Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd APHA Cynllun teithio anifeiliaid anwes

Diweddarwyd 17 May 2024

Applies to England, Scotland and Wales

Mae eich data’n cael eu casglu gan

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.

Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra.  Gallwch gysylltu â Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: data.protection@defra.gov.uk

Mae APHA hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, sy’n rheolyddion ar y cyd ag APHA ar gyfer unrhyw ddata personol perthnasol.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau cysylltiedig i’r cyfeiriad uchod.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk

Pa ddata personol sy’n cael eu casglu

Rydym yn casglu’r eitemau canlynol o ddata personol:

  • Enw
  • cyfeiriad
  • manylion cyswllt
  • Manylion yr anifeiliaid byw rydych yn berchen arnynt a/neu’n cadw

Sut y cafwyd eich data

Gall eich data gael eu darparu i APHA gan asiant sy’n gweithredu ar eich rhan wrth wneud cais am ddogfennaeth deithio.

Pam y mae APHA yn defnyddio eich data

Un o ofynion statudol APHA yw casglu data personol er mwyn darparu dogfennaeth i hwyluso symudiadau anfasnachol anifeiliaid anwes ac anifeiliaid cymorth o fewn tiriogaeth y DU.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Lle bo’n ofynnol yn ôl y gyfraith, gall data gael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU neu wefan yr UE.

Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn gov.uk/apha.

Ymhlith y seiliau cyfreithiol dros brosesu data mae’r canlynol:

  • cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd
  • cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol sydd gan y rheolydd
  • cyflawni contract y mae’r gwrthrych data yn rhan ohono neu er mwyn cymryd camau ar gais testun y data cyn ymrwymo i gontract
  • rydych wedi cydsynio i ni brosesu eich data at un neu fwy o ddibenion penodedig

Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol

Mae casglu eich data yn ofyniad statudol er mwyn galluogi APHA i roi dogfennaeth er mwyn hwyluso symudiadau anfasnachol anifeiliaid anwes ac anifeiliaid cymorth o fewn tiriogaeth y DU.

Canlyniadau peidio â rhoi’r data angenrheidiol

At ddibenion statudol a budd y cyhoedd, mae angen darparu data fel y nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol.

I gael rhestr gyfredol o’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli Masnach Ryngwladol, ewch i www.legislation.gov.uk/cy.

Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data

Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a’r UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.

Gallwn rannu data â Defra a’i hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
  • Deddf Diogelu Data 2018
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.

Storio a defnyddio data personol y tu allan i’r DU

Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw’n barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Yn bennaf, ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol

Caiff cyfnodau cadw eu pennu drwy ystyried rhesymau statudol, rheoleiddiol, cyfreithiol a diogelwch, ochr yn ochr â gwerth hanesyddol.

Cedwir yr holl wybodaeth yn APHA yn unol â’n polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag enquiries@apha.gov.uk

Eich hawliau

Darllenwch am eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o’ch data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.

Siarter gwybodaeth bersonol APHA

Mae siarter gwybodaeth bersonol APHA yn nodi’n fras fanylion gwaith prosesu data personol APHA.