Ffurflen

Apelio yn erbyn penderfyniad HMRC ynghylch budd-dal neu gredyd: Ffurflen SSCS5

Defnyddiwch y ffurflen hon i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau EF (HMRC) ynghylch credydau treth a budd-daliadau eraill. Mae yna restr o’r budd-daliadau yn y ffurflen neu’r cyfarwyddyd.

Applies to England, Scotland and Wales

Dogfennau

Hysbysiad o apêl yn erbyn penderfyniad Cyllid a Thollau EM (SSCS5)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan HMRC ar:

  • gredydau treth
  • budd-dal plant
  • lwfans gwarcheidwad
  • gofal plant di-dreth
  • 30 awr o ofal plant am ddim
  • isafswm pensiwn gwarantedig
  • diogelwch cyfrifoldebau cartref
  • credydau yswiriant gwladol

Cyn llenwi’r ffurflen, darllenwch y cyfarwyddyd ar Sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau EF (SSCS5A).

Dewch o hyd i fwy o ffurflenni llys a thribiwnlys yn ôl categori.

Dysgwch sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn defnyddio gwybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Cyhoeddwyd ar 28 March 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 March 2024 + show all updates
  1. Added notes about mandatory reconsideration not applying to tax credits appeals

  2. Added Welsh SSCS5A

  3. Created a Welsh version of the page

  4. First published.