Amdanom ni
Rydym yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ond a arweinir gan ddiwydiant ac rydym yn cynnig arweiniad ar faterion sgiliau a chyflogaeth yn y Deyrnas Unedig.
Pwy ydym ni
Mae ein comisiynwyr yn bartneriaeth gymdeithasol sy’n cynnwys prif weithredwyr busnesau bach a mawr, cynghorwyr cyflogaeth a chynrychiolwyr undebau llafur o bob cwr o’r Deyrnas Unedig. Mae ein tîm o ryw 100 o staff yn gweithio yn Llundain a de swydd Efrog.
Mae UKCES wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 06425800.
Cyfrifoldebau
Rydym yn gyfrifol am:
- roi cyngor i fusnesau a phobl ar y farchnad lafur, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus
- gweithredu polisïau cyflogaeth a sgiliau i ddatblygu gweithlu sy’n gallu cystadlu’n rhyngwladol
- helpu mwy o gyflogwyr i fuddsoddi yn sgiliau eu gweithwyr
Amcanion
Dyma ein hamcanion ar gyfer 2015 i 2016:
- arwain y drafodaeth gyda diwydiant i sicrhau deilliannau gwell o ran sgiliau, swyddi a thwf
- gweithio gyda phartneriaethau diwydiannol a rhwydweithiau ehangach er mwyn annog perchnogaeth gan gyflogwyr ar sgiliau
- profi ‘beth sy’n gweithio’ wrth fynd i’r afael â rhwystrau rhag twf trwy bobl a dylanwadu ar bolisïau diwydiant a’r llywodraeth
- helpu busnesau i wireddu potensial eu pobl trwy Fuddsoddwyr mewn Pobl
Gwybodaeth gorfforaethol
Cael mynediad at ein gwybodaeth
Swyddi a chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Publication scheme. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol.