fyddwch chi na HMRC yn cymryd rhan, a bydd y tribiwnlys yn dod i benderfyniad ar sail yr hyn sydd ym mhapurau’r apêl.

Bydd y tribiwnlys yn ystyried eich llythyr apêl, unrhyw dystiolaeth ategol yr ydych wedi’i darparu ac ymateb HMRC i’ch apêl. Gelwir hyn yn ‘penderfynu ar sail y papurau’. Bydd hyn yn digwydd os bydd pob parti yn cytuno iddo, nid oes neb wedi gofyn am wrandawiad llafar ac y mae’r tribiwnlys yn ystyried y gall benderfynu ar eich apêl heb wrandawiad llafar.

Bydd HMRC hefyd yn cael cyfle i ddweud pa fath o wrandawiad y byddent yn ei ffafrio.

Bydd gwrandawiad llafar yn cael ei drefnu:

  • os ydych chi’n gofyn am wrandawiad llafar
  • os yw HMRC yn gofyn am wrandawiad llafar
  • os yw’r tribiwnlys yn penderfynu y byddai gwrandawiad llafar yn fwy priodol na phenderfynu ynghylch yr achos ar sail y papurau

Os ydych eisiau newid y math o wrandawiad a gynhelir, dywedwch wrthym cyn gynted â phosib. Os nad ydych wedi cael dyddiad gwrandawiad, gallwch wneud hyn dros y ffôn. Os ydych wedi cael dyddiad gwrandawiad, bydd angen i chi ofyn i’r math o wrandawiad gael ei newid dros y ffôn neu’n ysgrifenedig.

Pan fyddwch yn dewis math o wrandawiad, efallai y byddwch eisiau gwybod ble byddai gwrandawiad eich apêl yn cael ei gynnal. Os ydych eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad wyneb yn wyneb, bydd angen ichi deithio i’r gwrandawiad.

Rydym yn cynnal gwrandawiadau apêl mewn dros 100 o leoliadau gwahanol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae yna leoliad tribiwnlys yn y mwyafrif o ddinasoedd a threfi. Byddwn yn ceisio trefnu i’ch gwrandawiad gael ei gynnal yn y lleoliad sydd agosaf atoch chi. Cysylltwch â ni’n ysgrifenedig os yw’r lleoliad rydym yn ei gynnig ichi yn anghyfleus.

Dod o hyd i lys neu dribiwnlys

Mae’r mwyafrif o’n lleoliadau tribiwnlys yn hygyrch i bobl ag anableddau. Rydym yn deall y gall anableddau fod yn gorfforol ac yn feddyliol. Os ydych eisiau cadarnhad y bydd y lleoliad yn addas ar gyfer eich anghenion unigol chi, rhowch fanylion eich gofynion yn adran 7 o’r ffurflen apêl.

Gallwch hefyd ofyn i wrandawiad gael ei gynnal dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo drwy roi tic yn y blwch perthnasol. Os ydych eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad dros y ffôn, byddwch angen rhywle tawel a phreifat i siarad, a byddwn angen eich rhif ffôn. Os ydych eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad trwy gyswllt fideo, byddwch angen mynediad i gyfrifiadur neu ddyfais symudol gyda chysylltiad da â’r rhyngrwyd. Byddwch hefyd angen rhywle tawel a phreifat i siarad, a byddwn angen eich cyfeiriad e-bost.

Bydd eich cais am y math o wrandawiad y byddech yn ei ffafrio yn cael ei roi gerbron barnwr tribiwnlys i benderfynu.

Ar ôl i chi benderfynu pa fath o wrandawiad rydych eisiau, ticiwch un o’r blychau sy’n dweud:

  • Rwyf eisiau cymryd rhan yn y gwrandawiad
  • Nid wyf eisiau cymryd rhan yn y gwrandawiad

Os ydych yn ticio’r blwch i ddweud eich bod eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad, ewch ymlaen i adran 6a a dewiswch wrandawiad dros y ffôn, gwrandawiad drwy gyswllt fideo neu wrandawiad wyneb yn wyneb. Os ydych yn ticio’r bwlch i ddweud nad ydych eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad, ewch i adran 9

Adran 7 - cymorth yn eich gwrandawiad

Os oes arnoch angen ysgrifennu yn unrhyw un o’r blychau yn yr adran hon, nid oes rhaid ichi ddefnyddio PRIFLYTHRENNAU.

Rhowch wybod inni os byddwch angen cyfieithydd yn y gwrandawiad.

Mae tribiwnlysoedd yn mynnu defnyddio cyfieithwyr ar y pryd a dehonglwyr annibynnol a phroffesiynol - ni allwch ddibynnu ar ffrind neu berthynas. Pan fyddwn yn trefnu eich gwrandawiad, byddwn yn sicrhau y darperir cyfieithydd ar y pryd/dehonglydd sy’n bodloni eich anghenion.

Gall eich cyfieithydd ar y pryd fod yn rhywun sy’n cyfieithu ar lafar o’r Saesneg i iaith arall, neu yng Nghymru o Gymraeg i Saesneg, neu gall fod yn ddehonglydd iaith arwyddion sy’n cyfieithu iaith lafar i Iaith Arwyddion Prydain. Os ydych yn ticio ‘Oes’ yn yr adran hon, mae’n rhaid ichi hefyd nodi pa iaith a thafodiaith sydd eu hangen.

Os byddwch eisiau teithio i’r gwrandawiad, mae angen inni wneud yn siŵr fod eich gwrandawiad yn cael ei gynnal mewn lleoliad sy’n addas i chi ac y gallwch gael mynediad iddo’n rhwydd.

Gallwch ddweud wrthym am unrhyw:

  • anghenion sydd gennych
  • addasiadau rhesymol yr hoffech inni wneud

Gall hyn fod yn rhywbeth fel dolen glyw neu ofynion arbennig oherwydd anabledd neu broblem symudedd. Rydym yn deall y gall hyn fod ar gyfer amrywiaeth o anableddau corfforol a meddyliol.

Adran 8 - Pa bryd yr ydych ar gael ar gyfer gwrandawiad

Yn yr adran hon mae angen ichi roi tic yn un o’r 2 flwch, i ddangos:

  • gallwch fod ar gael pa bryd bynnag y bydd y gwrandawiad yn cael ei drefnu
  • rydych angen dweud wrth y tribiwnlys am ddyddiadau yn y 3 i 8 mis nesaf pan na allwch fynychu gwrandawiad

Fel arfer byddwn yn rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd o wrandawiad. Fodd bynnag, os byddwch yn dweud wrthym y gallwch fod yn rhydd pa bryd bynnag y cynhelir y gwrandawiad, byddwn yn cymryd hyn fel caniatâd i roi llai na 14 diwrnod o rybudd i chi os bydd dyddiad gwrandawiad ar gael yn gynharach nag yr oeddem yn disgwyl.

Os oes dyddiadau pan na fyddwch ar gael, mae’n rhaid ichi ddweud wrthym beth yw’r dyddiadau hynny. Efallai bod dyddiad rheolaidd pan nad ydych ar gael: er enghraifft, pob dydd Iau oherwydd ymrwymiadau gwaith, bywyd cartref neu ymrwymiadau eraill. Neu efallai eich bod yn ymwybodol o ddyddiadau penodol pan na fyddwch ar gael, er enghraifft oherwydd apwyntiadau ysbyty neu wyliau yr ydych wedi’i drefnu’n barod.

Dylech ystyried ar ba ddyddiadau na fyddwch ar gael am y 3 i 8 mis nesaf. Cofiwch, gallwch ddweud wrthym am unrhyw newid i’ch argaeledd drwy ein ffonio, anfon neges e-bost neu ysgrifennu atom.

Adran 9 – llofnodi a phostio

Mae’n ofyniad cyfreithiol ichi lofnodi eich apêl. Ysgrifennwch eich enw mewn PRIFLYTHRENNAU yn y blwch priodol, yna llofnodwch eich enw yn y blwch o dan eich enw a chofnodwch y dyddiad pan wnaethoch lofnodi’r ffurflen.

Os na fyddwch yn llofnodi eich ffurflen apêl, efallai y bydd rhaid inni ddychwelyd yr apêl atoch er mwyn ichi ei llofnodi. Os ydych wedi enwi cynrychiolydd yn adran 4, bydd llofnodi’r ffurflen apêl hefyd yn rhoi eich caniatâd inni ohebu â nhw a thrafod eich apêl.

Ble i anfon eich apêl

Anfonwch eich ffurflen apêl mewn amlen sydd â’r stamp perthnasol arni.

Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, anfonwch eich ffurflen apêl i:

Apeliadau Budd-daliadau GLlTEF
Blwch Post 12626
Harlow
CM20 9QF

Os ydych yn byw yn Yr Alban, anfonwch eich ffurflen apêl i:

Canolfan Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant GLlTEF
Blwch Post 13150
Harlow
CM20 9TT

Cofiwch gynnwys copi o’ch llythyr gorfodi i ailystyried.

5. Ar ôl ichi anfon eich apêl

Byddwn yn gwirio eich cais i wneud yn siŵr bod eich apêl yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol er mwyn iddi gael ei derbyn fel apêl ddilys.

Os oes unrhyw broblemau gyda’ch apêl, byddwn yn ei dychwelyd atoch gyda llythyr yn esbonio beth yw’r broblem a beth y gallwch ei wneud i’w datrys. Os na wnewch hynny, efallai y bydd barnwr neu swyddog cyfreithiol yn dod â’ch apêl i ben (‘ei dileu’) oherwydd nad ydych wedi darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

Mewn rhai amgylchiadau, gallwn adael i’r apêl barhau er gwaetha’r ffaith nad yw eich cais yn cynnwys rhai gofynion technegol sydd gan amlaf yn hanfodol. Gelwir y broses hon yn ‘hepgor gofyniad’. Gall barnwr neu swyddog cyfreithiol hepgor gofyniad. Mae’r amgylchiadau lle gellir gwneud hyn yn amrywio’n sylweddol. Dylech geisio darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen yn hytrach na dibynnu ar y gallu i hepgor gofyniad.

Os gellir derbyn eich apêl fel un ddilys, byddwn yn anfon llythyr cydnabod atoch. Os nad ydych eisoes wedi darparu manylion eich gofynion ar gyfer y gwrandawiad ar y ffurflen apêl neu mewn llythyr, efallai y byddwn yn anfon ffurflen ymholiad atoch i holi beth yw’r rhain. Os ydych wedi defnyddio’r ffurflen ac wedi ateb pob un o’r cwestiynau, ni ddylai bod angen gwneud hyn.

Byddwn hefyd yn anfon copi o’ch apêl i HMRC ac yn gofyn iddynt ddarparu ymateb i’ch apêl. Adroddiad a baratowyd gan HMRC am eich apêl yw’r ymateb sy’n esbonio sut y daethant i’w penderfyniad. Mae ganddynt 28 diwrnod i ddarparu’r ymateb. Mae gan HMRC yr hawl i ofyn am estyniad amser hefyd. Os byddant yn gwneud hyn, bydd barnwr yn ystyried eu cais. Byddwn yn ysgrifennu atoch os bydd hyn yn digwydd.

Unwaith y bydd gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn cysylltu â chi naill ai drwy anfon neges e-bost atoch (os ydych wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni) neu lythyr, a byddwn yn cynnwys manylion ynghylch sut y gallwch gyflwyno rhagor o dystiolaeth i’r tribiwnlys.

6. Beth fydd HMRC yn gwneud gyda’r apêl?

Bydd HMRC yn ailedrych ar eu penderfyniad ar ôl ystyried yr wybodaeth rydych wedi’i rhoi yn eich apêl ac unrhyw dystiolaeth newydd neu ychwanegol rydych wedi’i darparu.

Gall HMRC, ar unrhyw adeg hyd at y gwrandawiad tribiwnlys, newid y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn os ydynt yn credu bod rhesymau dros wneud hynny. Os byddant yn penderfynu newid y penderfyniad fel ei fod o’ch plaid chi, byddant yn rhoi gwybod i ni a bydd eich apêl yn dod i ben yn awtomatig. Byddwn yn ysgrifennu atoch os bydd hyn yn digwydd.

Bydd gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad newydd HMRC hefyd os ydych yn dymuno ei herio. Os bydd HMRC yn bwriadu newid ei benderfyniad, bydd yn cysylltu â chi yn gyntaf i holi a ydych yn cytuno â’r penderfyniad newydd ac ni fydd yn bwrw ymlaen oni bai eich bod yn cytuno.

Herio’r apêl

Mae gan HMRC hefyd yr hawl i herio eich apêl. Mae yna sawl rheswm pam y byddant efallai yn herio apêl, er enghraifft oherwydd ei bod:

  • yn erbyn penderfyniad sydd heb yr hawl i apelio
  • yn hwyr a bod y rhesymau dros gyflwyno’r apêl yn hwyr yn afresymol
  • nid yw’n cynnwys digon o wybodaeth i ganfod y penderfyniad neu’n cynnwys seiliau’r apêl
  • nid oes siawns rhesymol y bydd yn llwyddiannus

Os bydd HMRC yn herio eich apêl, bydd yn ysgrifennu atom. Efallai y byddwn wedyn yn anfon copi o’u gwrthwynebiad atoch chi ac yn eich gwahodd i wneud sylwadau arno cyn ei gyfeirio at farnwr. Bydd y barnwr yn adolygu eich achos ac yn penderfynu a yw dadleuon HMRC yn rhai dilys ai peidio.

Os bydd eich apêl yn mynd yn ei blaen heb wrthwynebiad, bydd HMRC yn anfon atoch chi a ni, gopi o’u hymateb i’ch apêl. Bydd hwn yn cyrraedd fel bwndel o bapurau, a allai gynnwys hyd at 150 o dudalennau neu fwy, gan ddibynnu ar y math o apêl a hanes y mater. Peidiwch â gadael i faint y bwndel eich digalonni - byddwch eisoes yn gyfarwydd â llawer o’r cynnwys, megis copïau o’ch ffurflen hawlio.

Gall rhai ymatebion fod yn llawer byrrach oherwydd y materion dan sylw. Mae’r ymateb yn cynnwys:

  • y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn
  • crynodeb o’r ffeithiau perthnasol
  • y rhesymau dros y penderfyniad
  • dyfyniadau o’r gyfraith berthnasol
  • copi o’ch ffurflen neu lythyr apêl
  • copïau o ddogfennau sy’n berthnasol i’r apêl (megis ffurflen hawlio, biliau a chyfriflenni banc, llythyrau, cyfrifiadau budd-daliadau neu gynnal plant)

Dylid anfon yr ymateb o fewn 28 diwrnod (oni bai bod HMRC wedi gwneud cais am estyniad amser). Os ydych wedi rhoi enw cynrychiolydd ar eich ffurflen apêl, anfonir copi o’r ymateb atyn nhw hefyd.

Pan fyddwch yn cael yr ymateb, dylech ei ddarllen neu ei drafod gyda’ch cynrychiolydd (os oes gennych un). Dylai’ch cynrychiolydd bwyso a mesur achos HMRC a’ch cynghori os yw eich apêl dal i fod yn rhesymol. Os nad oes gennych gynrychiolydd, mae’n rhaid i chi ddarllen drwy’r papurau a dod i benderfyniad eich hun.

Os byddwch yn penderfynu peidio â pharhau â’ch apêl (‘tynnu eich apêl yn ôl’), rhaid ichi roi gwybod i ni neu byddwn yn parhau ac yn rhoi eich achos gerbron tribiwnlys. Gallwch dynnu eich apêl yn ôl drwy ein ffonio neu ysgrifennu atom.

7. Ar ôl i HMRC ymateb

Ar ôl i ymateb HMRC gyrraedd, bydd GLlTEF yn dechrau gwneud trefniadau ar gyfer gwrando eich apêl.

Os ydych wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y gwrandawiad, byddwn yn ysgrifennu atoch ar ôl i’r ymateb gyrraedd yn cadarnhau ein bod nawr yn barod i roi eich apêl gerbron tribiwnlys. Byddwn hefyd yn egluro os oes gennych unrhyw dystiolaeth bellach i’w chyflwyno i gefnogi eich apêl, dylech ei hanfon atom o fewn 1 mis neu roi gwybod i ni os oes arnoch angen mwy o amser.

Bydd y llythyr yn eich gwahodd i gysylltu â ni os oes unrhyw newid i’r manylion yr ydych wedi’u cyflwyno’n flaenorol, megis eich dewis o wrandawiad. Er enghraifft, gallwch ofyn i wrandawiad gael ei gynnal dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo, a bydd eich cais yn cael ei roi gerbron barnwr tribiwnlys i benderfynu.

Dylech wirio’r llythyr hwn i wneud yn siŵr ein bod wedi cofnodi’ch gofynion yn gywir. Mae’n rhaid ichi ddweud wrthym am unrhyw newid. Gallwch wneud hyn dros y ffôn neu’n ysgrifenedig. Os bydd newid o ran pwy sy’n eich cynrychioli, rhaid ichi roi gwybod i ni am hynny yn ysgrifenedig.

Os nad ydych eisiau apelio mwyach, gallwch roi gwybod i ni eich bod yn dymuno tynnu’r apêl yn ôl. Dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl neu byddwn yn parhau i drefnu gwrandawiad. Gallwch wneud hyn drwy ffonio’r rhif sydd yn y llythyr.

Os ydych wedi gofyn am wrandawiad llafar, byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau’r manylion sydd gennym amdanoch. Os ydych wedi darllen ymateb HMRC a bod unrhyw beth wedi newid y dylem wybod amdano, rhowch wybod inni cyn gynted ag y gallwch. Gallai hyn fod yn:

  • ddyddiad pan nad ydych ar gael
  • eich bod wedi newid eich meddwl ac yr hoffech i’ch apêl gael ei phenderfynu ar sail y papurau yn hytrach na’ch bod chi’n dod i wrandawiad

Rhoi eich achos gerbron y tribiwnlys

Os ydych wedi gofyn i’ch apêl gael ei phenderfynu ar sail y papurau, ni fyddwn yn rhoi gwybod ichi ar ba ddyddiad y gwrandewir eich achos. Mae hyn oherwydd na fyddwch yn dod i’r gwrandawiad a gallwn geisio rhoi eich achos gerbron tribiwnlys ar fyr rybudd.

Os ydych wedi dewis cael gwrandawiad llafar, byddwn yn rhoi gwybod ichi am fanylion y gwrandawiad yn ysgrifenedig. Byddwn yn rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad i chi, oni bai eich bod wedi rhoi gwybod i ni y byddwch yn derbyn llai o rybudd na hyn. Bydd y llythyr gwrandawiad yn nodi amser a dyddiad, ynghyd â chyfeiriad canolfan wrandawiadau’r tribiwnlys os yw’n wrandawiad wyneb yn wyneb. Bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am:

  • hawlio treuliau, megis am deithio
  • cyfarwyddiadau i’r ganolfan wrandawiadau
  • cysylltiadau trafnidiaeth
  • hygyrchedd a chyfleusterau yn y lleoliad

Ar ôl trefnu dyddiad, byddwn yn gwneud ein gorau i osgoi canslo. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylech ofyn i’r gwrandawiad gael ei ohirio, megis oherwydd salwch neu brofedigaeth. Os na allwch fod yn bresennol, mae’n rhaid i chi ofyn yn ysgrifenedig i’r gwrandawiad gael ei ohirio. Byddwn y cyfeirio’r cais at farnwr tribiwnlys a fydd yn gwneud penderfyniad yn ei gylch.

Mae gan y tribiwnlys y pŵer i wrando eich apêl yn eich absenoldeb. Mae’n bwysig nad ydych yn cymryd yn ganiataol y bydd yr apêl yn cael ei gohirio hyd nes y byddwn wedi cadarnhau hynny. Os byddwch mewn sefyllfa lle na allwch roi llawer o rybudd nad ydych ar gael, ac ni allwch wneud cais ysgrifenedig am ohiriad, dylech ffonio swyddfa’r tribiwnlys cyn gynted â phosib. Byddwn yn rhoi gwybod i’r tribiwnlys am eich amgylchiadau a bydd y tribiwnlys yn penderfynu a fydd yn gwneud penderfyniad ynghylch eich apêl yn eich absenoldeb ynteu’n gohirio’r gwrandawiad tan ddiwrnod arall pan fyddwch yn gallu bod yn bresennol.

8. Paratoi ar gyfer y gwrandawiad tribiwnlys

Dylech ystyried pa dystiolaeth fydd ei hangen arnoch i gefnogi’ch achos, gan fod rhyw anghydfod ynghylch ffeithiau yn y rhan fwyaf o apeliadau.

Bydd HMRC wedi nodi yn eu hymateb pa dystiolaeth y byddant yn dibynnu arni i gefnogi’r penderfyniad rydych wedi apelio yn ei erbyn. Mae’n anarferol i HMRC gyflwyno tystiolaeth newydd yn y gwrandawiad tribiwnlys.

Yn gyntaf oll, y math o dystiolaeth y gallech ei chyflwyno yw’r hyn y gallwch ddweud wrth y tribiwnlys. Mae’n hawdd anghofio bod yr hyn yr ydych yn ei ddweud wrth y tribiwnlys yn cael ei ystyried yn dystiolaeth.

Os ydych wedi gofyn i rywun fod yn bresennol yn y gwrandawiad fel tyst, dylech wneud yn siŵr eu bod yn gwybod pryd a ble i fod yn bresennol. Dywedwch wrthym os ydych yn bwriadu dod â thyst neu dystion gyda chi. Os ydych eisiau i rywun o HMRC fod yn dyst (er enghraifft, aelod o staff a gynhaliodd gyfweliad â chi), dylech wneud cais ysgrifenedig i swyddfa berthnasol y HMRC yn gofyn i’r unigolyn dan sylw fynychu fel tyst. Gallwch ysgrifennu atom os byddant yn gwrthod.

Gallwch hefyd ddefnyddio dogfennau fel tystiolaeth. Er enghraifft, copi o gyfrifon yn dangos eich enillion os ydych yn hunangyflogedig, neu gopi o ohebiaeth a gawsoch gyda chyn-bartner ynghylch trefniadau gofal a rennir.

Os oes gennych ddogfennau i gefnogi’ch apêl, dylech eu hanfon (neu lungopïau ohonynt) atom mor fuan â phosib yn y broses apelio.

Dylech anfon unrhyw ddogfennau o fewn mis ichi gael yr ymateb gan HMRC. Peidiwch ag aros nes byddwch yn y gwrandawiad tribiwnlys. Os byddwch yn cyflwyno dogfennau pwysig ar y funud olaf, gallai’r tribiwnlys benderfynu bod rhaid gohirio’r gwrandawiad fel bod y tribiwnlys a HMRC yn cael cyfle teg i ystyried y dystiolaeth hwyr yn llawn. Pan fyddwch yn postio dogfennau atom fel tystiolaeth, cofiwch gynnwys dalen flaen gyda’r cyfeirnod 16 digid yr ydym wedi’i roi i chi. Byddwn yn gwneud copïau ohonynt ac yn eu hanfon i HMRC cyn eu dychwelyd i chi. Mae gan HMRC hawl i weld unrhyw ddogfennau rydych yn eu hanfon atom. O ran tegwch, dylai’r ddwy ochr gael cyfle i weld a herio’r dystiolaeth a gyflwynir gerbron y tribiwnlys. Eich cyfrifoldeb chi, nid y tribiwnlys, yw paratoi eich achos. Mae’r tribiwnlys yn niwtral.

Os byddwch yn cael tystiolaeth ychwanegol, anfonwch y dystiolaeth honno atom cyn gynted â phosib. Peidiwch ag aros tan ddyddiad eich gwrandawiad.

Rydym yn anfon holl bapurau’r apêl at aelodau’r tribiwnlys o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r tribiwnlys astudio’r papurau a chanfod unrhyw broblemau a all effeithio ar gynnal y gwrandawiad. Mae hyn yn lleihau’r risg o oedi neu orfod gohirio’r gwrandawiad.

Mae’n rhaid i chi anfon eich tystiolaeth ysgrifenedig ac unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud atom o fewn 1 mis ichi gael yr ymateb gan HMRC. Byddwn yn anfon copïau o hyn i HMRC ac at unrhyw unigolyn arall sy’n gysylltiedig â’r apêl - er enghraifft, y rhiant arall neu warcheidwad os ydych yn gwneud apêl budd-dal plant. Gorau po gyntaf y bydd HMRC yn cael eich tystiolaeth, er mwyn iddo allu penderfynu a ddylid newid ei benderfyniad gwreiddiol.

Y gyfraith

Bydd penderfyniad y tribiwnlys yn seiliedig ar gymhwyso’r gyfraith berthnasol i ffeithiau’r achos. Yn aml iawn mae cyfraith nawdd cymdeithasol a chynnal plant yn gymhleth ac yn agored i gael ei dehongli’n wahanol.

Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddyd ar ystyr y gyfraith a basiwyd gan y Senedd ym mhenderfyniadau Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) a’r Llysoedd.

Gallwch ymchwilio i’r gyfraith:

  • mewn llyfrgelloedd cyhoeddus
  • ar wefannau, megis www.legislation.gov.uk a GOV.UK ar gyfer penderfyniadau’r Uwch Dribiwnlys
  • mewn cyfeirlyfrau cyfreithiol (bydd y rhain gan gynrychiolwyr proffesiynol)

Efallai y gwelwch fod yr ymateb a gewch gan HMRC yn cynnwys cyfeiriadau at benderfyniadau penodol yr Uwch Dribiwnlys y mae HMRC yn ystyried yn berthnasol i’r materion cyfreithiol yn eich apêl.

Gallwch chi, neu eich cynrychiolydd, gyflwyno penderfyniadau eraill yr Uwch Dribiwnlys. Os byddwch yn gwneud hyn, anfonwch y manylion atom mewn da bryd cyn y gwrandawiad.

Ni allwn ymchwilio i’r gyfraith ar eich rhan na darparu detholiadau ichi.

Paratoi eich ymateb eich hun

Os ydych o’r farn nad yw’r ymateb gan HMRC yn rhoi crynodeb cywir o’ch achos, gallwch baratoi eich ymateb eich hun, yn nodi’r ffeithiau fel yr ydych chi’n eu gweld a’r gyfraith fel yr ydych chi’n ei dehongli. Dylech anfon eich ymateb atom mewn da bryd cyn y gwrandawiad. Byddwn yn anfon copi i HMRC.

Byddwn yn anfon yr holl bapurau sy’n ymwneud â’r apêl at aelodau’r tribiwnlys o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r tribiwnlys astudio’r papurau a chanfod unrhyw broblemau a all effeithio ar gynnal y gwrandawiad. Mae hyn yn lleihau’r risg o ohiriadau. Mae’n rhaid ichi felly anfon eich tystiolaeth ysgrifenedig ac unrhyw sylwadau atom mewn da bryd cyn y gwrandawiad.

Byddwn yn anfon copi o unrhyw dystiolaeth a gawn gennych i HMRC ac at unrhyw unigolyn arall sy’n ymwneud â’r apêl, er enghraifft oedolyn arall mewn apeliadau budd-dal plant. Gorau po gyntaf y bydd HMRC yn cael eich tystiolaeth, er mwyn iddo allu penderfynu a ddylid newid ei benderfyniad gwreiddiol.

9. Dywedwch wrthym am unrhyw newidiadau

Rhaid ichi roi gwybod inni os bydd eich amgylchiadau’n newid er mwyn i ni sicrhau y gallwn ddarparu’r math o wrandawiad yr ydych eisiau, ymateb i unrhyw anghenion arbennig sydd gennych a chyfathrebu â chi yn y cyfeiriad cywir. Rydym yn annibynnol ar HMRC, felly hyd yn oed os ydych wedi hysbysu HMRC am gyfeiriad newydd, bydd rhaid i chi hefyd ei roi i ni. Gallwch wneud hyn yn ysgrifenedig, drwy anfon neges e-bost, ar-lein drwy’r gwasanaeth ‘Rheoli eich Apêl’ neu dros y ffôn.

Mae’n rhaid ichi ddweud wrthym:

  • os byddwch yn newid eich cyfeiriad cartref, eich rhif ffôn neu’ch cyfeiriad e-bost
  • os oes gennych gynrychiolydd newydd yn gweithredu ar eich rhan, neu fod eich
  • cynrychiolydd wedi newid
  • os ydych wedi newid eich meddwl ynghylch y math o wrandawiad rydych eisiau
  • os na allwch fod yn bresennol neu os ydych wedi penderfynu nad ydych am fod yn bresennol mewn gwrandawiad sydd wedi’i drefnu
  • os nad ydych eisiau apelio mwyach – rydych eisiau ‘tynnu eich apêl yn ôl’

Os oes gennych gynrychiolydd newydd, mae’n rhaid ichi roi gwybod inni yn ysgrifenedig gan fod arnom angen eich caniatâd ysgrifenedig i gymryd cyfarwyddiadau gan rywun sy’n gweithredu ar eich rhan. Gan amlaf bydd eich cynrychiolydd yn trefnu hyn i chi.

10. Mynychu’ch gwrandawiad

Byddwn yn eich hysbysu am ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad yn ysgrifenedig. Gan amlaf mae tribiwnlysoedd yn gwrando apeliadau rhwng 10am a 12:45pm a 2pm a 4:45pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Gellir parhau tu hwnt i’r oriau hynny er mwyn gallu cwblhau apêl sydd wedi cychwyn.

Gan amlaf bydd rhwng 3 a 5 apêl wedi’i rhestru ymhob sesiwn (bore neu brynhawn), gan ddibynnu ar y math o achos. Dylai eich gwrandawiad ddechrau ar yr amser sydd wedi’i nodi yn eich rhybudd gwrandawiad.

Teithio i’r gwrandawiad

Os ydych angen help i dalu am eich costau teithio i’r gwrandawiad, gallwn ad-dalu costau teithio rhesymol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus neu gostau tanwydd. Gallwch wneud cais am hyn drwy lenwi ffurflen hawlio ar ôl eich gwrandawiad a bydd taliad yn cael ei wneud i’ch cyfrif banc. Mewn amgylchiadau eithriadol, byddwn yn talu am gostau teithio cyn y gwrandawiad.

Bydd angen ichi gadw unrhyw dderbynebau a thocynnau teithio i brofi eich bod wedi eu prynu a chynnwys y rhain gyda’ch hawliad. Os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft, oherwydd anabledd, gallwn dalu am dacsi. Gallwn ond wneud hyn os bydd wedi’i gytuno ymlaen llaw. Bydd eich rhybudd o wrandawiad yn esbonio’r rheolau ynghylch hawlio costau teithio.

Dylech gyrraedd o leiaf 15 munud cyn amser cychwyn y gwrandawiad. Dewch ag ymateb HMRC gyda chi ac unrhyw ddogfennau gwreiddiol yr ydych wedi’u hanfon i ni fel tystiolaeth. Er budd diogelwch y cyhoedd, fe gynhelir gwiriadau diogelwch yn ein lleoliadau. Efallai y byddwch yn cael eich chwilio.

Os ydych yn debygol o fod yn hwyr ar gyfer eich gwrandawiad, ffoniwch ni ac fe rown wybod i’r tribiwnlys. Os ydych yn penderfynu peidio â mynychu’r gwrandawiad, ffoniwch ni i roi gwybod inni. Bydd hyn yn sicrhau na fydd y tribiwnlys yn aros ichi gyrraedd ac nid oes angen i’n staff gysylltu â chi.

Yn y gwrandawiad

Pan fyddwch yn cyrraedd lleoliad y tribiwnlys, bydd clerc y tribiwnlys yno i’ch cyfarfod. Aelod o staff GLlTEF yw clerc y tribiwnlys sy’n sicrhau bod gwrandawiadau’n mynd rhagddynt mor rhwydd â phosib. Cyfrifoldeb y clerc yw:

  • egluro’r broses i chi
  • ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych
  • delio â hawliadau teithio neu dreuliau eraill
  • delio â’r tasgau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’ch gwrandawiad

Bydd y clerc yn cadw mewn cysylltiad â’r tribiwnlys, gan ddweud wrthynt pwy sydd wedi cyrraedd a chynorthwyo’r tribiwnlys gyda theipio’r hysbysiad o benderfyniad a delio ag unrhyw waith papur. Mae’r clerc hefyd yn cadw mewn cysylltiad â swyddfa’r tribiwnlys, gan ddelio ag unrhyw negeseuon funud olaf, megis negeseuon gan bobl sy’n rhedeg yn hwyr.

Bydd y tribiwnlys yn ymdrechu i gychwyn eich gwrandawiad ar yr amser a nodir yn eich rhybudd gwrandawiad. Fodd bynnag, oherwydd nad yw bob amser yn bosib rhagweld faint o amser y bydd pob apêl yn cymryd, efallai y bydd yr amser cychwyn ychydig yn hwyrach.

Pan fyddwch yn cyrraedd, bydd y clerc yn mynd â chi i ystafell aros ac yn rhoi syniad ichi o ba bryd y bydd eich gwrandawiad apêl yn cychwyn. Bydd y clerc yn:

  • delio ag unrhyw hawliad am dreuliau sydd gennych
  • ateb unrhyw gwestiynau pellach am y gwrandawiad a phrosesau’r tribiwnlys
  • delio ag unrhyw ymholiadau munud olaf ynghylch trefniadau’r gwrandawiad

Ni all y clerc rhoi cyngor ichi ar eich apêl neu sut y dylech gyflwyno eich achos.

Efallai y bydd y clerc hefyd yn bresennol yn ystafell y tribiwnlys yn ystod y gwrandawiad rhag ofn y bydd y tribiwnlys angen cymorth gweinyddol. Nid yw’r clerc yn cymryd unrhyw ran ym mhroses benderfynu’r tribiwnlys.

Fel sy’n wir am y mwyafrif o adeiladau’r llywodraeth, bydd staff diogelwch hefyd yn bresennol ar y safle.

Gwrandawiadau o bell

Y barnwr fydd yn penderfynu a ddylid cynnal y gwrandawiad drwy gyswllt fideo neu dros y ffôn, a bydd yn caniatáu hynny os yw’n fodlon ei fod er lles cyfiawnder i bawb sy’n rhan o’r achos. Byddwn yn anfon rhybudd o wrandawiad atoch os bydd eich gwrandawiad yn cael ei gynnal drwy gyswllt fideo neu dros y ffôn. Bydd y rhybudd yn cynnwys yr holl wybodaeth fydd ei hangen arnoch i gymryd rhan yn y gwrandawiad a bydd yn cadarnhau dyddiad ac amser y gwrandawiad.

Os cynhelir eich gwrandawiad drwy gyswllt fideo, byddwn yn gofyn ichi am eich cyfeiriad e-bost er mwyn inni allu anfon y cyfarwyddiadau ymuno atoch. Os ydyw gennym yn barod, efallai y bydd y rhybudd o wrandawiad yn cynnwys dolen we i ymuno â’r gwrandawiad. Os nad yw gennym, byddwn yn gofyn amdano yn y rhybudd o wrandawiad ac yn anfon neges e-bost ar wahân atoch gyda’r ddolen pan fyddwn wedi’i gael gennych. Gwiriwch eich ffolder ‘spam’ os nad ydych wedi’i gael.

Os cynhelir eich gwrandawiad dros y ffôn, byddwn yn eich ffonio amser y gwrandawiad. Efallai y byddwn yn defnyddio rhif ffôn anhysbys i’ch ffonio. Os ydych yn defnyddio gwasanaeth gwahardd galwadau, dylech ei droi i ffwrdd er mwyn i ni allu eich ffonio.

Defnyddiwch y manylion cyswllt yn eich rhybudd o wrandawiad i ddweud wrthym cyn gynted â phosib:

  • beth yw’r manylion cyswllt yr hoffech inni eu defnyddio
  • os ydych eisiau rhywun gyda chi sydd ddim yn eich cynrychioli, er enghraifft, gweithiwr cefnogi
  • os ydych angen cyfieithydd neu gefnogaeth i ymuno â’r gwrandawiad neu os oes rheswm pam na allwch ymuno - er enghraifft oherwydd nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur, ffôn symudol neu’r rhyngrwyd, neu os oes gennych anabledd sy’n golygu eich bod angen cymorth gyda gwrandawiad drwy fideo

Bydd y tribiwnlys yn ystyried eich cais ac yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad. Gallai hyn olygu y byddwch yn ymuno mewn ffordd wahanol. Os nad yw hyn yn bosibl, efallai y byddwn yn gohirio’r gwrandawiad.

Mae’n drosedd i recordio, cyhoeddi manylion neu dynnu lluniau o wrandawiad tribiwnlys heb ganiatâd.

Os ydych yn cael problemau technegol neu os na allwch ymuno â’r gwrandawiad ar y diwrnod, ffoniwch ni ar 0300 303 5177.

Darllenwch fwy am beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn ymuno â gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideo.

Y tribiwnlys

Panel barnwrol a benodir gan Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd yw’r tribiwnlys. Mae’n rhaid bod gan aelodau’r panel rinweddau personol sy’n briodol i ddalwyr swyddi barnwrol - megis annibyniaeth a’r gallu i fod yn ddiduedd.

Ar gyfer apeliadau HMRC, bydd y tribiwnlys yn cynnwys un barnwr tribiwnlys yn unig.

Mae cyfansoddiad y tribiwnlys wedi’i nodi yn y gyfraith. Nid oes gennych hawl i ddewis. Os ydych yn adnabod aelod o banel y tribiwnlys, dylech ddweud wrth y tribiwnlys ar ddechrau’r apêl. Gall fod yn amhriodol i’r unigolyn hwnnw fod yn gysylltiedig â’ch achos. Os bydd aelod o banel y tribiwnlys yn eich adnabod chi, ni fyddant yn gallu ystyried eich achos.

Eraill fydd yn bresennol

Gall HMRC benderfynu anfon cynrychiolydd (a elwir yn ‘swyddog cyflwyno’). Nid ydynt yn anfon swyddog cyflwyno ym mhob achos. Os nad ydynt yn anfon swyddog, gall y tribiwnlys benderfynu bwrw ymlaen â’r apêl heb swyddog cyflwyno.

Yn ôl y gyfraith, mae gwrandawiadau tribiwnlys yn agored i’r cyhoedd, ond mae’n anarferol iawn i aelod o’r cyhoedd fod yn bresennol. Gall y naill barti neu’r llall ofyn i’r tribiwnlys wahardd y cyhoedd rhag dod i’r gwrandawiad am resymau preifatrwydd personol. Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan farnwr.

Trefn y tribiwnlys

Mae tribiwnlysoedd yn rhannu rhai o nodweddion y llysoedd, ond nid y cyfan ohonynt.

Mae tribiwnlysoedd yn debyg i lysoedd o ran eu bod:

  • yn gweithredu o fewn set o reolau a osodir gan y gyfraith
  • yn gweithredu’n annibynnol ar y llywodraeth
  • yn farnwyr cwestiynau ynghylch ffeithiau a’r gyfraith
  • yn penderfynu ar ffeithiau ar sail gwrando a phrofi tystiolaeth
  • yn gorfod bod yn deg â’r ddwy ochr neu bob ochr

Y gwrandawiad tribiwnlys

Bydd panel y tribiwnlys fel arfer yn eistedd tu ôl i fyrddau, gan wynebu byrddau eraill lle bydd bob parti ac unrhyw gynrychiolwyr yn eistedd. Mae’n bosib i un neu fwy o bartïon fynychu trwy gyswllt fideo neu dros y ffôn.

Ni fydd neb yn gwisgo wig na gŵn yn y gwrandawiad. Fel arfer, gelwir aelodau’r tribiwnlys yn Mr neu Mrs, Miss, Ms neu Dr ac yna eu cyfenw. Gallwch gyfeirio at y barnwr ar y panel fel ‘barnwr’ os ydych yn dymuno.

Bydd pobl yn rhoi tystiolaeth wrth eistedd wrth fwrdd, nid o flwch tystion, ac fel arfer ni fydd tystiolaeth yn cael ei rhoi ar lw neu gadarnhad. Fodd bynnag, gall y barnwr benderfynu y dylid rhoi tystiolaeth ar lw mewn achos unigol.

Wrth wrando tystiolaeth, bydd aelodau’r panel tribiwnlys yn arwain o ran gofyn cwestiynau. Yn ôl y gyfraith, mater i’r barnwr tribiwnlys yw penderfynu sut y cynhelir y gwrandawiad. Bydd trefn gwrandawiadau yn amrywio o un achos i’r llall, yn dibynnu ar natur y materion i’w penderfynu.

Fodd bynnag, gan amlaf bydd y gwrandawiad yn dilyn prosesau arferol gwrando achos.

Cyflwyniadau

Bydd y barnwr tribiwnlys yn cyflwyno pawb sy’n bresennol ac yn dweud sut byddant yn cymryd rhan yn yr achos, ac yn gwirio bod unrhyw wasanaethau cyfieithu neu arwyddo sydd eu hangen yn addas. Bydd y barnwr hefyd yn sicrhau bod gan bawb yr holl setiau papurau angenrheidiol. Bydd y gwrandawiad yn cael ei recordio, a dyma fydd ‘y cofnod o’r achos’. Os nad yw’n bosib recordio’r gwrandawiad, bydd y barnwr yn gwneud nodiadau ffurfiol a dyma fydd ‘y cofnod o’r achos’.

Datganiadau agoriadol

Bydd y barnwr tribiwnlys yn crynhoi’r materion yn yr apêl yn ôl y papurau ac yn cytuno â’r partïon sy’n bresennol beth y mae angen rhoi sylw iddo yn y gwrandawiad ac ym mha drefn. Mae hwn yn gyfle i gynrychiolwyr wneud datganiad agoriadol yn amlinellu eu hachos, os yw’r barnwr tribiwnlys yn eu gwahodd i wneud hynny.

Rhoi tystiolaeth

Mewn tribiwnlys, lle mae’n anghyffredin i unrhyw ochr fod â chynrychiolydd cyfreithiol, mae’r tribiwnlys yn cymryd y cyfrifoldeb am ofyn y cwestiynau. Dylech fod yn ymwybodol:

  • y bydd y tribiwnlys eisiau canolbwyntio ar y materion sy’n destun anghydfod, felly peidiwch â phoeni os nad yw’r tribiwnlys yn gofyn cwestiynau ynghylch pob agwedd ar eich achos
  • os oes anghysondebau yn y dystiolaeth (er enghraifft, os ydych yn nodi un peth yn eich ffurflen hawlio ond rydych yn dweud rhywbeth gwahanol wrth y tribiwnlys), efallai y bydd y tribiwnlys yn gofyn cwestiynau i geisio canfod beth yw’r gwir ffeithiau
  • bydd y tribiwnlys yn gwneud ei orau i geisio sicrhau nad ydych yn anghofio neu’n methu unrhyw bwyntiau yn eich achos
  • mae rhoi tystiolaeth yn rhan fawr a phwysig o’r gwrandawiad, ac ni ddylech adael i unrhyw un neu unrhyw beth dynnu eich sylw a bydd pawb yn cael cyfle i siarad
  • dylech ddweud wrth y barnwr os ydych yn meddwl bod y tribiwnlys wedi methu rhywbeth ar ôl i bawb orffen gofyn cwestiynau - bydd y barnwr hefyd yn caniatáu cwestiynau perthnasol gan unrhyw gynrychiolwyr

Tystion

Ar ôl i chi ac unrhyw un arall (er enghraifft, mewn apêl budd-dal plant) roi tystiolaeth, bydd unrhyw dystion yn rhoi eu tystiolaeth nhw.

Datganiadau cloi

Ar ôl i bawb orffen rhoi tystiolaeth, bydd y barnwr yn gwahodd datganiadau cloi. Mae hwn yn gyfle i gynrychiolwyr yr holl bartïon grynhoi’r achos.

Y penderfyniad

Bydd y tribiwnlys yn ystyried y dystiolaeth a’r datganiadau yn breifat. Ar y pwynt hwn, bydd clerc y tribiwnlys yn mynd â chi’n ôl i’r ystafell aros. Yn y mwyafrif o achosion bydd y barnwr yn gofyn i chi aros tra bydd y tribiwnlys yn dod i benderfyniad.

Os bydd y barnwr yn credu ei bod yn annhebygol y gellir gwneud penderfyniad yn gyflym, yna bydd y penderfyniad yn cael ei anfon atoch drwy’r post. Os bydd y tribiwnlys yn gallu rhoi ei benderfyniad ar y diwrnod, bydd y barnwr yn eich gwahodd yn ôl i’r ystafell tribiwnlys i glywed y penderfyniad. Bydd y tribiwnlys hefyd yn rhoi hysbysiad o benderfyniad ysgrifenedig i chi. Pan fydd y barnwr yn cyhoeddi’r penderfyniad, bydd yr apêl yn dod i ben ac ni fydd unrhyw drafodaethau pellach yn digwydd.

Gohirio

Efallai y bydd y tribiwnlys yn penderfynu na all wneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth y mae wedi’ch clywed ar y diwrnod. Efallai y bydd yn penderfynu ‘gohirio’r achos. Yn yr achos hwn bydd y tribiwnlys yn gofyn i ddyddiad gwrandawiad arall gael ei bennu. Pan fydd y tribiwnlys yn gohirio’r achos bydd yn anelu at bennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad nesaf. Bydd yn gofyn i un o’r partïon, neu efallai’r ddau ohonynt ddarparu gwybodaeth ychwanegol i leihau’r risg o oedi pellach gyda’r achos.

11. Ar ôl i’r tribiwnlys wneud ei benderfyniad

Os ydych wedi cael gwrandawiad llafar, bydd y tribiwnlys yn rhoi’r penderfyniad i chi a HMRC neu bydd yn ei bostio atoch. Gan amlaf, gwneir hyn ar ddiwrnod y gwrandawiad. Os yw eich achos wedi’i benderfynu ar sail y papurau’r unig, bydd y tribiwnlys yn postio’r penderfyniad atoch chi a HMRC diwrnod neu ddau ar ôl y gwrandawiad.

Nid oes gan y tribiwnlys bwerau cyfreithiol i orfodi ei benderfyniadau. Os yw’r penderfyniad yn dweud bod rhaid i HMRC dalu arian i chi, ni fydd y tribiwnlys yn gallu eich helpu i’w orfodi i dalu. Yn y mwyafrif o achosion mae HMRC yn cydymffurfio â phenderfyniad y tribiwnlys. Bydd ond yn gwrthod gwneud hyn os yw’n bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad y tribiwnlys.

Unwaith y bydd y tribiwnlys wedi gwneud ei benderfyniad, dylech gysylltu â HMRC os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut fydd y penderfyniad yn cael ei weithredu gan mai eu cyfrifoldeb nhw yw hyn. Dylech ddisgwyl ychydig ar ôl i HMRC gael y penderfyniad, tra bydd yn ystyried y canlyniad a’r camau nesaf.

Cywiriadau

Os ydych yn credu bod y penderfyniad yn cynnwys gwall, gallwch ysgrifennu atom i ofyn i ni ei gywiro. Er enghraifft, efallai bod y barnwr wedi nodi’r flwyddyn anghywir ar gyfer pryd fydd y dyfarniad yn cychwyn. Dim ond os mai camgymeriad clerigol neu ddamweiniol yn unig yw’r gwall a wnaed y bydd yn cael ei gywiro.

Rhoi’r penderfyniad o’r naill du

Gallwch chi neu HMRC wneud cais i benderfyniad y tribiwnlys gael ei ‘roi o’r naill du’. Os bydd y penderfyniad yn cael ei ‘roi o’r naill du’, yna gellir trefnu gwrandawiad newydd. Dim ond mewn nifer fach o amgylchiadau y gallwch wneud hyn. Sef:

  • ni chafodd dogfen sy’n ymwneud â’r achos (er enghraifft, rhybudd o’r gwrandawiad) ei hanfon neu ni wnaeth gyrraedd mewn pryd
  • ni chafodd dogfen yn ymwneud â’r achos ei hanfon i’r tribiwnlys ar adeg briodol
  • cynhaliwyd wrandawiad ond nid oeddech chi (neu eich cynrychiolydd neu HMRC) yn bresennol ac y mae’r tribiwnlys yn derbyn yr esboniad am ddiffyg presenoldeb
  • bod anghysondeb arall wedi codi o ran y trefniadau

Bydd y tribiwnlys yn rhoi’r penderfyniad o’r naill du os bydd un o’r amodau hyn yn berthnasol i’r achos a’i fod yn ystyried ei bod er budd cyfiawnder i wneud hynny.

Rhaid ichi wneud cais ysgrifenedig o fewn un mis i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad o benderfyniad. Gall y tribiwnlys ymestyn y terfyn amser os bydd y barnwr yn penderfynu bod rhesymau da dros wneud hynny.

Apêl bellach

Gallwch chi neu HMRC wneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio yn erbyn penderfyniad y tribiwnlys.

Cewch apelio ar sail ‘gwall cyfreithiol’ yn unig, er enghraifft os bu i’r tribiwnlys:

  • gymhwyso’r gyfraith yn anghywir
  • cynnal yr achos heb ddilyn y drefn gywir
  • methu â chanfod y ffeithiau’n ddigonol neu roi rhesymau digonol dros ei benderfyniad

Y cam cyntaf wrth wneud cais am ganiatâd i apelio yw gofyn am ddatganiad o’r rhesymau dros benderfyniad y tribiwnlys. Rhaid ichi wneud cais ysgrifenedig i ofyn am hwn o fewn un mis i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad o benderfyniad. Bydd y barnwr a wnaeth wrando eich apêl yn ysgrifennu’r datganiad.

Gall y tribiwnlys ymestyn y terfyn amser hwn. Os na fyddwch yn gwneud cais o fewn y terfyn amser, mae’n debyg y gofynnir i chi pam na wnaethoch ofyn am ganiatâd i apelio mewn amser.

Ar ôl ystyried y datganiad o’r rhesymau, os ydych o’r farn fod penderfyniad y tribiwnlys yn wallus o safbwynt cyfreithiol, cewch wneud cais am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys. Rhaid i’r cais hwn fod yn ysgrifenedig. Mae gennych un mis o ddyddiad cyhoeddi’r datganiad i wneud cais am ganiatâd. Gall y tribiwnlys ymestyn y terfyn amser hwn.

Bydd uwch farnwr tribiwnlys yn ystyried y cais am ganiatâd i apelio.

Gall y barnwr:

  • roi caniatâd - yna gallwch anfon eich apêl ymlaen i’r Uwch Dribiwnlys
  • gwrthod caniatâd - yna gallwch ofyn i’r Uwch Dribiwnlys yn uniongyrchol am ganiatâd
  • penderfynu rhoi penderfyniad y tribiwnlys o’r naill du heb fod angen cyfeirio’r achos at yr Uwch Dribiwnlys - efallai y bydd y barnwr yn ail-benderfynu’r achos neu’n cyfarwyddo bod angen i dribiwnlys newydd wrando’r achos

Os bydd yr apêl yn mynd ymlaen i’r Uwch Dribiwnlys, mae gan yr Uwch Dribiwnlys bŵer i roi penderfyniad y tribiwnlys o’r naill du a chyfeirio’r achos at dribiwnlys newydd, neu i newid y penderfyniad eu hunain.